Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 11

Sut i Gael Nerth o’r Ysgrythurau

Sut i Gael Nerth o’r Ysgrythurau

“Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad.”—RHUF. 15:5, BCND.

CÂN 94 Gwerthfawrogi Gair Duw

CIPOLWG *

1. Pa heriau gwahanol efallai bydd pobl Jehofa yn eu hwynebu?

A WYT ti’n wynebu treial anodd? Efallai bod rhywun yn y gynulleidfa wedi dy frifo di. (Iago 3:2) Neu efallai bod un o dy gyd-weithwyr neu un o dy gyfoedion yn gwneud hwyl am dy ben am wasanaethu Jehofa. (1 Pedr 4:3, 4) Neu hwyrach bod aelodau’r teulu yn ceisio dy rwystro rhag mynd i’r cyfarfodydd neu rhag siarad ag eraill am dy ffydd. (Math. 10:35, 36) Os bydd treial yn arbennig o boenus, gelli di deimlo fel rhoi’r ffidil yn y to. Ond gelli di fod yn sicr, ni waeth pa her rwyt ti’n ei hwynebu, bydd Jehofa yn rhoi iti’r doethineb i ddelio â hi a’r nerth i ddyfalbarhau.

2. Yn ôl Rhufeiniaid 15:4, pa effaith gall darllen Gair Duw ei chael arnon ni?

2 Yn ei Air, gwnaeth Jehofa gynnwys disgrifiadau manwl o sut deliodd unigolion amherffaith â threialon anodd. Pam? Er mwyn inni allu dysgu oddi wrthyn nhw. Defnyddiodd Jehofa’r apostol Paul i ysgrifennu hynny yn Rhufeiniaid 15:4. (Darllen.) Gall darllen yr hanesion hyn ddod â rhywfaint o gysur a gobaith inni. Ond, er mwyn elwa, mae’n rhaid inni wneud mwy na darllen y Beibl yn unig. Mae’n rhaid inni ganiatáu i’r Ysgrythurau addasu ein ffordd o feddwl a chyffwrdd â’n calonnau. Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n edrych am gyngor ar sut i ddelio â her benodol? Gallwn ddefnyddio’r pedwar cam canlynol: (1Gweddïo, (2Dychmygu, (3Myfyrio, a (4Rhoi ar waith. Gad inni drafod beth sydd ynghlwm wrth bob un o’r camau hynny. * Yna byddwn ni’n defnyddio’r dull hwn o astudio i ddysgu o’r pethau a ddigwyddodd i’r Brenin Dafydd a’r apostol Paul.

1. GWEDDÏO

Cyn iti ddechrau darllen y Beibl, gofynna i Jehofa dy helpu di i weld beth gelli di ei ddysgu (Gweler paragraff 3)

3. Cyn iti ddechrau darllen y Beibl, beth dylet ti ei wneud, a pham?

3 (1Gweddïo. Cyn iti ddechrau darllen y Beibl, gofynna i Jehofa am help i weld sut gelli di elwa ar yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen. Er enghraifft, os wyt ti’n edrych am gyngor ar sut i ddelio â phroblem, gofynna i Jehofa dy helpu di i gael hyd i egwyddorion yn ei Air a all lywio dy benderfyniad.—Phil. 4:6, 7; Iago 1:5.

2. DYCHMYGU

Rho dy hun yn esgidiau prif gymeriad yr hanesyn (Gweler paragraff 4)

4. Beth all dy helpu i ddod â hanesyn o’r Beibl yn fyw?

4 (2Dychmygu. Mae Jehofa wedi rhoi inni’r gallu anhygoel i ddychmygu pethau. Er mwyn dod â hanesion y Beibl yn fyw, ceisia ddychmygu’r olygfa a rhoi dy hun yn esgidiau’r prif gymeriad. Ceisia weld y pethau a welodd ef neu hi, a meddwl sut roedden nhw’n teimlo.

