ERTHYGL ASTUDIO 13
Bydd Gwir Addoliad yn Dy Wneud Di’n Hapusach
“Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth.”—DAT. 4:11.
CÂN 31 Cerdda Gyda Duw!
CIPOLWG *
1-2. Beth sy’n gwneud ein haddoliad i Jehofa yn dderbyniol?
BETH sy’n dod i dy feddwl o glywed y gair “addoli”? Efallai rhywun ar ei liniau yn tywallt ei galon mewn gweddi. Neu efallai teulu hapus wedi ymgolli mewn prosiect fel rhan o’u haddoliad teuluol.
2 Mae’r bobl yn y ddwy enghraifft yn addoli Jehofa. Ond beth sy’n gwneud eu haddoliad yn dderbyniol? Maen nhw’n gwneud beth mae Jehofa yn ei ofyn, a hynny gyda chariad a pharch. Onid ydyn ni i gyd eisiau i’n haddoliad i Jehofa fod o’r safon orau am ein bod ni’n ei garu gymaint? Wedi’r cwbl, dyna’n union mae’n ei haeddu.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod y math o addoliad roedd Jehofa yn ei derbyn yn adeg y Beibl, ac wyth ffordd mae ef eisiau inni ei addoli heddiw. Wrth wneud hynny, meddylia am sut gelli di wella safon dy addoliad. Byddwn ni hefyd yn gweld pam mae gwir addoliad yn ein gwneud ni’n hapus.
ADDOLIAD ROEDD JEHOFA YN EI DDERBYN YN ADEG Y BEIBL
4. Yn nyddiau cynnar y Beibl, sut roedd y rhai oedd yn addoli Jehofa yn dangos eu cariad a’u parch tuag ato?
4 Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union sut fath o addoliad oedd yn plesio Jehofa yn y dyddiau cynnar. Ond meddylia am Abel, Noa, Abraham, a Job. Gwnaethon nhw ddangos eu cariad a’u parch at Jehofa drwy ufuddhau iddo, dangos ffydd ynddo, a gwneud aberthau. Roedden nhw’n gwneud eu gorau, ac roedd hynny’n dderbyniol i Jehofa. Ond erbyn adeg yr Israeliaid, roedd Jehofa wedi rhoi Cyfraith Moses iddyn nhw a oedd yn dweud yn union sut roedd ef eisiau iddyn nhw ei addoli.
5. Sut gwnaeth gwir addoliad newid ar ôl i Iesu farw a chael ei atgyfodi?
5 Ar ôl i Iesu farw a chael ei atgyfodi, gwnaeth ‘cyfraith y Meseia’ ddisodli Cyfraith Moses. (Gal. 6:2, Rhuf. 10:4, BCND) Efelychu esiampl Iesu a dilyn ei ddysgeidiaethau oedd sail y gyfraith hon, yn hytrach na rhestr hir o reolau i’w cofio. Mae efelychu Crist yn plesio Jehofa heddiw hefyd, ac yn ein gwneud ni’n hapus ac yn fodlon.—Math. 11:29.
6. Sut gallwn ni elwa o’r erthygl hon?
6 Rydyn ni i gyd eisiau teimlo’n dda am ein haddoliad, ond mae’n bwysig inni hefyd ystyried sut gallwn ni wella. Felly, wrth inni fynd ymlaen i drafod gwahanol ffyrdd rydyn ni’n addoli Jehofa, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n gwneud yn well nag oeddwn i yn hyn o beth?’ ac, ‘A alla i godi safon fy addoliad?’ Gweddïa ar Jehofa i dy helpu di i fod yn onest gyda ti dy hun wrth ateb y cwestiynau hyn, ac i weld sut gelli di wella.
SUT RYDYN NI’N ADDOLI JEHOFA?
7. Sut mae Jehofa yn teimlo am ein gweddïau?
7 Rydyn ni’n gweddïo ar Jehofa. Mae ef wrth ei fodd pan ydyn ni’n siarad yn gwbl agored ag ef ac yn sôn am ein pryderon, ein gobeithion, a’n dymuniadau. Mae ein gweddïau yn werthfawr iddo, yn enwedig pan ydyn ni’n diolch iddo ac yn dweud wrtho gymaint rydyn ni’n ei garu. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Mae’r Beibl yn cymharu ein gweddïau ag arogldarth oedd yn arogli’n hyfryd i Jehofa. (Salm 141:2) Roedd yr arogldarth yn cael ei baratoi’n ofalus, ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i’n gweddïau fod yn gymhleth. Maen nhw’n plesio Jehofa hyd yn oed os ydyn ni’n defnyddio geiriau syml. (Diar. 15:8; Deut. 33:10) Felly, er mwyn creu’r “arogldarth” gorau posib, beth am feddwl yn ofalus am beth rwyt ti am ei ddweud cyn iti weddïo?
