Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 9

Ddynion Ifanc—Sut Gallwch Chi Ennill Hyder Eraill?

Ddynion Ifanc—Sut Gallwch Chi Ennill Hyder Eraill?

“Bydd byddin ifanc yn dod atat fel gwlith.”—SALM 110:3.

CÂN 39 Gwneud Enw Da Gyda Duw

CIPOLWG *

1. Beth sy’n wir am ein brodyr ifanc?

FRODYR ifanc, mae gynnoch chi lawer i’w gynnig. Mae llawer ohonoch chi’n gryf ac yn llawn egni. (Diar. 20:29) Rydych chi o gymorth mawr i’ch cynulleidfa. Efallai eich bod chi’n edrych ymlaen at gael eich penodi yn was gweinidogaethol. Er hynny, efallai eich bod yn teimlo bod eraill yn eich ystyried yn rhy ifanc neu’n meddwl nad ydych chi’n barod i ysgwyddo gwaith pwysig. Ond hyd yn oed os ydych chi’n ifanc, mae ’na bethau gallwch chi eu gwneud nawr i ennill hyder a pharch y rhai yn eich cynulleidfa.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar fywyd y Brenin Dafydd. Byddwn ni hefyd yn edrych yn fras ar ddigwyddiadau ym mywydau Asa a Jehosaffat—dau o frenhinoedd Jwda. Byddwn ni’n trafod rhai o’r heriau a wynebodd y tri dyn hyn, sut gwnaethon nhw ymateb, a beth gall brodyr ifanc ei ddysgu o’u hesiamplau.

DYSGA ODDI WRTH Y BRENIN DAFYDD

3. Beth yw un ffordd gall y rhai ifanc helpu’r rhai hŷn yn y gynulleidfa?

3 Pan oedd Dafydd yn ifanc, datblygodd sgiliau roedd eraill yn eu gwerthfawrogi. Roedd yn amlwg yn berson ysbrydol. Gweithiodd yn galed i fod yn gerddor da a defnyddiodd y ddawn honno i helpu Saul, brenin apwyntiedig Duw. (1 Sam. 16:16, 23) Oes gynnoch chi, ddynion ifanc, ddawn a allai helpu eraill yn y gynulleidfa? Mae gan lawer ohonoch chi ddoniau arbennig. Er enghraifft, efallai eich bod chi’n sylwi bod rhai o’r rhai hŷn yn gwerthfawrogi cael help i ddefnyddio eu tabledi a dyfeisiau electronig eraill ar gyfer astudiaeth bersonol a chyfarfodydd. Gallwch chi fod yn help mawr i’r rhai hŷn am eich bod yn deall technoleg.

Roedd Dafydd yn gyfrifol ac yn ddibynadwy wrth ofalu am braidd ei dad, gan hyd yn oed amddiffyn y defaid rhag ymosodiad gan arth (Gweler paragraff 4)

4. Fel Dafydd, pa rinweddau mae’n rhaid i frodyr ifanc eu meithrin? (Gweler y llun ar y clawr.)

4 Yn ei fywyd bob dydd, profodd Dafydd ei fod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy. Er enghraifft, pan oedd yn ddyn ifanc, gweithiodd yn galed i edrych ar ôl defaid ei dad. Profodd hynny i fod yn aseiniad peryglus. Yn hwyrach ymlaen, esboniodd Dafydd i’r Brenin Saul: “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o’r praidd. Bydda i’n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o’i geg.” (1 Sam. 17:34, 35) Roedd Dafydd yn teimlo’n gyfrifol am ofal y defaid, a brwydrodd yn ddewr i’w hamddiffyn. Gall brodyr ifanc efelychu Dafydd drwy weithio’n ddygn i gyflawni unrhyw aseiniad maen nhw’n ei gael.

