Anrhydeddu’r Rhai Sy’n Deilwng
“Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth am byth bythoedd, i’r Un sy’n eistedd ar yr orsedd, ac i’r Oen!”—DAT. 5:13.
CANEUON: 9, 108
1. Pam mae rhai’n deilwng o gael eu hanrhydeddu, a beth byddwn yn ei drafod nesaf?
MAE anrhydeddu rhywun yn golygu rhoi sylw arbennig a pharch iddo. Yn naturiol, i fod yn deilwng o’r fath sylw a pharch, bydden ni’n disgwyl i rywun fod wedi gwneud rhywbeth i’w haeddu, neu fod ganddo ryw waith neu safle arbennig. Felly priodol yw gofyn, Pwy y dylen ni eu hanrhydeddu, a pham maen nhw’n deilwng o’r fath anrhydedd?
2, 3. (a) Pam mae Jehofa, yn fwy na neb arall, yn deilwng o gael ei anrhydeddu? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Yn Datguddiad 5:13, pwy yw’r Oen, a pham y mae ef yn deilwng o gael ei anrhydeddu?
2 Dywed Datguddiad 5:13 fod yr “Un sy’n eistedd ar yr orsedd” a’r “Oen” yn deilwng o gael eu hanrhydeddu. Rydyn ni’n gweld yn y bedwaredd bennod un rheswm y mae Jehofa yn haeddu cael ei anrhydeddu. Mae creaduriaid yn y nefoedd yn canu clod i Jehofa “yr Un sy’n byw am byth bythoedd.” Maen nhw’n dweud: “Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi eu creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.”—Dat. 4:9-11.
Ioan 1:29) Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn llawer uwch nag unrhyw frenin a fu erioed ar y ddaear. Eglura ei fod “yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd,” a bod “y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo.” (Dat 17:14; Heb 7:16) Pa frenin arall sydd wedi rhoi ei fywyd yn bridwerth dros ein pechodau? Yn debyg i’r rhai yn y nefoedd, onid wyt tithau hefyd eisiau cyhoeddi: “Mae’r Oen gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn grym a chyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, ysblander a mawl!”—Dat. 5:12.
3 Yr Oen yw Iesu Grist, “Oen Duw, yr un sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd.” (4. Pam nad yw anrhydeddu Jehofa a Christ yn rhywbeth dewisol?
4 Nid rhywbeth dewisol yw anrhydeddu Jehofa a Christ. Mae ein bywyd tragwyddol yn dibynnu arno. Gwelwn hyn yn eglur yng ngeiriau Iesu yn Ioan 5:22, 23: “A dydy’r Tad ddim yn barnu neb—mae wedi rhoi’r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab, er mwyn i bawb anrhydeddu’r Mab yn union fel y maen nhw’n anrhydeddu’r Tad. Pwy bynnag sy’n gwrthod anrhydeddu’r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw’r Tad anfonodd y Mab i’r byd.”—Darllen Salm 2:11, 12.
5. Pam dylen ni ddangos rhywfaint o anrhydedd a pharch tuag at bobl yn gyffredinol?
5 Cafodd bodau dynol eu creu ar ddelw Duw. (Gen. 1:27) Felly, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dangos rhinweddau dwyfol i ryw raddau. Gall bodau dynol fod yn gariadus, yn garedig ac yn drugarog. Cafodd dyn ei greu â chydwybod ac er nad yw cydwybod pawb yn gweithio fel y dylai, fel arfer, mae gan bobl synnwyr cynhenid sy’n dweud wrthyn nhw fod rhywbeth yn iawn neu beidio, yn onest neu’n anonest, yn briodol neu’n amhriodol. (Rhuf. 2:14, 15) Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu denu gan bethau sy’n lân ac yn brydferth. Ar y cyfan, maen nhw’n dymuno byw’n heddychlon. P’un a ydyn nhw’n sylweddoli hyn ai peidio, maen nhw’n adlewyrchu gogoniant Jehofa i ryw raddau, ac felly maen nhw’n haeddu rhywfaint o anrhydedd a pharch.—Salm 8:5.
CYDBWYSEDD WRTH ANRHYDEDDU ERAILL
6, 7. O ran anrhydeddu bodau dynol, sut mae Tystion Jehofa yn wahanol i lawer o bobl?
