Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 10

Gelli Di ‘Roi Heibio’r Hen Fywyd a’i Ffyrdd’

Gelli Di ‘Roi Heibio’r Hen Fywyd a’i Ffyrdd’

“Rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd.”—COL. 3:9.

CÂN 29 Mae Dy Enw Arnom

CIPOLWG *

1. Sut fywyd oedd gen ti cyn dechrau astudio’r Beibl?

 MAE’N debyg dydy llawer ohonon ni ddim yn hoffi meddwl am ein bywyd cyn inni ddechrau astudio’r Beibl. Roedden ni “heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw.” (Eff. 2:12) Felly, roedd safonau’r byd o dda a drwg yn dylanwadu’n gryf arnon ni. Ond newidiodd hynny’n llwyr pan wnaethon ni ddechrau astudio’r Beibl.

2. Beth gwnest ti ei ddarganfod wrth iti astudio’r Beibl?

2 Wrth iti astudio’r Beibl, gwnest ti ddarganfod bod gen ti Dad nefol sy’n dy garu di’n fawr iawn. Gwnest ti sylweddoli, os oeddet ti eisiau plesio Jehofa a bod yn rhan o’i deulu, byddai’n rhaid iti fyw yn unol â’i safonau uchel. (Eff. 5:3-5) Ond er mwyn gwneud hynny, byddai’n rhaid iti wneud newidiadau mawr yn dy ffordd o feddwl a dy ffordd o fyw.

3. Yn ôl Colosiaid 3:9, 10, beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Jehofa ydy ein Tad nefol, ac ef wnaeth ein creu ni, felly mae ganddo’r hawl i benderfynu sut dylai aelodau ei deulu ymddwyn. Felly beth mae’n ei ofyn gynnon ni? Ein bod ni’n trio ein gorau glas i ‘roi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd’ cyn inni gael ein bedyddio. * (Darllen Colosiaid 3:9, 10.) Bydd yr erthygl hon yn helpu’r rhai sydd eisiau cael eu bedyddio i ateb tri chwestiwn: (1) Beth ydy’r “hen fywyd a’i ffyrdd”? (2) Pam mae Jehofa eisiau inni gael gwared arno? a (3) Sut gallwn ni wneud hynny? Bydd astudio’r erthygl hon hefyd yn helpu’r rhai ohonon ni sydd eisoes wedi ein bedyddio i beidio â llithro yn ôl i’n hen arferion.

BETH YDY’R “HEN FYWYD A’I FFYRDD”?

4. Sut mae rhywun yn ymddwyn o dan ddylanwad ei “hen fywyd a’i ffyrdd”?

4 Mae rhywun sydd o dan ddylanwad ei “hen fywyd a’i ffyrdd” yn dal i adael i’w hen bersonoliaeth ei reoli. Efallai bod rhai yn tueddu i fod yn hunanol, yn fyr eu tymer, yn anniolchgar, neu’n falch. Efallai bod eraill yn mwynhau gwylio pornograffi, a ffilmiau anfoesol neu dreisgar. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod ganddyn nhw ddim rhinweddau da. Y ffaith amdani yw, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo’n euog am y pethau drwg maen nhw’n ei wneud, mae’r hen bersonoliaeth yn eu dal nhw yn ôl rhag newid eu ffordd o feddwl ac ymddwyn. Does ganddyn nhw ddim byd i’w cymell nhw i newid.—Gal. 5:19-21; 2 Tim. 3:2-5.

Pan ydyn ni’n cael gwared ar ein “hen fywyd a’i ffyrdd,” dydy chwantau drwg ddim yn ein rheoli ni bellach (Gweler paragraff 5) *

5. Allwn ni gael gwared ar yr hen fywyd a’i ffyrdd yn llwyr? Esbonia. (Actau 3:19)

5 Rydyn ni i gyd yn amherffaith, felly ar adegau byddwn ni’n dweud neu’n gwneud rhywbeth byddwn ni’n ei ddifaru. Allwn ni ddim cael gwared ar bob chwant drwg o’n meddyliau a’n calonnau. (Jer. 17:9; Iago 3:2) Ond pan fyddwn ni’n cael gwared ar yr hen fywyd a’i ffyrdd, dydy agweddau ac arferion y byd ddim bellach yn rhan o’n personoliaeth. Dydyn nhw ddim yn ein rheoli ni.—Esei. 55:7; darllen Actau 3:19.

