Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 13

Bydd Jehofa yn Dy Amddiffyn Di—Sut?

Bydd Jehofa yn Dy Amddiffyn Di—Sut?

“Mae’r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e’n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi’n ddiogel rhag yr un drwg.”—2 THES. 3:3.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

CIPOLWG *

1. Pam gofynnodd Iesu i Jehofa amddiffyn ei ddisgyblion?

AR EI noson olaf fel dyn, roedd Iesu yn meddwl am yr heriau y byddai ei ddisgyblion yn eu hwynebu. Am ei fod yn caru ei ddisgyblion, gofynnodd Iesu i’w Dad “eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg.” (Ioan 17:14, 15) Gwyddai Iesu y byddai’n dychwelyd i’r nef yn fuan, ac y byddai Satan y Diafol yn parhau i ryfela yn erbyn unrhyw un oedd eisiau gwasanaethu Jehofa. Roedd yn amlwg felly y byddai pobl Jehofa angen eu hamddiffyn.

2. Sut gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau?

2 Oherwydd ei gariad tuag at ei Fab, atebodd Jehofa weddi Iesu. Os ceisiwn ein gorau i blesio Jehofa, bydd ef yn ein caru ninnau, a bydd yn gwrando pan ofynnwn iddo ein helpu a’n hamddiffyn. Mae Jehofa yn Dad cariadus, felly bydd yn parhau i ofalu am ei blant. Mae ei enw a’i anrhydedd yn y fantol!

3. Pam rydyn ni angen i Jehofa ein hamddiffyn heddiw?

3 Rydyn ni angen i Jehofa ein hamddiffyn ni yn fwy nawr nac erioed o’r blaen. Mae Satan wedi cael ei fwrw allan o’r nef “wedi gwylltio’n gandryll.” (Dat. 12:12) Mae wedi llwyddo i berswadio rhai sy’n ein herlid i feddwl “eu bod nhw’n gwneud ffafr i Dduw.” (Ioan 16:2) Mae eraill sydd ddim yn credu yn Nuw yn ein herlid am ein bod ni’n wahanol i bobl y byd. Beth bynnag yw’r achos, does dim rhaid inni ofni. Pam? Am fod Gair Duw yn dweud: “Mae’r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e’n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi’n ddiogel rhag yr un drwg.” (2 Thes. 3:3) Sut mae Jehofa yn ein hamddiffyn ni? Gad inni drafod dwy ffordd.

MAE JEHOFA’N DARPARU ARFWISG

4. Yn ôl Effesiaid 6:13-17, beth mae Jehofa wedi ei ddarparu er mwyn ein hamddiffyn?

4 Mae Jehofa wedi darparu arfwisg inni sy’n gallu ein hamddiffyn rhag ymosodiadau Satan. (Darllen Effesiaid 6:13-17.) Mae’r arfwisg ysbrydol hon yn gryf ac yn effeithiol! Ond fydd hi ond yn ein hamddiffyn ni os ydyn ni’n gwisgo pob darn o’r arfwisg—a pheidio â’u tynnu. Beth mae pob darn yn ei gynrychioli? Gad inni weld.

5. Beth yw belt y gwirionedd, a pham dylen ni ei wisgo?

5 Mae belt y gwirionedd yn cynrychioli’r gwirioneddau yng Ngair Duw, y Beibl. Pam mae’n rhaid inni wisgo’r belt hwn? Oherwydd mai Satan yw “Tad pob celwydd.” (Ioan 8:44) Mae wedi cael miloedd o flynyddoedd i ymarfer dweud celwydd, ac mae wedi “twyllo’r byd i gyd”! (Dat. 12:9) Ond mae’r gwirioneddau yn y Beibl yn ein hamddiffyn rhag cael ein twyllo. Sut rydyn ni’n gwisgo belt y gwirionedd? Drwy ddysgu’r gwir am Jehofa, drwy ei addoli “mewn ysbryd a gwirionedd,” a thrwy fod yn onest ym mhob peth.—Ioan 4:24, BCND; Eff. 4:25; Heb. 13:18.

