Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Buddion Bod yn Groesawgar

Buddion Bod yn Groesawgar

“Agorwch eich cartrefi i’ch gilydd—bod yn groesawgar, a pheidio cwyno.”—1 PEDR 4:9.

CANEUON: 100, 87

1. Pa anawsterau roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn eu hwynebu?

RYW DRO rhwng y blynyddoedd 62 a 64, ysgrifennodd yr apostol Paul at y rhai a oedd yn “byw ar wasgar drwy daleithiau Rhufeinig Pontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia.” (1 Pedr 1:1) Nid y llefydd hyn oedd eu cartrefi go iawn gan fod y brodyr a’r chwiorydd hyn wedi dod o wahanol ardaloedd. Roedden nhw’n “mynd drwy’r ffwrn dân,” sef erledigaeth, ac roedd angen anogaeth ac arweiniad arnyn nhw. Roedden nhw hefyd yn byw mewn cyfnod peryglus iawn. Ysgrifennodd Pedr: “Bydd popeth yn dod i ben yn fuan.” Mewn llai na deng mlynedd, byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio. Beth fyddai’n helpu Cristnogion ym mhobman i oroesi’r amseroedd anodd hynny?—1 Pedr 4:4, 7, 12.

2, 3. Pam roedd Pedr yn annog ei frodyr i fod yn barod eu croeso? (Gweler y llun agoriadol.)

2 Roedd Pedr wedi annog ei frodyr i fod “yn groesawgar.” (1 Pedr 4:9) Mae’r ymadrodd Groeg hwn yn golygu “hoffter neu garedigrwydd tuag at bobl ddiarth.” Ond roedd Pedr yn annog ei frodyr a’i chwiorydd i fod yn groesawgar i’w gilydd er eu bod nhw eisoes yn adnabod ei gilydd ac yn gwneud pethau gyda’i gilydd. Sut byddai bod yn lletygar yn eu helpu?

3 Byddai bod yn groesawgar yn dod â nhw yn nes at ei gilydd. Beth amdanat ti? Wyt ti’n cofio’r amser da a gest ti pan wnest ti dderbyn gwahoddiad gan rywun i fynd draw i’w gartref? A phan wnest ti wahodd rhywun i alw draw, daeth hyn â chi yn nes at eich gilydd. Un ffordd dda o ddod i adnabod ein brodyr a’n chwiorydd yw bod yn lletygar tuag atyn nhw. Roedd angen i’r Cristnogion a oedd yn byw yn nyddiau Pedr ddod yn agosach at ei gilydd wrth i broblemau waethygu. Yn “y cyfnod olaf hwn,” mae angen i ni wneud yr un peth.—2 Timotheus 3:1.

4. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

4 Ym mha ffyrdd y gallwn ni fod yn groesawgar i’n gilydd? Beth all ein rhwystro ni rhag bod yn barod ein croeso, a sut gallwn ni wella? Beth sy’n gallu ein helpu ni i fod yn westeion da?

CYFLEOEDD I FOD YN GROESAWGAR

5. Sut gallwn ni fod yn groesawgar yn ein cyfarfodydd?

5 Yn y cyfarfodydd: Mae Jehofa a’i gyfundrefn wedi ein gwahodd ni i’r cyfarfodydd. Rydyn ni eisiau i bawb sy’n dod i’n cyfarfodydd deimlo’n gartrefol, yn enwedig rhai newydd. (Rhufeiniaid 15:7) Wedi’r cwbl, maen nhw hefyd yn westeion i Jehofa, ac felly mae’n rhaid inni wneud yn siŵr eu bod nhw’n teimlo’n gyffyrddus, dim ots sut maen nhw’n edrych neu beth maen nhw’n ei wisgo. (Iago 2:1-4) Os wyt ti’n sylwi bod rhywun sy’n dod i’r neuadd am y tro cyntaf ar ei ben ei hun, a elli di ofyn iddo eistedd wrth dy ochr? Peth caredig hefyd fyddai ei helpu i ddeall beth fydd yn digwydd yn ystod y cyfarfodydd neu i ddod o hyd i’r adnodau sy’n cael eu darllen. Byddai hyn yn ffordd wych o fynd allan o’n ffordd “i roi croeso.”—Rhufeiniaid 12:13.

