Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Gwrandwch ar Beth Dw i’n Ddweud a Byddwch Ddoeth”

“Gwrandwch ar Beth Dw i’n Ddweud a Byddwch Ddoeth”

“Nawr, blant . . . gwrandwch ar beth dw i’n ddweud a byddwch ddoeth.”—DIARHEBION 8:32, 33.

CANEUON: 56, 89

1. Sut gallwn ni ddod o hyd i ddoethineb, a sut bydd doethineb yn ein helpu?

MAE doethineb yn dod oddi wrth Jehofa, ac mae’n ei roi yn hael i eraill. Darllenwn yn Iago 1:5: “Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.” Rydyn ni’n dod o hyd i ddoethineb drwy dderbyn disgyblaeth Duw. Mae gwneud hyn yn ein gwarchod rhag gwneud pethau anghywir ac yn ein helpu ni i agosáu at Jehofa. (Diarhebion 2:10-12) Hefyd, bydd gennyn ni’r gobaith hyfryd o fyw am byth.—Jwdas 21.

2. Sut gallwn ni ddysgu i garu disgyblaeth Duw?

2 Gan ein bod ni’n amherffaith neu oherwydd y ffordd gawson ni’n magu, mae hi weithiau’n anodd derbyn disgyblaeth a gweld sut mae’n fuddiol inni. Ond, pan ydyn ni’n profi buddion disgyblaeth Duw yn ein bywydau, rydyn ni’n dysgu bod Jehofa yn ein caru yn fawr iawn. Dywed Diarhebion 3:11, 12: “Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD.” Yna mae’n dweud: “Achos mae’r ARGLWYDD yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru.” Gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa eisiau’r gorau inni. (Darllen Hebreaid 12:5-11.) Oherwydd bod Jehofa yn ein hadnabod mor dda, mae ei ddisgyblaeth bob amser yn briodol ac yn cyfateb yn union i’r hyn rydyn ni’n ei angen. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedair agwedd ar ddisgyblaeth: (1) hunanddisgyblaeth, (2) y ddisgyblaeth dylai rhieni ei rhoi i’w plant, (3) y ddisgyblaeth rydyn ni’n ei derbyn yn y gynulleidfa, a (4) yr hyn sy’n waeth na phoen unrhyw ddisgyblaeth.

DOETHINEB HUNANDDISGYBLAETH

3. Sut bydd plentyn yn meithrin hunanddisgyblaeth? Rho esiampl.

3 Os oes gennyn ni hunanddisgyblaeth, rydyn ni’n rheoli’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn ac yn meddwl. Dydyn ni ddim wedi cael ein geni â hunanddisgyblaeth, felly rhaid inni ei dysgu. Er enghraifft, pan fydd plentyn yn dysgu sut i reidio beic, mae un o’i rieni fel arfer yn dal ei afael yn y beic rhag ofn iddo syrthio i’r llawr. Ond, mewn amser, mae’r plentyn yn dysgu sut i aros ar y beic, ac yna gall y rhiant ollwng ei afael ar y beic am ychydig eiliadau ar y tro. Pan fydd y rhiant yn sicr gall ei blentyn aros ar y beic, mae’n gallu gollwng ei afael yn llwyr. Yn yr un modd, pan fydd rhieni yn dysgu eu plant “i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud,” maen nhw’n helpu eu plant i feithrin hunanddisgyblaeth a doethineb.—Effesiaid 6:4.

4, 5. (a) Pam mae hunanddisgyblaeth yn rhan mor bwysig o’r bersonoliaeth Gristnogol? (b) Pam na ddylen ni ddigalonni hyd yn oed os byddwn ni’n gwneud camgymeriadau?

4 Mae’r un peth yn wir am oedolion sy’n dod i adnabod Jehofa. Er efallai fod ganddyn nhw ychydig o hunanddisgyblaeth, dydyn nhw ddim yn Gristnogion aeddfed eto. Ond wrth iddyn nhw ddechrau “gwisgo natur o fath newydd” a cheisio efelychu Crist, maen nhw’n aeddfedu. (Effesiaid 4:23, 24) Mae hunanddisgyblaeth yn ein dysgu ni “i ddweud ‘na’ wrth ein pechod a’n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw’n gyfrifol, gwneud beth sy’n iawn a rhoi’r lle canolog yn ein bywydau i Dduw.”—Titus 2:12.

