ERTHYGL ASTUDIO 14
“Bydd Pawb yn Gwybod Eich Bod Chi’n Ddisgyblion i Mi”
“Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.”—IOAN 13:35.
CÂN 106 Meithrin Rhinwedd Cariad
CIPOLWG a
1. Beth sy’n gwneud argraff ar lawer o bobl sy’n dod i’n cyfarfodydd am y tro cyntaf? (Gweler hefyd y llun.)
DYCHMYGA gwpl priod yn dod i gyfarfod yn Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa am y tro cyntaf. Mae’r croeso cynnes maen nhw’n ei dderbyn, a’r cariad maen nhw’n ei weld yn y gynulleidfa yn creu argraff fawr arnyn nhw. Ar eu ffordd adref o’r cyfarfod, mae’r wraig yn dweud wrth ei gŵr, ‘Mae ’na rywbeth gwahanol am Dystion Jehofa—rhywbeth da.’
2. Pam mae rhai wedi cael eu baglu?
2 Yn wir, mae’r cariad sy’n bodoli ymysg y gynulleidfa Gristnogol yn rhywbeth arbennig iawn. Wrth gwrs, dydy Tystion Jehofa ddim yn berffaith. (1 Ioan 1:8) Felly y mwyaf rydyn ni’n dod i adnabod y brodyr a’r chwiorydd, y mwyaf tebygol y byddwn ni o weld rhai o’u ffaeleddau. (Rhuf. 3:23) Mae’n drist bod rhai wedi gadael i amherffeithion pobl eraill eu baglu.
3. Sut gall pobl adnabod gwir ddilynwyr Iesu? (Ioan 13:34, 35)
3 Edrycha eto ar yr adnod sy’n thema i’r erthygl hon. (Darllen Ioan 13:34, 35.) Sut gall pobl adnabod gwir ddilynwyr Crist? Maen nhw’n dangos cariad er eu bod nhw’n amherffaith. Hefyd, sylwa wnaeth Iesu ddim dweud: ‘Byddwch chi yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion imi.’ Yn hytrach, dywedodd: “Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi.” Drwy ddweud hyn, dangosodd Iesu y byddai nid yn unig ei ddilynwyr ond hefyd y rhai y tu allan i’r gynulleidfa yn adnabod ei wir ddilynwyr o weld y cariad anhunanol sydd ganddyn nhw ymysg ei gilydd.
4. Beth gallai rhai ei ofyn ynglŷn â gwir Gristnogion?
4 Efallai bydd rhai sydd ddim yn Dystion Jehofa yn gofyn: ‘Sut mae cariad yn ein helpu ni i adnabod gwir ddilynwyr Iesu? Sut roedd Iesu yn dangos ei gariad tuag at ei apostolion? A sut gallwn ni efelychu esiampl Iesu heddiw?’ Byddai’n dda i ni fel Tystion fyfyrio ar y cwestiynau hynny. Gall gwneud hynny ein helpu ni i ddangos mwy o gariad, yn enwedig wrth ddelio â ffaeleddau ein gilydd.—Eff. 5:2.
PAM MAI CARIAD YW’R UNIG FFORDD I ADNABOD GWIR DDILYNWYR IESU?
5. Esbonia ystyr geiriau Iesu yn Ioan 15:12, 13.
5 Esboniodd Iesu y byddai ei ddilynwyr yn caru ei gilydd mewn ffordd arbennig. (Darllen Ioan 15:12, 13.) Sylwa ar eiriau Iesu: “Dyma fy ngorchymyn, eich bod chi’n caru eich gilydd yn union fel rydw innau wedi eich caru chi.” Beth mae hynny’n ei olygu? Aeth Iesu ymlaen i esbonio bod hyn yn gariad hunanaberthol—y math o gariad sy’n ysgogi Cristion i farw dros un o’i gyd-gredinwyr os bydd angen. b
6. Sut mae Gair Duw yn pwysleisio pwysigrwydd cariad?
6 Mae Gair Duw yn rhoi pwyslais mawr ar gariad. Er enghraifft, dyma rai o hoff adnodau llawer o bobl: “Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) “Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.” (Math. 22:39) “Mae cariad yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.” (1 Pedr 4:8) “Dydy cariad byth yn siomi.” (1 Cor. 13:8) Mae’r adnodau hyn ac eraill yn dangos yn glir pa mor bwysig yw meithrin a dangos y rhinwedd hyfryd hon.
