Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Awgrymiad Ar Gyfer Astudio

Awgrymiad Ar Gyfer Astudio

Defnyddio “Beth Sy’n Newydd” yn Effeithiol

Mae’r rhan “Beth Sy’n Newydd” yn JW Library® ac ar jw.org yn dangos yr erthyglau a’r fideos diweddaraf sydd ar gael. Sut gelli di ddefnyddio’r rhan hon?

JW Library

  • Mae erthyglau unigol yn cael eu rhyddhau drwy ddiweddaru’r gyfres erthyglau maen nhw’n perthyn iddi. Felly pan fydd cyfres erthyglau yn ymddangos yn y rhan “Beth Sy’n Newydd”, gelli di lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf o’r gyfres. Yna gelli di ddarllen yr erthygl newydd sy’n ymddangos ar dop y rhestr, sydd wedi ei threfnu yn ôl dyddiad.

  • Efallai na fydd hi’n bosib darllen cyhoeddiad hirach, fel cylchgrawn, mewn un sesiwn. I gadw cofnod o bethau rwyt ti heb eu gorffen, gelli di ychwanegu’r cylchgrawn i dy restr Ffefrynnau nes iti ei ddarllen yn llawn.

JW.ORG

Mae rhai pethau, gan gynnwys adroddiadau newyddion a chyhoeddiadau, ond yn ymddangos ar wefan jw.org, nid yn JW Library. Cofia edrych ar y dudalen “Beth Sy’n Newydd” ar y wefan yn rheolaidd i weld yr erthyglau diweddaraf.