ERTHYGL ASTUDIO 12
Mae Cariad yn Ein Helpu i Oddef Casineb
“Dyma dw i’n ei orchymyn: Carwch eich gilydd. Os ydy’r byd yn eich casáu chi, cofiwch bob amser ei fod wedi fy nghasáu i gyntaf.”—IOAN 15:17, 18.
CÂN 129 Dyfalbarhawn
CIPOLWG *
1. Yn ôl Mathew 24:9, pam na ddylen ni synnu os bydd y byd yn ein casáu?
CREODD Jehofa ni â’r gallu i ddangos cariad a’r dymuniad i eraill ein caru ni. Felly pan fydd rhywun yn ein casáu ni, mae hynny’n brifo, ac efallai bydd yn codi ofn arnon ni. Er enghraifft, mae chwaer o’r enw Georgina *, sy’n byw yn Ewrop, yn dweud: “Pan o’n i’n 14, roedd Mam yn fy nghasáu am wasanaethu Jehofa. O’n i’n teimlo mor drist ac yn unig, a wnes i ddechrau amau nad o’n i’n berson da.” Dywedodd brawd o’r enw Danylo: “Pan oedd milwyr yn fy nharo, yn fy sarhau, ac yn fy mygwth am fy mod i’n un o Dystion Jehofa, o’n i’n teimlo fy mod i’n cael fy mychanu ac oedd gen i ofn mawr.” Mae casineb o’r fath yn brifo, ond nid yw’n ein synnu. Rhagfynegodd Iesu y bydden ni’n cael ein casáu.—Darllen Mathew 24:9.
2-3. Pam mae dilynwyr Iesu yn cael eu casáu?
2 Mae’r byd yn casáu dilynwyr Iesu. Pam? Oherwydd, fel Iesu, dydyn ni “ddim yn perthyn i’r byd.” (Ioan 15:17-19) Felly, er ein bod ni’n parchu llywodraethau dynol, rydyn ni’n gwrthod eu haddoli nhw neu unrhyw bethau sy’n eu cynrychioli. Rydyn ni’n addoli Jehofa yn unig. Rydyn ni’n cefnogi hawl Duw i reoli dros ddynolryw—hawl mae Satan a’i “had” yn ei herio’n gryf. (Gen. 3:1-5, 15) Rydyn ni’n pregethu mai Teyrnas Dduw yw unig obaith dynolryw, ac y bydd y Deyrnas honno yn fuan yn dinistrio pawb sy’n ei gwrthwynebu. (Dan. 2:44; Dat. 19:19-21) Mae’r neges honno yn newyddion da i’r addfwyn ond yn newyddion drwg i’r drygionus.—Salm 37:10, 11.
3 Rydyn ni hefyd yn cael ein casáu am ein bod ni’n byw yn Jwd. 7) Am ein bod ni’n dilyn safonau’r Beibl ynglŷn ag arferion felly, mae llawer o bobl yn gwneud hwyl am ein pennau ac yn ein galw ni’n bobl gul.—1 Pedr 4:3, 4.
ôl safonau cyfiawn Duw. Mae’r safonau hyn yn gwbl groes i foesau gwyrdroëdig y byd. Er enghraifft, mae llawer o bobl heddiw yn cymeradwyo’n agored y math o arferion anfoesol a achosodd Duw i ddinistrio Sodom a Gomorra! (4. Pa rinweddau sy’n ein hatgyfnerthu pan fydd pobl yn ein casáu?
4 Beth all ein helpu i ddal ati pan fydd pobl yn ein casáu ni ac yn ein sarhau? Mae’n rhaid inni gael ffydd gref y bydd Jehofa yn ein helpu ni. Fel tarian, mae ein ffydd yn gallu “diffodd saethau tanllyd yr un drwg.” (Eff. 6:16) Ond mae eisiau mwy na ffydd arnon ni. Rydyn ni hefyd angen cariad. Pam? Oherwydd dydy cariad “ddim yn digio.” Mae’n ein hamddiffyn ac yn ein helpu i ddal ati er gwaethaf pethau cas. (1 Cor. 13:4-7, 13) Nawr, gad inni weld sut mae cariad tuag at Jehofa, cariad tuag at ein cyd-gredinwyr, a hyd yn oed cariad tuag at ein gelynion yn ein helpu i oddef casineb.
