Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BedyddHanfodol ar Gyfer Cristnogion

BedyddHanfodol ar Gyfer Cristnogion

“Ac mae bedydd . . . yn eich achub chi.”—1 PEDR 3:21.

CANEUON: 52, 41

1, 2. (a) Sut mae rhai rhieni yn teimlo pan fydd eu plentyn eisiau cael ei fedyddio? (b) Pam y gofynnwyd i bobl sydd eisiau cael eu bedyddio a ydyn nhw wedi ymgysegru i Jehofa? (Gweler y llun agoriadol.)

ROEDD rhieni Maria yn gwylio wrth i’w merch ifanc sefyll gyda’r lleill a oedd eisiau cael eu bedyddio. Gofynnodd y siaradwr ddau gwestiwn. Atebodd Maria mewn llais uchel a chlir. Yn fuan wedyn, cafodd hi ei bedyddio.

2 Roedd rhieni Maria yn falch iawn fod eu merch wedi penderfynu cysegru ei bywyd i Jehofa a chael ei bedyddio. Ond, cyn hynny, roedd rhywbeth yn chwarae ar feddwl mam Maria. Roedd hi’n meddwl am y cwestiynau hyn: ‘Ydy Maria’n rhy ifanc i gael ei bedyddio? Ydy hi’n deall pa mor ddifrifol ydy’r penderfyniad i ymgysegru i Jehofa? A ddylai hi aros am ychydig cyn iddi gael ei bedyddio?’ Mae llawer o rieni cariadus yn gofyn cwestiynau tebyg ar ôl i’w plentyn ddweud ei fod eisiau cael ei fedyddio. (Pregethwr 5:5) Wedi’r cwbl, y penderfyniad pwysicaf y gall rhywun ei wneud ydy ymgysegru i Jehofa a chael ei fedyddio.—Gweler y blwch “ Wyt Ti Wedi Dy Gysegru Dy Hun i Jehofa?

3, 4. (a) Sut gwnaeth yr apostol Pedr ein dysgu bod bedydd yn bwysig iawn? (b) Pam gwnaeth Pedr gymharu bedydd â Noa yn adeiladu’r arch?

3 Gwnaeth yr apostol Pedr gymharu bedydd â Noa yn adeiladu’r arch. Dywedodd: “Ac mae bedydd, sy’n cyfateb i hynny, yn eich achub chi.” (Darllen 1 Pedr 3:20, 21.) Roedd yr arch yn dystiolaeth gadarn i bobl eraill fod Noa eisiau gwneud ewyllys Duw â’i holl galon. Cyflawnodd Noa y gwaith roedd Jehofa wedi ei roi iddo. Oherwydd ffydd Noa, gwnaeth Jehofa ei achub ef a’i deulu yn ystod y Dilyw. Beth oedd Pedr yn trio ei ddysgu inni?

4 Pan welodd pobl yr arch, roedden nhw’n gwybod bod gan Noa ffydd yn Nuw. Pan fydd pobl yn gweld rhywun yn cael ei fedyddio, maen nhw’n gwybod ei fod wedi cysegru ei fywyd i Dduw oherwydd ei ffydd yng Nghrist, sydd wedi ei atgyfodi. Fel Noa, mae’r rheini sy’n cael eu bedyddio yn ufuddhau i Dduw ac yn gwneud y gwaith y mae wedi ei roi iddyn nhw. Ac, yn union fel y gwnaeth Jehofa achub Noa yn ystod y Dilyw, fe fydd yn achub ei weision ffyddlon sydd wedi eu bedyddio pan fydd yn dinistrio’r byd drwg hwn. (Marc 13:10; Datguddiad 7:9, 10) Yn amlwg felly, mae’n bwysig iawn inni gysegru ein bywydau i Jehofa a chael ein bedyddio. Yn wir, os ydy rhywun yn oedi rhag cael ei fedyddio, fe allai golli ei gyfle i fyw am byth.

5. Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon?

5 Nawr ein bod ni’n deall pa mor ddifrifol ydy bedydd, mae angen inni wybod yr atebion i’r cwestiynau hyn: Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am fedydd? Beth sy’n rhaid i rywun ei wneud cyn iddo gael ei fedyddio? Pam y dylen ni gadw mewn cof pa mor bwysig ydy bedydd wrth inni ddysgu ein plant neu’n hastudiaethau Beiblaidd?

