Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DisgyblaethTystiolaeth Fod Duw yn Ein Caru

DisgyblaethTystiolaeth Fod Duw yn Ein Caru

“Achos mae’r Arglwydd yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru.”—HEBREAID 12:6.

CANEUON: 123, 86

1. Sut mae’r Beibl yn disgrifio disgyblaeth?

BETH sy’n dod i dy feddwl pan wyt ti’n clywed y gair “disgyblaeth”? Mae llawer o bobl yn meddwl am gosb, ond mae disgyblu yn golygu llawer mwy na hynny. Mae’r Beibl yn dweud bod disgyblaeth, neu “dysgu byw yn iawn,” yn dda inni ac weithiau’n rhywbeth sy’n cael ei restru wrth drafod pethau fel gwybodaeth, doethineb, cariad, a bywyd. (Diarhebion 1:2-7; 4:11-13) Y rheswm dros hynny ydy bod disgyblaeth Duw yn profi ei fod yn ein caru ac yn dymuno inni fyw am byth. (Hebreaid 12:6) Er bod disgyblaeth Duw weithiau yn cynnwys cosb, nid yw byth yn greulon nac yn niweidiol. Yn wir, mae prif ystyr y gair “disgyblaeth” yn ymwneud ag addysg, sef yr addysg mae rhiant yn ei rhoi i’w blentyn annwyl.

2, 3. Sut gall disgyblaeth gynnwys dysgu a chosbi? (Gweler y llun agoriadol.)

2 Meddylia am yr esiampl hon. Roedd bachgen bach o’r enw Dewi yn taflu pêl yn y tŷ. Dywedodd ei fam: “Dewi, rwyt ti’n gwybod ddylet ti ddim chwarae efo’r bêl yn y tŷ! Gelli di dorri rhywbeth.” Ond, anwybyddodd ei fam a daliodd ati i chwarae gyda’r bêl. Dyma’r bêl yn taro dysgl a’i thorri! Sut cafodd Dewi ei ddisgyblu gan ei fam? Esboniodd ei fam y rheswm pam roedd ei ymddygiad yn ddrwg. Roedd hi eisiau iddo ddeall mai peth da ydy bod yn ufudd i’w rieni a bod eu rheolau yn hanfodol ac yn rhesymol. Er mwyn helpu Dewi i ddysgu’r wers, penderfynodd hi y byddai’n briodol i’w gosbi drwy gymryd y bêl oddi wrtho am ychydig. Doedd Dewi ddim yn hoffi hynny, ond fe wnaeth ei helpu i gofio bod anufuddhau i’w rieni yn dod â chanlyniadau.

3 Fel Cristnogion, rydyn ni’n perthyn i deulu Duw. (1 Timotheus 3:15) Mae gan ein Tad, Jehofa, yr hawl i ddewis beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg ac i’n disgyblu ni os ydyn ni’n anufudd iddo. Hefyd, os ydy ein hymddygiad yn dod â chanlyniadau sydd ddim yn bleserus, gall disgyblaeth gariadus Jehofa ein hatgoffa o ba mor bwysig ydy bod yn ufudd iddo. (Galatiaid 6:7) Mae Duw yn ein caru ni’n fawr iawn ac nid yw’n dymuno inni ddioddef.—1 Pedr 5:6, 7.

4. (a) Sut mae Jehofa eisiau inni hyfforddi eraill? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Pan fyddwn ni’n rhoi disgyblaeth sy’n seiliedig ar y Beibl, gallwn ni helpu plentyn neu fyfyriwr Beiblaidd i fod yn un o ddilynwyr Crist. Rydyn ni’n defnyddio’r Beibl i ddysgu ein myfyrwyr am beth sy’n iawn ac i’w helpu nhw i ddeall a gwneud popeth mae Iesu wedi ei orchymyn inni. (Mathew 28:19, 20; 2 Timotheus 3:16) Dyma’r ffordd mae Jehofa eisiau iddyn nhw gael eu hyfforddi fel eu bod nhw hefyd yn gallu helpu eraill i ddilyn Crist. (Darllen Titus 2:11-14, Beibl Cymraeg Diwygiedig.) Gad inni drafod tri chwestiwn pwysig: (1) Sut mae disgyblaeth Duw yn profi ei fod yn ein caru? (2) Beth allwn ni ei ddysgu o esiamplau pobl sydd wedi cael eu disgyblu gan Dduw? (3) Sut gallwn ni efelychu’r ffordd mae Jehofa a’i Fab yn disgyblu?