5. Yn ôl Diarhebion 3:32, beth yw’r peth pwysicaf gall brodyr ifanc ei wneud?

5 Datblygodd Dafydd berthynas glòs a phersonol â Jehofa pan oedd yn ifanc. Roedd y berthynas honno’n bwysicach na dewrder Dafydd a’i sgiliau ar y delyn. Roedd Jehofa yn fwy na Duw i Dafydd, roedd hefyd yn ffrind—yn ffrind agos. (Darllen Diarhebion 3:32.) Frodyr ifanc, y peth pwysicaf gallwch chi ei wneud ydy cryfhau eich perthynas â’ch Tad nefol, ac efallai cewch chi fwy o gyfrifoldebau yn y gynulleidfa.

6. Beth oedd barn rhai pobl am Dafydd?

6 Un broblem oedd gan Dafydd oedd bod gan rai pobl farn negyddol ohono. Er enghraifft, pan wirfoddolodd Dafydd i ymladd yn erbyn Goliath, ceisiodd y Brenin Saul ei berswadio i beidio, gan ddweud: “Dim ond bachgen wyt ti!” (1 Sam. 17:31-33) Yn gynharach, gwnaeth hyd yn oed brawd Dafydd ei gyhuddo o fod yn anghyfrifol. (1 Sam. 17:26-30) Ond, doedd Jehofa ddim yn ystyried Dafydd yn anaeddfed nac yn anghyfrifol. Roedd yn adnabod y dyn ifanc yn dda. A thrwy ddibynnu ar ei Ffrind, Jehofa, am nerth, llwyddodd Dafydd i ladd Goliath.—1 Sam. 17:45, 48-51.

7. Beth gelli di ei ddysgu o hanes Dafydd?

7 Beth gelli di ei ddysgu o hanes Dafydd? Dysgwn fod angen inni fod yn amyneddgar. Efallai bydd hi’n cymryd amser i’r rhai a oedd yn dy adnabod pan oeddet ti’n blentyn ddechrau dy weld fel dyn ifanc. Ond gelli di fod yn sicr fod Jehofa yn gweld y tu hwnt i sut rwyt ti’n edrych. Mae’n dy adnabod yn dda ac yn gwybod beth rwyt ti’n gallu ei wneud. (1 Sam. 16:7) Cryfha dy berthynas â Duw. Fe wnaeth Dafydd hynny drwy edrych yn fanwl ar greadigaeth Jehofa. Meddyliodd Dafydd yn ddwfn am beth roedd y greadigaeth yn ei ddysgu iddo am y Creawdwr. (Salm 8:3, 4; 139:14; Rhuf. 1:20) Rhywbeth arall gelli di ei wneud ydy troi at Jehofa am nerth. Er enghraifft, ydy rhai o dy ffrindiau ysgol yn gwneud hwyl am dy ben am dy fod ti’n un o Dystion Jehofa? Os felly, gweddïa ar Jehofa am help i ddelio â’r her. A rho ar waith y cyngor ymarferol a gei di yn ei Air ac yn ein cyhoeddiadau a fideos Beiblaidd. Bob tro rwyt ti’n gweld Jehofa yn dy helpu gyda rhyw her neu’i gilydd, bydd dy hyder ynddo yn tyfu. Wedyn, wrth i eraill weld dy fod ti’n dibynnu ar Jehofa, byddi di’n ennill eu hyder.

Gall brodyr ifanc helpu eraill yn ostyngedig mewn llawer o ffyrdd (Gweler paragraffau 8-9)

8-9. Beth wnaeth helpu Dafydd i ddisgwyl yn amyneddgar nes iddo ddod yn frenin, a beth gall brodyr ifanc ei ddysgu o’i esiampl?