6. Pam mae Jehofa yn erfyn arnon ni i gael gwared ar feddyliau ac arferion yr hen bersonoliaeth?

6 Dro ar ôl tro, mae Jehofa wedi gweld pobl yn brifo eu hunain a’r rhai o’u cwmpas nhw, am eu bod nhw heb gael gwared ar yr hen bersonoliaeth. Ond dydy Jehofa ddim eisiau gweld unrhyw un yn cael ei frifo. Mae’n ein caru ni ac eisiau inni fwynhau bywyd. Dyna pam mae’n erfyn arnon ni i gael gwared ar feddyliau ac arferion drwg.—Esei. 48:17, 18.

7. Yn ôl Rhufeiniaid 12:1, 2, pa ddewis sydd gynnon ni?

7 Os wyt ti’n trio gwneud newidiadau i dy bersonoliaeth, efallai bydd rhai o dy deulu a dy ffrindiau yn gwneud hwyl am dy ben di. (1 Pedr 4:3, 4) Hwyrach byddan nhw’n dweud pethau fel, ‘Paid â gadael i neb ddweud wrthot ti beth i’w wneud!’ Maen nhw’n meddwl y byddi di’n colli allan ar y rhyddid i wneud beth hoffet ti. Ond, a ydyn nhw eu hunain yn gwbl annibynnol? Nac ydyn. Drwy wrthod safonau Jehofa, maen nhw’n gadael i fyd Satan eu mowldio nhw. (Darllen Rhufeiniaid 12:1, 2.) Mae gynnon ni i gyd ddewis: Un ai rydyn ni’n cadw ein hen bersonoliaeth sydd wedi ei siapio gan bechod a dylanwad byd Satan, neu, gallwn ni adael i Jehofa ein siapio ni i’r fersiwn gorau ohonon ni’n hunain.—Esei. 64:8.

SUT GELLI DI ‘ROI HEIBIO’ YR HEN FYWYD A’I FFYRDD?

8. Beth fydd yn ein helpu ni i osgoi meddyliau ac arferion drwg?

8 Bydd hi’n cymryd amser ac ymdrech inni osgoi meddyliau ac arferion drwg. Mae Jehofa’n gwybod hynny’n iawn. (Salm 103:13, 14) Dyna pam mae’n ein cefnogi ni drwy ei Air, ei ysbryd, a’i gyfundrefn. Dyna lle rydyn ni’n cael y doethineb a’r nerth i allu newid. Mae’n debyg dy fod ti eisoes wedi elwa o’i help, ond gad inni edrych ar sut gelli di wneud mwy o gynnydd tuag at dy nod o roi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd a chael dy fedyddio. Ystyria rai camau ymarferol.

9. Beth all Gair Duw dy helpu di i’w wneud?

9 Defnyddia’r Beibl i edrych yn fanwl ar dy bersonoliaeth. Mae Gair Duw fel drych; mae’n gallu dy helpu di i ystyried y ffordd rwyt ti’n meddwl, yn siarad, ac yn ymddwyn. (Iago 1:22-25) Mae’r Beibl hefyd yn gallu dy helpu di i weld beth ydy dy gryfderau a dy wendidau. Gall yr un sy’n astudio’r Beibl gyda ti, a Christnogion aeddfed eraill, dy ddysgu di sut i ffeindio cyngor ymarferol yn y Beibl a fydd yn dangos sut i drechu arferion drwg. Ac wrth gwrs, mae Jehofa wastad yno iti. Ef ydy’r un gorau i dy helpu di am ei fod yn gwybod beth sydd yn dy galon. Felly, gwna’n siŵr dy fod ti’n gweddïo arno ac yn astudio ei Air bob dydd.—Diar. 14:10; 15:11.

