Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bod yn Ffrind—Cyfeillgarwch Mewn Perygl

Bod yn Ffrind—Cyfeillgarwch Mewn Perygl

Mae Gianni a Maurizio wedi bod yn ffrindiau ers tua 50 mlynedd. Ond, roedd yna amser pan oedd eu cyfeillgarwch mewn perygl. “Yn ystod cyfnod anodd, gwnes i gamgymeriadau a achosodd inni ymbellhau,” meddai Maurizio. Mae Gianni yn ychwanegu: “Maurizio oedd yn astudio’r Beibl efo fi. Roedd yn athro ysbrydol imi. Felly, roeddwn i’n methu coelio beth wnaeth o. Roedd fel petai fy myd ar ben oherwydd ro’n i’n gwybod y byddan ni’n mynd ein ffyrdd gwahanol. Ro’n i’n teimlo ei fod wedi cefnu arna’ i.”

MAE ffrindiau da’n werthfawr, ac nid yw cyfeillgarwch agos yn digwydd ar hap. Os yw cyfeillgarwch mewn perygl, beth all helpu i’w achub? Gallwn ddysgu llawer oddi wrth unigolion yn y Beibl a oedd yn ffrindiau da ond a aeth drwy gyfnod lle’r oedd eu cyfeillgarwch o dan straen.

PAN FYDD FFRIND YN GWNEUD CAMGYMERIAD

Roedd gan y Brenin Dafydd ffrindiau da. Efallai fod Jonathan yn dod i dy feddwl. (1 Sam. 18:1) Ond roedd gan Dafydd ffrindiau eraill, fel y proffwyd Nathan. Dydy’r Beibl ddim yn dweud pryd daethon nhw’n ffrindiau. Ond, ar un adeg, dibynnodd Dafydd ar Nathan yn debyg i sut y byddet ti’n dibynnu ar ffrind agos. Dymuniad Dafydd oedd adeiladu tŷ i Jehofa. Mae’n rhaid bod y brenin wedi gwerthfawrogi barn Nathan fel ffrind ac ysbryd Jehofa arno.—2 Sam. 7:2, 3.

Ond, digwyddodd rhywbeth i fygwth eu cyfeillgarwch. Godinebodd Dafydd â Bathseba, a threfnu i’w gŵr, Wreia, gael ei ladd. (2 Sam. 11:2-21) Am flynyddoedd lawer, roedd Dafydd wedi bod yn ffyddlon i Jehofa ac wedi cefnogi ei gyfiawnder. Ond wedyn pechodd yn ofnadwy! Beth ddigwyddodd i’r brenin da hwnnw? Onid oedd yn gallu gweld pa mor ddifrifol oedd ei ymddygiad? A oedd yn meddwl y gallai guddio’r pechod rhag Duw?

Beth byddai Nathan yn ei wneud? A fyddai’n gadael i rywun arall ddod â’r mater i sylw’r brenin? Gwyddai rhai fod Dafydd wedi trefnu i Wreia gael ei ladd. Felly, pam y byddai Nathan yn busnesu gan beryglu eu cyfeillgarwch? O siarad am y peth, roedd bywyd Nathan yn y fantol. Wedi’r cwbl, roedd Dafydd eisoes wedi lladd Wreia druan.

Ond siaradai Nathan ar ran Duw. Petai’n dweud dim, byddai ei berthynas â Dafydd byth yr un peth a byddai ei gydwybod yn dioddef. Roedd ei ffrind Dafydd yn cerdded ar hyd llwybr nad oedd yn plesio Jehofa. Roedd angen help ar y brenin er mwyn adfer ei berthynas â Jehofa. Yn wir, roedd angen ffrind go iawn ar Dafydd. Nathan oedd y ffrind hwnnw. Penderfynodd godi’r pwnc drwy ddefnyddio eglureb a fyddai’n cyffwrdd â chalon y cyn-fugail. Cyflwynodd Nathan neges Duw ond mewn ffordd a helpodd Dafydd i ddeall pa mor ddifrifol oedd ei gamgymeriadau ac a fyddai’n ei ysgogi i weithredu.—2 Sam. 12:1-14.

Beth byddet ti’n ei wneud petai un o dy ffrindiau di yn gwneud camgymeriad mawr neu’n pechu’n ddifrifol? Byddet ti’n gallu meddwl bod tynnu sylw at ei ddrwgweithredu yn mynd i niweidio eich cyfeillgarwch. Neu gallet ti feddwl y byddai dweud wrth yr henuriaid, a fyddai’n gallu ei helpu’n ysbrydol, am ei ymddygiad pechadurus yn bradychu eich cyfeillgarwch. Beth fyddet ti’n ei wneud?