3. MYFYRIO

Meddylia’n ofalus am yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen ac am sut mae’r wybodaeth yn berthnasol i ti (Gweler paragraff 5)

5. Beth ydy myfyrio, a sut gelli di wneud hynny?

5 (3Myfyrio. Mae myfyrio yn golygu meddwl yn ofalus am beth rwyt ti’n ei ddarllen a sut mae’r wybodaeth yn berthnasol i ti. Mae’n dy helpu di i gysylltu syniadau a deall y pwnc yn well. Mae darllen y Beibl heb fyfyrio arno yn debyg i edrych ar ddarnau o jig-so ar fwrdd heb eu rhoi at ei gilydd. Mae myfyrio fel rhoi’r darnau hynny at ei gilydd er mwyn gweld y darlun cyfan. I dy helpu di i fyfyrio, gallet ti ofyn ac ateb cwestiynau fel: ‘Beth wnaeth y prif gymeriad yn yr hanesyn hwn i ddatrys ei broblem? Sut gwnaeth Jehofa ei helpu? Sut galla i ddefnyddio’r hyn dw i wedi ei ddysgu i fy helpu i ymdopi â threialon?’

4. RHOI AR WAITH

Defnyddia beth rwyt ti’n ei ddysgu i wneud penderfyniadau gwell, i gael mwy o heddwch, ac i gryfhau dy ffydd (Gweler paragraff 6)

6. Pam mae’n rhaid inni roi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith?

6 (4Rhoi ar waith. Dywedodd Iesu, os na fyddwn ni’n rhoi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith, byddwn ni fel dyn sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod. Mae’n gweithio’n galed, ond mae ei holl waith yn ofer. Pam? Oherwydd pan fydd storm a llifogydd yn taro ei dŷ, bydd yn dymchwel. (Math. 7:24-27) Mewn ffordd debyg, bydd ein holl ymdrech i weddïo, dychmygu, a myfyrio yn ofer os nad ydyn ni’n rhoi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith. Pan fydd ein ffydd yn cael ei phrofi gan dreialon neu erledigaeth, fydd hi ddim yn ddigon cryf. Ar y llaw arall, pan fyddwn ni’n astudio ac yn rhoi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith, byddwn ni’n gwneud penderfyniadau gwell, yn cael mwy o heddwch, ac yn cryfhau ein ffydd. (Esei. 48:17, 18) Gan ddefnyddio’r pedwar cam rydyn ni newydd eu trafod, gad inni weld beth gallwn ni ei ddysgu o rywbeth a ddigwyddodd ym mywyd y Brenin Dafydd.

BETH GELLI DI EI DDYSGU ODDI WRTH Y BRENIN DAFYDD?

7. Pa hanesyn o’r Beibl byddwn ni’n ei ystyried nawr?

7 A oes ffrind neu aelod o dy deulu wedi dy frifo di? Os felly, byddi di’n elwa o adolygu hanes Absalom, mab y Brenin Dafydd, a wnaeth fradychu ei Dad a cheisio cipio’r deyrnas oddi wrtho.—2 Sam. 15:5-14, 31; 18:6-14.

8. Beth gallet ti ei wneud i gael help Jehofa?

8 (1Gweddïa. Gan gadw’r hanesyn mewn cof, dyweda wrth Jehofa sut rwyt ti’n teimlo am y ffordd rwyt ti wedi cael dy drin. (Salm 6:6-9) Bydda’n benodol. Yna gofynna i Jehofa dy helpu di i weld egwyddorion a all dy helpu di wrth iti geisio ymdopi â’r her anodd hon.

9. Sut byddet ti’n crynhoi’r hyn a ddigwyddodd rhwng Dafydd ac Absalom?

9 (2Dychmyga. Meddylia am beth ddigwyddodd yn yr hanesyn hwn, a dychmyga pa effaith gafodd hyn ar y Brenin Dafydd. Roedd mab Dafydd, Absalom, wedi gweithio am flynyddoedd i wneud i’r bobl ei garu. (2 Sam. 15:7) Pan deimlodd Absalom fod yr amser yn iawn, anfonodd ysbïwyr ar draws Israel i baratoi’r bobl i’w dderbyn fel eu brenin. Fe wnaeth ef hyd yn oed berswadio Achitoffel, cynghorwr ac un o ffrindiau agos Dafydd, i ymuno â’r gwrthryfel. Cyhoeddodd Absalom ei hun yn frenin, ac yna ceisio cipio Dafydd a’i ladd, er efallai roedd Dafydd yn ddifrifol wael ar y pryd. (Salm 41:1-9) Clywodd Dafydd am y cynllwyn a dianc o Jerwsalem. Yn y pen draw, brwydrodd byddin Absalom yn erbyn byddin Dafydd. Cafodd y gwrthryfelwyr eu trechu, ac fe gafodd Absalom, mab Dafydd, ei ladd.