DISGYBLAETH GARIADUS DUW

5. Sut mae disgyblaeth Jehofa yn profi ei fod yn ein caru?

5 Mae Jehofa yn ein cywiro, yn ein dysgu, ac yn ein hyfforddi oherwydd ei fod yn ein caru. Mae Duw eisiau inni aros yn agos ato a byw am byth. (1 Ioan 4:16) Dydy ef byth yn ein sarhau nac yn ein bychanu. (Diarhebion 12:18) Yn hytrach, mae Jehofa yn canolbwyntio ar ein rhinweddau ac yn gadael inni ddefnyddio ein hewyllys rhydd. Elli di weld sut mae’r ddisgyblaeth rydyn ni’n ei derbyn gan y Beibl, ein cyhoeddiadau, ein rhieni, neu’r henuriaid yn profi bod Jehofa yn ein caru? Yn wir, pan fydd yr henuriaid yn trio ein cywiro mewn ffordd addfwyn a chariadus hyd yn oed cyn inni sylweddoli ein bod ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, maen nhw’n efelychu cariad Jehofa tuag aton ni.—Galatiaid 6:1.

6. Sut mae disgyblaeth yn dangos cariad Duw hyd yn oed os ydy hyn yn golygu colli breintiau?

6 Weithiau mae disgyblaeth yn cynnwys mwy na chyngor yn unig. Os ydy rhywun wedi pechu’n ddifrifol, ni fydd yn gymwys bellach ar gyfer rhai aseiniadau yn y gynulleidfa. Hyd yn oed pan fydd hynny’n digwydd, mae’r ddisgyblaeth yn dangos cariad Duw tuag ato. Er enghraifft, fe all ei helpu i weld pa mor bwysig ydy treulio amser yn astudio’r Beibl, yn myfyrio, ac yn gweddïo. Gall gwneud y pethau hyn ei helpu i gryfhau ei berthynas â Jehofa. (Salm 19:7) Wrth i amser fynd heibio, efallai bydd yn cael y cyfrifoldebau neu’r aseiniadau a gollodd ef yn eu hôl. Hyd yn oed pan fydd rhywun yn cael ei ddiarddel, mae hynny’n dangos cariad Jehofa oherwydd mae’n amddiffyn y gynulleidfa rhag dylanwadau drwg. (1 Corinthiaid 5:6, 7, 11) Ac oherwydd bod disgyblaeth Duw yn wastad yn deg, mae’n helpu’r un a gafodd ei ddiarddel i ddeall pa mor ddifrifol ydy ei bechod. Gall hynny achosi iddo edifarhau.—Actau 3:19.

DISGYBLAETH FUDDIOL JEHOFA

7. Pwy oedd Shefna, a pha dueddiad drwg oedd ganddo?

7 Er mwyn deall pwysigrwydd disgyblaeth, byddwn ni nawr yn trafod dau berson a gafodd eu disgyblu gan Jehofa. Y cyntaf ydy Shefna, un o’r Israeliaid a oedd yn byw yr un adeg â’r Brenin Heseceia, a’r llall ydy Graham, brawd sy’n byw yn ein hoes ni. Roedd Shefna yn “gyfrifol am y palas,” sef palas y Brenin Heseceia mae’n debyg, ac roedd ganddo lawer o awdurdod. (Eseia 22:15) Ond, gwnaeth Shefna droi’n falch ac roedd eisiau gwneud i bobl eraill feddwl ei fod yn bwysig. Gwnaeth hyd yn oed baratoi bedd drud iddo ef ei hun a mynd o gwmpas mewn cerbydau crand.—Eseia 22:16-18.