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD AM FEDYDD?

6, 7. (a) Beth oedd ystyr bedydd Ioan? (b) Bedydd pwy oedd yn wahanol i bob bedydd arall, a pham?

6 Yn y Beibl, y person cyntaf rydyn ni’n darllen amdano yn bedyddio pobl eraill ydy Ioan Fedyddiwr. (Mathew 3:1-6) Pam roedd pobl yn dod at Ioan i gael eu bedyddio? Roedden nhw’n gwneud hynny i ddangos eu bod nhw wedi edifarhau am eu pechodau, hynny yw, roedden nhw’n cydnabod eu bod nhw wedi torri Cyfraith Moses a’u bod nhw’n difaru gwneud hynny. Ond, roedd gan y bedydd pwysicaf a wnaeth Ioan ystyr hollol wahanol. Cafodd Ioan yr anrhydedd o fedyddio Iesu, Mab perffaith Duw. (Mathew 3:13-17) Doedd Iesu erioed wedi pechu. Doedd dim angen iddo edifarhau. (1 Pedr 2:22) Felly, pam cafodd Iesu ei fedyddio? I ddangos ei fod yn barod i ddefnyddio ei fywyd i wneud ewyllys Duw.—Hebreaid 10:7.

7 Ar ôl i Iesu ddechrau pregethu, dechreuodd ei ddisgyblion fedyddio pobl eraill. (Ioan 3:22; 4:1, 2) Cafodd y bobl hynny eu bedyddio oherwydd eu bod nhw wedi edifarhau am eu pechodau yn erbyn Cyfraith Moses. Ond ar ôl i Iesu farw a chael ei atgyfodi, roedd rhaid i bobl a oedd eisiau bod yn disgyblion i Iesu gael eu bedyddio am reswm arall.

8. (a) Pa orchymyn a roddodd Iesu ar ôl ei atgyfodiad? (b) Pam mae angen i Gristnogion gael eu bedyddio?

8 Yn y flwyddyn 33, yn fuan ar ôl iddo gael ei atgyfodi, siaradodd Iesu â dros 500 o ddynion, merched, ac efallai plant. Efallai dyna pryd y dywedodd Iesu: “Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi.” (Mathew 28:19, 20; 1 Corinthiaid 15:6) Gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr wneud disgyblion. Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau bod yn ddisgybl iddo, neu sydd eisiau cymryd ei “iau,” gael ei fedyddio. (Mathew 11:29, 30) Er mwyn gwasanaethu Duw mewn ffordd sy’n ei blesio, mae’n rhaid i berson dderbyn bod Duw yn defnyddio Iesu i gyflawni ei ewyllys. Wedyn, mae’r person hwnnw yn gallu cael ei fedyddio â chymeradwyaeth Duw. Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o dystiolaeth sy’n dangos bod disgyblion cynnar Iesu yn gwybod pa mor bwysig oedd bedydd. Doedden nhw ddim yn meddwl bod rhaid iddyn nhw aros a chael eu bedyddio yn hwyrach ymlaen.—Actau 2:41; 9:18; 16:14, 15, 32, 33.

PAID Â DAL YN ÔL

9, 10. Beth mae esiampl y dyn o Ethiopia ac esiampl Saul yn ein dysgu am fedydd?

9 Darllen Actau 8:35, 36. Roedd dyn o Ethiopia a oedd wedi derbyn y ffydd Iddewig yn teithio adref ar ôl iddo fod yn addoli yn y deml yn Jerwsalem. Gwnaeth angel Jehofa anfon Philip i bregethu wrtho, a dysgodd Philip iddo “y newyddion da am Iesu.” Beth oedd ymateb y dyn o Ethiopia? Roedd wedi deall pa mor bwysig oedd derbyn Iesu yn Arglwydd iddo, ac roedd eisiau gwneud yr hyn y mae Jehofa’n ei ofyn gan Gristnogion. Felly, cafodd ei fedyddio heb oedi.