10. Sut gallai’r Brenin Dafydd fod wedi ymateb?

10 Nesaf, dychmyga sut roedd Dafydd yn teimlo wrth i hyn i gyd ddigwydd iddo. Roedd yn caru Absalom ac yn trystio Achitoffel. Ond eto, gwnaeth y ddau ei fradychu. Gwnaethon nhw ei frifo’n ofnadwy a hyd yn oed ceisio ei ladd. Gallai Dafydd fod wedi colli ffydd yn ei ffrindiau eraill, gan amau eu bod nhwthau hefyd wedi ymuno ag Absalom. Gallai fod wedi meddwl amdano’i hun yn unig, ac eisiau dianc o’r wlad ar ei ben ei hun. Neu, gallai fod wedi digalonni’n llwyr. Ond, ni wnaeth Dafydd yr un o’r pethau hynny. Yn hytrach, llwyddodd i drechu’r treial anodd hwn. Sut?

11. Sut gwnaeth Dafydd ymateb i’r sefyllfa anodd hon?

11 (3Myfyria. Pa egwyddorion gelli di eu dysgu o’r hanes? Ateba’r cwestiwn, “Beth wnaeth Dafydd i ddatrys ei broblem?” Aeth Dafydd ddim i banics a gwneud penderfyniadau byrbwyll, annoeth. Wnaeth ef ddim chwaith adael i bryder ei barlysu. Yn hytrach, gweddïodd ar Jehofa am help. Hefyd, gofynnodd i’w ffrindiau am help. A gweithredodd yn gyflym ar ei benderfyniadau. Er ei fod wedi ei frifo’n ofnadwy, aeth Dafydd ddim yn sinigaidd nac yn chwerw. Daliodd ati i drystio Jehofa a’i ffrindiau.

12. Beth wnaeth Jehofa i helpu Dafydd?

12 Sut gwnaeth Jehofa helpu Dafydd? Drwy wneud ychydig o ymchwil, byddi di’n dysgu bod Jehofa wedi rhoi’r nerth roedd Dafydd ei angen. (Salm 3:1-8; uwchysgrif) Bendithiodd Jehofa benderfyniadau Dafydd. Ac fe gefnogodd ffrindiau ffyddlon Dafydd wrth iddyn nhw frwydro i amddiffyn eu brenin.

13. Sut gelli di efelychu Dafydd os bydd rhywun yn dy frifo’n ofnadwy? (Mathew 18:15-17)

13 (4Rho ar waith. Gofynna i ti dy hun, ‘Sut galla i efelychu Dafydd?’ Gweithreda ar unwaith i ddatrys y broblem. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallet ti roi cyngor Iesu yn Mathew pennod 18 ar waith, un ai’n uniongyrchol neu o ran egwyddor. (Darllen Mathew 18:15-17.) Ond ddylet ti ddim gwneud penderfyniadau byrbwyll ar sail dy deimladau. Dylet ti weddïo ar Jehofa i dawelu dy galon ac i roi’r doethineb rwyt ti angen i ddelio â’r sefyllfa. Paid â cholli ffydd yn dy ffrindiau. Yn hytrach, bydda’n fodlon i dderbyn eu help. (Diar. 17:17) Yn bwysicaf oll, dilyna’r cyngor mae Jehofa yn ei roi iti yn ei Air.—Diar. 3:5, 6.

BETH GELLI DI EI DDYSGU ODDI WRTH PAUL?

