Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ymarfer Ffydd—Penderfyna’n Ddoeth!

Ymarfer Ffydd—Penderfyna’n Ddoeth!

“Rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb—peidio amau.”—IAGO 1:6.

CANEUON: 81, 70

1. Beth a rwystrodd Cain rhag gwneud penderfyniad doeth, a beth oedd y canlyniadau?

ROEDD Cain yn gorfod dewis: Meistroli ei emosiynau pechadurus, neu adael i’w emosiynau reoli ei weithredoedd. Beth bynnag fyddai ei benderfyniad, byddai’r canlyniadau yn effeithio ar weddill ei fywyd. Rwyt ti’n gyfarwydd â’r hanes; ni phenderfynodd yn ddoeth. Gwnaeth ei benderfyniad a’r weithred a ddilynodd gostio ei frawd ffyddlon Abel ei fywyd. Ac effeithiodd penderfyniad Cain ar ei berthynas â’i Greawdwr.—Gen. 4:3-16.

2. Pa mor bwysig yw ein gallu i benderfynu’n ddoeth?

2 Mae gennyn ninnau hefyd benderfyniadau i’w gwneud. Nid yw pob un o’n penderfyniadau yn fater o fywyd a marwolaeth. Fodd bynnag, gall ein penderfyniadau gael effaith fawr arnon ni. Felly, mae penderfynu’n ddoeth yn gallu ein helpu i fyw bywyd sy’n gymharol braf a thawel yn hytrach nag un sy’n llawn anhrefn, dadleuon, a siomedigaeth.—Diar. 14:8.

3. (a) Er mwyn penderfynu’n ddoeth, beth y dylen ni roi ein ffydd ynddo? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?

3 Beth fydd yn ein helpu i benderfynu’n ddoeth? Mae angen credu y bydd Duw yn ein helpu i fod yn ddoeth. Mae angen inni roi ffydd hefyd yng Ngair Duw a’r cyngor sydd ynddo, ac yn y ffordd y mae Jehofa’n gwneud pethau. (Darllen Iago 1:5-8.) Wrth inni glosio at Dduw a pharchu ei Air, rydyn ni’n dod i ymddiried yn ei farn. O ganlyniad, rydyn ni’n meithrin yr arfer o droi at Air Duw cyn gwneud penderfyniadau. Ond sut medrwn ni wella ar ein gallu i wneud penderfyniadau? Ac ydy’r parodrwydd i wneud penderfyniadau yn golygu y dylen ni lynu wrth y penderfyniadau hynny ni waeth befo’r canlyniadau?

RHAID GWNEUD PENDERFYNIADAU

4. Pa benderfyniad a wnaeth Adda, a beth oedd y canlyniadau?

4 O’r cychwyn cyntaf, mae dynion a merched wedi gorfod gwneud penderfyniadau pwysig. Roedd yn rhaid i Adda ddewis gwrando naill ai ar ei Greawdwr neu ar Efa. Roedd yn fodlon gwneud penderfyniad, ond beth rwyt ti’n ei feddwl o’i benderfyniad? Cafodd ei wraig ei chamarwain ac yna dwyn perswâd arno i wneud penderfyniad annoeth iawn, un a fyddai’n ei wahardd rhag byw ym Mharadwys ac, yn y pen draw, yn costio ei fywyd iddo. Ond roedd y gost yn fwy drud na hynny. Rydyn ni’n dal yn diodde’r canlyniadau a ddilynodd penderfyniad echrydus Adda.

5. Beth ddylai ein hagwedd fod tuag at wneud penderfyniadau?

5 Gall rhai feddwl y byddai bywyd yn llawer haws pe na bydden ni’n gorfod gwneud penderfyniadau. Wyt ti’n teimlo felly? Cofia, ni wnaeth Jehofa greu bodau dynol i fod yn robotiaid, heb y gallu i feddwl a phenderfynu. Mae’r Beibl yn ein dysgu i benderfynu’n ddoeth. Er bod Jehofa’n dymuno inni wneud penderfyniadau, nid yw’n dymuno inni gael cam. Myfyria ar esiamplau sy’n tystio i hynny.