6. I bwy y dylen ni fod yn fwy lletygar?

6 Bwyta gyda’n gilydd: Roedd pobl yn nyddiau’r Beibl yn aml yn estyn croeso drwy roi pryd o fwyd i’w gwesteion, gan ddangos eu bod nhw eisiau bod yn ffrindiau a chael heddwch. (Genesis 18:1-8; Barnwyr 13:15; Luc 24:28-30) I bwy y dylen ni fod yn lletygar? Y brodyr a’r chwiorydd yn ein cynulleidfa. Wrth i’r system hon waethygu, bydd angen inni ddibynnu ar ein brodyr a’n chwiorydd a bod yn ffrindiau ffyddlon iddyn nhw. Yn 2011, gwnaeth y Corff Llywodraethol newid amser yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio ar gyfer y teulu Bethel yn yr Unol Daleithiau o chwarter i saith i chwarter wedi chwech gyda’r nos. Pam y newid? Roedd y cyhoeddiad yn dweud y byddai’r newid yn ei gwneud hi’n haws i’r teulu Bethel fod yn groesawgar i’r naill a’r llall petai’r cyfarfod yn gorffen yn fwy cynnar. Mae canghennau eraill wedi gwneud yr un fath. Mae hyn wedi rhoi cyfle euraidd i aelodau’r teulu Bethel ddod i’w hadnabod ei gilydd yn well.

7, 8. Sut gallwn ni agor ein cartrefi i siaradwyr sy’n ymweld â’n cynulleidfa?

7 Weithiau mae brodyr o gynulleidfaoedd eraill, arolygwyr cylchdaith, neu gynrychiolwyr y Bethel yn rhoi anerchiad yn ein cynulleidfa. A ydy hi’n bosib inni fanteisio ar y cyfle i estyn croeso i’r brodyr hyn? (Darllen 3 Ioan 5-8.) Un ffordd o wneud hyn yw eu gwahodd nhw i’n cartref am bryd o fwyd.

8 Mae un chwaer o’r Unol Daleithiau yn dweud: “Ar hyd y blynyddoedd, mae fy ngŵr a minnau wedi cael y cyfle i agor ein cartref i lawer o siaradwyr a’u gwragedd.” Mae hi’n teimlo bod pob profiad wedi cryfhau ei ffydd ac wedi bod yn hwyl ar yr un pryd. Mae’n dweud: “Mae’n rhywbeth dydyn ni ddim wedi ei ddifaru.”

9, 10. (a) Pwy efallai fydd rhaid aros gyda ni am gyfnod hirach? (b) Oes rhaid byw mewn tŷ mawr crand i helpu? Rho esiampl.

9 Gwesteion sy’n aros yn hirach: Yng nghyfnod y Beibl, roedd hi’n gyffredin i roi rhywle i aros i rai ymwelwyr. (Job 31:32; Philemon 22) Heddiw, efallai y bydd angen i ninnau wneud yr un peth. Yn aml y mae arolygwyr cylchdaith yn gorfod cael rhywle i aros pan fyddan nhw’n ymweld â’r gynulleidfa. Gall hyn fod yn wir hefyd yn achos myfyrwyr yr ysgolion theocrataidd a rhai sy’n gwirfoddoli ar brosiectau adeiladu. A beth am y rhai sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd trychinebau naturiol? Bydd angen rhywle iddyn nhw fyw nes bydd eu cartref yn cael ei ailadeiladu. Ni ddylen ni feddwl mai dim ond y rhai sy’n byw mewn tai mawr sy’n gallu helpu. Efallai eu bod nhw wedi helpu lawer gwaith yn y gorffennol. A elli di gynnig rhywle i aros, hyd yn oed os nad oes gen ti dŷ mawr?

10 Mae brawd yn Ne Corea yn cofio pan oedd myfyrwyr ysgolion theocrataidd yn aros gydag ef. Mae’n ysgrifennu: “Roeddwn i’n dal yn ôl ar y cychwyn oherwydd ein bod ni newydd briodi a dim ond cartref bach oedd gennyn ni. Ond roedd cael y myfyrwyr yn aros gyda ni yn brofiad hapus dros ben. A ninnau newydd briodi, roedden ni’n gallu gweld pa mor hapus y gall cwpl fod pan fyddan nhw’n gwasanaethu Jehofa ac yn gwneud pethau ysbrydol gyda’i gilydd.”