14. Ym mha sefyllfaoedd gallai 2 Timotheus 1:12-16 a 4:6-11, 17-22 dy galonogi di?

14 Wyt ti’n delio â gwrthwynebiad gan aelodau o dy deulu? Neu wyt ti’n byw mewn gwlad lle mae gwaith pobl Jehofa wedi ei gyfyngu neu hyd yn oed ei wahardd? Os felly, efallai cei di dy galonogi drwy ddarllen 2 Timotheus 1:12-16 a 4:6-11, 17-22. * Ysgrifennodd Paul yr adnodau hyn tra oedd yn y carchar.

15. Beth gallet ti ofyn i Jehofa amdano?

15 (1Gweddïa. Cyn darllen yr adnodau hynny, sôn wrth Jehofa am dy broblem a sut rwyt ti’n teimlo amdani. Bydda’n benodol. Yna gofynna i Jehofa dy helpu di i ddeall egwyddorion yn yr hanes am dreialon Paul a fydd yn dy helpu di i wybod sut dylet ti ymateb i’r her rwyt ti’n ei hwynebu.

16. Sut byddet ti’n crynhoi sefyllfa Paul?

16 (2Dychmyga. Dychmyga dy hun yn esgidiau Paul. Mae ef mewn cadwyni yn y carchar yn Rhufain. Mae wedi bod yn y carchar o’r blaen, ond y tro hwn, mae’n sicr y bydd yn cael ei ladd. Mae rhai o’i ffrindiau wedi cefnu arno, ac mae wedi blino’n lân.—2 Tim. 1:15.

17. Sut gallai Paul fod wedi ymateb?

17 Gallai Paul fod wedi canolbwyntio ar y gorffennol, gan feddwl, ‘Petaswn i wedi gwneud pethau’n wahanol, efallai na fyddwn i wedi cael fy arestio.’ Gallai fod wedi digio yn erbyn y dynion yn nhalaith Asia a oedd wedi cefnu arno, ac efallai stopio ymddiried yn ei ffrindiau eraill. Ond, ni wnaeth Paul yr un o’r pethau hynny. Sut roedd ef yn gallu cadw ei hyder a’i obaith?

18. Sut gwnaeth Paul ymateb i’w dreialon?

18 (3Myfyria. Ateba’r cwestiwn, “Beth wnaeth Paul i ddatrys ei broblem?” Hyd yn oed pan oedd Paul yn gwybod ei fod am farw’n fuan, wnaeth ef ddim colli golwg ar ba mor bwysig ydy dod â chlod i Jehofa. A pharhaodd i feddwl am sut y gallai ef galonogi eraill. Dibynnodd ar Jehofa drwy weddïo’n aml. (2 Tim. 1:3) Yn hytrach na chanolbwyntio’n ormodol ar y rhai a oedd wedi cefnu arno, diolchodd am gefnogaeth gariadus ei ffrindiau ffyddlon a’i helpodd mewn ffyrdd ymarferol. Ar ben hynny, parhaodd Paul i astudio Gair Duw. (2 Tim. 3:16, 17; 4:13) Yn fwy na dim, roedd yn hollol sicr fod Jehofa ac Iesu yn ei garu. Doedden nhw ddim wedi cefnu arno, a bydden nhw’n ei wobrwyo am ei wasanaeth ffyddlon.

19. Sut gwnaeth Jehofa helpu Paul?

19 Roedd Jehofa wedi rhybuddio Paul y byddai’n rhaid iddo ddioddef erledigaeth am ei fod yn Gristion. (Act. 21:11-13) Sut gwnaeth Jehofa helpu Paul? Atebodd ei weddïau, a rhoi nerth iddo dros amser. (2 Tim. 4:17) Cafodd Paul ei sicrhau y byddai’n derbyn y wobr roedd wedi gweithio mor galed amdani. Hefyd, defnyddiodd Jehofa ffrindiau ffyddlon Paul i roi help ymarferol iddo.