6, 7. Beth roedd yr Israeliaid yn gorfod ei benderfynu, a pham roedd penderfynu’n ddoeth yn anodd? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Ar ôl setlo yng Ngwlad yr Addewid, roedd gan yr Israeliaid ddewis, un syml ond pwysig: Addoli Jehofa neu wasanaethu gau dduwiau. (Darllen Josua 24:15.) Penderfyniad hawdd meddet ti. Ond, roedd eu penderfyniad yn fater o fywyd a marwolaeth. Dro ar ôl tro yn ystod dyddiau’r Barnwyr, penderfynu’n annoeth a wnaeth yr Israeliaid. Cefnon nhw ar Jehofa ac addoli gau dduwiau. (Barn. 2:3, 11-23) Rho sylw i ddigwyddiad yn ddiweddarach yn hanes pobl Dduw, pan oedden nhw’n gorfod gwneud penderfyniad. Esboniodd y proffwyd Elias y dewisiadau’n glir: Gwasanaethu Jehofa neu wasanaethu’r gau dduw Baal. (1 Bren. 18:21) Cafodd y bobl eu ceryddu gan Elias am iddyn nhw fod mor chwit-chwat. Gallet feddwl mai dewis hawdd oedd hwn oherwydd ei bod hi bob amser yn fuddiol i wasanaethu Jehofa. Yn wir, ni ddylai unrhyw berson call gael ei swyno gan Baal. Ond eto, roedd yr Israeliaid hynny yn “eistedd ar y ffens.” Yn ddoeth iawn, gwnaeth Elias annog y bobl i addoli Jehofa.

7 Pam efallai roedd hi’n anodd i’r Israeliaid hynny benderfynu’n ddoeth? Yn gyntaf, roedden nhw wedi colli eu ffydd yn Jehofa ac wedi gwrthod gwrando ar ei lais. Nid oedden nhw wedi gosod y sylfaen o ran gwybodaeth gywir a doethineb duwiol, ac nid oedden nhw wedi ymddiried yn Jehofa. Byddai gweithredu’n unol â gwybodaeth gywir wedi eu helpu i benderfynu’n ddoeth. (Salm 25:12) Yn ogystal, roedden nhw wedi gadael i eraill ddylanwadu arnyn nhw neu i benderfynu drostyn nhw. Roedd y bobl nad oedden nhw’n addoli Jehofa wedi dylanwadu ar ffordd o feddwl yr Israeliaid, gan achosi iddyn nhw ddilyn y dorf baganaidd. Ymhell cyn hynny, roedd Jehofa wedi eu rhybuddio y gallai peth o’r fath ddigwydd.—Ex. 23:2.

A DDYLAI ERAILL BENDERFYNU DROSON NI?

8. Pa wers bwysig o ran gwneud penderfyniadau y mae hanes Israel yn ei dysgu inni?

8 O ystyried yr esiamplau uchod, mae’r wers yn glir. Cyfrifoldeb pob un ohonon ni yw gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar gyngor Ysgrythurol cadarn. Mae Galatiaid 6:5 yn ein hatgoffa: “Dŷn ni’n gyfrifol am beth dyn ni’n hunain wedi ei wneud.” Ni ddylen ni drosglwyddo’r cyfrifoldeb hwn i rywun arall. Yn hytrach, dylen ni ddysgu beth sy’n iawn yng ngolwg Duw a gwneud hynny.

9. Pam mae gadael i eraill benderfynu droson ni yn gallu bod yn beryglus?

9 Sut gallwn ninnau syrthio i’r fagl o adael i bobl eraill benderfynu droson ni? Gallai pwysau gan gyfoedion ein perswadio ni i wneud penderfyniad drwg. (Diar. 1:10, 15) Ond eto, ni waeth sut y bydd eraill yn ceisio ein rhoi ni o dan bwysau, ein cyfrifoldeb ni yw gwrando ar ein cydwybod Gristnogol. Ar sawl cyfrif, os ydyn ni’n caniatáu i eraill wneud penderfyniadau droson ni, yr hyn rydyn ni’n ei wneud mewn gwirionedd yw “mynd gyda nhw.” Dewis a allai fod yn drychinebus.

10. Beth oedd rhybudd Paul i’r Galatiaid?

10 Roedd yr apostol Paul wedi rhybuddio’r Galatiaid rhag y perygl o adael i eraill wneud penderfyniadau personol drostyn nhw. (Darllen Galatiaid 4:17.) Roedd rhai yn y gynulleidfa yn ceisio gwneud hynny er mwyn gwahanu’r brodyr oddi wrth yr apostolion. Pam? Oherwydd bod y rhai hunanol hynny yn ceisio amlygrwydd iddyn nhw eu hunain. Aethon nhw’n rhy bell, ac ni wnaethon nhw barchu’r ffaith fod gan bob Cristion y cyfrifoldeb i benderfynu drosto’i hun.