7. Pam na all Satan byth uno pobl mewn gwir gariad?
7 Mae llawer o bobl yn gofyn: ‘Sut galla i adnabod y wir grefydd? Mae pob crefydd yn honni ei bod yn dysgu’r gwir, ond maen nhw i gyd yn dysgu pethau gwahanol am Dduw.’ Mae Satan wedi llwyddo i ddrysu pobl drwy greu nifer mawr o gau grefyddau. Ond ni all byth greu brawdoliaeth fyd-eang o Gristnogion sy’n caru ei gilydd. Dim ond Jehofa all wneud hynny. Pam? Y rheswm yw bod cariad go iawn yn dod oddi wrth Jehofa, a dim ond y rhai sy’n derbyn ei ysbryd a’i fendith sydd wir yn gallu caru ei gilydd. (1 Ioan 4:7) Does dim rhyfedd, felly, bod Iesu wedi dweud y byddai ei wir ddilynwyr yn cael eu hadnabod am eu cariad anhunanol tuag at ei gilydd.
8-9. Sut mae’r cariad ymysg Tystion Jehofa wedi effeithio ar lawer o bobl?
8 Fel rhagfynegodd Iesu, mae llawer wedi dod i adnabod ei wir ddilynwyr o’r cariad diffuant sydd ganddyn nhw tuag at ei gilydd. Er enghraifft, mae brawd o’r enw Ian yn cofio’r tro cyntaf iddo fynd i gynhadledd oedd yn cael ei chynnal mewn stadiwm yn agos i’w gartref. Roedd Ian wedi bod i’r stadiwm honno ychydig o fisoedd ynghynt i wylio gêm. Mae’n dweud: “Roedd y gwahaniaeth rhwng y ddau achlysur yn enfawr. Roedd y Tystion yn gwrtais, wedi eu gwisgo’n smart, ac roedd eu plant yn ymddwyn mor dda.” Mae’n ychwanegu: “Yn fwy ’na dim, roedd gan y bobl ’ma rhyw deimlad o fodlonrwydd a heddwch—rhywbeth o’n i’n dyheu amdano. Alla i ddim cofio anerchiadau’r diwrnod hwnnw, ond mae ymddygiad y Tystion wedi aros yn glir yn fy nghof.” c Wrth gwrs, mae ymddygiad o’r fath yn ganlyniad i’r cariad diffuant sydd gynnon ni tuag at ein gilydd. Gan ein bod ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n eu trin yn garedig ac yn dangos parch.
9 Cafodd brawd o’r enw John brofiad tebyg pan ddechreuodd fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa. “Roedd gweld eu bod nhw’n gyfeillgar . . . yn gwneud argraff arna i—ac roedden nhw’n ymddangos yn dduwiol iawn. O weld eu cariad, roeddwn i’n bendant fy mod i wedi dod o hyd i’r gwir grefydd.” d Dro ar ôl tro, mae profiadau o’r fath yn profi bod pobl Jehofa yn wir Gristnogion.
10. Pryd bydd gynnon ni gyfle arbennig i ddangos cariad Cristnogol? (Gweler hefyd y troednodyn.)
10 Fel dywedon ni ar y dechrau, does yr un o’n brodyr a’n chwiorydd yn berffaith. Weithiau byddan nhw’n dweud neu’n gwneud pethau sy’n ein brifo ni. e (Iago 3:2) Pan fydd hynny’n digwydd, mae’n gyfle arbennig inni ddangos cariad Cristnogol yn y ffordd rydyn ni’n ymateb. I’n helpu ni gyda hyn, beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu?—Ioan 13:15.
SUT DANGOSODD IESU GARIAD TUAG AT EI APOSTOLION?
11. Pa agweddau drwg ddangosodd Iago ac Ioan? (Gweler hefyd y llun.)
11 Doedd Iesu ddim yn disgwyl i’w ddilynwyr fod yn berffaith. Yn hytrach, roedd yn eu helpu nhw’n gariadus i weithio ar eu gwendidau ac i wneud newidiadau er mwyn plesio Jehofa. Ar un achlysur, gwnaeth dau o’i apostolion, Iago ac Ioan, drefnu i’w mam ofyn i Iesu roi safleoedd pwysig iddyn nhw yn ei Deyrnas. (Math. 20:20, 21) Felly, roedd Iago ac Ioan yn dangos balchder ac uchelgais.—Diar. 16:18.