Belt: Y gwirioneddau sydd yng Ngair Duw

6. Beth yw llurig cyfiawnder, a pham mae’n rhaid inni ei gwisgo?

6 Mae llurig cyfiawnder yn cynrychioli safonau cyfiawn Jehofa. Pam mae’n rhaid inni wisgo’r llurig? Yn union fel mae llurig yn amddiffyn calon milwr rhag cael ei thrywanu, mae llurig cyfiawnder yn amddiffyn ein calon ffigurol, neu’r person mewnol, rhag dylanwad llygredig y byd. (Diar. 4:23) Mae Jehofa yn disgwyl inni ei garu a’i wasanaethu gyda’n holl galon. (Math. 22:36, 37) Felly mae Satan yn ceisio rhannu ein calon drwy wneud inni garu’r pethau mae’r byd yn eu cynnig—pethau mae Jehofa’n eu casáu. (Iago 4:4; 1 Ioan 2:15, 16) Ac os nad ydy hynny’n gweithio, bydd yn defnyddio erledigaeth i geisio ein gorfodi i fynd yn erbyn safonau Jehofa.

Llurig: Safonau cyfiawn Jehofa

7. Sut rydyn ni’n gwisgo llurig cyfiawnder?

7 Rydyn ni’n gwisgo llurig cyfiawnder drwy dderbyn safonau Jehofa o dda a drwg a byw’n unol â’r safonau hynny. (Salm 97:10) Efallai bod rhai yn teimlo bod safonau Jehofa yn gul. Ond petasen ni’n stopio rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein bywydau, fe fydden ni fel milwr yn tynnu ei lurig ynghanol brwydr am iddo feddwl ei bod yn rhy drwm. Byddai hynny’n beth ffôl iawn i’w wneud! I’r rhai sy’n caru Jehofa, “nid yw ei orchmynion ef yn feichus,” yn hytrach, maen nhw’n achub bywydau.—1 Ioan 5:3, BCND.

8. Beth mae’n ei olygu i wisgo brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch yn esgidiau ar ein traed?

8 Gwnaeth Paul hefyd ein hannog i wisgo’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch yn esgidiau ar ein traed. Mewn geiriau eraill, dylen ni wastad fod yn barod i bregethu newyddion da’r Deyrnas. Pan rannwn neges y Beibl gydag eraill, rydyn ni’n cryfhau ein ffydd ein hunain. Mae hi’n galonogol iawn i weld sut mae pobl Jehofa ar draws y byd yn edrych am gyfleoedd i rannu’r newyddion da—yn y gweithle, yn yr ysgol, mewn tiriogaeth fusnes ac wrth bregethu o dŷ i dŷ, wrth siopa, wrth ymweld â pherthnasau anghrediniol, wrth siarad â phobl maen nhw’n eu hadnabod, a hyd yn oed pan fyddan nhw’n gaeth i’w cartrefi am gyfnod. Petasen ni’n ildio i ofn a stopio pregethu, bydden ni fel milwr yn tynnu ei sandalau yn ystod brwydr; byddai’n anafu ei draed yn hawdd. O ganlyniad, fe fyddai’n haws ymosod arno, ac ni fyddai’n gallu dilyn cyfarwyddiadau ei gapten.

Esgidiau: Brwdfrydedd i bregethu’r newyddion da

9. Pam mae angen inni gario tarian ffydd?

9 Mae tarian ffydd yn cynrychioli ein ffydd yn Jehofa. Rydyn ni’n hollol sicr y bydd yn cyflawni pob un o’i addewidion. Bydd y ffydd honno yn ein helpu i allu “diffodd saethau tanllyd yr un drwg.” Pam mae angen inni gario’r darian hon? Am ei bod yn ein hamddiffyn rhag cael ein siglo gan ddysgeidiaethau gwrthgilwyr neu rhag digalonni pan fydd eraill yn dweud pethau pigog am ein safiad. Heb ffydd, fydd gynnon ni mo’r nerth i ddal ein tir pan fydd eraill yn ceisio ein perswadio i anwybyddu safonau Jehofa. Ar y llaw arall, bob tro rydyn ni’n gwneud safiad dros ein ffydd yn y gweithle neu yn yr ysgol, rydyn ni’n cario ein tarian. (1 Pedr 3:15) Bob tro rydyn ni’n gwrthod swydd a fyddai’n talu’n well, ond a fyddai’n amharu ar ein rwtîn ysbrydol, rydyn ni’n cario ein tarian. (Heb. 13:5, 6) A phob tro rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa er gwaethaf erledigaeth, mae ein tarian yn ein hamddiffyn.—1 Thes. 2:2.

