Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rieni, Ydych Chi’n Helpu Eich Plant i Gael eu Bedyddio?

Rieni, Ydych Chi’n Helpu Eich Plant i Gael eu Bedyddio?

“Pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio.”—ACTAU 22:16.

CANEUON: 51, 135

1. Beth mae rhieni Cristnogol eisiau bod yn siŵr ohono cyn i’w plant gael eu bedyddio?

“AM FISOEDD roeddwn i wedi bod yn dweud wrth fy nhad a mam fy mod i eisiau cael fy medyddio, ac roedden nhw’n aml yn trafod y peth efo fi. Ond, roedden nhw eisiau sicrhau fy mod i’n gwybod pa mor ddifrifol oedd fy mhenderfyniad. Ar 31 Rhagfyr 1934, mi ddaeth y diwrnod mawr a’r digwyddiad mwyaf pwysig yn fy mywyd.” Dyma sut gwnaeth Blossom Brandt ddisgrifio beth ddigwyddodd pan benderfynodd hi i gael ei bedyddio. Heddiw, mae rhieni eisiau helpu eu plant i wneud penderfyniadau doeth. Petai plentyn yn aros i gael ei fedyddio heb reswm da, gall yr oedi hwnnw niweidio perthynas y plentyn â Jehofa. (Iago 4:17) Cyn i’w plentyn gael ei fedyddio, bydd rhieni doeth eisiau gwneud yn siŵr bod ef neu hi’n barod i fod yn un o ddisgyblion Crist.

2. (a) Pa broblemau mae rhai arolygwyr cylchdaith wedi sylwi arnyn nhw? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Mae rhai arolygwyr cylchdaith wedi sylwi dydy llawer o rai ifanc sydd yn eu harddegau hwyr neu yn eu hugeiniau cynnar ddim wedi cael eu bedyddio, er eu bod nhw wedi cael eu dwyn i fyny yn y gwir. Y rhan fwyaf o’r amser, mae’r rhai ifanc hyn yn mynd i’r cyfarfodydd, yn mynd ar y weinidogaeth, ac yn eu galw eu hunain yn Dystion Jehofa. Ond, am ryw reswm, dydyn nhw ddim wedi eu cysegru eu hunain i Jehofa nac wedi cael eu bedyddio. Mewn rhai achlysuron, mae hyn oherwydd dydy’r rhieni ddim yn meddwl bod eu plant yn barod i gael eu bedyddio. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod pedwar peth sy’n destun pryder i rieni ac sydd wedi eu dal nhw’n ôl rhag annog eu plant i gael eu bedyddio.

YDY FY MHLENTYN YN DDIGON HEN?

3. Beth oedd rhieni Blossom yn pryderu amdano?

3 Roedd rhieni Blossom, y soniwyd amdanyn nhw yn y paragraff cyntaf, yn poeni nad oedd hi’n ddigon hen i ddeall beth mae’n ei olygu i gael dy fedyddio a difrifoldeb bedydd. Sut gall rhieni wybod os ydy eu plentyn yn barod i’w gysegru ei hun i Jehofa?

4. Sut gall gorchymyn Iesu yn Mathew 28:19, 20 helpu rhieni heddiw?

4 Darllen Mathew 28:19, 20. Dydy’r Beibl ddim yn dweud dylai person gael ei fedyddio wedi iddo gyrraedd oedran penodol. Ond, mae’n dda i rieni feddwl yn ofalus am beth mae’n ei olygu i wneud disgyblion. Yn yr iaith Roeg, mae’r gair am wneud pobl “yn ddisgyblion,” sy’n cael ei ddefnyddio yn Mathew 28:19, yn golygu dysgu rhywun gyda’r nod o’i helpu i fod yn ddisgybl. Mae disgybl yn rhywun sy’n dysgu ac yn deall beth ddysgodd Iesu ac sydd eisiau ufuddhau iddo. Felly, o’u genedigaeth, dylai rhieni ddysgu eu plant gyda’r nod o’u helpu i’w cysegru eu hunain i Jehofa a bod yn ddisgyblion Crist. Wrth gwrs, dydy babis ddim yn gymwys i gael eu bedyddio. Ond, mae’r Beibl yn dangos bod hyd yn oed plant ifanc yn gallu deall a charu gwirioneddau’r Beibl.

5, 6. (a) Beth rydyn ni’n ei ddysgu am fedydd Timotheus o’r hanes yn y Beibl? (b) Beth ydy’r ffordd orau gall rhieni doeth helpu eu plant?