10. Beth ddysgaist ti o brofiad Elie?

10 Bydda’n hollol sicr mai safonau Jehofa sydd orau. Mae popeth mae Jehofa yn gofyn inni ei wneud o les inni. Pan fyddi di’n byw yn unol â safonau Jehofa byddi di’n ennill hunan-barch, pwrpas mewn bywyd, a hapusrwydd go iawn. (Salm 19:7-11) Ond beth os ydyn ni’n anwybyddu safonau Jehofa? Sylwa beth ddywedodd dyn o’r enw Elie am hyn. Cafodd ei ddwyn i fyny gan rieni sy’n caru Jehofa, ond dewisodd gwmni drwg pan oedd yn ei arddegau. O ganlyniad i hynny gwnaeth ef ddechrau byw bywyd anfoesol, cymryd cyffuriau, a dwyn. Hefyd, aeth yn fwy ac yn fwy blin a threisgar. “O’n i mwy neu lai yn gwneud popeth o’n i wedi cael fy nysgu i beidio â gwneud,” meddai. Er hynny, doedd Elie ddim wedi anghofio beth roedd wedi ei ddysgu pan oedd yn blentyn. Felly yn y pen draw, dechreuodd astudio’r Beibl eto. Gweithiodd yn galed i gael gwared ar ei arferion drwg a chyrraedd bedydd. A dyna’n union a ddigwyddodd yn 2000. Sut mae ef wedi elwa o fyw yn unol â safonau Jehofa? Dywedodd Elie: “Bellach mae gen i heddwch meddwl a chydwybod lân.” * Fel mae’r profiad hwn yn dangos, mae ’na ganlyniadau drwg i anwybyddu safonau Jehofa. Er bod y rhai sy’n gwneud hynny yn brifo eu hunain, mae Jehofa yn fodlon eu helpu i newid.

11. Pa bethau mae Jehofa yn eu casáu?

11 Dysga i gasáu’r hyn mae Jehofa yn ei gasáu. (Salm 97:10) Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn casáu ‘llygaid balch, tafod celwyddog, a dwylo sy’n tywallt gwaed pobl ddiniwed.’ (Diar. 6:16, 17) Hefyd, mae’n gas ganddo “bobl sy’n dreisgar ac yn twyllo.” (Salm 5:6) Faint mae Jehofa’n casáu’r agweddau hyn? Mae’n eu casáu nhw gymaint, gwnaeth ef ddinistrio’r holl bobl ddrwg yn adeg Noa am eu bod nhw wedi llenwi’r ddaear â thrais. (Gen. 6:13) Ar ben hynny, dywedodd Jehofa drwy’r proffwyd Malachi ei fod yn casáu’r rhai sy’n cynllwynio i ysgaru eu gŵr neu wraig ddieuog. Mae Jehofa’n gwrthod derbyn eu haddoliad a bydd yn eu barnu am eu hymddygiad.—Mal. 2:13-16; Heb. 13:4.

Dylai gwneud rhywbeth sydd ddim yn plesio Jehofa fod mor ffiaidd inni â bwyta bwyd sydd wedi mynd yn ddrwg (Gweler paragraffau 11-12)

12. Beth mae’n ei olygu i ‘gasáu y drwg â chasineb perffaith’?

12 Mae Jehofa eisiau inni ‘gasáu y drwg â chasineb perffaith.’ (Rhuf. 12:9) Ond beth mae hynny’n ei olygu? Mae casáu rhywbeth â chasineb perffaith yn golygu allwn ni ddim ei gasáu yn fwy; mae’n rhywbeth hollol ffiaidd inni. Dychmyga hyn: Mae rhywun yn rhoi llond plât o fwyd sydd wedi mynd yn ddrwg ac sy’n drewi o dy flaen, ac yn gofyn iti ei fwyta. Onid ydy hyd yn oed meddwl am hynny’n codi cyfog arnat ti? Mewn ffordd debyg, dylai fod yn gas gynnon ni hyd yn oed feddwl am wneud rhywbeth sydd ddim yn plesio Jehofa.