5 Fodd bynnag, rydyn ni i gyd yn bechaduriaid. (Pregethwr 7:20) Felly, os ydyn ni’n gwneud camgymeriad, ydy hynny’n golygu nad oes gennyn ni ddigon o hunanddisgyblaeth neu fawr ddim o gwbl efallai? Nid o reidrwydd. Dyma beth rydyn ni’n ei ddysgu yn Diarhebion 24:16: “Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed.” Beth fydd yn ein helpu i godi ar ein traed unwaith eto? Nid ein nerth ein hunain, ond ysbryd glân Duw. (Darllen Philipiaid 4:13.) Mae ffrwyth yr ysbryd yn cynnwys hunanreolaeth, sy’n debyg iawn i hunanddisgyblaeth.

6. Sut gallwn ni wella fel myfyrwyr Gair Duw? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Gall gweddïo, astudio’r Beibl, a myfyrio hefyd ein helpu i feithrin hunanddisgyblaeth. Ond beth petai astudio’r Beibl yn anodd iti neu dwyt ti ddim yn hoffi astudio? Paid â digalonni. Os wnei di adael iddo, bydd Jehofa yn dy helpu i grefu am ei Air. (1 Pedr 2:2) Gofynna i Jehofa am help i dy ddisgyblu dy hun er mwyn iti ddod o hyd i’r amser ar gyfer astudio’r Beibl. Un syniad ydy dechrau astudio am ychydig o funudau ar y tro. O dipyn i beth, bydd astudio yn dod yn haws ac yn fwy pleserus iti. Byddi di’n dod yn hoff iawn o’r cyfnodau hynny o ddistawrwydd wrth iti fyfyrio ar feddyliau Jehofa.—1 Timotheus 4:15.

7. Sut gall hunanddisgyblaeth ein helpu ni i gyrraedd ein nod yng ngwasanaeth Jehofa?

7 Mae hunanddisgyblaeth yn ein helpu ni i gyflawni ein hamcanion yng ngwasanaeth Jehofa. Er enghraifft, roedd un tad yn teimlo ei fod yn colli ei frwdfrydedd, felly dyma’n penderfynu anelu at fod yn arloeswr llawn amser. Sut gwnaeth hunanddisgyblaeth ei helpu? Darllenodd erthyglau yn ein cylchgronau am arloesi a gweddïodd am y peth. O ganlyniad, daeth ei berthynas â Jehofa yn gryfach. Gwnaeth arloesi’n gynorthwyol pan oedd yn gallu. Ni adawodd i unrhyw beth ei rwystro; yn hytrach, canolbwyntiodd ar gyrraedd ei nod. Ar ôl ychydig, daeth yn arloeswr llawn amser.

MAGU DY BLANT YN NISGYBLAETH JEHOFA

Mae angen hyfforddi plant i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg (Gweler paragraff 8)

8-10. Beth all helpu rhieni i fagu eu plant i wasanaethu Jehofa? Rho esiampl.

8 Mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb o fagu plant i’r rhieni, i’w “magu a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.” (Effesiaid 6:4) Mae hyn yn anodd iawn yn y byd sydd ohoni. (2 Timotheus 3:1-5) Pan fydd plant yn cael eu geni, dydyn nhw ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, a dydy eu cydwybod ddim wedi cael ei hyfforddi. Felly, mae angen disgyblaeth ar y gydwybod. (Rhufeiniaid 2:14, 15) Mae un ysgolhaig Beiblaidd yn esbonio bod y gair Groeg a gyfieithir “disgyblaeth” yn gallu golygu “datblygiad plentyn,” neu fagu plentyn i fod yn oedolyn cyfrifol.