Os ydyn ni’n ostyngedig ac yn fodlon newid ein hagwedd, bydd Duw yn ein bendithio (Gweler paragraffau 8-10)

8. Sut gwnaeth Jehofa ddisgyblu Shefna, a beth oedd y canlyniad?

8 Oherwydd bod Shefna wedi ceisio clod iddo’i hun, rhoddodd Duw ei aseiniad i ddyn o’r enw Eliacim. (Eseia 22:19-21) Digwyddodd hyn pan oedd Brenin Asyria, Senacherib, yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem. Yn hwyrach ymlaen, anfonodd Senacherib grŵp o swyddogion a byddin fawr i ddychryn yr Iddewon a gwneud i’r Brenin Heseceia ildio. (2 Brenhinoedd 18:17-25) Gwnaeth Heseceia anfon Eliacim a dau ddyn arall i gwrdd â’r swyddogion. Un o’r dynion hynny oedd Shefna, a oedd bellach yn ysgrifennydd. Gallwn weld felly fod Shefna, yn ôl pob tebyg, wedi dysgu bod yn ostyngedig a doedd Shefna ddim wedi pwdu nac wedi teimlo piti drosto’i hun. Roedd yn fodlon derbyn swydd lai pwysig. Dyma dair gwers gallwn ninnau eu dysgu o’r hyn a ddigwyddodd i Shefna.

9-11. (a) Pa wersi pwysig gallwn ni eu dysgu oddi wrth Shefna? (b) Sut rwyt ti’n teimlo am y ffordd gwnaeth Jehofa drin Shefna?

9 Yn gyntaf, mae’r ffaith fod Shefna wedi colli ei swydd yn ein hatgoffa bod “balchder yn dod o flaen dinistr.” (Diarhebion 16:18) Efallai fod gennyn ni aseiniadau arbennig yn y gynulleidfa a bod eraill yn meddwl ein bod ni’n bwysig. Os felly, a fydden ni’n aros yn ostyngedig? A fydden ni’n cofio bod unrhyw alluoedd sydd gennyn ni ac unrhyw beth da rydyn ni’n ei gyflawni yn bosib dim ond oherwydd Jehofa? (1 Corinthiaid 4:7) Rhybuddiodd yr apostol Paul: “Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun.”—Rhufeiniaid 12:3.

10 Yn ail, mae’r cyngor cryf a roddodd Jehofa i Shefna efallai’n dangos ei fod yn credu bod Shefna yn gallu newid ei ffordd. (Diarhebion 3:11, 12) Mae hyn yn wers i’r rhai sydd wedi colli aseiniad arbennig. Yn hytrach na mynd yn flin neu ddechrau pwdu, gallan nhw barhau i wneud eu gorau ar gyfer Jehofa. Gallan nhw ddewis gweld y ddisgyblaeth fel tystiolaeth fod Duw yn eu caru. Cofia y bydd ein Tad yn gwobrwyo pawb sy’n aros yn ostyngedig yn y pen draw. (Darllen 1 Pedr 5:6, 7.) Gall disgyblaeth gariadus Jehofa ein mowldio os ydyn ni’n ostyngedig ac yn debyg i glai meddal.

11 Yn drydydd, rydyn ni’n dysgu gwers bwysig o’r ffordd y gwnaeth Jehofa drin Shefna. Er bod y ffordd y mae Jehofa’n disgyblu yn dangos ei fod yn casáu pechod, mae hefyd yn dangos ei fod yn caru’r unigolyn sydd wedi pechu. Mae Jehofa yn chwilio am y daioni mewn pobl. Os wyt ti’n rhiant neu’n henuriad, a fyddi di’n efelychu’r ffordd mae Jehofa yn disgyblu?—Jwdas 22, 23.

12-14. (a) Sut mae rhai yn ymateb i ddisgyblaeth Jehofa? (b) Sut gwnaeth Gair Duw helpu un brawd i newid ei agwedd, a beth oedd y canlyniad?