8. Pa gyfle sydd gynnon ni i foli Duw?
8 Rydyn ni’n moli Jehofa. (Salm 34:1) Ddown ni byth i ben os ydyn ni’n rhestru’r holl bethau mae Jehofa wedi eu gwneud droston ni, ac mae jest meddwl am hynny yn ein gwneud ni mor ddiolchgar, allwn ni ddim peidio â’i foli. Un ffordd gallwn ni wneud hynny ydy drwy ddweud wrth eraill am rinweddau hyfryd Jehofa a’r holl bethau mae ef wedi eu gwneud. Mae’r weinidogaeth yn rhoi cyfle inni “foli Duw drwy’r adeg.” (Heb. 13:15) Ond rydyn ni eisiau gwneud hynny mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. Felly, yn union fel rydyn ni’n meddwl am beth rydyn ni’n mynd i ddweud cyn gweddïo, dylen ni feddwl yn ofalus am beth rydyn ni’n mynd i ddweud cyn mynd ar y weinidogaeth. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n gallu siarad o’r galon a chodi safon ein gweinidogaeth.
9. Fel yr Israeliaid gynt, sut rydyn ni’n elwa o gyfarfod gyda’n gilydd? Rho enghraifft bersonol.
9 Rydyn ni’n mynd i’r cyfarfodydd. Roedd yr Israeliaid yn gwneud rhywbeth tebyg. Roedden nhw’n dilyn y gorchymyn yn Deuteronomium 16:16: “Dair gwaith bob blwyddyn, mae’r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis.” Mae’n debyg roedd rhai yn poeni na fyddai neb ar ôl i warchod y tai a’r caeau. Ond roedd Jehofa wedi addo: “Os byddi di’n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw . . . , fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.” (Ex. 34:24) Felly, roedd rhaid iddyn nhw drystio Jehofa. Ond meddylia am sut gwnaethon nhw elwa. Gwnaethon nhw ddysgu mwy am gyfraith Duw, cael cyfle i fyfyrio ar ei daioni, a mwynhau cwmni eraill oedd yn caru Jehofa hefyd. (Deut. 16:15) Rydyn ninnau ar ein hennill pan rydyn ni’n mynd i’r cyfarfodydd er gwaethaf ein pryderon. Ac mae bod yn barod i roi ateb cryno o’r galon yn ychwanegu at ein haddoliad ac yn plesio Jehofa’n fawr.
10. Pam mae canu yn rhan bwysig o’n haddoliad?
10 Rydyn ni’n canu gyda’n gilydd. (Salm 28:7) Gwnaeth y Brenin Dafydd aseinio 288 o Lefiaid i fod yn gantorion yn y deml. (1 Cron. 25:1, 6-8) Felly yn amlwg, roedd canu yn bwysig i’r Israeliaid ac yn rhan fawr o’u haddoliad. Yn yr un modd heddiw, pan ydyn ni’n canu’n llawen i Jehofa, rydyn ni’n dangos ein cariad ato. Mae’n ddigon naturiol inni boeni ein bod ni ddim yn gallu canu’n dda. Ond nid dyna’r peth pwysicaf. Meddylia am hyn: Does neb yn gallu “rheoli ei dafod” yn berffaith, ond dydy hynny ddim yn ein stopio ni rhag siarad yn y gynulleidfa ac ar y weinidogaeth. (Iago 3:2) Felly ddylen ni ddim chwaith adael i bryderon am safon ein llais canu ein stopio ni rhag canu mawl i Jehofa.
