Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 12

Wyt Ti’n Gweld Beth Welodd Sechareia?

Wyt Ti’n Gweld Beth Welodd Sechareia?

“‘Nid grym na chryfder sy’n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.”—SECH. 4:6.

CÂN 73 Dyro Inni Hyder

CIPOLWG *

1. Pa newyddion cyffrous gafodd yr Israeliaid?

 ROEDD yr Israeliaid wedi bod yn gaeth ym Mabilon am ddegawdau. Ond, o’r diwedd, roedd Jehofa wedi “ysgogi Cyrus,” brenin Persia, i’w rhyddhau nhw. Am newyddion cyffrous! Ar ben hynny, roedd y brenin wedi cyhoeddi bod yr Iddewon yn cael mynd yn ôl i’w mamwlad ac ailadeiladu “teml yno i’r ARGLWYDD, Duw Israel.” (Esra 1:1, 3) Roedd yr Iddewon wedi gwirioni am fod hyn yn golygu roedden nhw’n gallu addoli’r gwir Dduw unwaith eto yn y wlad roedd wedi ei rhoi iddyn nhw.

2. Pa lwyddiant cafodd yr Iddewon ar ôl iddyn nhw gyrraedd Jerwsalem?

2 Ym 537 COG, gwnaeth yr alltudion Iddewig cyntaf gyrraedd Jerwsalem, sef prifddinas teyrnas Jwda. Wnaethon nhw ddim oedi cyn cychwyn gwaith ar y deml, felly erbyn 536 COG, roedden nhw wedi gosod ei sylfaen yn barod!

3. Pwy wnaeth wrthwynebu’r Iddewon, a sut?

3 Wnaeth y llwyddiant hwnnw ddim para. Roedd y cenhedloedd o’u cwmpas yn eu gwrthwynebu, ac yn dechrau “creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc.” (Esra 4:4) Ond aeth pethau’n waeth byth ym 522 COG. Roedd gan Persia frenin newydd o’r enw Artaxerxes, * felly neidiodd gwrthwynebwyr yr Iddewon ar y cyfle i stopio’r gwaith ar y deml unwaith ac am byth. Dyma nhw’n “cynllunio niwed trwy gyfraith” drwy anfon llythyr at y Brenin Artaxerxes yn honni bod yr Iddewon yn cynllunio i wrthryfela yn eu herbyn. (Salm 94:20, BCND; Esra 4:11-16) A wnaeth y brenin gredu’r celwyddau? Do, a gwnaeth ef orchymyn i’r gwaith ar y deml gael ei wahardd. (Esra 4:17-23) Oherwydd hynny, daeth y gwaith ar y deml i stop.—Esra 4:24.

4. Sut gwnaeth Jehofa ymateb pan wnaeth gwrthwynebwyr stopio’r gwaith ar y deml? (Eseia 55:11)

4 Roedd y paganiaid yn y wlad a’r rhai yn llywodraeth Persia yn benderfynol o rwystro’r deml rhag cael ei ailadeiladu. Ond, roedd Jehofa’n benderfynol hefyd. Roedd ef eisiau i’r Iddewon orffen y gwaith ar y deml, ac mae ef wastad yn cyflawni ei bwrpas. (Darllen Eseia 55:11.) Felly beth wnaeth Jehofa? Rhoddodd wyth gweledigaeth gyffrous i’w broffwyd dewr Sechareia eu rhannu â’r Iddewon. Pwrpas y gweledigaethau oedd eu calonogi, eu helpu nhw i weld nad oedd ganddyn nhw reswm i ofni’r gwrthwynebwyr, a’u hannog nhw i ddal ati yng ngwaith Jehofa. Yn y bumed weledigaeth, gwelodd Sechareia ganhwyllbren a dwy goeden olewydd.

5. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

5 Gall ystyried pumed weledigaeth Sechareia galonogi pob un ohonon ni am ein bod ni i gyd yn digalonni weithiau. Gall deall y weledigaeth hon ein helpu ni i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon pan fydd pobl yn ein gwrthwynebu, pan ydyn ni’n ymdopi ag amgylchiadau newydd, a phan fyddwn ni’n cael arweiniad dydyn ni ddim yn ei ddeall.