8 Ystyria her arall a wynebodd Dafydd. Ar ôl iddo gael ei eneinio i fod yn frenin, roedd rhaid i Dafydd ddisgwyl llawer o flynyddoedd cyn iddo ddechrau rheoli fel brenin Jwda. (1 Sam. 16:13; 2 Sam. 2:3, 4) Beth wnaeth ei helpu i ddisgwyl yn amyneddgar yn ystod y cyfnod hwnnw? Yn hytrach na chael ei barlysu gan ddigalondid, canolbwyntiodd Dafydd ar yr hyn roedd yn gallu ei wneud. Er enghraifft, tra oedd yn byw fel ffoadur yn nhiriogaeth y Philistiaid, achubodd Dafydd ar y cyfle i ymladd yn erbyn gelynion Israel. Wrth wneud hynny, roedd yn amddiffyn ffiniau tiriogaeth Jwda.—1 Sam. 27:1-12.

9 Beth gall brodyr ifanc ei ddysgu o esiampl Dafydd? Gwna beth fedri di i wasanaethu dy frodyr. Ystyria brofiad brawd o’r enw Ricardo. * Ers ei arddegau cynnar, roedd wedi breuddwydio am wasanaethu fel arloeswr llawn amser. Ond doedd ef ddim yn barod. Yn hytrach na rhoi’r gorau iddi neu droi’n chwerw, aeth Ricardo ati i wneud mwy yn y weinidogaeth. “Wrth edrych yn ôl,” meddai, “alla i weld oedd hi’n beth da fy mod i wedi gwneud y cynnydd angenrheidiol. Wnes i sicrhau fy mod i’n galw’n ôl ar bawb a ddangosodd ddiddordeb ac yn paratoi ar gyfer pob ymweliad. Mi wnes i hyd yn oed gynnal fy astudiaeth Feiblaidd gyntaf. Wrth imi fagu profiad, o’n i’n teimlo’n fwy hyderus.” Mae Ricardo bellach yn arloeswr llawn amser effeithiol ac yn was gweinidogaethol.

10. Ar un achlysur, beth wnaeth Dafydd cyn iddo wneud penderfyniad pwysig?

10 Ystyria brofiad arall ym mywyd Dafydd. Pan oedd ef a’i ddynion yn ffoaduriaid, roedden nhw wedi gadael eu teuluoedd i fynd i ymladd. Tra oedd y dynion i ffwrdd, ymosododd gelynion ar eu tai a chipio eu teuluoedd. Ac yntau’n rhyfelwr profiadol, gallai Dafydd fod wedi meddwl y byddai’n hawdd iddo wneud cynllun da i achub eu teuluoedd. Yn hytrach, trodd Dafydd at Jehofa am arweiniad. Gyda help offeiriad o’r enw Abiathar, gofynnodd Dafydd i Jehofa: “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” Dywedodd Jehofa y dylai Dafydd wneud hynny a rhoddodd sicrwydd iddo y byddai’n llwyddiannus. (1 Sam. 30:7-10) Beth gelli di ei ddysgu o’r digwyddiad hwn?

Dylai brodyr ifanc ofyn i’r henuriaid am gyngor (Gweler paragraff 11)

11. Beth gelli di ei wneud cyn gwneud penderfyniadau?

11 Gofynna am gyngor cyn iti wneud penderfyniadau. Hola dy rieni. Gelli di hefyd gael cyngor da drwy siarad â henuriaid profiadol. Mae Jehofa yn ymddiried yn y dynion apwyntiedig hyn, a gelli dithau hefyd. Mae Jehofa’n eu hystyried yn “rhoddion” i’r gynulleidfa. (Eff. 4:8) Byddi di’n elwa o efelychu eu ffydd a gwrando ar eu hawgrymiadau doeth. Nawr gad inni ystyried yr hyn gallwn ei ddysgu oddi wrth y Brenin Asa.