9 Pan fydd rhieni yn disgyblu eu plant â chariad, mae’r plant yn teimlo’n saff. Maen nhw’n dysgu bod cyfyngiadau ar eu rhyddid a bod yna ganlyniadau i bopeth maen nhw’n ei wneud mewn bywyd. Felly, mae hi’n bwysig iawn i rieni Cristnogol ddibynnu ar Jehofa am ddoethineb ar gyfer magu eu plant. Mae syniadau ynglŷn â magu plant yn amrywio o ardal i ardal ac mae’r syniadau hyn yn newid o hyd. Fodd bynnag, dydy rhieni sy’n gwrando ar Dduw ddim yn gorfod dyfalu ynglŷn â’r hyn y dylen nhw ei wneud na dibynnu ar brofiad neu syniadau dynol.

10 Gallwn ddysgu oddi wrth esiampl Noa. Pan ofynnodd Jehofa iddo adeiladu’r arch, doedd Noa ddim yn gwybod sut i wneud y gwaith. Roedd yn rhaid iddo ddibynnu ar Jehofa, a darllenwn ei fod wedi gwneud “yn union” fel roedd Jehofa eisiau iddo’i wneud. (Genesis 6:22) Beth oedd y canlyniad? Gwnaeth yr arch achub bywydau Noa a’i deulu! Roedd Noa hefyd yn rhiant llwyddiannus. Sut felly? Oherwydd iddo ymddiried yn noethineb Duw. Dysgodd Noa ei blant yn dda ac roedd yn gosod esiampl dda iddyn nhw, a doedd hynny ddim yn hawdd yn y cyfnod drwg hwnnw cyn y Dilyw.—Genesis 6:5.

11. Pam dylai rhieni weithio’n galed i hyfforddi eu plant?

11 Os wyt ti’n rhiant, sut gelli di wneud “yn union” fel y mae Jehofa eisiau iti wneud? Gwranda ar Jehofa. Gad iddo dy helpu i fagu dy blant. Pwysig yw iti roi cyngor Gair Duw a’i gyfundrefn ar waith. Yn y dyfodol, bydd dy blant yn siŵr o ddweud diolch wrthyt ti! Ysgrifennodd un brawd: “Mi ydw i’n ddiolchgar iawn am y ffordd y cefais fy magu gan fy rhieni. Gwnaethon nhw eu gorau i gyrraedd fy nghalon.” Dywedodd mai ei rieni a’i helpodd i agosáu at Jehofa. Wrth gwrs, hyd yn oed pan fydd rhieni yn gwneud popeth a allan nhw i hyfforddi eu plentyn, mae’n bosib y gallai’r plentyn adael Jehofa. Ond mae gan riant sydd wedi gwneud ei orau gydwybod lân ac mae’n gallu gobeithio y bydd ei blentyn ryw ddiwrnod yn dod yn ôl at Jehofa.

12, 13. (a) Os ydy plentyn yn cael ei ddiarddel, sut mae rhieni yn dangos eu bod nhw’n ufudd i Dduw? (b) Sut gwnaeth un teulu elwa ar ufudd-dod y rhieni i Jehofa?

12 Un peth sy’n brawf mawr ar ufudd-dod rhai rhieni ydy gweld eu plentyn yn cael ei ddiarddel. Mae un chwaer, a welodd ei merch a oedd wedi ei diarddel yn gadael y cartref, yn cyfaddef: “Roeddwn i’n ceisio dod o hyd i dyllau yn rhesymeg ein cyhoeddiadau er mwyn imi fedru treulio amser efo fy merch a fy wyres.” Ond gwnaeth ei gŵr ei helpu mewn ffordd garedig i weld nad oedden nhw bellach yn gyfrifol am eu merch a bod rhaid iddyn nhw aros yn ffyddlon i Jehofa.