Tarian: Ein ffydd yn Jehofa a’i addewidion

10. Beth yw helmed achubiaeth, a pham dylen ni ei gwisgo?

10 Helmed achubiaeth yw’r gobaith mae Jehofa’n ei roi inni—y gobaith y bydd ef yn ein hachub ni rhag marwolaeth ac yn gwobrwyo pawb sy’n gwneud ei ewyllys. (1 Thes. 5:8; 1 Tim. 4:10; Titus 1:1, 2) Fel mae helmed yn amddiffyn pen milwr, mae’r gobaith o gael ein hachub yn amddiffyn ein meddyliau. Ym mha ffordd? Mae’r gobaith hwnnw yn hoelio ein sylw ar addewidion Duw ac yn ein helpu ni i weld problemau yn eu gwir oleuni. Sut rydyn ni’n gwisgo’r helmed hon? Drwy gadw ein meddyliau yn unol â meddyliau Duw. Er enghraifft, rydyn ni’n rhoi ein gobaith, nid mewn rhywbeth mor ansicr â chyfoeth, ond yn Nuw.—Salm 26:2; 104:34; 1 Tim. 6:17.

Helmed: Y gobaith o fywyd tragwyddol

11. Beth yw cleddyf yr ysbryd, a pham mae angen inni ei ddefnyddio?

11 Cleddyf yr ysbryd yw Gair Duw, y Beibl. Mae gan y cleddyf hwnnw y gallu i dorri drwy bob math o dwyll, ac i ryddhau pobl rhag caethiwed i gau ddysgeidiaethau ac arferion niweidiol. (2 Cor. 10:4, 5; 2 Tim. 3:16, 17; Heb. 4:12) Dysgwn i ddefnyddio’r cleddyf hwnnw yn iawn drwy astudiaeth bersonol a’r hyfforddiant rydyn ni’n ei gael oddi wrth gyfundrefn Duw. (2 Tim. 2:15) Yn ogystal â’r arfwisg, mae Jehofa yn rhoi rhywbeth arall pwerus i’n hamddiffyn. Beth yw hynny?

Cleddyf: Gair Duw, y Beibl

DOES DIM RHAID INNI FRWYDRO AR EIN PENNAU’N HUNAIN

12. Beth arall sydd ei angen arnon ni, a pham?

12 Mae milwr profiadol yn gwybod na all frwydro’n llwyddiannus yn erbyn byddin enfawr ar ei ben ei hun; mae angen help ei gyd-filwyr arno. Mewn ffordd debyg, allwn ninnau ddim brwydro yn erbyn Satan a’i ddilynwyr ar ein pennau ein hunain; mae angen cefnogaeth ein brodyr a chwiorydd arnon ni. Mae Jehofa wedi rhoi brawdoliaeth fyd-eang er mwyn ein helpu ni.—1 Pedr 2:17.

13. Yn ôl Hebreaid 10:24, 25, ym mha ffyrdd rydyn ni’n elwa o fynychu’r cyfarfodydd?

13 Un ffordd rydyn ni’n cael cefnogaeth yw drwy fynd i’r cyfarfodydd. (Darllen Hebreaid 10:24, 25.) Pan fyddwn ni’n teimlo’n isel—fel rydyn ni i gyd ar adegau—gall y cyfarfodydd godi’n calonnau. Cawn ein calonogi gan atebion diffuant ein brodyr a chwiorydd. Mae eu hanerchiadau a’u dangosiadau, sydd wedi eu seilio ar y Beibl, yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol byth i wasanaethu Jehofa. Ac mae ein sgyrsiau adeiladol cyn ac ar ôl y cyfarfodydd yn ein calonogi. (1 Thes. 5:14) Ar ben hynny, mae ein cyfarfodydd yn rhoi’r cyfle inni brofi’r llawenydd sy’n dod o helpu eraill. (Act. 20:35; Rhuf. 1:11, 12) Mae ein cyfarfodydd yn ein helpu mewn ffyrdd eraill hefyd. Maen nhw’n coethi ein sgiliau brwydro, fel petai, drwy ein paratoi ar gyfer y weinidogaeth. Er enghraifft, dysgwn sut i ddefnyddio’r adnoddau yn ein Bocs Tŵls Dysgu yn effeithiol. Felly paratoa’n dda ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa. Gwranda’n astud yn ystod y cyfarfodydd. Ac ar ôl y cyfarfod, rho’r hyfforddiant ar waith yn dy fywyd. Drwy wneud y fath bethau, byddi di’n ‘filwr da i Iesu y Meseia.’—2 Tim. 2:3.