Mae Gianni’n cofio: “Ro’n i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid. Doedd Maurizio ddim mor agored efo fi ag yr oedd o’r blaen. Penderfynais fynd ato i siarad, er bod gwneud hynny’n anodd iawn imi. Meddwl roeddwn i: ‘Beth fedra i ddweud wrtho nad ydy o’n gwybod yn barod?’ Efallai fydd o’n ymateb yn gas!’ Ond, drwy edrych yn ôl ar bopeth roedden ni wedi astudio gyda’n gilydd, cefais y nerth i siarad efo fo. Dyna wnaeth Maurizio pan oedd angen help arna i. Doeddwn i ddim eisiau colli ei gyfeillgarwch, ond roeddwn i eisiau ei helpu oherwydd roeddwn i’n ei garu.”

Ychwanegodd Maurizio: “Roedd Gianni yn iawn. Roeddwn i’n gwybod nad y fo na Jehofa oedd ar fai am ganlyniadau drwg fy newisiadau annoeth. Felly, derbyniais fy nisgyblaeth, ac mewn amser, dechreuais wella’n ysbrydol.”

PAN FYDD FFRIND MEWN TRWBWL

Roedd gan Dafydd ffrindiau eraill a arhosodd yn driw iddo yn ystod amseroedd anodd. Un felly oedd Chwshai, “ffrind Dafydd” yn ôl y Beibl. (2 Sam. 16:16; 1 Cron. 27:33) Efallai roedd yn swyddog y llys ac yn ffrind agos i’r brenin, yn un a oedd ar brydiau yn delio gyda materion cyfrinachol.

Pan gipiodd mab Dafydd, Absalom, yr orsedd, ymunodd llawer o Israeliaid ag ef, ond nid Chwshai. Tra oedd Dafydd yn ffoi, aeth Chwshai i’w weld. Roedd Dafydd wedi ei frifo i’r byw oherwydd iddo gael ei fradychu gan ei fab ei hun a chan eraill roedd wedi ymddiried ynddyn nhw. Fodd bynnag, arhosodd Chwshai yn ffyddlon, ac roedd yn fodlon risgio ei fywyd a chael ei anfon i rwystro’r cynllwyn. Nid gwneud hynny a wnaeth Chwshai oherwydd dyletswydd ond oherwydd ei fod yn ffrind ffyddlon.—2 Sam. 15:13-17, 32-37; 16:15–17:16.

Calonogol yw gweld sut mae brodyr a chwiorydd wedi eu huno gan rwymyn sy’n mynd y tu hwnt i unrhyw rôl neu aseiniad yn y gynulleidfa. Trwy eu gweithredoedd, maen nhw’n dweud: “Y fi ydy dy ffrind, nid oherwydd bod rhaid imi fod ond oherwydd dy fod ti’n bwysig imi.”

Cafodd y brawd Federico brofiad tebyg. Gyda help ei ffrind Antonio, llwyddodd i ddod dros cyfnod anodd yn ei fywyd. Esboniodd Federico: “Pan symudodd Antonio i’n cynulleidfa, daethon ni’n ffrindiau pennaf. Roedd y ddau ohonon ni’n weision gweinidogaethol, ac roedden ni’n mwynhau gweithio gyda’n gilydd. Yn fuan wedyn, cafodd ei benodi’n henuriad. Yn ogystal â bod yn ffrind, roedd hefyd yn esiampl dda.” Yna, cymerodd Federico gam gwag. Aeth yn syth i ofyn am help ysbrydol, ond doedd ddim yn gymwys mwyach i fod yn arloeswr nac yn was. Sut gwnaeth Antonio ymateb?

Pan oedd Federico yn wynebu anawsterau, gwrandawodd ei ffrind Antonio arno a’i annog

Cofiodd Federico: “Gwelais fod Antonio yn teimlo fy mhoen. Trïodd ei orau glas i fy helpu’n emosiynol. Roedd eisiau imi wella’n ysbrydol ac wnaeth o byth gefnu arna i. Gwnaeth fy annog i adennill fy nghryfder ysbrydol a ddim i roi’r gorau iddi.” Esboniodd Antonio: “Treuliais fwy o amser efo Federico. Roeddwn eisiau iddo deimlo’n rhydd i siarad efo fi am unrhyw beth, hyd yn oed ei boen.” Braf yw cael dweud bod Federico, mewn amser, wedi dod yn gryf yn ysbrydol unwaith eto a’i fod hefyd wedi ei ailbenodi’n arloeswr ac yn was gweinidogaethol. Mae Antonio’n dweud: “Er ein bod ni rŵan yn gwasanaethu mewn cynulleidfaoedd gwahanol, rydyn ni’n fwy agos nag erioed.”