12. Ai Iago ac Ioan oedd yr unig rai i ddangos agweddau drwg? Esbonia.
12 Nid Iago ac Ioan oedd yr unig rai wnaeth ddangos agweddau drwg ar yr achlysur hwnnw. Sylwa ar ymateb yr apostolion eraill: “Pan glywodd y deg arall am hyn, roedden nhw’n ddig iawn wrth y ddau frawd.” (Math. 20:24) Gallwn ddychmygu Iago, Ioan, a’r apostolion eraill yn taflu geiriau cas at ei gilydd. Efallai dywedodd yr apostolion eraill rywbeth fel hyn: ‘Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n well na ni, yn gofyn am safleoedd uwch yn y Deyrnas? ’Dyn ni wedi gweithio’n galed gyda Iesu hefyd. Felly ’dyn ni’n haeddu breintiau arbennig gymaint â chi!’ Beth bynnag gafodd ei ddweud, dros dro, gwnaeth yr apostolion adael i’r sefyllfa eu stopio nhw rhag dangos cariad a charedigrwydd tuag at ei gilydd.
13. Sut gwnaeth Iesu ymateb i ffaeleddau ei apostolion? (Mathew 20:25-28)
13 Sut gwnaeth Iesu ddelio â’r sefyllfa? Wnaeth ef ddim digio na dweud ei fod yn mynd i chwilio am apostolion gwell, rhai oedd yn fwy gostyngedig ac a fyddai’n trin ei gilydd yn gariadus. Yn hytrach, rhesymodd Iesu’n amyneddgar gyda’r dynion diffuant hyn. (Darllen Mathew 20:25-28.) Roedd yn parhau i’w trin yn gariadus, er eu bod nhw’n dadlau am bwy oedd y pwysicaf dro ar ôl tro.—Marc 9:34; Luc 22:24.
14. Ym mha fath o awyrgylch cafodd apostolion Iesu eu magu?
14 Heb os, roedd Iesu’n ystyried cefndir ei apostolion. (Ioan 2:24, 25) Roedden nhw wedi cael eu magu mewn awyrgylch lle roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhoi pwyslais mawr ar safle a statws. (Math. 23:6; cymhara’r fideo The Front Seats in the Synagogue yn y nodyn astudio ar Mathew 23:6.) Roedd yr arweinwyr crefyddol Iddewig hefyd yn hunangyfiawn. f (Luc 18:9-12) Roedd Iesu’n deall y byddai awyrgylch o’r fath yn effeithio ar y ffordd roedd yr apostolion yn eu gweld eu hunain ac eraill. (Diar. 19:11) Doedd Iesu ddim yn disgwyl gormod gan ei ddisgyblion, nac yn gorymateb pan oedden nhw’n gwneud camgymeriadau. Roedd yn gwybod bod eu calonnau yn y lle iawn. Felly roedd yn amyneddgar wrth eu helpu nhw i fod yn fwy gostyngedig, ac i ddangos cariad yn hytrach na cheisio bod yn geffylau blaen.
SUT GALLWN NI EFELYCHU ESIAMPL IESU?
15. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes am Iago ac Ioan?
15 Gallwn ni ddysgu llawer o’r hanes hwnnw am Iago ac Ioan. Roedden nhw’n anghywir i ofyn am safleoedd pwysig yn y Deyrnas. Ond roedd yr apostolion eraill hefyd yn anghywir am adael i’r sefyllfa chwalu eu hundod. Er hynny i gyd, deliodd Iesu â phob un o’r deuddeg apostol mewn ffordd garedig a chariadus. Beth ydy’r wers i ni? Nid beth mae pobl eraill yn ei wneud ydy’r peth pwysicaf, ond y ffordd rydyn ni’n ymateb i’w camgymeriadau a’u ffaeleddau. Beth all ein helpu? Os ydyn ni wedi digio wrth frawd neu chwaer, gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Pam mae eu hymddygiad yn fy mhoeni gymaint? Ydy hyn yn datgelu gwendid mae’n rhaid imi weithio arno? Ydy hi’n bosib bod y person wnaeth fy mrifo yn delio â’i broblemau ei hun? Hyd yn oed os ydw i’n teimlo bod gen i reswm da dros ddigio, a alla i ddangos cariad anhunanol drwy faddau iddo?’ Drwy ddangos cariad tuag at ein gilydd, rydyn ni’n profi ein bod ni’n wir ddilynwyr i Iesu.
16. Beth arall gallwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu?
16 Mae esiampl Iesu hefyd yn ein dysgu ni i wneud ein gorau i geisio deall ein cyd-gredinwyr. (Diar. 20:5) Mae’n wir na allwn ni ddarllen calonnau fel roedd Iesu yn ei wneud. Ond fe allwn ni fod yn amyneddgar a chofio bod ein brodyr a’n chwiorydd yn amherffaith. (Eff. 4:1, 2; 1 Pedr 3:8) Mae hynny’n haws ei wneud os ydyn ni’n dysgu am eu cefndir. Ystyria esiampl.