DYSGA ODDI WRTH Y BRENIN ASA

12. Pa rinweddau oedd gan y Brenin Asa pan ddechreuodd reoli?

12 Yn ddyn ifanc, roedd y Brenin Asa yn ostyngedig ac yn ddewr. Er enghraifft, pan ddaeth i’r orsedd ar ôl ei dad, Abeia, dechreuodd ymgyrch yn erbyn eilunaddoliaeth. “Dyma fe’n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli’r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a chadw ei ddysgeidiaeth a’i orchmynion.” (2 Cron. 14:1-7) Pan ymosododd Serach yr Ethiopiad ar Jwda gyda 1,000,000 o filwyr, gwnaeth Asa y peth doeth a throi at Jehofa am help, gan ddweud: “Dim ond ti sy’n gallu helpu’r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni’n dibynnu arnat ti.” Mae’r geiriau hyfryd hyn yn dangos bod gan Asa ffydd gref yng ngallu Jehofa i’w achub ef a’i bobl. Trystiodd Asa ei Dad nefol, a “dyma’r ARGLWYDD yn galluogi’r brenin Asa a byddin Jwda i orchfygu’r fyddin o Cwsh.”—2 Cron. 14:8-12.

13. Beth ddigwyddodd i Asa wedyn, a pham?

13 Mae’n debyg y byddet ti’n cytuno bod wynebu byddin o 1,000,000 o filwyr yn her enfawr, ond roedd yn her a wynebodd Asa yn llwyddiannus. Ond yn anffodus, pan ddaeth sefyllfa lai heriol, wnaeth Asa ddim dibynnu ar Jehofa. Pan gafodd ei fygwth gan y brenin drwg Baasha o Israel, trodd Asa at frenin Syria am help. Am benderfyniad trychinebus oedd hwnnw! Drwy ei broffwyd Hanani, dywedodd Jehofa wrth Asa: “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio’r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria.” O hynny ymlaen, roedd Asa yn rhyfela’n ddi-baid. (2 Cron. 16:7, 9; 1 Bren. 15:32) Beth yw’r wers?

14. Sut gelli di ddibynnu ar Jehofa, ac yn ôl 1 Timotheus 4:12, beth fyddi di os gwnei di hynny?

14 Arhosa’n ostyngedig a pharha i ddibynnu ar Jehofa. Pan gest ti dy fedyddio, gwnest ti ddangos ffydd gref a hyder yn Jehofa. Ac roedd Jehofa’n hapus iawn i dy groesawu di yn rhan o’i deulu. Mae’n allweddol nawr iti ddal ati i ddibynnu ar Jehofa. Efallai ei bod yn ymddangos yn hawdd dibynnu ar Jehofa pan fydd rhaid iti wneud penderfyniadau pwysig iawn, ond beth am adegau eraill? Mae hi’n hynod o bwysig dy fod ti’n trystio Jehofa wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys rhai ynglŷn ag adloniant, gwaith seciwlar, ac amcanion bywyd! Paid â dibynnu ar dy ddoethineb dy hun. Yn hytrach, edrycha am egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol i dy amgylchiadau, ac yna eu rhoi nhw ar waith. (Diar. 3:5, 6) Os gwnei di hynny, byddi di’n gwneud Jehofa’n hapus ac yn ennill parch y rhai yn dy gynulleidfa.—Darllen 1 Timotheus 4:12.

DYSGA ODDI WRTH Y BRENIN JEHOSAFFAT

15. Yn ôl 2 Cronicl 18:1-3; 19:2, pa gamgymeriadau wnaeth y Brenin Jehosaffat?

15 Wrth gwrs, fel pob un ohonon ni, rwyt ti’n amherffaith, ac ar adegau byddi di’n gwneud camgymeriadau. Ond, ddylai hyn ddim dy rwystro di rhag gwneud popeth a fedri di yng ngwasanaeth Jehofa. Ystyria esiampl y Brenin Jehosaffat. Roedd ganddo lawer o rinweddau da. Pan oedd yn ddyn ifanc, “roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw ei orchmynion.” Ar ben hynny, anfonodd swyddogion i deithio drwy ddinasoedd Jwda i ddysgu’r bobl am Jehofa. (2 Cron. 17:4, 7) Ond, er mor ddiffuant oedd ef, gwnaeth Jehosaffat benderfyniadau drwg weithiau. O ganlyniad i un o’r penderfyniadau hynny, cafodd Jehosaffat gyngor cryf gan un o gynrychiolwyr Jehofa. (Darllen 2 Cronicl 18:1-3; 19:2.) Pa wers gelli di ei dysgu o’r hanesyn hwnnw?