MAE CARIAD AT JEHOFA YN EIN HELPU I ODDEF CASINEB
5. Sut gwnaeth cariad Iesu tuag at ei Dad ei atgyfnerthu?
5 Ar y noson cyn i’w elynion ei ladd, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr ffyddlon ei fod yn “caru’r Tad ac [felly] yn gwneud yn union beth mae’r Tad yn ei ddweud.” (Ioan 14:31) Cariad Iesu tuag at Jehofa a roddodd y nerth iddo allu wynebu’r treialon mawr oedd o’i flaen. Gall ein cariad ni tuag at Jehofa ein helpu ni yn yr un ffordd.
6. Yn ôl Rhufeiniaid 5:3-5, sut mae gweision Jehofa yn teimlo ynglŷn â goddef casineb y byd?
6 Mae cariad at Dduw wastad wedi helpu gweision Jehofa i oddef erledigaeth. Er enghraifft, pan orchmynnodd goruchaf lys grymus yr Iddewon i’r apostolion stopio pregethu, cariad cryf at Dduw wnaeth eu hysgogi i “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion.” (Act. 5:29; 1 Ioan 5:3) Mae cariad di-sigl o’r fath hefyd yn atgyfnerthu ein brodyr heddiw sy’n gwneud safiad yn erbyn llywodraethau creulon a grymus. Yn hytrach na digalonni, rydyn ni’n ystyried hi’n fraint i oddef casineb y byd.—Act. 5:41; Darllen Rhufeiniaid 5:3-5.
7. Sut dylen ni ymateb pan fydd ein teulu yn ein gwrthwynebu?
7 Un o’r heriau mwyaf gallwn ni ei hwynebu yw gwrthwynebiad oddi wrth ein teulu ein hunain. Pan fyddwn ni’n dechrau dangos diddordeb yn y gwir, efallai bydd rhai aelodau o’n teulu yn meddwl ein bod ni wedi cael ein camarwain. Hwyrach bydd eraill yn meddwl ein bod ni wedi colli arni. (Cymhara Marc 3:21.) Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn ein gwrthwynebu’n ffyrnig. Ddylai’r ymateb negyddol hwn ddim ein synnu. Dywedodd Iesu: “Bydd eich teulu agosaf yn troi’n elynion i chi.” (Math. 10:36) Wrth gwrs, ni waeth pa agwedd sydd gan ein perthnasau tuag aton ni, rydyn ni’n gwrthod eu trin nhw fel gelynion. I’r gwrthwyneb, fel mae ein cariad tuag at Jehofa yn tyfu, felly hefyd mae ein cariad tuag at bobl. (Math. 22:37-39) Ond wnawn ni byth gyfaddawdu ein safonau drwy anwybyddu deddfau ac egwyddorion y Beibl dim ond i blesio bod dynol arall.
8-9. Beth helpodd un chwaer i sefyll yn gadarn er gwaethaf gwrthwynebiad cryf?
8 Llwyddodd Georgina, a ddyfynnwyd ynghynt, i sefyll yn gadarn er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan ei mam. Esboniodd Georgina: “Dechreuodd Mam a minnau astudio’r Beibl gyda’r Tystion. Ond chwe mis wedyn pan o’n i eisiau mynd i’r
cyfarfodydd, newidiodd agwedd fy mam yn llwyr. Wnes i ffeindio allan ei bod hi mewn cyswllt â gwrthgilwyr, ac roedd hi’n ailadrodd eu dadleuon wrth siarad â fi. Byddai hi hefyd yn fy sarhau, yn tynnu fy ngwallt, yn fy nhagu, ac yn cael gwared ar fy llenyddiaeth. Ar ôl imi droi’n 15, ces i fy medyddio. Gwnaeth Mam geisio stopio fi rhag gwasanaethu Jehofa drwy fy rhoi mewn cartref plant gydag eraill yn eu harddegau. Roedd rhai ohonyn nhw’n cymryd cyffuriau ac yn troseddu. Mae gwrthwynebiad yn arbennig o anodd i ddelio ag ef pan mae’n dod oddi wrth rywun sydd i fod i dy garu di, ac sydd i fod i ofalu amdanat ti.”9 Beth helpodd Georgina i ymdopi? Dywedodd: “Y diwrnod trodd Mam yn fy erbyn, o’n i newydd orffen darllen y Beibl cyfan. O’n i bellach yn hollol sicr fy mod i wedi cael hyd i’r gwir, ac o’n i’n teimlo’n agos iawn at Jehofa. O’n i’n gweddïo arno’n aml, ac roedd yn fy nghlywed. Tra o’n i’n byw yn y cartref hwnnw, ges i wahoddiad gan chwaer i’w thŷ, a wnaethon ni astudio’r Beibl gyda’n gilydd. Yn y cyfnod hwnnw, ges i fy atgyfnerthu gan y brodyr a’r chwiorydd. O’n i’n teimlo’n rhan o deulu. Daeth hi’n amlwg imi fod Jehofa yn gryfach na’n gwrthwynebwyr, ni waeth pwy ydyn nhw.”