11. Pam mae angen bod yn groesawgar i’r rhai sy’n newydd yn dy gynulleidfa?

11 Brodyr a chwiorydd newydd yn y gynulleidfa: Efallai y bydd rhai brodyr a chwiorydd neu deuluoedd yn symud o gynulleidfaoedd eraill i dy ardal di. Efallai eu bod nhw wedi dod oherwydd bod angen help ar dy gynulleidfa. Neu efallai eu bod nhw’n arloeswyr sydd wedi cael eu haseinio i dy gynulleidfa. Mae hyn yn newid mawr iddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw addasu i ardal newydd, i gynulleidfa newydd, a hyd yn oed i iaith neu ddiwylliant newydd. A elli di eu gwahodd nhw acw i gael pryd o fwyd neu i fynd am dro i rywle? Bydd hyn yn eu helpu i wneud ffrindiau newydd ac i addasu i’w hamgylchiadau newydd.

12. Pa brofiad sy’n dangos nad oes angen mynd i drafferth fawr er mwyn bod yn groesawgar?

12 Does dim rhaid iti fynd i drafferth fawr i fod yn lletygar. (Darllen Luc 10:41, 42.) Mae un brawd yn cofio rhywbeth a ddigwyddodd iddo ef a’i wraig pan ddaethon nhw’n genhadon. Dywedodd: “Roedden ni’n ifanc, yn ddibrofiad, ac yn llawn hiraeth. Un gyda’r nos, roedd fy ngwraig yn hiraethu’n ofnadwy a doeddwn i ddim wedi medru helpu ryw lawer. Yna, tua hanner awr wedi saith, clywson ni gnoc ar y drws. Yn sefyll yno oedd dynes a oedd yn astudio’r Beibl ac roedd hi eisiau rhoi tri oren inni. Wedi dod yr oedd hi i estyn croeso i’r cenhadon newydd. Gwnaethon ni ei gwahodd hi i mewn a rhoi diod o ddŵr iddi. Yna, gwnaethon ni baratoi te a siocled poeth. Doedden ni ddim yn deall Swahili eto, a doedd hithau ddim yn siarad Saesneg.” Dywedodd y brawd fod y profiad hwn wedi eu helpu nhw i wneud ffrindiau gyda’r brodyr lleol ac i fod yn fwy hapus.

PAID Â DAL YN ÔL

13. Sut mae bod yn groesawgar yn dy helpu di?

13 Wyt ti wedi dal yn ôl rhag bod yn lletygar? Os felly, mae’n bosib iti fod wedi colli cyfle i gael amser da ac i wneud ffrindiau a fydd yn aros yn ffrindiau am oes. Mae bod yn groesawgar yn ein stopio ni rhag teimlo’n unig. Felly, pam y byddai unrhyw un yn oedi cyn bod yn groesawgar? Mae ’na sawl rheswm.

14. Beth allwn ni ei wneud os nad oes gennyn ni ddigon o amser ac egni i gynnig a derbyn lletygarwch?

14 Amser ac egni: Mae pobl Jehofa yn hynod o brysur ac yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau. Gall rhai deimlo nad oes ganddyn nhw’r amser na’r egni i fod yn groesawgar. Os wyt ti’n teimlo felly, efallai y bydd rhaid iti newid dy amserlen er mwyn iti fedru cynnig a derbyn lletygarwch. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y Beibl yn ein hannog ni i fod yn lletygar. (Hebreaid 13:2) Felly mae bod yn groesawgar yn beth iawn i’w wneud. Ond er mwyn cynnig lletygarwch, efallai y bydd rhaid iti dreulio llai o amser yn gwneud pethau sy’n llai pwysig.