PAN FYDD POBL YN EIN GWRTHWYNEBU

Cafodd Sechareia weledigaeth o ddwy goeden olewydd yn rhoi olew i ganhwyllbren sydd â saith cannwyll (Gweler erthygl paragraff 6)

6. Sut gwnaeth y weledigaeth o’r canhwyllbren a’r ddwy goeden olewydd, yn Sechareia 4:1-3, roi dewrder i’r Iddewon? (Gweler y llun ar y clawr.)

6 Darllen Sechareia 4:1-3. Gwnest ti sylwi bod tanwydd y canhwyllbren ddim yn rhedeg allan? Roedd olew o’r ddwy goeden olewydd yn llifo i mewn i bowlen, ac yna i bob un o’r saith lamp ar y ganhwyllbren. Felly, roedd y lampau’n llosgi’n gyson. Sut gwnaeth y weledigaeth hon roi dewrder i’r Iddewon allu dal ati yn y gwaith er gwaethaf gwrthwynebiad? Ystyria beth mae’r olew yn ei gynrychioli. Pan ofynnodd Sechareia i’r angel, “Beth ydy’r rhain, syr?” yr ateb oedd, “Nid grym na chryfder sy’n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.” (Sech. 4:4, 6) Felly, mae’r olew yn cynrychioli ysbryd glân Jehofa fyddai byth yn rhedeg allan. Roedd gan ymerodraeth Persia fyddin nerthol, ond doedd hi ddim byd o’i chymharu â grym ysbryd glân Duw. Am neges galonogol! Oll oedd yr Iddewon yn gorfod ei wneud oedd trystio Jehofa ac ailddechrau’r gwaith adeiladu. Byddai Jehofa’n sicrhau eu bod nhw’n llwyddo i orffen y gwaith er gwaethaf yr holl wrthwynebiad. A dyna’n union beth wnaethon nhw, er bod y gwaharddiad dal yn ei le.

7. Pa newidiadau wnaeth pethau’n haws i adeiladwyr y deml?

7 Ymhen amser, daeth pethau’n haws i adeiladwyr y deml. Pam? Roedd gan Persia frenin newydd—Dareius I. Ym 520 COG, sylweddolodd fod y gwaith adeiladu ar y deml wedi cael ei wahardd yn anghyfreithlon, felly rhoddodd ei sêl bendith i’r gwaith gael ei orffen. (Esra 6:1-3) Ar ben hynny, gwnaeth y brenin orchymyn i’r bobl yn yr ardaloedd cyfagos beidio ag amharu ar y gwaith adeiladu, ond yn hytrach i gefnogi’r gwaith drwy gyfrannu arian a nwyddau! (Esra 6:7-12) Oherwydd y newidiadau hyn, llwyddodd yr Iddewon i orffen adeiladu’r deml ychydig dros bedair blynedd wedyn, ym 515 COG.—Esra 6:15.

Pan fydd pobl yn dy wrthwynebu, dibynna ar nerth Jehofa (Gweler paragraff 8)

8. Pam gelli di fod yn ddewr os wyt ti’n cael dy wrthwynebu?

8 Mae llawer o bobl Jehofa heddiw hefyd yn cael eu gwrthwynebu mewn rhyw ffordd. Ydy hynny’n rhywbeth sy’n dy boeni di? Meddylia er enghraifft am ein brodyr sy’n byw mewn gwledydd lle mae’n gwaith wedi ei wahardd. Mae rhai hyd yn oed wedi cael eu harestio a’u “llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd,” ond maen nhw’n rhoi tystiolaeth dda. (Math. 10:17, 18) Neu beth am y rhai sydd â theulu sy’n benderfynol o’u stopio nhw rhag gwasanaethu Duw? (Math. 10:32-36) Beth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin? Maen nhw’n ddewr ac yn dal ati am fod Jehofa yn eu cefnogi nhw. A chofia, gall pethau newid er gwell. Er enghraifft, gall newid yn y llywodraeth, neu farnwr caredig, ganiatáu i’n brodyr a chwiorydd gael mwy o ryddid i wasanaethu Jehofa. Yn aml iawn, mae’r rhai oedd yn arfer gwrthwynebu Tystion yn eu teulu wedi stopio ar ôl sylweddoli bod hynny’n cael dim effaith. Mae rhai hyd yn oed wedi dod yn Dystion selog eu hunain. Felly paid â phoeni. Bydda’n ddewr a dalia ati, mae Jehofa a’i ysbryd glân ar dy ochr!