10 Esiampl arall ydy’r dyn Iddewig Saul. Roedd y genedl Iddewig gyfan wedi ei chysegru i Dduw, ond roedd Jehofa wedi gwrthod yr Iddewon oherwydd nad oedden nhw’n ufudd iddo. Roedd Saul yn dal i gredu bod yr Iddewon yn gwasanaethu Duw yn y ffordd iawn, felly roedd yn erlid y Cristnogion. Ond, un diwrnod, gwnaeth Iesu, a oedd wedi cael ei atgyfodi, siarad â Saul o’r nefoedd. Beth oedd ymateb Saul? Roedd yn hapus i dderbyn help gan y disgybl Cristnogol Ananias. Mae’r Beibl yn dweud: “Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio.” (Actau 9:17, 18; Galatiaid 1:14) Yn nes ymlaen, cafodd ei adnabod fel yr apostol Paul. Sylwa, unwaith iddo ddeall bod Duw yn defnyddio Iesu i gyflawni Ei ewyllys, cafodd Saul ei fedyddio heb oedi.—Darllen Actau 22:12-16.

Mae myfyrwyr y Beibl yn gwerthfawrogi dysgu’r gwirionedd ac yn awyddus i gael eu bedyddio

11. (a) Beth sy’n ysgogi myfyrwyr y Beibl heddiw i gael eu bedyddio? (b) Sut rydyn ni’n teimlo pan fydd rhywun yn cael ei fedyddio?

11 Mae’r un peth yn wir am lawer o fyfyrwyr y Beibl heddiw, boed yn hen neu’n ifanc. Oherwydd eu bod nhw’n caru ac yn ymddiried yn yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud, maen nhw’n awyddus i gysegru eu bywydau i Jehofa a chael eu bedyddio. Yn wir, mae’r anerchiad bedydd yn wastad yn rhan arbennig o’r cynulliad a’r gynhadledd. Mae Tystion Jehofa yn hapus pan fydd myfyrwyr y Beibl yn derbyn y gwirionedd ac yn penderfynu cael eu bedyddio. Mae rhieni yn hapus iawn pan fydd eu plant yn gwneud yr un peth. Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2017, cafodd dros 284,000 o rai newydd eu bedyddio i ddangos eu bod nhw wedi cysegru eu bywydau i Jehofa. (Actau 13:48) Yn amlwg, roedden nhw’n deall ei bod hi’n hanfodol i Gristnogion gael eu bedyddio. Ond, beth roedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud cyn cael eu bedyddio?

12. Beth sy’n rhaid i fyfyrwyr y Beibl ei wneud cyn iddyn nhw gael eu bedyddio?

12 Cyn i fyfyrwyr y Beibl allu cael eu bedyddio, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu’r gwirionedd am Dduw, ei bwrpas ar gyfer pobl a’r ddaear, a’r hyn a wnaeth ef i achub dynolryw. (1 Timotheus 2:3-6) Wedyn, mae’n rhaid iddyn nhw feithrin ffydd, a fydd yn eu helpu i ufuddhau i ddeddfau Duw a stopio gwneud y pethau y mae’n eu casáu. Mae hyn yn bwysig, oherwydd ni fydd Jehofa yn derbyn cysegriad rhywun sy’n parhau i wneud pethau y mae’n eu casáu. (1 Corinthiaid 6:9, 10) Ond, mae ’na fwy i’w gofio. Mae angen i bobl sydd eisiau cysegru eu bywydau i Jehofa fynychu’r cyfarfodydd a mynd allan yn aml i bregethu’r newyddion da a dysgu pobl eraill. Mae gofyn i bob un sydd eisiau dilyn Crist wneud hyn. (Actau 1:8) Mae’n rhaid i fyfyriwr wneud y pethau hyn i gyd yn gyntaf. Wedyn, bydd yn gallu cysegru ei fywyd i Jehofa mewn gweddi bersonol a chael ei fedyddio.

GOSOD BEDYDD YN NOD

Pan wyt ti’n dysgu pobl eraill, wyt ti’n chwilio am gyfleon i’w helpu i ddeall bod bedydd yn bwysig iawn? (Gweler paragraff 13)

13. Pan ydyn ni’n dysgu pobl eraill, pam mae angen inni gofio bod rhaid iddyn nhw gael eu bedyddio er mwyn bod yn wir Gristnogion?

13 Pan fydden ni’n helpu ein plant a myfyrwyr y Beibl eraill i wneud y pethau hanfodol hyn, mae’n rhaid inni gofio bod rhaid i’r bobl sydd eisiau dilyn Iesu gael eu bedyddio. Wedyn, fyddwn ni ddim yn ofni dweud wrthyn nhw, ar adegau priodol, pa mor bwysig ydy ymgysegriad a bedydd. Rydyn ni eisiau i’n plant a myfyrwyr y Beibl eraill i barhau i wneud cynnydd a chael eu bedyddio!