Mae brodyr ifanc sy’n weithgar ac yn ddibynadwy yn ennill enw da (Gweler paragraff 16)

16. Beth gelli di ei ddysgu o brofiad Rajeev?

16 Derbynia gyngor a’i roi ar waith. Efallai dy fod ti, fel llawer o ddynion ifanc, yn cael trafferth blaenoriaethu’r pethau pwysicaf yn dy fywyd. Paid â digalonni. Meddylia am brofiad brawd ifanc o’r enw Rajeev. Wrth gyfeirio at ei arddegau, dywedodd: “Ar brydiau, o’n i’n teimlo fy mod i ar goll yn ystod y cyfnod hwnnw. Fel llawer o rai ifanc, oedd gen i fwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a chael hwyl na mynd i’r cyfarfodydd neu ar y weinidogaeth.” Beth helpodd Rajeev? Rhoddodd henuriad caredig gyngor iddo. Esboniodd Rajeev: “Helpodd imi resymu ar yr egwyddor yn 1 Timotheus 4:8.” Gwnaeth Rajeev ymateb yn ostyngedig i’r cyngor hwnnw ac ailystyried beth oedd fwyaf pwysig yn ei fywyd. Dywedodd: “Wnes i benderfynu blaenoriaethu pethau ysbrydol.” Y canlyniad? “Ychydig o flynyddoedd ar ôl derbyn y cyngor hwnnw,” esboniodd Rajeev, “des i’n gymwys i wasanaethu fel gwas gweinidogaethol.”

GWNA DY DAD NEFOL YN FALCH OHONOT TI

17. Sut mae’r rhai hŷn yn teimlo am y dynion ifanc sy’n gwasanaethu Jehofa?

17 Mae’r rhai hŷn yn gwerthfawrogi’n fawr chi ddynion ifanc sy’n gwasanaethu Jehofa ochr yn ochr â nhw. (Seff. 3:9) Maen nhw wrth eu boddau â’ch agwedd selog a’r ffordd frwdfrydig a bywiog rydych chi’n gwneud eich gwaith. Mae ganddyn nhw feddwl uchel ohonoch chi.—1 Ioan 2:14.

18. Yn ôl Diarhebion 27:11, sut mae Jehofa’n teimlo am y dynion ifanc sy’n ei wasanaethu?

18 Frodyr ifanc, peidiwch byth ag anghofio bod Jehofa yn eich caru ac yn eich trystio. Rhagfynegodd am y dyddiau diwethaf y byddai byddin o ddynion ifanc yn barod i wirfoddoli. (Salm 110:1-3) Mae’n gwybod eich bod chi’n ei garu ac eisiau ei wasanaethu i’r gorau o’ch gallu. Felly byddwch yn amyneddgar gydag eraill, ac yn amyneddgar gyda chi’ch hunain. Pan fyddwch chi’n gwneud camgymeriadau, derbyniwch yr hyfforddiant a’r ddisgyblaeth a gewch chi, gan ddeall bod y cyfan yn dod oddi wrth Jehofa. (Heb. 12:6) Gweithiwch yn galed i ofalu am unrhyw aseiniadau rydych chi’n eu cael. Ac yn fwy na dim, ym mhopeth rydych chi’n ei wneud, gwnewch eich Tad nefol yn falch ohonoch chi.—Darllen Diarhebion 27:11.

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”

^ Par. 5 Wrth i frodyr ifanc aeddfedu yn ysbrydol, maen nhw eisiau gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Er mwyn bod yn weision gweinidogaethol, mae’n rhaid iddyn nhw ennill a chadw parch y rhai yn eu cynulleidfa. Pa gamau gall brodyr ifanc eu cymryd?

^ Par. 9 Newidiwyd rhai enwau.