10. Beth gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa wastad yn ei wneud?
10 Ysgrifennodd yr apostol Paul na all unrhyw beth ein “gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu.” (Rhuf. 8:38, 39) Er y byddwn ni efallai yn dioddef am gyfnod, bydd Jehofa wastad wrth ein hochr i’n cysuro a’n cryfhau. Ac fel mae profiad Georgina yn dangos, mae Jehofa hefyd yn ein helpu drwy ein teulu ysbrydol annwyl.
MAE CARIAD AT GYD-GREDINWYR YN EIN HELPU I ODDEF CASINEB
11. Sut byddai’r cariad a ddisgrifiodd Iesu yn Ioan 15:12, 13 yn helpu ei ddisgyblion? Rho esiampl.
11 Ar y noson cyn iddo farw, fe wnaeth Iesu atgoffa ei ddisgyblion i garu ei gilydd. (Darllen Ioan 15:12, 13.) Roedd yn gwybod y byddai cariad hunanaberthol yn eu helpu i aros yn unedig ac i oddef casineb y byd. Ystyria esiampl cynulleidfa Thesalonica. Ers iddi gael ei ffurfio, cafodd ei haelodau eu herlid. Ond eto, gosododd y brodyr a chwiorydd yno esiampl dda o ffyddlondeb a chariad. (1 Thes. 1:3, 6, 7) Gwnaeth Paul eu hannog i ddal ati i ddangos cariad, ac i “wneud hynny fwy a mwy.” (1 Thes. 4:9, 10) Byddai cariad yn eu cymell i gysuro’r digalon ac i gefnogi’r gwan. (1 Thes. 5:14) Gwyddon ni eu bod nhw wedi dilyn cyfarwyddiadau Paul, oherwydd yn ei ail lythyr, a ysgrifennodd tua blwyddyn wedyn, roedd Paul yn gallu dweud wrthyn nhw: “Mae’r cariad sydd gan bob un ohonoch chi at eich gilydd yn tyfu bob dydd.” (2 Thes. 1:3-5) Fe wnaeth eu cariad eu helpu nhw i ddal ati er gwaethaf caledi ac erledigaeth.
12. Yn ystod cyfnod o ryfel, sut gwnaeth brodyr a chwiorydd mewn un wlad ddangos cariad tuag at ei gilydd?
12 Gad inni ystyried profiad Danylo, a soniwyd amdano gynnau, a’i wraig. Pan ledodd rhyfel i’w tref nhw, gwnaethon nhw barhau i fynd i gyfarfodydd, i bregethu’r gorau y gallen nhw, ac i rannu’r ychydig fwyd oedd ganddyn nhw gyda’u brodyr a chwiorydd. Yna, un diwrnod, daeth milwyr arfog at Danylo. “Wnaethon nhw orchymyn imi stopio bod yn Dyst,” meddai Danylo. “Pan wnes i wrthod, dyma nhw’n fy nghuro a smalio fy saethu, gan saethu dros fy mhen. Cyn gadael, gwnaethon nhw fygwth dod yn ôl i dreisio ’ngwraig. Ond gweithredodd ein brodyr yn gyflym a’n rhoi ni ar drên i dref arall. Wna i byth anghofio cariad y brodyr annwyl hynny. A phan gyrhaeddon ni’r dref newydd, rhoddodd y brodyr lleol fwyd inni a helpu fi i gael hyd i swydd a chartref newydd! O ganlyniad, oedden ni’n gallu cynnig lloches i Dystion eraill oedd yn ffoi rhag y rhyfel.” Mae profiadau o’r fath yn profi bod cariad Cristnogol yn gallu’n helpu ni i oddef casineb.