5 Roedd Timotheus yn ddisgybl a oedd wedi penderfynu gwasanaethu Jehofa pan oedd yn ifanc iawn. Dywedodd yr apostol Paul fod Timotheus wedi dechrau dysgu’r gwirionedd am Air Duw “ers yn blentyn.” Doedd tad Timotheus ddim yn gwasanaethu Jehofa, ond gwnaeth mam a nain Timotheus ei helpu i garu Gair Duw. O ganlyniad i hynny, roedd ganddo ffydd gadarn iawn. (2 Timotheus 1:5; 3:14, 15) Efallai yr roedd yn ei arddegau hwyr neu yn ei ugeiniau cynnar pan oedd yn gymwys i dderbyn aseiniadau arbennig yn y gynulleidfa.—Actau 16:1-3.

6 Mae pob plentyn yn wahanol. Dydy pob un ddim yn aeddfedu ar yr un pryd. Mae rhai plant yn deall y gwir, yn gwneud penderfyniadau doeth, ac eisiau cael eu bedyddio pan fyddan nhw’n ifanc. Efallai ni fydd eraill yn barod i gael eu bedyddio nes eu bod nhw dipyn bach yn hŷn. Dydy rhieni doeth ddim yn rhoi pwysau ar eu plant i gael eu bedyddio. Yn hytrach, maen nhw’n helpu pob plentyn i wneud cynnydd wrth ei bwysau ei hun. Mae rhieni yn hapus pan fydd eu plentyn yn rhoi ar waith Diarhebion 27:11. (Darllen.) Ond rhaid iddyn nhw gofio mai eu nod ydy helpu eu plant i fod yn ddisgyblion. Drwy gofio hynny, dylen nhw ofyn iddyn nhw eu hunain, ‘Ydy fy mhlentyn yn gwybod digon i allu ei gysegru ei hun i Dduw a chael ei fedyddio?’

YDY FY MHLENTYN YN GWYBOD DIGON?

7. A oes rhaid i rywun wybod pob un manylyn o bob un ddysgeidiaeth yn y Beibl cyn iddo allu cael ei fedyddio? Esbonia.

7 Wrth i rieni ddysgu eu plant, maen nhw’n eu helpu i wybod y gwir yn dda. Bydd y wybodaeth hon yn annog plant i’w cysegru eu hunain i Dduw. Ond dydy hynny ddim yn golygu dylai plentyn wybod pob manylyn am bob un o ddysgeidiaethau’r Beibl cyn iddo ei gysegru ei hun a chael ei fedyddio. Dylai pob un o ddisgyblion Crist barhau i ddysgu hyd yn oed ar ôl bedydd. (Darllen Colosiaid 1:9, 10.) Felly, faint o wybodaeth sydd ei hangen ar rywun cyn iddo gael ei fedyddio?

8, 9. Beth ddigwyddodd i swyddog y carchar yn Philipi, a beth allwn ni ei ddysgu o’r profiad hwnnw?

8 Gall profiad un teulu yn y gorffennol helpu rhieni heddiw. (Actau 16:25-33) Yn y flwyddyn 50, aeth Paul i ddinas Philipi ar ei ail daith genhadol. Tra oedd yno, cafodd ef a Silas eu cyhuddo ar gam, eu harestio, a’u taflu i’r carchar. Yn ystod y nos, digwyddodd daeargryn pwerus a agorodd bob drws yn y carchar. Roedd swyddog y carchar yn meddwl bod y carcharorion i gyd wedi dianc, ac roedd eisiau ei ladd ei hun. Ond gwnaeth Paul ei stopio. Yna, gwnaeth Paul a Silas ddysgu swyddog y carchar a’i deulu y gwirionedd am Iesu. Gwnaethon nhw gredu’r hyn roedden nhw wedi ei ddysgu am Iesu a sylweddolon nhw pa mor bwysig oedd ufuddhau iddo. Felly, cawson nhw eu bedyddio heb oedi. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r profiad hwn?

9 Efallai, roedd swyddog y carchar yn filwr Rhufeinig ar un adeg. Doedd ddim yn adnabod Gair Duw. Felly, er mwyn bod yn Gristion, roedd rhaid iddo ddysgu gwirioneddau sylfaenol y Beibl, deall beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei weision, a bod eisiau ufuddhau i ddysgeidiaethau Iesu. Gwnaeth yr hyn a ddysgodd yn ystod y cyfnod byr hwnnw ei helpu i fod eisiau cael ei fedyddio. Wrth gwrs, byddai wedi parhau i ddysgu mwy ar ôl iddo gael ei fedyddio. Felly, pan fydd dy blentyn yn dweud wrthyt ti ei fod eisiau cael ei fedyddio oherwydd ei fod yn caru Jehofa ac eisiau ufuddhau iddo, beth elli di ei wneud? Peth da fyddai iti adael iddo siarad â’r henuriaid er mwyn iddyn nhw allu gweld a ydy dy blentyn yn gymwys i gael ei fedyddio. * (Gweler y troednodyn.) Fel pob Cristion sydd wedi cael ei fedyddio, bydd yn parhau i ddysgu am Jehofa drwy gydol ei fywyd, hyd yn oed am byth.—Rhufeiniaid 11:33, 34.