17. Sut gwnaeth un arolygwr cylchdaith elwa o ddod i adnabod un o’i frodyr yn well?
17 Mae un arolygwr cylchdaith yn cofio brawd mewn cynulleidfa yn Nwyrain Affrica. Ar y dechrau, roedd yn meddwl bod y brawd hwnnw yn angharedig. Sut gwnaeth yr arolygwr cylchdaith ymateb? Dywedodd: “Yn lle osgoi’r brawd, penderfynais geisio dod i’w adnabod yn well.” O wneud hynny, dysgodd fwy am sut cafodd y brawd ei fagu a sut roedd hynny wedi effeithio ar ei bersonoliaeth. “Unwaith imi ddeall pa mor anodd oedd hi iddo ddod dros amgylchiadau ei blentyndod,” meddai’r arolygwr cylchdaith, “a pha mor bell roedd y brawd eisoes wedi dod, o’n i’n ei edmygu. Daethon ni’n ffrindiau da.” Yn wir, pan fyddwn ni’n ceisio deall ein brodyr a’n chwiorydd, bydd hi’n haws inni ddangos cariad atyn nhw.
18. Os ydyn ni wedi cael ein pechu gan frawd neu chwaer, pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i ni’n hunain? (Diarhebion 26:20)
18 Ar adegau, gallwn ni deimlo bod angen inni fynd at frawd neu chwaer sydd wedi ein pechu ni a thrafod y peth. Ond cyn gwneud hynny, byddai’n dda inni ofyn i ni’n hunain: ‘Oes gen i’r ffeithiau i gyd?’ (Diar. 18:13) ‘Ydy hi’n bosib nad oedd y person yn bwriadu fy mrifo?’ (Preg. 7:20) ‘Ydw i erioed wedi gwneud camgymeriad tebyg?’ (Preg. 7:21, 22) ‘Drwy fynd at y person, a fydda i’n gwneud môr a mynydd o’r broblem?’ (Darllen Diarhebion 26:20.) Erbyn inni feddwl yn ddwfn am y fath gwestiynau, efallai bydd ein cariad tuag at ein brawd yn ein hysgogi ni i faddau iddo.
19. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?
19 Fel grŵp, mae Tystion Jehofa yn profi eu bod nhw’n wir ddisgyblion i Iesu drwy garu ei gilydd. Gallwn ni fel unigolion brofi hynny hefyd drwy ddangos cariad anhunanol tuag at ein brodyr a’n chwiorydd er eu bod nhw’n amherffaith. Drwy wneud hynny, efallai byddwn ni’n helpu eraill i adnabod y wir grefydd ac i addoli Jehofa, y Duw cariadus, gyda ni. Gad inni fod yn benderfynol o barhau i ddangos gwir gariad Cristnogol.
CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’
a Mae llawer o bobl yn cael eu denu at y gwir wrth weld y cariad diffuant sydd gynnon ni tuag at ein gilydd. Ond dydyn ni ddim yn berffaith, felly ar adegau, gall fod yn anodd trin ein gilydd mewn ffordd gariadus. Gad inni ystyried pam mae cariad mor bwysig, a sut gallwn ni efelychu esiampl Iesu pan fydd eraill yn gwneud camgymeriadau.
b Gweler y llyfr “Come Be My Follower,” pen. 17, par. 10-11.
c Gweler yr erthygl “O’r Diwedd, Mae ’na Bwrpas i Fy Mywyd,” yn rhifyn Tachwedd 1, 2012 y Tŵr Gwylio.
d Gweler yr erthygl “Roedd Fy Mywyd yn Edrych yn Berffaith,” yn rhifyn Mai 1, 2012 y Tŵr Gwylio.
e Dydy’r erthygl hon ddim yn trafod pechodau difrifol y dylai’r henuriaid ddelio â nhw, fel y rhai sydd wedi eu rhestru yn 1 Corinthiaid 6:9, 10.
f Yn ôl y sôn, flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd un rabbi: “Mae o leiaf dri deg o ddynion yn y byd sydd yr un mor gyfiawn ag Abraham. Os oes tri deg, mae fy mab a minnau’n ddau ohonyn nhw; os deg, fy mab a minnau ydy dau ohonyn nhw; os pump, fy mab a minnau ydy dau ohonyn nhw; os dau, fy mab a minnau ydyn nhw; ac os dim ond un sydd, y fi ydy hwnnw.”