12 Yn anffodus, mae rhai pobl yn teimlo mor ddigalon ar ôl cael eu disgyblu fel eu bod nhw’n ymbellhau oddi wrth Dduw a’r gynulleidfa. (Hebreaid 3:12, 13) Ydy hynny’n golygu does neb yn gallu eu helpu? Nac ydy! Ystyria esiampl Graham, a gafodd ei ddiarddel a’i adfer i’r gynulleidfa yn nes ymlaen. Ond, ar ôl hynny, stopiodd Graham bregethu a mynychu’r cyfarfodydd. Gwnaeth un o’r henuriaid ymdrech i fod yn ffrind iddo, ac yn y pen draw, gofynnodd Graham i’r henuriad astudio’r Beibl gydag ef.

13 Mae’r henuriad yn cofio: “Balchder oedd problem Graham. Roedd yn beirniadu’r henuriaid a oedd wedi cael rhan yn ei ddiarddel. Felly, yn yr astudiaethau dilynol, gwnaethon ni drafod ysgrythurau sy’n ymwneud â balchder a’i effaith. Dechreuodd Graham ei weld ei hun yng ngoleuni Gair Duw, a doedd ddim yn hoffi’r hyn a welodd! Roedd yr effaith yn anhygoel! Ar ôl cyfaddef bod “trawst o bren,” sef ei falchder, wedi ei ddallu, ac mai ei broblem ef oedd ei agwedd feirniadol, dechreuodd newid yn gyflym er gwell. Wedyn, gwnaeth Graham ddechrau mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd, astudio Gair Duw yn drylwyr, a gweddïo bob dydd. Hefyd, dechreuodd ysgwyddo ei gyfrifoldebau fel penteulu, rhywbeth roedd ei wraig a’i blant yn hapus iawn amdano.”—Luc 6:41, 42; Iago 1:23-25.

14 Ychwanegodd yr henuriad: “Un diwrnod, dywedodd Graham rywbeth a wnaeth gyffwrdd fy nghalon. ‘Dw i wedi gwybod y gwir am flynyddoedd,’ meddai, ‘a dw i wedi arloesi hyd yn oed. Ond, dim ond rŵan galla’ i ddweud fy mod i’n wir yn caru Jehofa.’” Cyn bo hir, cafodd Graham ei aseinio i helpu gyda’r meicroffonau yn y cyfarfodydd, ac roedd wrth ei fodd. Dywedodd yr henuriad: “Mae ei esiampl wedi fy nysgu bod rhywun sy’n barod i ildio’n ostyngedig a derbyn disgyblaeth Duw yn cael ei fendithio’n fawr!”

EFELYCHU DUW A CHRIST WRTH DDISGYBLU

15. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn i’n disgyblaeth fod yn effeithiol?

Pan fydd eraill yn gweld dy fod ti’n ostyngedig, fe fydd yn haws iddyn nhw dderbyn dy gyngor

15 Os ydyn ni eisiau bod yn athrawon da, mae’n rhaid inni fod yn ddisgyblion da yn y lle cyntaf. (1 Timotheus 4:15, 16) Yn yr un modd, os wyt ti’n cael dy ddefnyddio gan Jehofa i ddisgyblu eraill, mae’n rhaid iti aros yn ostyngedig a gadael i Jehofa arwain dy fywyd. Pan fydd eraill yn gweld dy fod ti’n ostyngedig, byddan nhw’n dy barchu ac fe fydd yn haws iddyn nhw dderbyn dy arweiniad neu dy gyngor. Gallwn ni ddysgu o esiampl Iesu.

16. Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth Iesu am ddisgyblu a dysgu yn effeithiol?