15. Pam mae rhai yn teimlo na allan nhw fod yn groesawgar?

15 Y ffordd rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun: Wyt ti erioed wedi bod eisiau bod yn groesawgar ond wedi teimlo nad oeddet ti’n gallu? Efallai dy fod ti’n swil ac yn poeni y bydd dy westeion yn diflasu. Neu efallai does gen ti ddim llawer o arian ac yn poeni nad wyt ti’n gallu cynnig yr hyn y mae brodyr a chwiorydd eraill yn gallu ei wneud. Ond, cofia, does dim rhaid i dy gartref fod yn grand. Bydd dy westeion yn hapus os ydy dy gartref yn dwt ac yn lân ac os wyt ti’n gyfeillgar.

16, 17. Beth elli di ei wneud os wyt ti’n poeni am gael pobl i aros?

16 Os wyt ti’n pryderu am gael pobl draw, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae un henuriad yn cyfaddef: “Mae paratoi ar gyfer cael brodyr draw yn gallu fy ngwneud i’n nerfus. Ond fel sy’n wir am bob dim yn ein gwasanaeth i Jehofa, mae’r buddion a’r boddhad yn fwy na gwneud yn iawn am unrhyw bryder. Rydw i wedi mwynhau gwneud dim byd ond sgwrsio â’r rhai oedd yn aros gyda ni dros baned o goffi.” Mae hi bob amser yn beth da i ddangos diddordeb personol yn y rhai rydyn ni wedi eu gwahodd draw. (Philipiaid 2:4) Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoff o siarad am eu profiadau mewn bywyd. Efallai dim ond drwy ddod at ein gilydd rydyn ni’n gallu clywed y profiadau hynny. Mae henuriad arall yn ysgrifennu: “Mae cael ffrindiau o’r gynulleidfa draw yn fy helpu i ddeall mwy amdanyn nhw ac yn rhoi’r amser imi i ddod i’w hadnabod yn well, yn enwedig sut daethon nhw i mewn i’r gwirionedd.” Os wyt ti’n dangos diddordeb personol, bydd pawb yn siŵr o gael amser da.

17 Roedd un chwaer, a oedd yn aml yn cael myfyrwyr yr ysgolion theocrataidd i aros gyda hi, yn cyfaddef: “Ar y cychwyn roeddwn i’n poeni oherwydd dim ond tŷ syml iawn sydd gen i a dodrefn ail-law. Gwnaeth gwraig un o’r hyfforddwyr dawelu fy mhryderon. Dywedodd pan fydd hi a’i gŵr yn cymryd rhan yn y gwaith teithiol, yr wythnosau gorau ydy’r rhai maen nhw’n eu treulio gyda rhywun ysbrydol sydd ddim gyda llawer o bethau materol ond sydd â’r un agwedd â nhw—gwasanaethu Jehofa a chadw eu bywyd yn syml. Roedd hynny’n fy atgoffa o rywbeth roedd fy mam yn arfer dweud wrthyn ni blant: ‘Mae platiaid o lysiau lle mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.’” (Diarhebion 15:17) Does dim rhaid poeni, oherwydd yr hyn sy’n bwysig ydy dangos cariad tuag at ein gwesteion.

18, 19. Sut gall bod yn groesawgar ein helpu i drechu teimladau negyddol am bobl eraill?

18 Y ffordd rwyt ti’n teimlo am eraill: Oes ’na rywun yn dy gynulleidfa sy’n codi dy wrychyn? Os nad wyt ti’n ceisio rheoli’r teimladau hynny, fyddan nhw byth yn newid. Efallai fyddi di ddim eisiau gwahodd rhywun i dy dŷ os nad wyt ti’n hoffi ei bersonoliaeth. Neu efallai fod rhywun wedi dy frifo yn y gorffennol, ac mae’n anodd iti anghofio am y peth.