SUT BYDDET TI’N TEIMLO?

Sut byddet ti’n teimlo petai un o dy ffrindiau’n cefnu arnat ti pan oeddet ti’n ei angen fwyaf? Nid oes llawer o bethau sy’n brifo fel hynny. A fyddet ti’n gallu maddau iddo? A fyddai eich perthynas yr un mor gryf ag yr oedd yn y gorffennol?

Meddylia am yr hyn a ddigwyddodd i Iesu yn ystod ei ddyddiau olaf ar y ddaear. Treuliodd cryn dipyn o amser gyda’i apostolion ffyddlon, ac roedden nhw i gyd yn teimlo’n agos at ei gilydd. Roedd pob un ohonyn nhw’n ffrindiau i Iesu. (Ioan 15:15) Ond eto, beth ddigwyddodd pan arestiwyd Iesu? Dihangodd yr apostolion. Roedd Pedr wedi datgan yn gyhoeddus na fyddai byth yn cefnu ar ei Feistr, ond y noson honno, gwnaeth Pedr wadu ei fod yn adnabod Iesu!—Math. 26:31-33, 56, 69-75.

Roedd Iesu’n gwybod y byddai’n gorfod wynebu ei brawf olaf ar ei ben ei hun. Eto, roedd ganddo reswm dros deimlo siom. Ond, dydy ei sgwrs â’r disgyblion ychydig o ddyddiau ar ôl iddo gael ei atgyfodi ddim yn datgelu’r mymryn lleiaf o siom na chwerwder. Doedd Iesu ddim yn teimlo bod angen iddo restru ffaeleddau ei ddisgyblion, gan gynnwys yr hyn roedden nhw wedi ei wneud ar y noson y cafodd ei arestio.

I’r gwrthwyneb, gwnaeth Iesu godi calon Pedr a’r apostolion eraill. Cadarnhaodd ei fod yn ymddiried ynddyn nhw drwy roi cyfarwyddiadau iddyn nhw ynglŷn â’r gwaith addysgu mwyaf pwysig yn hanes dyn. I Iesu, ffrindiau iddo oedd yr apostolion o hyd. Cafodd ei gariad argraff ddofn arnyn nhw. Bydden nhw’n gwneud eu gorau i beidio byth eto â siomi eu Meistr. Yn wir, roedden nhw’n llwyddiannus yn y gwaith roedd Iesu wedi gofyn i’w ddilynwyr ei wneud.—Act. 1:8; Col. 1:23.

Mae chwaer o’r enw Elvira yn cofio’n glir yr adeg pan fu gwahaniaeth barn rhyngddi hi a’i ffrind annwyl Guiliana: “Pan ddywedodd hi ei bod hi wedi ei brifo oherwydd rhywbeth roeddwn i wedi ei wneud,” meddai Elvira, “roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy. Roedd ganddi bob hawl i fod yn flin. Ond beth wnaeth argraff arna i oedd y ffaith ei bod hi’n poeni fwy amdana i a chanlyniadau fy ymddygiad. Fe fydda i’n wastad yn gwerthfawrogi’r ffaith nad oedd hi wedi canolbwyntio ar sut roedd hi’n teimlo am beth wnes i, ond, yn hytrach, ar y niwed roeddwn i’n ei wneud i fi fy hun. Gwnes i ddiolch i Jehofa fy mod gen i ffrind da a oedd yn meddwl am fy lles i yn fwy na’i theimladau hi ei hun.”

Felly, sut bydd ffrind da yn ymateb pan fydd cyfeillgarwch yn dod o dan straen? Bydd ef neu hi yn fodlon siarad yn garedig ond yn agored pan fo angen. Bydd y ffrind hwnnw’n ymddwyn yn debyg i Nathan neu Chwshai, a arhosodd yn ffyddlon hyd yn oed yn ystod cyfnodau anodd, ac fel Iesu a oedd yn fodlon maddau. Ai ffrind fel hyn wyt ti?