11. Sut gallwn ni helpu eraill wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau personol?

11 Gosododd Paul esiampl dda yn y mater o barchu hawl eraill i wneud eu penderfyniadau eu hunain. (Darllen 2 Corinthiaid 1:24.) Heddiw, wrth roi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â dewisiadau personol, mae’r henuriaid yn dilyn yr un patrwm. Maen nhw’n hapus i rannu gwybodaeth wedi ei seilio ar y Beibl ag eraill yn y gynulleidfa. Ond eto, mae’r henuriaid yn ofalus iawn i adael i’r brodyr a’r chwiorydd wneud eu penderfyniadau eu hunain. Rhesymol iawn yw hyn gan mai’r unigolion hynny fydd yn gorfod wynebu’r canlyniadau. Dyma’r wers: Gallwn ni ddangos diddordeb mewn eraill a thynnu eu sylw at egwyddorion a chyngor Ysgrythurol. Ond, nhw biau’r hawl a’r cyfrifoldeb i wneud eu penderfyniadau eu hunain. O wneud hyn, maen nhw’n llwyddo. Yn amlwg felly, dylen ni osgoi unrhyw dueddiad i feddwl bod gennyn ni’r awdurdod i benderfynu dros frodyr a chwiorydd eraill.

Mae henuriaid cariadus yn helpu eraill i benderfynu drostyn nhw eu hunain (Gweler paragraff 11)

FFRWYNO TEIMLADAU

12, 13. Pam ei bod hi’n beryglus i ddilyn ein calon pan fyddwn ni wedi gwylltio neu wedi ein digalonni?

12 Agwedd neu ddihareb gyffredin yw: Dilyn dy galon. Ond, gall gwneud hynny fod yn beryglus. Ar un olwg, mae gwneud hynny’n anysgrythurol. Mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni rhag gadael i’n calon amherffaith neu i’n teimladau fod yn feistr arnon ni wrth wneud penderfyniadau. (Diar. 28:26) Ac mae’r Beibl yn adrodd hanesion trist y rhai a wnaeth hynny. Y broblem sylfaenol i fodau dynol amherffaith yw bod y galon yn “fwy twyllodrus na dim.” (Jer. 3:17; 13:10; 17:9; 1 Bren. 11:9) Felly, beth fyddai’n digwydd inni petaen ni’n dilyn ein calon?

13 Mae calon Cristion yn bwysig, oherwydd y gorchymyn i garu Jehofa a’n holl galon ac i garu ein cymydog fel ni’n hunain. (Math. 22:37-39) Ond mae’r hanesion y cyfeirir atyn nhw yn y paragraff blaenorol yn dangos pa mor beryglus yw caniatáu i’n hemosiynau reoli ein meddyliau a’n gweithredoedd. Er enghraifft, beth all ddigwydd petaen ni’n gwneud penderfyniadau a ninnau wedi gwylltio? Gall yr ateb fod yn amlwg yn enwedig os ydyn ni wedi bod yn euog o hyn yn y gorffennol. (Diar. 14:17; 29:22) A pha mor debygol yw hi y byddwn i’n gwneud penderfyniadau call pan fyddwn ni wedi ein digalonni? (Num. 32:6-12; Diar. 24:10) Cofia fod Gair Duw yn dangos pwysigrwydd bod yn “awyddus i wneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ddweud.” (Rhuf. 7:25) Felly, pe bydden ni’n gadael i’n hemosiynau ein trechu ni, hawdd fyddai cael ein twyllo wrth inni wneud penderfyniadau pwysig.

PRYD I NEWID DY FEDDWL

14. Pam mae hi’n iawn inni newid ein meddwl ar adegau?

14 Pwysig yw gwneud penderfyniadau doeth. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu y dylen ni wrthod newid ein meddwl. Fe ddaw adegau pan ddylen ni ailfeddwl penderfyniad a hyd yn oed ei newid. Cofia sut gwnaeth Jehofa drin pobl Ninefe yn nyddiau Jona: “Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw’n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.” (Jona 3:10) Ar ôl sylwi ar agwedd edifeiriol pobl Ninefe, newidiodd Jehofa ei feddwl. O wneud hynny, roedd Jehofa’n rhesymol, yn ostyngedig, ac yn drugarog. Ar ben hynny, nid yw Duw yn gwneud penderfyniadau wedi eu seilio ar ddicter byr ei barhad, y math o ffrwydrad emosiynol sy’n gyffredin i lawer o fodau dynol.