YMDOPI Â NEWIDIADAU

9. Pam roedd rhai o’r Iddewon wedi eu siomi o weld sylfeini’r deml newydd?

9 Pan welodd rhai o’r Iddewon hŷn sylfeini’r deml newydd, suddodd eu calonnau. (Esra 3:12) Pam? Yn eu golwg nhw fyddai’r deml newydd yn ‘ddim byd o’i chymharu’ â theml odidog Solomon, ac roedden nhw’n methu gweld heibio hynny. (Hag. 2:2, 3) Ond sut byddai gweledigaeth Sechareia yn eu helpu nhw i ddod dros y siom a chael eu llawenydd yn ôl?

10. Sut gwnaeth geiriau’r angel yn Sechareia 4:8-10 helpu’r Iddewon i ddod dros eu siom?

10 Darllen Sechareia 4:8-10. Dywedodd yr angel y byddai’r Iddewon yn “dathlu wrth weld y garreg â’r plât tin arni yn llaw [y llywodraethwr Iddewig] Serwbabel.” Beth roedd yn ei olygu? Llinell blwm ydy’r ‘garreg â phlât tin arni’—rhywbeth sy’n dangos os ydy rhywbeth yn gam neu’n hollol syth. Defnyddiodd yr angel yr eglureb hon i ddangos y byddai’r deml yn cael ei gorffen ac y byddai’n cyrraedd safonau Jehofa. Felly er roedd rhai Iddewon yn poeni na fyddai’r deml newydd cystal â’r hen un, dylai geiriau’r angel fod wedi eu cysuro nhw. Roedd y deml yn ddigon da i Jehofa, felly dylai fod yn ddigon da i’r Iddewon hefyd. Yng ngolwg Jehofa, y peth pwysicaf oedd eu bod nhw’n ei addoli yn y ffordd iawn yn y deml newydd. Drwy ganolbwyntio ar wneud hynny, ac ennill ffafr Jehofa, bydden nhw’n cael eu llawenydd yn ôl.

Meithrin agwedd bositif tuag at amgylchiadau newydd (Gweler paragraffau 11-12) *

11. Beth sy’n heriol i rai o bobl Jehofa heddiw?

11 Rydyn ni i gyd yn wynebu newidiadau rywbryd neu’i gilydd. Gall hynny fod yn heriol yn enwedig os mae’n effeithio arnon ni’n bersonol. Er enghraifft, mae rhai wedi cael aseiniad gwahanol ar ôl gwasanaethu’n llawn amser am flynyddoedd. Ac mae eraill wedi gorfod gadael aseiniad roedden nhw’n ei garu oherwydd eu hoed. Sut gall newidiadau o’r fath wneud inni deimlo? Efallai fyddwn ni ddim yn deall y penderfyniad yn iawn i ddechrau, neu hyd yn oed yn anghytuno. Efallai byddwn ni’n hiraethu am yr hen ddyddiau, a hyd yn oed yn mynd i deimlo’n ddigalon a siomedig o feddwl ein bod ni’n dda i ddim i Jehofa bellach. (Diar. 24:10) Os wyt ti wedi teimlo fel hyn o’r blaen, paid â phoeni, mae’n naturiol. Y peth pwysig ydy dy fod ti’n dal ati i wneud dy orau i Jehofa. Sut gall gweledigaeth Sechareia ein helpu ni yn hyn o beth?