MAE CARIAD AT EIN GELYNION YN EIN HELPU I ODDEF CASINEB
13. Sut mae ysbryd glân yn ein helpu i ddal ati yn ein gwasanaeth i Jehofa hyd yn oed pan fydd pobl yn ein casáu?
13 Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr i garu eu gelynion. (Math. 5:44, 45) Ydy hynny’n hawdd? Ddim o gwbl! Ond mae hi’n bosib gyda help ysbryd glân Duw. Mae ffrwyth ysbryd Duw yn cynnwys cariad yn ogystal ag amynedd, caredigrwydd, addfwynder, a hunanreolaeth. (Gal. 5:22, 23) Mae’r rhinweddau hyn yn ein helpu i oddef casineb. Mae llawer o wrthwynebwyr wedi newid eu hagwedd am fod gŵr, gwraig, plentyn, neu gymydog crediniol wedi dangos y rhinweddau duwiol hynny. Mae llawer o wrthwynebwyr wedi dod yn frodyr a chwiorydd annwyl inni. Felly os wyt ti’n ei chael hi’n anodd caru’r rhai sy’n dy gasáu di dim ond oherwydd dy fod ti’n gwasanaethu Jehofa, gweddïa am ysbryd glân. (Luc 11:13) A bydda’n hollol sicr mai ffordd Duw sydd wastad orau.—Diar. 3:5-7.
14-15. Sut gwnaeth Rhufeiniaid 12:17-21 helpu Yasmeen i ddangos cariad tuag at ei gŵr er gwaethaf ei wrthwynebiad cryf?
14 Ystyria esiampl Yasmeen, sy’n byw yn y Dwyrain Canol. Pan ddaeth hi’n un o Dystion Jehofa, roedd ei gŵr yn meddwl ei bod hi wedi cael ei thwyllo, a cheisiodd ei stopio hi rhag gwasanaethu Duw. Roedd yn ei sarhau hi ac yn annog perthnasau yn ogystal â chlerigwr a dewin i’w bygwth a’i chyhuddo o chwalu ei theulu. Wnaeth ei gŵr hyd yn oed weiddi bob math o bethau ar y brodyr yn ystod cyfarfod y gynulleidfa! Byddai Yasmeen yn crio’n aml am ei bod hi’n cael ei thrin mor gas.
15 Yn y gynulleidfa, gwnaeth teulu ysbrydol Yasmeen ei chysuro a’i chryfhau. Fe wnaeth yr henuriaid ei hannog i roi y geiriau yn Rhufeiniaid 12:17-21 ar waith. (Darllen.) “Roedd hi’n anodd,” meddai Yasmeen. “Ond wnes i ofyn i Jehofa fy helpu i, a wnes i fy ngorau i roi’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud ar waith. Felly, pan luchiodd fy ngŵr bridd i’r gegin yn sbeitlyd, wnes i lanhau’r llanast. Pan oedd o’n siarad yn gas, byddwn i’n ei ateb yn addfwyn. A phan oedd o’n sâl, byddwn i’n gofalu amdano.”
16-17. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Yasmeen?
16 Cafodd Yasmeen ei gwobrwyo am ddangos cariad tuag at ei gŵr. Dywedodd: “Wnaeth fy ngŵr ddechrau trystio fi yn fwy am ei fod yn gwybod y byddwn i wastad yn dweud y gwir. Dechreuodd wrando arna i yn barchus pan fydden ni’n siarad am grefydd, a chytunodd i gadw heddwch yn y cartref. Bellach mae’n dweud wrtho i i fwynhau cyfarfodydd y gynulleidfa. Mae ein bywyd teuluol wedi gwella’n arw, ac mae ’na wir heddwch rhyngon ni. Fy ngobaith yw y bydd fy ngŵr yn agor ei galon i’r gwir ac yn ymuno â mi yng ngwasanaeth Jehofa.”