6 Mae penderfynu ym mha ffordd ac i ba raddau y dylen ni anrhydeddu bodau dynol yn gofyn am gydbwysedd. Mae ysbryd byd Satan yn dylanwadu’n drwm ar bobl amherffaith. Dyna pam, yn lle dangos anrhydedd a pharch, mae tueddiad i bobl addoli rhai dynion a merched. Mae arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, a sêr o’r byd chwaraeon ac adloniant yn cael eu rhoi ar bedestal a’u gweld yn oruwchddynol bron. Maen nhw’n cael eu hystyried yn arwyr gan yr hen a’r ifanc, sy’n efelychu eu dillad a’u hymddygiad.
7 Nid yw gwir Gristnogion yn anrhydeddu pobl yn y ffordd honno. Crist yw’r unig ddyn sydd wedi byw y gallwn ni ei ystyried yn esiampl berffaith i’w hefelychu. (1 Pedr 2:21) Petaen ni’n anrhydeddu bodau dynol yn ormodol, ni fyddai hynny’n plesio Duw. Pwysig yw cofio’r ffaith sylfaenol hon: “Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw.” (Rhuf. 3:23) Yn sicr, nid oes unrhyw ddyn neu ddynes yn haeddu anrhydedd sy’n ymylu ar eilunaddoliaeth.
8, 9. (a) Pa agwedd sydd gan Dystion Jehofa tuag at swyddogion y llywodraeth? (b) I ba raddau y mae’n addas inni gefnogi gweision cyhoeddus?
8 Yn y byd seciwlar, mae gan rai pobl Rhuf. 13:1, 7.
awdurdod oherwydd eu swyddi. Disgwylir i swyddogion y llywodraeth gadw trefn gyhoeddus a gofalu am anghenion eu dinasyddion. Mae hyn er lles pawb. Wrth drafod llywodraethau dynol, dywedodd yr apostol Paul y dylai Cristnogion “fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth.” Ei gyngor oedd: “Talwch beth sy’n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.”—9 Yn addas felly, mae Tystion Jehofa yn dangos pob parch at weision cyhoeddus yn unol â disgwyliadau’r wlad. Rydyn ni’n cydweithio â nhw wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith. Wrth gwrs, mae cyfyngiadau Ysgrythurol ar yr anrhydedd rydyn ni’n ei roi. Ni allwn anufuddhau i Dduw na gwneud dim sy’n peryglu ein niwtraliaeth Gristnogol.—Darllen 1 Pedr 2:13-17.
10. O ran ein perthynas â llywodraethau a’u swyddogion, sut gosodwyd patrwm gan weision Jehofa yn y gorffennol?
10 O ran ein perthynas â llywodraethau a’u swyddogion, gosodwyd patrwm gan weision Jehofa yn y gorffennol. Pan orchmynnodd yr Ymerodraeth Rufeinig i bobl gofrestru ar gyfer cyfrifiad, fe wnaeth Joseff a Mair ufuddhau. Aethon nhw i Fethlehem er bod Mair ar fin rhoi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf. (Luc 2:1-5) Yn ddiweddarach, pan gyhuddwyd Paul o droseddu, fe’i hamddiffynnodd ei hun mewn modd parchus, gan roi’r parch dyledus i’r Brenin Herod Agripa ac i Ffestus, llywodraethwr talaith Rufeinig Jwdea.—Act. 25:1-12; 26:1-3.
11, 12. (a) Pam mae Tystion yn gwahaniaethu rhwng arweinwyr crefyddol a swyddogion y llywodraeth? (b) Beth ddigwyddodd oherwydd bod Tyst o Awstria wedi dangos parch i wleidydd?
11 Sut bynnag, nid yw Tystion Jehofa yn trin arweinwyr crefyddol fel petaen nhw’n haeddu anrhydedd arbennig, er efallai y byddan nhw’n disgwyl hynny. Mae gau grefydd yn rhoi’r argraff anghywir am Dduw ac yn gwyrdroi ei Air. Felly, rydyn ni’n parchu arweinwyr crefyddol fel cyd-ddynion ond nid ydyn ni’n dangos anrhydedd arbennig iddyn nhw. Cofia, cyhuddodd Iesu’r arweinwyr crefyddol o fod yn ddauwynebog ac yn arweinwyr dall. (Math. 23:23, 24) Ar y llaw arall, mae dangos parch ac anrhydedd priodol at swyddogion y llywodraeth yn gallu cael canlyniadau cadarnhaol, hyd yn oed rhai annisgwyl, ar adegau.