13 Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd y ferch ei hadfer. Mae’r fam yn dweud: “Nawr, mae hi’n fy ffonio neu’n anfon negeseuon testun bob dydd bron! Ac mae hi’n parchu fy ngŵr a minnau yn fawr iawn oherwydd iddi wybod ein bod ni wedi bod yn ufudd i Dduw. Mae gennyn ni berthynas dda iawn.” Os ydy dy fab neu dy ferch wedi cael eu diarddel, a fyddi di’n trystio’r “ARGLWYDD yn llwyr”? A wnei di ddangos iddo na fyddi di’n “dibynnu ar dy syniadau dy hun”? (Diarhebion 3:5, 6) Cofia, mae disgyblaeth Jehofa yn dangos ei ddoethineb a dyfnder ei gariad tuag aton ni. Paid byth ag anghofio fod Duw wedi rhoi ei Fab er mwyn pawb, ac mae hynny’n cynnwys dy fab neu dy ferch. (Darllen 2 Pedr 3:9.) Felly chi rieni, parhewch i ymddiried yn nisgyblaeth ac yn arweiniad Jehofa, hyd yn oed pan fydd bod yn ufudd yn boenus. Gwrandewch ar ddisgyblaeth Duw, a pheidiwch ag ymladd yn ei herbyn.

YN Y GYNULLEIDFA

14. Sut rydyn ni’n elwa ar yr hyfforddiant y mae Jehofa yn ei roi drwy’r “rheolwr doeth”?

14 Addawodd Jehofa y byddai’n amddiffyn, yn hyfforddi, ac yn gofalu am y gynulleidfa Gristnogol. Mae’n gwneud hynny mewn sawl ffordd. Er enghraifft, penododd ei Fab i ofalu am y gynulleidfa, a gwnaeth Iesu aseinio’r “rheolwr doeth” i ddarparu bwyd ysbrydol er mwyn ein helpu i aros yn ffyddlon. (Luc 12:42) Mae’r “rheolwr” hwnnw yn rhoi hyfforddiant gwerthfawr, neu ddisgyblaeth inni. Mae’n debyg y gelli di feddwl am adegau pan wnaeth anerchiad a glywaist ti neu erthygl a ddarllenaist ti yn un o’n cylchgronau dy helpu i newid y ffordd rwyt ti’n meddwl neu’n gweithredu. Bydda’n hapus dy fod ti wedi gwneud y newidiadau hynny, oherwydd mae’n golygu dy fod ti’n caniatáu i Jehofa dy ddisgyblu.—Diarhebion 2:1-5.

15, 16. (a) Sut gelli di gael budd o waith yr henuriaid? (b) Sut gallwn ni wneud gwaith yr henuriaid yn fwy pleserus?

15 Mae Crist hefyd wedi darparu henuriaid i ofalu am y gynulleidfa mewn ffordd gariadus. Disgrifiad y Beibl ohonyn nhw ydy “rhoddion i bobl.” (Effesiaid 4:8, 11-13) Sut gallwn ni gael budd o waith yr henuriaid? Gallwn efelychu eu ffydd a’u hesiampl dda, a gallwn ni ddilyn y cyngor y maen nhw’n ei roi o’r Beibl. (Darllen Hebreaid 13:7, 17.) Mae’r henuriaid yn ein caru ni ac maen nhw eisiau inni agosáu at Dduw. Os ydyn nhw’n sylwi ein bod ni’n colli cyfarfodydd neu’n colli ein brwdfrydedd, byddan nhw’n gyflym iawn i’n helpu. Byddan nhw’n fodlon gwrando arnon ni ac yna’n rhoi anogaeth gariadus a chyngor doeth o’r Beibl. Wyt ti’n ystyried eu help yn arwydd fod Jehofa yn dy garu di?