12. Sut gall gweledigaeth Sechareia ein helpu ni i ymdopi ag unrhyw siom sy’n dod o newid yn ein hamgylchiadau?

12 Mae gweledigaeth Sechareia yn dangos inni pa mor bwysig ydy cadw agwedd bositif. Mae’n ffaith bod newidiadau yn haws eu derbyn pan ydyn ni’n gweld pethau o safbwynt Jehofa. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid inni wybod y rhesymau tu ôl i bob un o benderfyniadau ei gyfundrefn. Rhaid inni gofio bod gynnon ni’r fraint arbennig o fod yn rhan o’i deulu byd-eang, a’n bod ni’n cydweithio â Jehofa. (1 Cor. 3:9) Ac er bod ein cyfrifoldebau yn gallu amrywio, fydd cariad Jehofa tuag aton ni byth yn newid. Ond sut gallwn ni gadw ein llawenydd ac aros yn ffyddlon o dan amgylchiadau newydd? Yn hytrach na dyheu am i bethau fynd yn ôl fel roedden nhw “ers talwm,” gweddïa am yr help i weld ochr dda y newid. (Preg. 7:10) Ar ben hynny, meddylia am yr holl bethau rwyt ti dal yn gallu eu gwneud o dan dy amgylchiadau newydd.

PAN MAE DILYN ARWEINIAD YN HER

13. Pam gallai’r Israeliaid fod wedi cwestiynu’r penderfyniad i ailddechrau’r gwaith ar y deml?

13 Roedd yr Archoffeiriad Jesua (Josua) a’r Llywodraethwr Serwbabel—y ddau ddyn oedd yn arwain yr Israeliaid—wedi “dechrau eto ar y gwaith o ailadeiladu teml Dduw.” (Esra 5:1, 2) Mae’n debyg gwnaeth rhai o’r Iddewon gwestiynu’r penderfyniad hwnnw. Pam? I gychwyn, roedd y gwaith o ail adeiladu’r deml wedi ei wahardd, heb sôn am y ffaith bod adeiladu teml yn anodd iawn i’w guddio! Ar ben hynny, byddai’r gelyn yn gwneud popeth allan nhw i stopio’r gwaith. Ond rhoddodd Jehofa hyder i Josua a Serwbabel i gario ymlaen â’r gwaith. Sut?

14. Yn ôl Sechareia 4:12, 14, sut gwnaeth Jehofa ddangos ei hyder yn yr Archoffeiriad Josua a’r Llywodraethwr Serwbabel?

14 Darllen Sechareia 4:12, 14. Yn yr adnodau hyn, rydyn ni’n dysgu mwy am y goeden olewydd. Dywedodd yr angel, “Maen nhw’n cynrychioli’r ddau ddyn sydd wedi eu heneinio i wasanaethu Duw”—Josua a Serwbabel. Dywedodd hefyd, roedd fel petasen nhw’n sefyll wrth ymyl “Duw, Meistr y ddaear gyfan.” Am fraint anhygoel! Felly, doedd gan yr Israeliaid ddim esgus i beidio â’u trystio nhw am fod Jehofa yn eu trystio nhw, ac yn eu defnyddio i arwain ei bobl.

15. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi arweiniad Jehofa yn y Beibl?

15 Mae Jehofa yn parhau i arwain ei bobl hyd heddiw. Un ffordd mae’n gwneud hynny ydy drwy ddefnyddio ei Air y Beibl i ddweud wrthon ni sut i’w addoli mewn ffordd dderbyniol. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r arweiniad rydyn ni’n ei gael o’r Beibl? Drwy dalu sylw manwl i’r hyn mae Jehofa yn ei ddysgu inni yn ei dudalennau, a drwy gymryd yr amser i’w ddeall, fel ein bod ni’n gallu dilyn ei arweiniad, a chyflawni ein gwaith pregethu. (1 Tim. 4:15, 16) Ond sut gallwn ni wneud hynny? Wrth ddarllen y Beibl neu un o’n cyhoeddiadau, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n stopio ac yn myfyrio? Ydw i’n chwilio am yr ystyr tu ôl i wirioneddau’r Beibl sy’n anodd eu deall? Neu ydw i ond yn bwrw golwg sydyn dros beth dw i’n ei ddarllen?’—2 Pedr 3:16.