12 Tyst selog o Awstria oedd Leopold Engleitner. Cafodd ei arestio gan y Natsïaid a’i anfon ar y trên i’r gwersyll crynhoi yn Buchenwald. Yn garcharor ar yr un trên oedd y Dr Heinrich Gleissner a fu’n wleidydd yn Awstria ond bellach wedi colli ffafr y Natsïaid. Ar y ffordd i’r gwersyll, eglurodd y Brawd Engleitner ei ddaliadau iddo mewn ffordd barchus. Gwrandawodd yn astud. Ar ôl yr ail ryfel byd, defnyddiodd Gleissner ei ddylanwad droeon i helpu’r Tystion yn Awstria. Efallai y gelli di feddwl am enghreifftiau eraill o’r da sy’n dilyn pan fo Tystion wedi dangos y parch dyledus y mae’r Beibl yn dweud y dylai Cristnogion ei roi i weision cyhoeddus.
ERAILL SY’N DEILWNG O ANRHYDEDD
13. Pwy, yn arbennig, sy’n haeddu parch ac anrhydedd, a pham?
13 Yn sicr, mae’r rhai sydd o deulu’r ffydd yn haeddu parch ac anrhydedd. Mae hyn yn arbennig o wir am yr henuriaid sy’n arwain y ffordd. (Darllen 1 Timotheus 5:17.) Anrhydeddwn y brodyr hyn beth bynnag yw eu cefndir o ran cenedl, addysg, statws cymdeithasol, neu sefyllfa ariannol. Mae’r Beibl yn cyfeirio atyn nhw fel “rhoddion,” ac maen nhw’n rhan allweddol o’r ffordd mae Duw yn gofalu am ei bobl. (Eff. 4:8, 11) Meddylia am henuriaid y gynulleidfa, arolygwyr cylchdaith, aelodau Pwyllgorau’r Canghennau ac aelodau’r Corff Llywodraethol. Roedd gan ein brodyr a’n chwiorydd yn y ganrif gyntaf feddwl mawr o’r rhai a oedd yn eu harwain, ac rydyn ninnau’n teimlo’r un fath. Ni fydden ni byth yn addoli cynrychiolwyr adnabyddus y gynulleidfa Gristnogol, nac yn ymddwyn o’u blaenau fel petaen ni’n sefyll yng nghwmni angylion. Ond rydyn ni’n parchu ac yn anrhydeddu brodyr fel hynny am eu gwaith caled a’u gostyngeiddrwydd.—Darllen 2 Corinthiaid 1:24; Datguddiad 19:10.
14, 15. Pa wahaniaeth sydd rhwng bugeiliaid Cristnogol diffuant a’r rhai sydd ond yn honni eu bod nhw’n fugeiliaid?
14 Mae henuriaid o’r fath yn cael eu cydnabod fel bugeiliaid ysbrydol gostyngedig. Maen nhw’n dangos gostyngeiddrwydd drwy wrthod cael eu trin fel enwogion. Yn hyn o beth, maen nhw’n wahanol i lawer o arweinwyr crefyddol heddiw, ac i’r rhai yn y ganrif gyntaf y dywedodd Iesu amdanyn nhw: “Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a’r seddi pwysica yn y synagogau, a chael pobl yn symud o’u ffordd a’u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad.”—Math. 23:6, 7.
15 Mae bugeiliaid Cristnogol diffuant yn ufuddhau i orchymyn Iesu: “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw’n ‘Rabbi’. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i’ch gilydd. A pheidiwch rhoi’r teitl anrhydedd ‘Y tad’ i neb. Duw yn y nefoedd ydy’ch Tad chi. A pheidiwch gadael i neb eich galw’n ‘meistr’ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw. Rhaid i’r arweinydd fod yn was. Bydd pwy bynnag sy’n gwthio ei hun i’r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy’n gwasanaethu eraill yn cael dyrchafiad.” (Math. 23:8-12) Felly, hawdd yw deall pam mae henuriaid mewn cynulleidfaoedd trwy’r byd yn ennill cariad, parch ac anrhydedd eu brodyr a’u chwiorydd.
