Cwestiynau Ein Darllenwyr
Pam dywedodd “perthynas agos” Boas y byddai priodi Ruth yn “difetha” ei etifeddiaeth ei hun? (Ruth 4:1, 6)
Yn adeg y Beibl, petai dyn priod yn marw heb gael plant, beth fyddai’n digwydd i’w eiddo? A fyddai ei enw teuluol yn diflannu am byth? Roedd Cyfraith Moses yn helpu i ateb cwestiynau felly.
Petai dyn yn marw neu’n mynd yn dlawd ac yn gorfod gwerthu ei dir, byddai un o’i frodyr neu berthynas agos yn gallu prynu’r tir yn ôl. Felly byddai’r tir yn dal yn perthyn i’r teulu.—Lef. 25:23-28; Num. 27:8-11.
Ond beth am enw teuluol y dyn oedd wedi marw? Roedd ’na drefniant lle gallai brawd y dyn oedd wedi marw briodi’r weddw er mwyn cael plentyn. Felly byddai’r enw teuluol yn parhau, a byddai’r plentyn yn etifeddu’r eiddo. Roedd y trefniant cariadus hwn hefyd yn gofalu am y weddw, fel roedd yn wir yn achos Ruth.—Deut. 25:5-7; Math. 22:23-28.
Meddylia am esiampl Naomi, oedd yn wraig i ddyn o’r enw Elimelech. Pan fu farw ei gŵr a’i dau fab, doedd gan Naomi neb i ennill bywoliaeth a gofalu amdani. (Ruth 1:1-5) Ar ôl dychwelyd i Jwda, dywedodd Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth i ofyn i Boas, perthynas agos i Elimelech, brynu’r tir yn ôl. (Ruth 2:1, 19, 20; 3:1-4) Ond sylweddolodd Boas fod rhywun arall “yn perthyn yn agosach,” ac ef oedd â’r hawl cyntaf i brynu’r tir yn ôl.—Ruth 3:9, 12, 13.
I ddechrau, roedd y “perthynas agos” hwnnw yn barod i helpu, er gwaethaf y gost. (Ruth 4:1-4) Sylweddolodd fod Naomi yn rhy hen i gael plentyn arall i etifeddu tir Elimelech. Roedd hynny’n golygu y byddai’r tir yn dod yn rhan o’i etifeddiaeth ei hun. Felly roedd yn ymddangos fel buddsoddiad doeth.
Ond newidiodd y dyn ei feddwl ar ôl sylweddoli y byddai’n gorfod priodi Ruth. Dywedodd: “Alla i ddim ei brynu . . . neu bydda i’n difetha fy etifeddiaeth fy hun.” (Ruth 4:5, 6) Pam gwnaeth y dyn ailfeddwl?
Petai’r perthynas agos neu rywun arall yn priodi Ruth a hithau’n cael mab, y mab hwnnw fyddai’n etifeddu tir Elimelech. Sut byddai hyn yn ‘difetha etifeddiaeth’ y dyn? Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union, ond dyma rai ffyrdd posib.
Yn gyntaf, byddai’n ymddangos yn wastraff arian oherwydd fyddai tir Elimelech ddim yn perthyn iddo yn y pen draw. Mab Ruth fyddai’n ei gael.
Yn ail, byddai ef yn gorfod darparu bwyd ar gyfer Naomi a Ruth, a gofalu amdanyn nhw.
Yn drydydd, petai Ruth yn cael mwy o blant gyda’r dyn, byddai unrhyw blant eraill oedd ganddo yn gorfod rhannu eu hetifeddiaeth nhw gyda phlant Ruth.
Yn bedwerydd, petai’r dyn heb blant eraill, a Ruth yn cael mab, byddai gan y mab hwnnw hawl i dir Elimelech yn ogystal â thir y dyn. Byddai’r dyn yn colli ei dir i blentyn oedd ag enw teuluol Elimelech yn hytrach na’i enw teuluol ei hun. Doedd y dyn ddim yn fodlon peryglu ei etifeddiaeth er mwyn helpu Naomi. Roedd yn well ganddo adael i Boas gymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Ac roedd Boas yn hapus i wneud hynny am ei fod eisiau “cadw enw’r un fu farw ar ei etifeddiaeth.”—Ruth 4:10.
Mae’n ymddangos bod y perthynas agos yn hunanol a’i fod yn poeni mwy am ei etifeddiaeth a’i enw ei hun. Ond yn hytrach na diogelu ei enw, does dim cofnod o gwbl ohono heddiw. Hefyd, gwnaeth ef golli allan ar y fraint anhygoel a gafodd Boas, sef cael ei enwi yn llinach y Meseia, Iesu Grist. Dyna ganlyniad trist i’r dyn hunanol am wrthod y cyfle i helpu rhywun mewn angen!—Math. 1:5; Luc 3:23, 32.