BETH YDY’R ADDYSG GORAU?

10, 11. (a) Beth mae rhai rhieni yn ei feddwl? (b) Beth fydd yn amddiffyn plentyn?

10 Mae rhai rhieni yn meddwl mai’r peth gorau fyddai i’w plentyn gael ei fedyddio dim ond ar ôl iddo ef neu hi dderbyn mwy o addysg a chael gyrfa dda. Efallai fod gan y rhieni hyn fwriadau da, ond dylen nhw ofyn iddyn nhw eu hunain: ‘Beth fydd yn helpu fy mhlentyn i fod yn wirioneddol lwyddiannus? Ydy hyn yn cyd-fynd â’r hyn a ddysgwn ni yn y Beibl? Sut mae Jehofa eisiau inni ddefnyddio ein bywyd?’—Darllen Pregethwr 12:1.

11 Mae’n bwysig inni gofio bod y byd hwn a’r pethau sydd ynddo yn mynd yn groes i ewyllys Jehofa. (Iago 4:7, 8; 1 Ioan 2:15-17; 5:19) Perthynas agos â Jehofa ydy’r amddiffynfa orau y gall plentyn ei chael yn erbyn Satan, y byd hwn, a’i feddylfryd drwg. Os ydy rhieni yn rhoi addysg a swydd dda yn gyntaf mewn bywyd, mae’n debygol y bydd eu plentyn yn credu bod pethau’r byd yn bwysicach iddyn nhw na pherthynas agos â Jehofa. Mae hyn yn beryglus. Fel rhieni cariadus, a ydych chi’n wir eisiau i’r byd hwn ddysgu eich plentyn sut i fod yn hapus? Yr unig ffordd i fod yn llwyddiannus ac i gael gwir lawenydd ydy drwy roi Jehofa yn gyntaf yn ein bywyd.—Darllen Salm 1:2, 3.

BETH PETAI FY MHLENTYN YN PECHU?

12. Pam mae rhai rhieni yn teimlo ei bod hi’n well i’w plentyn ddisgwyl cyn iddo gael ei fedyddio?

12 Gwnaeth un fam esbonio pam nad oedd hi eisiau i’w merch gael ei bedyddio. Dywedodd: “Mae arnaf gywilydd dweud mai’r prif reswm oedd oherwydd y drefn ddiarddel.” Fel y chwaer honno, mae rhai rhieni yn meddwl ei bod hi’n well i’w plentyn ddisgwyl ychydig cyn iddo gael ei fedyddio nes ei fod yn ddigon hen i allu osgoi gwneud camgymeriadau twp. (Genesis 8:21; Diarhebion 22:15) Os nad yw eu plentyn wedi cael ei fedyddio, efallai bydd y rhieni hynny’n teimlo nad yw’r plentyn yn gallu cael ei ddiarddel. Ond, beth sydd o’i le gyda’r math hwnnw o resymu?—Iago 1:22.

13. Os nad ydy rhywun wedi cael ei fedyddio, ydy hyn yn golygu nad yw’n atebol i Jehofa? Esbonia.

13 Wrth gwrs, dydy rhieni ddim eisiau i’w plentyn gael ei fedyddio cyn ei fod yn barod i gysegru ei fywyd i Jehofa. Ond byddai’n anghywir i feddwl dydy eu plentyn ddim yn atebol i Jehofa nes iddo gael ei fedyddio. Mae plentyn yn atebol i Dduw pan fydd yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg yng ngolwg Jehofa. (Darllen Iago 4:17.) Dydy rhieni doeth ddim yn annog eu plentyn i beidio â chael ei fedyddio. Hyd yn oed pan fydd y plentyn yn ifanc, maen nhw’n dysgu’r plentyn i garu’r hyn mae Jehofa yn ei ddweud sy’n gywir ac i gasáu’r hyn y mae Jehofa yn ei ddweud sy’n anghywir, fel y maen nhw’n ei wneud. (Luc 6:40) Bydd cariad dy blentyn tuag at Jehofa yn ei amddiffyn rhag pechu’n ddifrifol, oherwydd bydd eisiau gwneud beth sy’n gywir yng ngolwg Jehofa.—Eseia 35:8.