16 Cofia nad ydy hi’n hawdd i rai henuriaid roi cyngor. Sut roedd y proffwyd Nathan yn teimlo pan oedd yn rhaid iddo siarad â’r Brenin Dafydd ar ôl i’r brenin geisio cuddio’r ffaith ei fod wedi pechu’n ddifrifol? (2 Samuel 12:1-14) Sut roedd yr apostol Paul yn teimlo pan geisiodd roi cyngor i Pedr, un o’r deuddeg apostol, oherwydd iddo drin Cristnogion Iddewig yn well na Christnogion nad oedden nhw’n Iddewon? Roedd hynny’n gofyn am ddewrder ar ran Paul. (Galatiaid 2:11-14) Felly, sut gelli di ei gwneud hi’n haws i’r henuriaid roi cyngor iti? Bydda’n ostyngedig, yn ddiolchgar, ac yn hawdd dy drin. Peth da ydy ystyried eu help fel arwydd o gariad Duw. Byddi di ar dy ennill, a bydd yr henuriaid yn mwynhau gwneud eu gwaith.

17. Sut gwnaeth yr henuriaid helpu un chwaer?

17 O ganlyniad i bethau a ddigwyddodd iddi yn y gorffennol, roedd yn anodd i un chwaer garu Jehofa, a daeth hi’n isel iawn ei hysbryd. Mae hi’n dweud: “Roeddwn ni’n gwybod bod rhaid imi siarad â’r henuriaid. Wnaethon nhw ddim fy ngheryddu na chwaith fy meirniadu, ond cefais fy nghalonogi a fy nghryfhau ganddyn nhw. Ar ôl pob cyfarfod, dim ots pa mor brysur oedden nhw, byddai o leiaf un ohonyn nhw’n gofyn sut roeddwn i. Oherwydd problemau’r gorffennol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd teimlo fy mod i’n haeddu cariad Duw. Dro ar ôl tro, mae Jehofa wedi defnyddio’r gynulleidfa a’r henuriaid i ddangos imi fod Duw yn fy ngharu. Rwy’n gweddïo na fydda’ i byth yn gollwng fy ngafael arno.”

BETH SY’N WAETH NA PHOEN DISGYBLAETH?

18, 19. Beth sy’n waeth na phoen disgyblaeth? Rho esiampl.

18 Gall disgyblaeth fod yn boenus, ond mae’r canlyniadau sy’n dod o wrthod disgyblaeth Duw yn fwy poenus byth. (Hebreaid 12:11) Gallwn ddysgu oddi wrth esiampl Cain a’r Brenin Sedeceia. Pan welodd Duw fod Cain yn casáu ei frawd ac eisiau ei ladd, dyma’n rhybuddio Cain: “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? Os gwnei di beth sy’n iawn bydd pethau’n gwella. Ond os na wnei di beth sy’n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.” (Genesis 4:6, 7) Gwrthododd Cain ddisgyblaeth Jehofa, llofruddiodd ei frawd, a dioddefodd yn enbyd oherwydd hynny am weddill ei oes. (Genesis 4:11, 12) Petai Cain wedi gwrando ar Dduw, ni fyddai wedi gorfod profi cymaint o boen.

19 Roedd Sedeceia yn frenin gwan a drwg. Yn ystod ei deyrnasiad, roedd pobl Jerwsalem yn dioddef. Gwnaeth y proffwyd Jeremeia rybuddio Sedeceia dro ar ôl tro ei fod yn gorfod newid. Ond gwrthododd y brenin ddisgyblaeth Jehofa, ac roedd y canlyniadau yn drychinebus. (Jeremeia 52:8-11) Dydy Jehofa ddim eisiau inni ddioddef y fath boen diangen!—Darllen Eseia 48:17, 18.

20. Beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n derbyn disgyblaeth Duw ac i’r rhai sy’n ei gwrthod?

20 Heddiw, mae llawer yn y byd yn dilorni disgyblaeth Jehofa ac yn ei gwrthod. Ond yn fuan, bydd unrhyw un sy’n gwrthod disgyblaeth Duw yn dioddef canlyniadau poenus. (Diarhebion 1:24-31) Peth call fyddai dilyn y cyngor: “Gwrandwch ar beth dw i’n ddweud a byddwch ddoeth.” Fel mae Diarhebion 4:13 yn dweud: “Dal yn dynn yn beth wyt ti’n ddysgu, paid gollwng gafael. Cadw’r cwbl yn saff—mae’n rhoi bywyd i ti!”