13. Pam mae’n rhaid inni wrthod meddyliau drwg?

13 Gwrthoda feddyliau drwg. Gwnaeth Iesu ein dysgu ni i wrthod meddyliau drwg. Pam? Am fod ein meddyliau yn dylanwadu ar beth rydyn ni’n ei wneud, a hyd yn oed yn gallu arwain at bechod difrifol. (Math. 5:21, 22, 28, 29) Felly, os ydyn ni eisiau plesio ein Tad nefol, rhaid inni roi cyngor Iesu ar waith a gwrthod unrhyw feddyliau drwg yn syth.

14. Beth mae ein geiriau yn ei ddangos amdanon ni, a pha gwestiynau dylen ni eu gofyn i ni’n hunain?

14 Rheola dy dafod. Mae ein geiriau yn dweud cyfrolau am bwy ydyn ni ar y tu mewn. Fel dywedodd Iesu, ‘Mae’r pethau ’dyn ni’n eu dweud yn dod o’r galon.’ (Math. 15:18) Felly mae’n rhaid inni feddwl o ddifri am y ffordd rydyn ni’n siarad. Gallwn ni wneud hynny drwy ystyried y cwestiynau hyn: ‘Ydw i wastad yn dweud y gwir, hyd yn oed pan fydd hynny yn fy rhoi mewn sefyllfa annifyr? Os ydw i’n briod, ydw i’n gwylio fy mod i ddim yn fflyrtio ag aelodau o’r rhyw arall? Ydw i’n osgoi iaith anweddus yn llwyr? Ydw i’n ateb yn addfwyn pan fydd rhywun yn fy ypsetio i?’ Os wyt ti’n stopio dweud celwyddau ac yn osgoi defnyddio iaith gas ac anweddus, mi fydd hi’n haws iti roi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd, yn union fel mae dilledyn yn haws i’w dynnu ar ôl agor y botymau.

15. Beth mae’n ei olygu i hoelio ein hen bersonoliaeth i’r stanc?

15 Bydda’n benderfynol o newid. Dywedodd yr apostol Paul y dylen ni hoelio ein hen bersonoliaeth i’r stanc. (Rhuf. 6:6) Beth roedd yn ei olygu? Rydyn ni angen cael gwared yn llwyr ar unrhyw agweddau ac arferion mae Jehofa yn eu casáu. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o newid ein ffyrdd er mwyn efelychu Iesu a dilyn safonau Jehofa. Cofia, fydd Jehofa ddim yn newid ei safonau i’n siwtio ni. (Esei. 1:16-18; 55:9) Dim ond os ydyn ni’n benderfynol o newid bydd gynnon ni gydwybod lân, a’r gobaith o fyw am byth.—Ioan 17:3; 1 Pedr 3:21.

16. Pam mae’n rhaid iti ddal ati i frwydro chwantau drwg?

16 Parha i frwydro yn erbyn chwantau drwg. Dydy chwantau drwg ddim yn diflannu ar ôl iti gael dy fedyddio. Bydd rhaid iti barhau i frwydro yn eu herbyn. Ystyria brofiad Maurício. Pan oedd yn ifanc roedd yn byw bywyd anfoesol fel dyn hoyw. Yn y pen draw, gwnaeth ef gyfarfod pobl Jehofa a dechrau astudio’r Beibl. Ar ôl gwneud newidiadau mawr yn ei fywyd, cafodd ei fedyddio yn 2002. Er ei fod bellach wedi gwasanaethu Jehofa am lawer o flynyddoedd, mae’n cyfaddef: “Dw i wedi gorfod brwydro chwantau drwg ar adegau.” Ond dydy ef ddim yn ildio. Yn hytrach mae’n dweud: “Dw i’n cael nerth a chysur o wybod fy mod i’n gallu plesio Jehofa drwy ddewis peidio â gweithredu ar y teimladau hynny.” *