11. Yn ôl Salm 48:13, pam dylen ni neilltuo amser i astudio’r Beibl fel teulu?
11 Rydyn ni’n astudio Gair Duw ac yn dysgu ein plant am Jehofa. Yn adeg yr Israeliaid, roedd y Saboth yn gyfle i ganolbwyntio ar bethau ysbrydol. (Ex. 31:16, 17) Roedd y rhai ffyddlon yn neilltuo’r amser hwnnw i gryfhau eu perthynas â Jehofa ac i ddysgu eu plant amdano. Beth amdanon ni heddiw? Dylai pob un ohonon ni neilltuo amser i ddarllen ac astudio Gair Duw. Mae’n rhan o’n haddoliad, ac yn cryfhau ein perthynas â Jehofa. (Salm 73:28) A phan fyddwn ni’n gwneud hynny fel teulu, byddwn ni’n helpu ein plant i glosio at Jehofa hefyd.—Darllen Salm 48:13.
12. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd roedd Jehofa’n ystyried gwaith y rhai a wnaeth addurno’r tabernacl?
12 Rydyn ni’n adeiladu ac yn cynnal mannau addoli. Roedd Jehofa’n ystyried y gwaith o adeiladu’r tabernacl a’i addurno yn waith sanctaidd. (Ex. 36:1, 4) Ac mae’n teimlo’r un fath heddiw am y gwaith o adeiladu a chynnal adeiladau theocrataidd. Mae hynny’n rhywbeth gall pob un ohonon ni gael rhan ynddo, hyd yn oed os nad oes gynnon ni sgiliau adeiladu. Mae rhai brodyr a chwiorydd yn treulio llawer o amser yn y gwaith pwysig hwn, ond maen nhw’n cydnabod bod y weinidogaeth yn waith pwysicach byth. Mae hynny wedi sbarduno rhai i osod y nod o arloesi. Gall henuriaid eu cefnogi nhw yn hynny o beth drwy beidio â’u dal nhw’n ôl rhag gwneud hynny. A gallwn ni i gyd ddangos cymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi gwaith y brodyr a chwiorydd hynny drwy eu helpu i gadw’r neuaddau’n lân ac mewn cyflwr da.
13. Sut dylen ni ystyried y cyfraniadau rydyn ni’n eu gwneud tuag at waith y Deyrnas?
13 Rydyn ni’n cefnogi gwaith y Deyrnas gyda’n cyfraniadau. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru Jehofa ac yn gwerthfawrogi popeth mae’n ei roi inni drwy ei gyfundrefn. Yn nyddiau’r Israeliaid, roedd disgwyl iddyn nhw fynd i bob gŵyl gyda rhywbeth i’w roi i Jehofa yn ôl beth roedden nhw’n gallu ei fforddio. (Deut. 16:16) Heddiw, gallwn ni roi rhywbeth i Jehofa drwy gyfrannu at ein cynulleidfa, neu at y gwaith byd eang, yn ôl ein hamgylchiadau personol. Ond beth os nad wyt ti’n gallu cyfrannu llawer? Cofia beth ddywedodd yr apostol Paul: “Os dych chi wir eisiau rhoi, rhowch chi beth allwch chi, a bydd hynny’n dderbyniol. Does dim disgwyl i chi roi beth sydd ddim gynnoch chi i’w roi!” (2 Cor. 8:4, 12) Felly, mae Jehofa’n gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau rydyn ni’n eu gwneud, ni waeth pa mor fach.—Marc 12:42-44; 2 Cor. 9:7.
14. Yn ôl Diarhebion 19:17, sut mae Jehofa’n teimlo am yr help rydyn ni’n ei roi i’n brodyr a chwiorydd mewn angen?
14 Rydyn ni’n helpu ein brodyr a chwiorydd mewn angen. Mae Jehofa wrth ei fodd pan mae’n ein gweld ni’n defnyddio ein hamser, egni, sgiliau, a phethau materol i helpu’r rhai mewn angen. Mae’n ystyried hynny yn rhan o’n haddoliad, ac yn anrheg bersonol iddo ef ei hun. (Darllen Diarhebion 19:17; Iago 1:27) Mae hynny’n amlwg o’r ffordd gwnaeth Jehofa addo i’r Israeliaid y byddai’n talu yn ôl i’r rhai oedd yn helpu’r rhai tlawd. (Deut. 15:7, 10) A phan oedd yr apostol Paul mewn angen yn y carchar, cafodd anrheg gan Gristnogion Philipi. Disgrifiodd yr anrheg honno fel “aberth sy’n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.” (Phil. 4:18) Beth am iti edrych o gwmpas dy gynulleidfa i weld a oes ’na rywun gelli di ei helpu?