Trystia’r arweiniad rwyt ti’n ei gael oddi wrth y “gwas ffyddlon a chall” (Gweler paragraff 16) *

16. Os ydy cyfarwyddyd y gwas ffyddlon a chall yn swnio’n rhyfedd inni, beth fydd yn ein helpu i’w ddilyn?

16 Mae Jehofa hefyd yn rhoi cyfarwyddyd inni drwy’r “gwas ffyddlon a chall.” (Math. 24:45, BCND) Weithiau dydy’r cyfarwyddyd hwnnw ddim yn gwneud synnwyr inni. Er enghraifft, gallen ni feddwl, ‘Pam mae’n rhaid imi baratoi ar gyfer drychineb sy’n annhebygol o ddigwydd yn fy ardal i?’ Neu yn ystod pandemig gallen ni ddechrau meddwl, ‘Onid ydy’r gwas yn troedio’n rhy ofalus?’ Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni wedi meddwl rhywbeth tebyg? Gallwn ni ystyried sut gwnaeth yr Israeliaid elwa o wrando ar gyfarwyddyd Josua a Serwbabel. Mae ’na hanesion eraill yn y Beibl sydd hefyd yn dangos adegau pan wnaeth cyfarwyddyd oedd yn ymddangos yn rhyfedd o safbwynt dynol, achub bywydau yn y pen draw.—Barn. 7:7; 8:10.

GWELD BETH WELODD SECHAREIA

17. Pa effaith gafodd y weledigaeth o’r canhwyllbren a’r ddwy goeden olewydd ar yr Iddewon?

17 Roedd pumed weledigaeth Sechareia yn fyr ond yn effeithiol. Sut? Wrth i’r Iddewon roi’r gwersi o’r gweledigaethau ar waith, defnyddiodd Jehofa ei ysbryd glân i’w helpu nhw i gwblhau’r gwaith yn llawen. Ac yn bendant gwnaethon nhw deimlo ei gefnogaeth. (Esra 6:16) Yn y pen draw, gwnaeth gweledigaeth Sechareia helpu’r Iddewon i weld pethau o safbwynt Jehofa, a meithrin agwedd bositif tuag at eu gwaith a’u haddoliad.

18. Sut bydd gweledigaeth Sechareia yn effeithio ar dy fywyd di?

18 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod tair ffordd gall gweledigaeth Sechareia effeithio ar ein bywydau ni. Gall ein helpu ni i gael hyd i’r nerth rydyn ni ei angen i ddelio â gwrthwynebiad. Yn ail, gall ein helpu ni i gadw ein llawenydd, hyd yn oed pan mae ein hamgylchiadau yn newid. Ac yn drydydd, gall ein helpu ni i drystio arweiniad a’i ddilyn, hyd yn oed pan nad ydyn ni’n ei ddeall. Pa bethau ymarferol gelli di eu gwneud wrth iti wynebu heriau yn dy fywyd? Chwilia am beth welodd Sechareia, sef dystiolaeth bod Jehofa yn gofalu am ei bobl. Bydd hynny yn cryfhau dy hyder yn Jehofa. Felly trystia Jehofa, a dalia ati i’w wasanaethu â dy holl galon. (Math. 22:37) Bydd Jehofa gyda ti bob cam o’r ffordd; mae ef eisiau iti ei wasanaethu’n llawen am byth.—Col. 1:10, 11, BCND.

CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth

^ Par. 5 Cafodd y proffwyd Sechareia gyfres o weledigaethau cyffrous gan Jehofa a roddodd nerth iddo ef a phobl Jehofa i adfer addoliad pur er gwaethaf yr holl heriau gwnaethon nhw eu hwynebu. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod un o weledigaethau Sechareia oedd yn cynnwys canhwyllbren a choed olewydd. Byddwn ni hefyd yn trafod gwersi pwysig gallwn ni eu dysgu ohoni, a sut mae’n ein helpu ni i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon er gwaethaf ein holl dreialon.

^ Par. 3 Flynyddoedd wedyn, yn nyddiau Nehemeia, roedd ’na frenin arall o’r enw Artaxerxes oedd yn garedig iawn i’r Iddewon.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn gweld ei fod angen dod i arfer ag amgylchiadau newydd oherwydd henaint a salwch.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn myfyrio ar y ffaith bod Jehofa yn cefnogi’r “gwas ffyddlon a chall” yn union fel gwnaeth ef gefnogi Josua a Serwbabel.