17. Sut mae profiad Nabiha wedi dy galonogi di?

17 Gweddïa am help Jehofa, a dibynna ar ei ysbryd yn hytrach na dy nerth dy hun. (Gal. 5:22; Phil. 4:6) Ystyria brofiad dynes o’r enw Nabiha. Gwnaeth ei thad adael y teulu pan oedd hi’n chwech. “Oedd hynny’n gyllell i nghalon,” meddai. Wrth iddi dyfu i fyny, gwnaeth hi ddatblygu tymer, ac roedd hi’n gwylltio ar ddim. Dechreuodd hi werthu cyffuriau, ond cafodd ei harestio a’i charcharu am rai blynyddoedd. Tra oedd hi yno, gwnaeth hi dderbyn astudiaeth Feiblaidd oddi wrth y Tystion oedd yn pregethu yn y carchar. Dyna pryd gwnaeth hi ddechrau gwneud newidiadau mawr. “Oedd hi’n hawdd imi roi’r gorau i rai o fy hen arferion,” meddai, “ond roedd stopio ysmygu yn hynod o anodd.” Gwnaeth Nabiha frwydro yn erbyn yr ysfa i ysmygu am dros flwyddyn, ond yn y pen draw, llwyddodd i’w threchu. Sut? “O’n i’n gweddïo ar Jehofa drwy’r adeg, a dyna a wnaeth hi’n bosib imi stopio yn y diwedd.” Mae ei phrofiad hi yn dangos ein bod ni angen bod yn benderfynol os ydyn ni am roi heibio’r hen fywyd a pheidio byth â mynd yn ôl ato. Ond mae dibynnu ar Jehofa yn allweddol i’n llwyddiant. Mae Nabiha bellach yn dweud wrth eraill, “Os alla i wneud newidiadau i blesio Jehofa, dw i’n hollol sicr gall unrhyw un wneud yr un fath!” *

GELLI DI GYRRAEDD BEDYDD!

18. Yn ôl 1 Corinthiaid 6:9-11, beth mae llawer o weision Duw wedi llwyddo i’w wneud?

18 Yn y ganrif gyntaf, gwnaeth rhai dynion a merched oedd arfer bod yn hoyw, godinebu, neu ddwyn, lwyddo i newid eu ffyrdd gyda help Jehofa. Er gwaethaf eu cefndir, gwnaeth Jehofa eu dewis nhw i reoli gyda Christ. (Darllen 1 Corinthiaid 6:9-11.) Yn yr un modd heddiw, mae Jehofa wedi helpu miliynau o bobl drwy ei Air i drechu arferion drwg oedd wedi gwreiddio’n ddwfn. * Mae eu hesiamplau nhw yn dangos y gelli dithau wneud newidiadau yn dy bersonoliaeth a threchu arferion drwg er mwyn cyrraedd bedydd.

19. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

19 Mae’n rhaid i’r rhai sydd eisiau cael eu bedyddio wneud mwy na rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd. Maen nhw hefyd angen gwneud ymdrech i wisgo’r bersonoliaeth newydd. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gallwn ni wneud hynny, a sut gall eraill ein helpu ni.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

^ Par. 5 Er mwyn cael ein bedyddio mae’n rhaid inni fod yn fodlon newid ein personoliaeth. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i weld beth ydy’r hen bersonoliaeth, pam mae angen inni gael gwared arni, a sut gallwn ni wneud hynny. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gallwn ni barhau i wisgo’r bersonoliaeth newydd hyd yn oed ar ôl inni gael ein bedyddio.

^ Par. 3 ESBONIAD: Mae “rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd” yn golygu cael gwared ar agweddau a chwantau sydd ddim yn plesio Jehofa. Hynny ydy, cael gwared o’n hen bersonoliaeth. Dylen ni ddechrau gwneud hynny cyn inni gael ein bedyddio.—Eff. 4:22.

^ Par. 10 Am fwy o fanylion, gweler yr erthygl The Bible Changes Lives—‘I Needed to Return to Jehovah,’” yn rhifyn Ebrill 1, 2012, y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 16 Am fwy o fanylion, gweler yr erthygl The Bible Changes Lives—‘They Were Very Kind to Me,’” yn rhifyn Mai 1, 2012, y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 17 Am fwy o fanylion, gweler yr erthygl The Bible Changes Lives—‘I Became an Angry, Aggressive Young Woman,’” yn rhifyn Hydref 1, 2012, y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae cael gwared ar agweddau ac arferion drwg yn debyg i dynnu hen ddilledyn.