Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pam mae 2 Samuel 21:7-9 yn dweud bod Dafydd wedi “arbed bywyd Meffibosheth” ond yna wedi gadael i Meffibosheth gael ei ladd?

Mae llawer wedi gofyn y cwestiwn hwnnw ar ôl darllen yr hanes yn sydyn. Ond roedd ’na ddau ddyn o’r enw Meffibosheth, ac mae ’na wers gallwn ni ei dysgu o beth ddigwyddodd.

Roedd gan y Brenin Saul saith mab a dwy ferch, a’r mab hynaf oedd Jonathan. Cafodd Saul fab arall o’r enw Meffibosheth drwy Ritspa. Ond dyma Jonathan yn galw ei fab ei hun yn Meffibosheth hefyd. Felly, roedd gan y Brenin Saul mab ac ŵyr o’r enw Meffibosheth.

Ymhen amser, gwnaeth y Brenin Saul droi yn erbyn y Gibeoniaid a thrio eu lladd nhw i gyd. Mae’n ymddangos ei fod wedi llwyddo i ladd rhai. Ond roedd yr Israeliaid eisoes wedi tyngu llw yn adeg Josua i gadw heddwch â’r Gibeoniaid, felly roedd wedi gwneud rhywbeth ofnadwy.—Jos. 9:3-27.

Roedd yr addewid hwnnw dal yn ddilys yn nyddiau Saul. Ond aeth yn gwbl groes i hynny, ac felly roedd “Saul a’i deulu yn euog o lofruddio.” (2 Sam. 21:1) Pan ddaeth Dafydd yn frenin, gwrandawodd ar ochr y Gibeoniaid, ac roedd ef eisiau gwneud iawn am y peth er mwyn cael bendith Jehofa ar y wlad unwaith eto. Wnaeth y Gibeoniaid ddim gofyn am arian. Gwnaethon nhw ofyn am gael lladd saith o feibion Saul. (Num. 35:30, 31) Cytunodd Dafydd, a’u rhoi nhw yn nwylo’r Gibeoniaid.—2 Sam. 21:2-6.

Erbyn hyn, roedd Saul a Jonathan wedi marw, ond roedd mab Jonathan, Meffibosheth, yn dal yn fyw. Roedd Meffibosheth yn anabl ar ôl damwain pan oedd ef yn blentyn, a chafodd ef ddim rhan yn yr ymosodiad yn erbyn y Gibeoniaid. Roedd Jonathan a Dafydd wedi addo i’w gilydd o flaen Jehofa y bydden nhw a’u teuluoedd yn aros yn ffrindiau pennaf. (1 Sam. 18:1; 20:42) Dyna pam gwnaeth y Brenin Dafydd “arbed bywyd Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul.)”—2 Sam. 21:7.

Felly, beth wnaeth Dafydd? Rhoddodd ddau o feibion a phump o wyrion Saul yn nwylo’r Gibeoniaid, a mab Saul, Meffibosheth, oedd un ohonyn nhw. (2 Sam. 21:8, 9) Ac oherwydd hynny, doedd y wlad ddim bellach yn waed-euog.

Ond mae hyn yn fwy na hanesyn diddorol. Mae ’na wers inni. Roedd cyfraith Duw yn dweud yn glir na ddylai plant gael eu lladd am droseddau eu rhieni. (Deut. 24:16) Fyddai Jehofa ddim wedi caniatáu i feibion ac wyrion Saul gael eu lladd petasen nhw ddim yn euog. Roedd y gyfraith hefyd yn dweud: “Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.” Felly, mae’n rhaid bod meibion ac wyrion Saul wedi cael rhyw fath o ran yn y cynllun i gael gwared ar y Gibeoniaid yn llwyr, ac o ganlyniad cawson nhw’r gosb eithaf.

Mae’r hanesyn hwn yn dangos na allwn ni esgusodi ein hunain am wneud drwg drwy feddwl neu ddweud ein bod ni ond yn dilyn cyfarwyddiadau. Yn syml, mae’n rhaid i bob un ohonon ni gymryd cyfrifoldeb dros beth rydyn ni’n ei wneud. Fel mae’r ddihareb yn dweud: “Gwylia’r ffordd rwyt ti’n mynd, a byddi’n gwneud y peth iawn. Paid crwydro i’r dde na’r chwith; cadw draw oddi wrth beth sy’n ddrwg.”—Diar. 4:24-27; Eff. 5:15.