MAE GWIR ADDOLIAD YN EIN GWNEUD NI’N HAPUS
15. Pam dydy gwir addoliad ddim yn anodd er ei fod yn gofyn am amser ac ymdrech?
15 Dydy gwir addoliad ddim yn anodd er ei fod yn gofyn am amser ac ymdrech. (1 Ioan 5:3) Pam? Oherwydd cariad sy’n ein cymell. Meddylia am blentyn sy’n treulio oriau yn tynnu llun am ei fod eisiau rhoi rhywbeth i’w dad. Ydy ef yn difaru treulio cymaint o amser yn gwneud hynny? Nac ydy. Mae’n caru ei dad, felly mae’n awyddus i roi’r anrheg hwnnw iddo. Mae hi union yr un fath yn ein hachos ni. Rydyn ni’n caru Jehofa, felly rydyn ni’n awyddus i ddefnyddio ein hamser a’n hegni i gael rhan mewn gwir addoliad.
16. Yn ôl Hebreaid 6:10, sut mae Jehofa’n teimlo am ein hymdrechion personol i’w blesio?
16 Mae’n wir fod rhai yn gallu gwneud mwy nag eraill yng ngwasanaeth Jehofa. Mae pethau fel oed, iechyd, a chyfrifoldebau teuluol yn ffactorau mae’n rhaid inni ystyried. Ond mae Jehofa’n deall hynny. Mae Jehofa fel rhiant cariadus sydd ddim yn disgwyl yr un peth gan bob un o’i blant. Oll mae’n ei ofyn ydy ein bod ni’n gwneud ein gorau, a hynny am y rhesymau iawn. Felly, paid â digalonni. (Gal. 6:4) Mae’n gweld ac yn cofio pob ymdrech rwyt ti’n ei gwneud. (Darllen Hebreaid 6:10.) Mae ef hyd yn oed yn gweld bwriadau dy galon. Mae ef eisiau iti fod yn hapus ac yn fodlon yn gwneud beth gelli di yn ei wasanaeth.
17. (a) Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n gweld rhannau o’n haddoliad yn anodd? (b) Pa ran o dy addoliad sydd wedi ychwanegu at dy lawenydd? (Gweler y blwch “ Ychwanega at Dy Lawenydd.”)
17 Beth os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd gwneud un o’r pethau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon, fel astudiaeth bersonol neu bregethu? Wel, mae ein haddoliad yn debyg i ymarfer corff neu chwarae offeryn. Y mwyaf rydyn ni’n ymarfer, y mwyaf o gynnydd byddwn ni’n ei wneud. A’r mwyaf o gynnydd byddwn ni’n ei wneud, y mwyaf byddwn ni’n dod i fwynhau’r gweithgaredd hwnnw ac edrych ymlaen ato. Mae’r canlyniadau gorau yn dod o wneud ychydig bach bob dydd, a fesul tipyn byddwn ni’n gallu gwneud mwy. Mae’r un peth yn wir am ein haddoliad. Byddi di ar dy ennill os byddi di’n gwneud ychydig bach bob dydd.
18. Beth ydy’r peth pwysicaf gallwn ni ei wneud, a gyda pha ganlyniadau?
18 Addoli Jehofa â’n holl galon ydy’r peth pwysicaf gallwn ni ei wneud. Dyna sy’n rhoi pwrpas i’n bywyd. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n bosib inni fyw bywyd hapus nawr, ac yn agor y ffordd inni allu addoli Jehofa am byth. (Diar. 10:22) Mae gwybod bod Jehofa gyda ni yn ein treialon yn rhoi heddwch meddwl inni, hyd yn oed yn y system hon. (Esei. 41:9, 10) Ie, mae gynnon ni resymau di-ben-draw dros fod yn hapus yn gwasanaethu Jehofa. Dyna pam mae’n “deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth” gan ei holl greadigaeth!—Dat. 4:11.
CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa
^ Par. 5 Jehofa sydd wedi creu popeth, felly mae’n haeddu cael ei addoli. Ond er mwyn i Jehofa dderbyn ein haddoliad, mae’n rhaid inni wneud beth mae’n ei ofyn, a byw yn unol â’i egwyddorion. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod wyth ffordd rydyn ni’n ei addoli. Wrth iti ystyried pob un, meddylia sut gelli di wella a sut byddan nhw’n dy wneud di’n hapusach.