GALL ERAILL HELPU

14. Sut gall henuriaid gefnogi’r hyn y mae rhieni yn ei wneud?

14 Gall henuriaid gefnogi’r hyn mae rhieni yn ei wneud drwy fod yn bositif wrth iddyn nhw siarad am amcanion ysbrydol yng ngwasanaeth Jehofa. Mae un chwaer yn cofio’r Brawd Russell yn siarad â hi pan oedd hi’n chwe blwydd oed. Dywedodd hi: “Cymerodd 15 munud i siarad â mi am fy amcanion ysbrydol.” Beth oedd y canlyniad? Dechreuodd y chwaer arloesi, a daliodd hi ati am dros 70 mlynedd! Mae’n amlwg gall geiriau positif a chefnogaeth gael effaith ar fywyd rhywun. (Diarhebion 25:11) Gall henuriaid hefyd wahodd rhieni a phlant i helpu gyda phrosiectau yn Neuaddau’r Deyrnas. Gallan nhw ofyn i’r plant wneud pethau sy’n addas ar gyfer eu hoedran a’u gallu.

15. Sut gall eraill yn y gynulleidfa helpu rhai ifanc?

15 Sut gall eraill yn y gynulleidfa helpu? Drwy ddangos diddordeb personol priodol yn y rhai ifanc. Er enghraifft, gelli di edrych am bethau sy’n dangos bod y rhai ifanc yn agosáu at Jehofa. A wnaeth plentyn roi sylw da yn y cyfarfod, neu a oedd ganddo ran yn y cyfarfod canol wythnos? A wnaeth dystiolaethu i rywun yn yr ysgol, neu a wnaeth wneud y peth iawn pan gafodd ei demtio i wneud rhywbeth drwg? Os felly, bydda’n gyflym i ddweud wrtho ei fod wedi gwneud yn dda! Gallwn ni osod y nod o siarad â’r rhai ifanc cyn ac ar ôl y cyfarfod. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn, bydd y plant yn teimlo fel eu bod nhw’n rhan o’r “gynulleidfa fawr!”—Salm 35:18.

HELPU DY BLENTYN I GAEL EI FEDYDDIO

16, 17. (a) Pam mae’n bwysig i blant gael eu bedyddio? (b) Pa lawenydd gall rhieni ei gael? (Gweler y llun agoriadol.)

16 Un o’r breintiau mwyaf gall rhieni ei chael yw dysgu eu plant i garu Jehofa. (Salm 127:3; Effesiaid 6:4) Yn Israel gynt, roedd plant yn cael eu cysegru i Jehofa pan oedden nhw’n cael eu geni. Ond dydy hynny ddim yn wir ar gyfer ein plant ni. Er bod y rhieni yn caru Jehofa a’r gwirionedd, dydy hynny ddim yn meddwl y bydd eu plant yn teimlo yr un ffordd. O’r diwrnod mae eu plentyn yn cael ei eni, mae’n rhaid i rieni osod y nod o helpu eu plentyn i fod yn ddisgybl, i’w gysegru ei hun i Dduw, ac i gael ei fedyddio. Beth all fod yn bwysicach na hynny? Bydd cysegriad person, ei fedydd, a’i wasanaeth ffyddlon i Jehofa yn ei gwneud hi’n bosib iddo gael ei achub yn ystod y gorthrymder mawr.—Mathew 24:13.

Mae’n rhaid i rieni osod y nod o helpu eu plant i fod yn ddisgyblion (Gweler paragraffau 16, 17)

17 Pan oedd Blossom Brandt eisiau cael ei bedyddio, roedd ei rhieni eisiau gwneud yn siŵr ei bod hi’n barod. Pan oedden nhw’n sicr ei bod hi’n barod, gwnaethon nhw gefnogi ei phenderfyniad. Esboniodd Blossom beth wnaeth ei thad y noson cyn iddi gael ei bedyddio: “Dywedodd wrthyn ni i fynd ar ein pennau gliniau, ac yna gweddïodd droson ni. Dywedodd wrth Jehofa ei fod mor hapus fod ei ferch fach wedi penderfynu cysegru ei bywyd iddo Ef.” Yn fwy na 60 mlynedd ar ôl hynny, dywedodd Blossom: “Gelli di fod yn sicr, fydda’ i byth yn anghofio’r noson honno!” Rieni, gadewch i chithau hefyd fod yn llawen ac yn fodlon pan fyddech chi’n gweld eich plentyn yn ei gysegru ei hun ac yn cael ei fedyddio yn un o weision Jehofa.

^ Par. 9 Gall rhieni drafod â’u plant y wybodaeth yn Questions Young People Ask—Answers That Work, Volume 2, tudalennau 304-310. Gweler hefyd “Question Box” yn Ein Gweinidogaeth Saesneg, Ebrill 2011, tudalen 2.