19 Mae’r Beibl yn dweud y gelli di wella dy berthynas â phobl eraill, hyd yn oed dy elynion, os wyt ti’n lletygar. (Darllen Diarhebion 25:21, 22.) Os wyt ti’n gwahodd rhywun i dy gartref, efallai y byddi di’n gallu trechu dy deimladau negyddol ac yn gallu meithrin perthynas fwy heddychlon gydag ef. Efallai byddi di’n dod i weld y rhinweddau a welodd Jehofa ynddo pan gafodd ef ei ddenu i’r gwirionedd. (Ioan 6:44) Pan fydd cariad yn dy ysgogi i wahodd rhywun nad oedd yn disgwyl y gwahoddiad, gallai hynny eich helpu i fod yn ffrindiau agos. Sut gelli di fod yn sicr mai cariad sy’n dy ysgogi? Un ffordd ydy rhoi ar waith y cyngor yn Philipiaid 2:3: “Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.” Dylen ni feddwl am y ffyrdd y mae ein brodyr yn well na ni. Efallai gallwn ddysgu o’u ffydd, eu dyfalbarhad, neu ryw rinwedd Gristnogol arall. Bydd meddwl am eu rhinweddau yn cryfhau ein cariad tuag atyn nhw ac yn ei gwneud hi’n haws inni roi croeso iddyn nhw.

BOD YN WESTEION DA

Fel arfer, bydd pobl yn paratoi’n dda ar gyfer eu gwesteion (Gweler paragraff 20)

20. Ym mha ffordd y dylen ni fod yn ddibynadwy wrth dderbyn gwahoddiad, a pham?

20 Gofynnodd y salmydd Dafydd: “ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di?” (Salm 15:1) Ar ôl hynny, gwnaeth Dafydd drafod rhinweddau y mae Jehofa yn disgwyl i’w westeion eu dangos. Un ohonyn nhw ydy bod yn ddibynadwy: “Mae’n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny’n gostus iddo.” (Salm 15:4) Os ydyn ni’n derbyn gwahoddiad, ni ddylen ni ganslo oni bai bod gwneud hynny’n angenrheidiol. Efallai fod y person a roddodd wahoddiad inni eisoes wedi paratoi ar ein cyfer, ac os ydyn ni’n canslo, bydd ei holl ymdrech yn wastraff. (Mathew 5:37) Mae rhai yn canslo un gwahoddiad er mwyn derbyn un arall y maen nhw’n ei ystyried yn well. Ydy hynny’n gariadus ac yn barchus? Dylen ni fod yn ddiolchgar am beth bynnag mae rhywun yn ei gynnig inni. (Luc 10:7) Os bydd rhaid inni ganslo, peth cariadus fyddai gadael i’r person wybod cyn gynted â phosib.

21. Sut gall dilyn arferion lleol ein helpu i fod yn westeion da?

21 Hefyd, pwysig yw parchu arferion lleol. Mewn rhai diwylliannau, mae ymwelwyr annisgwyl yn cael croeso mawr. Mewn diwylliannau eraill, gwell fyddai trefnu ymlaen llaw cyn ymweld â rhywun. Mewn rhai llefydd, bydd yr un sy’n coginio’r bwyd yn cynnig y gorau sydd ganddo i’w westeion, a bydd ei deulu yn dod yn ail. Mewn llefydd eraill, mae pawb yn cael eu trin yr un fath. Mewn rhai ardaloedd, mae’r gwesteion yn dod â rhywbeth i’w gyfrannu ar gyfer y bwyd. Mewn ardaloedd eraill, gwell fyddai i’r gwesteion beidio â dod ag unrhyw beth. Mewn rhai diwylliannau, mae’r gwesteion yn gwrthod y gwahoddiad cyntaf, a’r ail, mewn ffordd barchus. Ond, mewn rhai eraill, digywilydd fyddai gwrthod y gwahoddiad cyntaf. Dylen ni wneud ymdrech i sicrhau bod y rhai sydd wedi ein gwahodd ni draw yn teimlo’n hapus.

22. Pam mae hi mor bwysig i fod yn groesawgar i’n gilydd?

22 Dywedodd Pedr: “Bydd popeth yn dod i ben yn fuan.” (1 Pedr 4:7) Heddiw, rydyn ni’n wynebu’r trychineb mwyaf erioed. Wrth i’r system hon waethygu, bydd angen inni ddangos cariad mawr tuag at ein brodyr a’n chwiorydd. Mae cyngor Pedr yn fwy dilys nawr nag erioed: “Bod yn groesawgar.” (1 Pedr 4:9) Yn wir, mae lletygarwch yn holl bwysig ac yn rhywbeth y byddwn ni’n ei fwynhau nawr ac am byth.