17 Mae esiampl Yasmeen yn dangos fod cariad “bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn . . . gobeithio; bob amser yn dal ati.” (1 Cor. 13:4, 7) Gall casineb fod yn bwerus ac yn boenus, ond mae cariad yn gryfach o lawer. Mae’n ennill calonnau. Ac mae’n llawenhau calon Jehofa. Ond, hyd yn oed os bydd gwrthwynebwyr yn parhau i’n casáu ni, gallwn ni dal fod yn hapus. Sut felly?
YN HAPUS PAN GAWN EIN CASÁU
18. Pam gallwn ni fod yn hapus pan gawn ein casáu?
18 Dywedodd Iesu: “Dych chi wedi’ch bendithio’n fawr [yn hapus] pan fydd pobl yn eich casáu.” (Luc 6:22) Dydyn ni ddim yn dewis cael ein casáu. Dydyn ni ddim yn ceisio bod yn ferthyron chwaith. Felly, pam gallwn ni fod yn hapus pan gawn ein casáu? Ystyria dri rheswm. Yn gyntaf, pan fyddwn ni’n dal ati, byddwn ni’n plesio Duw. (1 Pedr 4:13, 14) Yn ail, mae ein ffydd yn dyfnhau ac yn mynd yn gryfach. (1 Pedr 1:7) Ac yn drydydd, byddwn ni’n cael gwobr amhrisiadwy—bywyd tragwyddol.—Rhuf. 2:6, 7.
19. Pam roedd yr apostolion yn hapus ar ôl cael eu curo?
19 Yn fuan ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, profodd yr apostolion yr hapusrwydd yr oedd wedi sôn amdano. Ar ôl cael eu curo a’u gorchymyn i stopio pregethu, gwnaethon nhw lawenhau. Pam? Oherwydd “roedden nhw’n ei chyfri hi’n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.” (Act. 5:40-42) Roedden nhw’n caru eu Meistr yn fwy nag oedden nhw’n ofni casineb eu gelynion. A gwnaethon nhw ddangos eu cariad drwy ddal ati i bregethu’r newyddion da yn ddi-baid. Mae llawer o’n brodyr heddiw yn dal ati i wasanaethu’n ffyddlon er gwaethaf anawsterau. Maen nhw’n gwybod na fydd Jehofa yn anghofio eu gwaith na’u cariad tuag at ei enw.—Heb. 6:10.
20. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?
20 Bydd y byd yn ein casáu ni cyn hired ag y bydd y system hon yn para. (Ioan 15:19) Ond does dim angen inni ofni. Fel cawn weld yn yr erthygl nesaf, bydd Jehofa yn “rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi’n ddiogel.” (2 Thes. 3:3) Felly gad inni garu Jehofa, caru ein brodyr a chwiorydd, a charu hyd yn oed ein gelynion. Pan fyddwn ni’n dilyn y cyngor hwn, byddwn ni’n aros yn unedig ac yn ysbrydol gryf, byddwn ni’n anrhydeddu Jehofa, a byddwn ni’n profi bod cariad yn llawer cryfach na chasineb.
CÂN 106 Meithrin Rhinwedd Cariad
^ Par. 5 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut gall cariad tuag at Jehofa, cariad tuag at ein cyd-gredinwyr, a hyd yn oed cariad tuag at ein gelynion ein helpu i ddal ati i wasanaethu Jehofa er gwaethaf casineb y byd. Byddwn ni hefyd yn gweld pam ddywedodd Iesu y gallwn fod yn hapus pan fydd pobl yn ein casáu.
^ Par. 1 Newidiwyd yr enwau.
^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl i filwyr fygwth Danylo, helpodd y brodyr ef a’i wraig i symud i dref arall, lle cawson nhw groeso cynnes.
^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd gŵr Yasmeen yn ei gwrthwynebu, ond rhoddodd yr henuriaid gyngor da iddi. Buodd hi’n wraig dda iddo a gofalodd amdano pan oedd yn sâl.