Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pam dylai Cristnogion fod yn ofalus wrth ddefnyddio rhaglenni negeseuon electronig, fel y rhai ar gyfer tecstio?

Mae rhai Cristnogion yn defnyddio technoleg fodern i gysylltu ag aelodau teulu a Thystion eraill. Wrth gwrs, byddai Cristion aeddfed yn cadw’r cyngor hwn mewn cof: “Mae’r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.”—Diar. 27:12.

Rydyn ni’n deall bod Jehofa eisiau ein hamddiffyn. Felly, dydyn ni ddim yn cymdeithasu gyda rhai sy’n creu rhaniadau, sydd wedi eu diarddel, neu sy’n hyrwyddo syniadau anghywir. (Rhuf. 16:17; 1 Cor. 5:11; 2 Ioan 10, 11) Efallai na fydd rhai sy’n ymwneud â’r gynulleidfa yn ymddwyn mewn ffordd sy’n addas i Gristion. (2 Tim. 2:20, 21) Rydyn ni’n cadw hyn mewn cof wrth ddewis ein ffrindiau. Ond gall dewis cwmni da fod yn her dros raglen negeseuon.

Mae bod yn ofalus wrth ddewis ein ffrindiau yn arbennig o bwysig pan fydd y grŵp negeseuon yn un mawr. Mae rhai Cristnogion wedi ymuno â grwpiau mawr, gyda chanlyniadau negyddol. Ond sut gallai brawd neu chwaer fod yn ofalus os oes cannoedd neu filoedd yn y grŵp? Byddai’n amhosib gwybod gwir gymeriad pob un yn y grŵp, a beth yw eu cyflwr ysbrydol. Mae Salm 26:4 yn dweud: “Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy’n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy’n anonest.” Onid ydy hynny’n awgrymu defnyddio rhaglenni negeseuon er mwyn cysylltu â’r rhai rwyt ti’n eu hadnabod yn bersonol yn unig?

Hyd yn oed mewn grŵp llai, mae’n rhaid i Gristion bwyso a mesur ei ddefnydd o amser, a’r hyn sy’n ei ddiddori. Ddylen ni ddim teimlo bod rhaid inni ymateb i negeseuon ni waeth beth yw eu cynnwys na faint o amser mae hynny’n ei gymryd. Rhybuddiodd Paul Timotheus am unigolion a fyddai’n “siaradus a busneslyd.” (1 Tim. 5:13, BCND) Heddiw, mae’n bosib gwneud rhywbeth tebyg yn electronig.

Ni fyddai Cristion aeddfed yn anfon nac yn talu sylw i negeseuon sy’n beirniadu Tystion eraill, neu sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol amdanyn nhw. (Salm 15:3; Diar. 20:19) A byddai hefyd yn osgoi straeon gorddramatig ac adroddiadau heb eu cadarnhau. (Eff. 4:25) Rydyn ni’n sicr yn derbyn digonedd o fwyd ysbrydol ac adroddiadau dibynadwy ar ein gwefan jw.org a’n rhaglenni misol ar JW Broadcasting®.

Mae rhai Tystion yn defnyddio negeseuon electronig i werthu, prynu, a hysbysebu pethau neu i gynnig gwaith. Materion busnes ydy’r rheini, does ganddyn nhw ddim byd i’w wneud ag addoli Jehofa. Mae Cristnogion sydd ddim eisiau cael eu rheoli gan “gariad at arian” yn gwrthod unrhyw demtasiwn i ddefnyddio’r frawdoliaeth at ddibenion busnes.—Heb. 13:5.

A ddylen ni ddefnyddio rhaglenni negeseuon i godi arian tuag at frodyr mewn angen neu ar gyfer cymorth ar ôl trychineb? Wrth gwrs, rydyn ni’n caru ein brodyr ac mae gynnon ni ddiddordeb ynddyn nhw, felly byddwn ni’n helpu ac yn annog ein gilydd yn aml. (Iago 2:15, 16) Ond gallai ceisio gwneud hynny drwy ddefnyddio grŵp negeseua mawr amharu ar drefniadau gwell sy’n cael eu gwneud gan swyddfa’r gangen neu’r gynulleidfa leol. (1 Tim. 5:3, 4, 9, 10, 16) Ac yn sicr, ni fyddai’r un ohonon ni eisiau awgrymu ein bod ni wedi cael aseiniad arbennig i ofalu am ein brodyr.

Rydyn ni eisiau gwneud pethau a fydd yn dod â chlod i Dduw. (1 Cor. 10:31) Felly wrth ddefnyddio rhaglen negeseuon neu dechnoleg arall, ystyria’r peryglon posib, a bydda’n ofalus.