14. Pa help arall sydd ar gael inni?

14 Hefyd, mae gynnon ni gefnogaeth miliynau lawer o angylion nerthol. Meddylia beth gall un angel yn unig ei wneud! (Esei. 37:36) Ystyria nawr beth gallai byddin rymus o angylion ei gyflawni. Does ’na’r un dyn na chythraul yn hafal i fyddin bwerus Jehofa. Dywedir fod un Tyst ffyddlon a Jehofa yn gwneud y mwyafrif. (Barn. 6:16, BCND) Mae hynny mor wir! Cadwa hynny mewn cof pan wyt ti’n teimlo’n ddigalon oherwydd rhywbeth mae cyd-weithiwr, cyd-ddisgybl, neu berthynas anghrediniol yn ei ddweud neu’n ei wneud. Cofia, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun yn y frwydr hon. Rwyt ti’n dilyn arweiniad Jehofa.

BYDD JEHOFA YN PARHAU I’N HAMDDIFFYN

15. Yn ôl Eseia 54:15, 17, pam na fydd pobl Dduw byth yn cael eu tewi?

15 Mae gan fyd Satan lawer o resymau i’n casáu ni. Arhoswn yn hollol niwtral o ran gwleidyddiaeth a dydyn ni ddim yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd. Rydyn ni’n cyhoeddi enw Duw, yn hyrwyddo ei Deyrnas fel yr unig obaith am heddwch, ac yn ufuddhau i’w safonau cyfiawn. Rydyn ni’n dinoethi rheolwr y byd fel celwyddgi ffiaidd a llofrudd. (Ioan 8:44) Ac rydyn ni’n cyhoeddi fod dinistr byd Satan ar y gorwel. Eto, fyddwn ni byth yn cael ein tewi gan Satan a’i ddilynwyr. I’r gwrthwyneb, byddwn ni’n dal ati i foli Jehofa ym mhob ffordd bosib! Er mor bwerus ydy Satan, dydy ef ddim wedi llwyddo i rwystro neges y Deyrnas rhag cyrraedd pobl ar draws y byd. Mae hyn ond yn bosib am fod Jehofa yn ein hamddiffyn.—Darllen Eseia 54:15, 17.

16. Sut bydd Jehofa yn achub ei bobl yn ystod y gorthrymder mawr?

16 Beth sydd ar y gorwel? Yn ystod y gorthrymder mawr, bydd Jehofa yn ein hachub ni mewn dwy ffordd ryfeddol. Yn gyntaf, bydd yn achub ei weision ffyddlon yn ystod yr adeg pan fydd yn achosi i frenhinoedd y ddaear ddinistrio Babilon Fawr, ymerodraeth gau grefydd. (Dat. 17:16-18; 18:2, 4) Yna, bydd yn achub ei bobl pan fydd yn dinistrio gweddillion byd Satan yn Armagedon.—Dat. 7:9, 10; 16:14, 16.

17. Sut rydyn ni’n elwa o aros yn agos at Jehofa?

17 Pan fyddwn ni’n aros yn agos at Jehofa, ni all Satan wneud unrhyw niwed parhaol inni. Mewn gwirionedd, ef yw’r un a fydd yn dioddef niwed parhaol. (Rhuf. 16:20) Felly gwisga’r arfwisg gyfan—a phaid byth â’i thynnu! Paid â cheisio brwydro ar dy ben dy hun. Cefnoga dy frodyr a chwiorydd. A dilyna arweiniad Jehofa. Drwy wneud hynny, gelli di fod yn sicr y bydd dy Dad nefol cariadus yn dy gryfhau di ac yn dy amddiffyn.—Esei. 41:10.

CÂN 149 Cân o Fuddugoliaeth

^ Par. 5 Mae’r Beibl yn addo y bydd Jehofa yn ein cryfhau ni ac yn ein hamddiffyn ni, nid yn unig rhag niwed ysbrydol, ond hefyd rhag unrhyw fath o niwed parhaol. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ateb y cwestiynau canlynol: Pam rydyn ni angen i Jehofa ein hamddiffyn? Sut mae ef yn ein hamddiffyn? A beth sy’n rhaid inni ei wneud i elwa ar yr help mae’n ei gynnig?