20. Gan gofio Rhufeiniaid 8:38, 39, sut gallwn ni efelychu Paul?

20 (4Rho ar waith. Gofynna i ti dy hun, ‘Sut galla i efelychu Paul?’ Fel Paul, dylen ninnau ddisgwyl y byddwn ni’n cael ein herlid oherwydd ein ffydd. (Marc 10:29, 30) I aros yn ffyddlon i Jehofa o dan dreialon, mae’n rhaid inni ddibynnu ar Jehofa mewn gweddi, ac astudio ei Air yn rheolaidd. Ac mae’n rhaid inni wastad gofio mai un o’r pethau pwysicaf gallwn ni ei wneud yw dod â chlod i Jehofa. Gallwn fod yn sicr na fydd Jehofa byth yn cefnu arnon ni, a does dim byd all unrhyw un ei wneud i’n gwahanu oddi wrth ei gariad.—Darllen Rhufeiniaid 8:38, 39; Heb. 13:5, 6.

DYSGA ODDI WRTH GYMERIADAU ERAILL Y BEIBL

21. Beth helpodd Aya a Hector i drechu eu heriau?

21 Beth bynnag yw ein hamgylchiadau, gallwn gael nerth o esiamplau’r Beibl. Er enghraifft, mae Aya, arloeswraig yn Japan, yn dweud bod hanes Jona wedi ei helpu hi i drechu ei hofn o dystiolaethu’n gyhoeddus. Mae Hector, dyn ifanc yn Indonesia, yn cael ei gymell gan esiampl Ruth i ddysgu am Jehofa a’i wasanaethu, er nad ydy ei rieni yn gwasanaethu Jehofa.

22. Sut gelli di elwa’n llawn o ddramâu Beiblaidd neu o’r gyfres “Efelychu Eu Ffydd”?

22 Lle gelli di gael hyd i esiamplau Beiblaidd a fydd yn dy gryfhau di? Mae ein fideos, ein darlleniadau dramatig o’r Beibl, a’r gyfres “Efelychu Eu Ffydd” yn helpu i ddod â hanesion y Beibl yn fyw. * Cyn iti wylio, darllen, neu wrando ar yr hanesion hyn sydd wedi eu hymwchilio’n drylwyr, gofynna i Jehofa dy helpu i ffeindio pwyntiau penodol y gelli di eu rhoi ar waith. Dychmyga dy hun yn esgidiau’r prif gymeriad. Myfyria ar beth wnaeth gweision ffyddlon Jehofa, a sut gwnaeth ef eu helpu i drechu eu problemau. Yna, rho’r gwersi sy’n berthnasol i dy sefyllfa di ar waith. Diolcha i Jehofa am yr help y mae eisoes yn ei roi iti. A dangosa dy fod ti’n gwerthfawrogi’r help hwnnw drwy edrych am gyfleoedd i annog a chefnogi eraill.

23. Yn ôl Eseia 41:10, 13, beth mae Jehofa’n addo ei wneud ar ein cyfer?

23 Gall bywyd mewn byd sydd o dan reolaeth Satan fod yn anodd, a gall hyd yn oed ein llethu ar brydiau. (2 Tim. 3:1) Ond does dim angen inni bryderu nac ofni. Mae Jehofa’n gwybod beth rydyn ni’n ei wynebu. Pan fyddwn ni’n syrthio, mae’n addo dal gafael ynon ni gyda’i law dde. (Darllen Eseia 41:10, 13.) Gan fod yn hollol sicr o gefnogaeth Jehofa, gallwn ni gael nerth o’r Ysgrythurau a threchu unrhyw her.

CÂN 96 Llyfr Duw—Trysor Yw

^ Par. 5 Mae llawer o hanesion yn y Beibl yn profi bod Jehofa yn caru ei weision ac y bydd yn eu helpu trwy unrhyw dreial. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gelli di wneud astudiaeth bersonol o’r Beibl a fydd yn dy helpu i elwa o’r hanesion hynny.

^ Par. 2 Dim ond un dull ar gyfer astudio sy’n cael ei awgrymu yma. Fe gei di hyd i awgrymiadau eraill ar gyfer astudio’r Beibl wrth edrych yn Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa o dan y pwnc “Y Beibl” a’r isbennawd “Darllen a Deall y Beibl.

^ Par. 14 Paid â darllen yr adnodau hyn yn ystod astudiaeth y gynulleidfa o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 22 Gweler “Efelychu Eu Ffydd—Dynion a Merched yn y Beibl” ar jw.org. (Dos i DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > FFYDD YN NUW.)