16. Pam dylet ti ddal ati i ddeall ac i roi ar waith beth mae’r Beibl yn ei ddweud am anrhydeddu eraill?
16 Rhaid cyfaddef, gall gymryd amser Act. 10:22-26; 3 Ioan 9, 10) Ond yn sicr, mae rhoi ar waith gyngor y Beibl ynglŷn ag anrhydeddu eraill yn werth yr ymdrech. Mae cyrraedd y cydbwysedd iawn yn dod â llawer o fendithion.
inni gael y cydbwysedd iawn o ran pwy rydyn ni’n ei anrhydeddu a sut. Roedd hyn yn wir hefyd ymhlith y Cristnogion cynnar. (Y BENDITHION SY’N DOD O ANRHYDEDDU ERAILL YN BRIODOL
17. Pa fendithion sy’n dod o anrhydeddu’r rhai sydd ag awdurdod oherwydd eu swydd?
17 Wrth inni barchu ac anrhydeddu’r rhai sydd ag awdurdod seciwlar, mae’n fwy tebygol y byddan nhw’n amddiffyn ein hawl i bregethu’n rhydd. Bydd pobl wedyn yn edrych ar ein gwaith mewn ffordd fwy cadarnhaol. Rai blynyddoedd yn ôl, aeth Birgit, arloeswraig yn yr Almaen, i seremoni raddio ei merch. Dywedodd yr athrawon ei bod hi wedi bod yn bleser gweithio gyda phlant y Tystion dros y blynyddoedd. Dywedon nhw hefyd mai piti garw fyddai peidio â chael plant sy’n Dystion yn yr ysgol. Eglurodd Birgit, “Dysgwn ein plant i ddilyn safonau Duw o ran ymddygiad, ac mae hyn yn cynnwys parchu ac anrhydeddu eu hathrawon.” Dywedodd un athro, “Petai pob plentyn yn debyg i’ch plant chi, byddai bywyd athro’n baradwys.” Rai wythnosau’n ddiweddarach, aeth un o’r athrawon i’r gynhadledd yn Leipzig.
18, 19. Pam dylen ni feddwl am y ffordd rydyn ni’n anrhydeddu henuriaid?
18 Wrth gwrs, dylai’r ffordd rydyn ni’n anrhydeddu henuriaid gael ei llywio gan egwyddorion perffaith Gair Duw. (Darllen Hebreaid 13:7, 17.) Dylen ni eu canmol am eu gwaith caled, a gwneud ein gorau i ddilyn eu cyfarwyddyd. Bydd gwneud hyn yn eu helpu i wneud eu gwaith yn llawen. Ond ni fyddwn ni’n ceisio copïo unrhyw henuriad “blaenllaw” o ran y ffordd mae’n gwisgo, neu’n siarad ar y llwyfan, neu’r ffordd mae’n sgwrsio’n gyffredinol. Gall hynny greu’r argraff anghywir. Rhaid inni beidio ag anghofio bod pawb yn amherffaith. Y patrwm inni ei ddilyn a’i efelychu yw Crist.
19 Drwy roi’r parch dyledus i’r henuriaid, heb eu trin fel enwogion, byddwn ni’n eu helpu. Byddwn ni’n ei gwneud hi’n haws iddyn nhw beidio â theimlo’n well nac yn fwy cyfiawn nag eraill a throi’n falch.
20. Sut mae anrhydeddu eraill yn ein helpu ni?
20 Ar lefel bersonol, mae dangos parch dyledus yn ein cadw ni rhag troi’n hunanol. Mae’n ein helpu ni i beidio â bod yn fi fawr, os daw rhyw anrhydedd i’n rhan. Mae’n ein helpu ni i ufuddhau i gyfundrefn Jehofa sy’n gwrthod anrhydeddu bodau dynol yn ormodol, boed nhw’n gredinwyr neu’n anghredinwyr. Ar ben hynny, dyma’r dewis doeth a fydd yn ein helpu ni i beidio â baglu petai rhywun rydyn ni wedi ei anrhydeddu yn ein siomi.
21. Beth yw’r fendith fwyaf sy’n dod o anrhydeddu pobl yn y ffordd iawn?
21 Y fendith fwyaf sy’n dod o anrhydeddu pobl yn y ffordd iawn yw gwybod bod hynny’n plesio Duw. Rydyn ni’n ufuddhau iddo ac yn aros yn ffyddlon iddo. Mae hynny’n helpu i roi ateb i’r rhai sydd yn ei amharchu. (Diar. 27:11) Mae’r byd yn llawn pobl sydd ddim yn gwybod sut i roi anrhydedd i eraill yn y ffordd iawn. Mor ddiolchgar ydyn ni am ddysgu ffordd Jehofa o ran rhoi anrhydedd.