14. Pam dydyn ni ddim yn rhoi pwysau ar neb i gael ei fedyddio?

14 Wrth gwrs, ni ddylai neb orfodi na rhoi pwysau ar blentyn neu fyfyriwr y Beibl i gael ei fedyddio. Dydy Jehofa ddim yn gorfodi unrhyw un ohonon ni i’w wasanaethu. (1 Ioan 4:8) Wrth inni ddysgu eraill, mae angen inni eu helpu i ddeall pa mor bwysig yw meithrin perthynas bersonol â Jehofa. Yna, os ydy myfyriwr y Beibl yn gwerthfawrogi gwybod y gwir am Dduw ac yn dymuno gwneud popeth y dylai gwir Gristnogion ei wneud, fe fydd eisiau cael ei fedyddio.—2 Corinthiaid 5:14, 15.

15, 16. (a) Oes rhaid i rywun gyrraedd oedran penodol er mwyn cael ei fedyddio? Esbonia. (b) Pam mae’n rhaid i rywun gael ei fedyddio fel un o Dystion Jehofa hyd yn oed os ydy ef eisoes wedi ei fedyddio mewn crefydd arall?

15 Does dim rhaid i rywun gyrraedd ryw oedran penodol er mwyn cael ei fedyddio. Mae pawb yn wahanol, ac mae rhai myfyrwyr yn gwneud cynnydd yn gyflymach nag eraill. Mae llawer yn cael eu bedyddio pan fyddan nhw’n dal yn ifanc, ac maen nhw’n aros yn ffyddlon i Jehofa wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Mae eraill yn hŷn pan fyddan nhw’n dysgu gwirionedd y Beibl ac yn cael eu bedyddio. Mae rhai dros eu cant oed!

16 Roedd un ddynes a astudiodd y Beibl eisoes wedi cael ei bedyddio mewn sawl crefydd arall. Dyna pam y gwnaeth hi ofyn i’r un a ddysgodd hi a oedd gwir angen iddi gael ei bedyddio eto. Gwnaeth yr un a oedd yn ei dysgu ddangos adnodau o’r Beibl i ateb ei chwestiwn. Unwaith i’r ddynes ddeall beth mae’r Beibl yn ei ofyn gennyn ni, cafodd hi ei bedyddio, er ei bod hi’n 80 oed bron. Beth ydyn ni’n ei ddysgu o’r esiampl hon? Bydd Jehofa yn derbyn ein bedydd dim ond os ydyn ni’n deall y gwirionedd am ei ewyllys. Felly, hyd yn oed os ydyn ni wedi cael ein bedyddio mewn crefydd arall, mae hi’n dal yn hanfodol inni gael ein bedyddio fel un o Dystion Jehofa.—Darllen Actau 19:3-5.

17. Beth dylai rhywun feddwl amdano ar ddiwrnod ei fedydd?

17 Mae diwrnod bedydd rhywun yn ddiwrnod hapus iawn. Y mae hefyd yn amser i feddwl yn ofalus am beth mae ymgysegriad a bedydd yn ei olygu. Mae gwneud pob peth y dylai gwir Gristnogion ei wneud yn waith caled. Mae’n rhaid i ddisgyblion Iesu “beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio’r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.”—2 Corinthiaid 5:15; Mathew 16:24.

18. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl nesaf?

18 Fel rydyn ni wedi dysgu yn yr erthygl hon, mae’r penderfyniad i fod yn wir Gristion yn un difrifol iawn. Dyna pam gwnaeth mam Maria ofyn y cwestiynau y soniwyd amdanyn nhw ar gychwyn yr erthygl. Os wyt ti’n rhiant, efallai dy fod tithau wedi gofyn: ‘Ydy fy mhlentyn yn wir yn barod i gael ei fedyddio? Ydy fy mhlentyn yn adnabod Jehofa yn ddigon da i gysegru ei fywyd iddo? A ddylai fy mhlentyn gael addysg dda a swydd cyn cael ei fedyddio? Beth os ydy fy mhlentyn yn pechu’n ddifrifol ar ôl cael ei fedyddio?’ Byddwn yn trafod y cwestiynau hynny yn yr erthygl nesaf, a byddwn yn dysgu sut y gall rhieni Cristnogol gadw’r agwedd gywir tuag at fedydd.