16 Roedd Iesu yn wastad yn ufudd i’w Dad, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd iawn. (Mathew 26:39) Atgoffodd y bobl a oedd yn gwrando arno fod ei ddysgeidiaethau a’i ddoethineb yn dod oddi wrth ei Dad. (Ioan 5:19, 30) Roedd Iesu yn ostyngedig ac yn ufudd, a gwnaeth hyn ei helpu i fod yn athro trugarog. Roedd pobl ddiffuant yn mwynhau ei gwmni. (Darllen Mathew 11:29.) Roedd geiriau caredig Iesu yn annog y rhai a oedd yn teimlo’n ddigalon ac yn wan. (Mathew 12:20) Roedd yn cywiro ei ddisgyblion mewn ffordd garedig hyd yn oed pan fyddai wedi gallu mynd yn flin oherwydd iddyn nhw ffraeo am ba un ohonyn nhw oedd y gorau.—Marc 9:33-37; Luc 22:24-27.

17. Pa rinweddau a fydd yn helpu henuriaid i ofalu am y gynulleidfa?

17 Pryd bynnag mae henuriaid yn disgyblu rhywun ar sail egwyddorion y Beibl, mae’n rhaid iddyn nhw efelychu Crist. Drwy wneud hyn, byddan nhw’n profi eu bod nhw eisiau cael eu harwain gan Dduw a’i Fab. Ysgrifennodd yr apostol Pedr: “Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny’n frwd, dim am eich bod chi’n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu. Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy’n eich gofal chi, ond eu harwain drwy fod yn esiampl dda iddyn nhw.” (1 Pedr 5:2-4) Bydd henuriaid sy’n hapus i ildio i Dduw a Christ ar eu hennill, ac mae hynny’n wir am y rhai o dan ofal yr henuriaid hefyd.—Eseia 32:1, 2, 17, 18.

18. (a) Beth mae Jehofa yn disgwyl i rieni ei wneud? (b) Sut mae Duw yn helpu rhieni?

18 Beth am ddisgyblaeth a hyfforddiant o fewn y teulu? Mae Jehofa yn dweud wrth y penteulu: “Chi’r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy’n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.” (Effesiaid 6:4) Ydy hyfforddiant a disgyblaeth yn wir yn angenrheidiol? Darllenwn yn Diarhebion 19:18: “Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo, ond paid colli dy limpyn yn llwyr.” Mae Jehofa yn rhoi’r cyfrifoldeb o ddisgyblu plant i’r rhieni. Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, byddan nhw’n atebol i Dduw! (1 Samuel 3:12-14) Ond mae Jehofa yn rhoi’r doethineb a’r nerth sydd ei angen ar rieni pan fyddan nhw’n gofyn am ei help mewn gweddi ac yn dibynnu ar ei Air a’i ysbryd glân i’w harwain.—Darllen Iago 1:5.

DYSGU I FYW MEWN HEDDWCH

19, 20. (a) Pa fendithion sy’n dod o dderbyn disgyblaeth Duw? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

19 Os ydyn ni’n derbyn disgyblaeth gan Dduw ac yn efelychu’r ffordd mae Jehofa ac Iesu yn disgyblu, byddwn ni’n derbyn llawer iawn o fendithion! Bydd ein teulu a’n cynulleidfa yn heddychlon, a bydd pawb yn teimlo cariad a gwerthfawrogiad y gynulleidfa, a hefyd yn teimlo’n saff. Cipolwg yn unig ydy hyn o’r heddwch a’r hapusrwydd a fydd gennyn ni yn y dyfodol. (Salm 72:7) Mae disgyblaeth Jehofa yn ein paratoi ni i fyw gyda’n gilydd am byth fel teulu heddychlon ac unedig, gyda Jehofa yn Dad inni. (Darllen Eseia 11:9.) Os ydyn ni’n cofio hynny, byddwn ni’n deall beth ydy disgyblaeth: un o’r ffyrdd y mae Duw yn dangos ei gariad tuag aton ni.

20 Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn dysgu mwy am ddisgyblaeth yn y teulu ac yn y gynulleidfa. Byddwn yn trafod sut i’n disgyblu ein hunain. A byddwn ni’n dysgu sut i osgoi rhywbeth sy’n fwy poenus nag unrhyw ddisgyblaeth.