15. Beth all achosi inni newid ein meddwl?

15 Pan fo amgylchiadau yn newid, peth da fyddai ailfeddwl ein dewisiadau. Newidiodd Jehofa ei feddwl pan newidiodd yr amgylchiadau. (1 Bren. 21:20, 21, 27-29; 2 Bren. 20:1-5) Neu efallai y bydd gwybodaeth newydd yn dod i’r fei sy’n rhoi rheswm dilys inni addasu ein penderfyniad. Gwnaeth y Brenin Dafydd benderfyniad am ŵyr Saul, Meffibosheth, ar sail gwybodaeth anghywir, ond pan ddaeth gwybodaeth gywir i’w sylw, newidiodd Dafydd ei feddwl. (2 Sam. 16:3, 4; 19:24-29) Ar adegau, doeth fyddai inni wneud yr un peth.

16. (a) Pa ganllawiau a all ein helpu i benderfynu’n ddoeth? (b) Pam dylen ni adolygu penderfyniadau’r gorffennol?

16 Cyngor Gair Duw yw peidio â rhuthro wrth wneud penderfyniadau pwysig. (Diar. 21:5) Pan fyddwn ni’n edrych ar ein penderfyniad o bob ongl, mae hi’n fwy tebygol y byddwn ni’n llwyddo. (1 Thes. 5:21) Cyn penderfynu ar fater pwysig, dylai pen y teulu neilltuo amser yn ymchwilio’r Ysgrythurau a chyhoeddiadau Cristnogol eraill, ynghyd ag ystyried barn aelodau eraill o’r teulu. Cofia fod Duw wedi gofyn i Abraham wrando ar ei wraig. (Gen. 21:9-12) Dylai henuriaid hefyd neilltuo amser ar gyfer gwneud ymchwil. Ac, os ydyn nhw’n ddynion rhesymol a gostyngedig, fyddan nhw ddim yn poeni am golli parch os ydy gwybodaeth newydd yn awgrymu y dylen nhw ailfeddwl penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud. Dylen nhw fod yn barod i newid eu ffordd o feddwl a’u penderfyniadau pan fydd angen, a dylen ni i gyd ddilyn yr esiampl honno. Bydd hynny’n hyrwyddo heddwch a threfn yn y gynulleidfa.—Act. 6:1-4.

GWEITHREDA AR DY BENDERFYNIADAU

17. Sut gallwn ni fod yn fwy llwyddiannus wrth wneud penderfyniadau?

17 Mae rhai penderfyniadau’n fwy pwysig nag eraill. Mae’r rhai pwysicach yn gofyn am fwy o amser i feddwl a gweddïo. Er enghraifft, i rai Cristnogion y penderfyniad yw a ddylen nhw briodi, neu bwy ddylen nhw briodi. Dewis arall sy’n gallu arwain at lawer o fendithion yw sut i gychwyn yn y weinidogaeth lawn amser, a phryd. Ynghylch penderfyniadau o’r fath, pwysig yw credu y bydd Jehofa yn rhoi arweiniad doeth inni. (Diar. 1:5) Felly, hanfodol yw dibynnu ar gyngor y Beibl a gweddïo am arweiniad Jehofa. Cofia, hefyd, fod Jehofa’n gallu rhoi’r rhinweddau sydd eu hangen arnon ni er mwyn inni wneud penderfyniadau sy’n unol â’i ewyllys. Wrth wneud penderfyniadau pwysig, gofynna: ‘A fydd y penderfyniad hwn yn dangos fy mod i’n caru Jehofa? A fydd yn dod â hapusrwydd a heddwch i’r teulu? Ac a fydd yn dangos fy mod i’n amyneddgar ac yn gariadus?’

18. Pam mae Jehofa’n disgwyl inni wneud ein penderfyniadau ein hunain?

18 Dydy Jehofa ddim yn ein gorfodi ni i’w garu a’i wasanaethu. Ein dewis ni yw hynny. Yn unol â’r ewyllys rhydd y mae wedi ei roi inni, mae Jehofa yn parchu ein cyfrifoldeb a’n hawl i benderfynu a fyddwn ni’n ei wasanaethu neu beidio. (Jos. 24:15; Preg. 5:4) Ond, mae’n disgwyl inni weithredu ar benderfyniadau eraill rydyn ni’n eu gwneud sy’n seiliedig ar ei arweiniad. Os ydyn ni’n rhoi ein ffydd yn Jehofa, ei ffordd ef o wneud pethau, a’i egwyddorion, gallwn wneud penderfyniadau doeth a phrofi ein bod ni’n ddiysgog ym mhopeth.—Iago 1:5-8; 4:8.