ERTHYGL ASTUDIO 13
Defnyddiwch y Greadigaeth i Ddysgu Eich Plant am Jehofa
“Pwy wnaeth eu creu nhw?”—ESEI. 40:26.
CÂN 11 Mae’r Greadigaeth yn Moli Duw
CIPOLWG a
1. Beth mae rhieni eisiau ar gyfer eu plant?
RIENI, rydyn ni’n gwybod eich bod chi wir eisiau helpu eich plant i ddod i adnabod ac i garu Jehofa. Ond mae Duw’n anweledig. Felly sut gallwch chi helpu eich plant i’w weld fel Person go iawn ac i glosio ato?—Iago 4:8.
2. Sut gall rhieni ddysgu eu plant am rinweddau Jehofa?
2 Mae’n bwysig i rieni helpu eu plant i glosio at Jehofa drwy astudio’r Beibl gyda nhw. (2 Tim. 3:14-17) Ond ar ben hynny, mae’r Beibl yn dangos bod ’na ffordd arall i rai ifanc ddysgu am Jehofa. Rydyn ni’n gweld hyn yn llyfr Diarhebion, lle mae tad yn atgoffa ei fab i beidio â cholli golwg ar rinweddau Jehofa sydd i’w gweld yn y greadigaeth. (Diar. 3:19-21) Nawr rydyn ni am ystyried rhai ffyrdd gall rhieni ddefnyddio’r greadigaeth i helpu eu plant i ddysgu am bersonoliaeth Jehofa.
DEFNYDDIWCH Y GREADIGAETH I DDYSGU EICH PLANT AM JEHOFA—SUT?
3. Ym mha ffordd dylai rhieni helpu eu plant?
3 Mae’r Beibl yn dweud am Dduw: “Rydyn ni’n gallu deall ei rinweddau anweledig os ydyn ni’n astudio’r ffordd mae’r byd wedi cael ei greu. Rydyn ni’n gallu dysgu amdano drwy edrych yn fanwl ar y pethau mae ef wedi eu creu.” (Rhuf. 1:20) Mae’n debyg eich bod chi rieni yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored gyda’ch plant. Wrth ichi wneud hynny, helpwch eich plant i weld y cysylltiad rhwng rhinweddau hyfryd Jehofa a’r “pethau mae ef wedi eu creu.” I’n helpu ni gyda hyn, dewch inni weld beth gall rhieni ei ddysgu o esiampl Iesu.
4. Sut roedd Iesu’n defnyddio’r greadigaeth i ddysgu ei ddisgyblion? (Luc 12:24, 27-30)
4 Sylwch ar sut roedd Iesu’n defnyddio’r greadigaeth i ddysgu ei ddisgyblion. Ar un achlysur, gofynnodd iddyn nhw ystyried y cigfrain a’r lili. (Darllen Luc 12:24, 27-30) O’r holl anifeiliaid a phlanhigion gallai Iesu fod wedi sôn amdanyn nhw, dewisodd aderyn a blodyn oedd yn gyfarwydd i’w ddisgyblion. Mae’n debyg y byddai’r disgyblion wedi gweld cigfrain yn hedfan uwchben a phlanhigion yn blodeuo yn y caeau. Dychmygwch Iesu’n pwyntio at y pethau hyn wrth iddo siarad. A beth wnaeth Iesu ar ôl cyfeirio at yr esiamplau hyn? Fe wnaeth ddysgu gwers bwerus i’w ddisgyblion am haelioni a charedigrwydd eu Tad nefol. Bydd Jehofa yn bwydo ac yn dilladu ei weision ffyddlon, fel mae’n ei wneud ar gyfer yr adar a blodau’r maes.
5. Pa esiamplau o’r greadigaeth gall rhieni eu defnyddio i ddysgu eu plant am Jehofa?
5 Sut gallwch chi rieni efelychu ffordd Iesu o ddysgu? Beth am sôn wrth eich plentyn am rywbeth yn y greadigaeth rydych chi’n hoff iawn ohono, fel eich hoff anifail neu blanhigyn? Wrth ichi siarad, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n esbonio beth mae’r esiampl honno’n ei ddatgelu am Jehofa. Yna gallwch ofyn i’ch plentyn am ei hoff anifail neu blanhigyn yntau. Os ydych chi’n siarad am rywbeth yn y greadigaeth sydd eisoes yn apelio ato, mae’n debyg y bydd yn talu mwy o sylw wrth ichi sôn am rinweddau Jehofa.
6. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Mam Christopher?
6 Cyn cael sgyrsiau am y greadigaeth gyda’u plant, oes rhaid i rieni dreulio oriau’n gwneud ymchwil ar anifeiliaid neu blanhigion penodol? Ddim o reidrwydd. Wnaeth Iesu ddim rhoi esboniad hirwyntog am sut mae cigfrain yn bwyta neu sut mae’r lili’n tyfu. Wrth gwrs, efallai bydd eich plentyn yn mwynhau trafod pethau mwy cymhleth ym myd natur, ond weithiau bydd sylwad neu gwestiwn syml yn ddigon i hoelio’r pwynt. Sylwch beth mae brawd o’r enw Christopher yn ei gofio o’i blentyndod: “Byddai Mam yn gwneud sylwadau syml i’n helpu ni i werthfawrogi’r greadigaeth o’n cwmpas. Er enghraifft, pan oedden ni’n gweld mynyddoedd, byddai hi’n dweud: ‘Edrychwch pa mor anferth a hardd ydy’r mynyddoedd. Onid ydy Jehofa yn rhyfeddol?’ Neu pan oedden ni ar lan y môr byddai hi’n dweud: ‘Sylwch ar nerth y tonnau yna. Onid ydy Jehofa’n bwerus?’” Mae Christopher yn dweud: “Roedd sylwadau syml fel hynny’n gwneud inni feddwl ac yn cael effaith fawr arnon ni.”
7. Sut gallwch chi hyfforddi eich plant i feddwl am y greadigaeth?
7 Wrth i’ch plant dyfu i fyny, gallwch chi eu hyfforddi nhw i ddechrau meddwl am y greadigaeth a dysgu gwersi am bersonoliaeth Jehofa. Gallwch chi ddewis un peth mae Jehofa wedi ei greu, a gofyn i’ch plant, “Beth mae hyn yn ei ddysgu i chi am Jehofa?” Efallai bydd eu sylwadau yn eich synnu.—Math. 21:16.
PRYD GALLWCH CHI DDEFNYDDIO’R GREADIGAETH I DDYSGU EICH PLANT?
8. Pa gyfleoedd oedd gan rieni yn Israel gynt wrth deithio “ar y ffordd”?
8 Cafodd rhieni yn Israel gynt eu hannog i ddysgu gorchmynion Jehofa i’w plant “wrth gerdded ar y ffordd.” (Deut. 11:19, BCND) Roedd hi’n bosib gweld amrywiaeth o anifeiliaid, adar, a blodau wrth droedio’r ffyrdd oedd yn croesi’r wlad yn Israel. Wrth i deuluoedd deithio ar hyd y ffyrdd, roedd rhieni’n gallu siarad â’u plant am y pethau roedd Jehofa wedi eu creu. Mae’n debyg bod gynnoch chi rieni gyfleoedd o’r fath i ddefnyddio’r greadigaeth i ddysgu eich plant. Ystyriwch sut mae rhai rhieni wedi llwyddo i wneud hynny.
9. Beth gallwch chi ei ddysgu o sylwadau Punitha a Katya?
9 Mae mam o’r enw Punitha, sy’n byw mewn dinas fawr yn India yn dweud: “Pan fyddwn ni’n ymweld â theulu allan yn y wlad, mae’n gyfle i helpu ein plant i ddysgu am greadigaeth arbennig Jehofa. Dw i’n teimlo bod fy mhlant yn deall y greadigaeth yn well pan maen nhw’n bell o strydoedd prysur a thraffig y ddinas.” Rieni, mae’n debyg fydd eich plant byth yn anghofio treulio amser gyda chi mewn ardal hyfryd. Mae Katya, chwaer o Moldofa, yn dweud: “Yr atgofion mwyaf melys sydd gen i o fy mhlentyndod ydy’r rhai ges i yn treulio amser gyda fy rhieni yng nghefn gwlad. Dw i’n ddiolchgar eu bod nhw wedi fy nysgu, pan o’n i’n ifanc, i stopio ac edrych ar greadigaeth Jehofa ac i ddysgu amdano o’r pethau mae wedi eu creu.”
10. Beth gall rieni ei wneud os nad yw’n bosib iddyn nhw fynd allan o’r ddinas? (Gweler y blwch “ Help ar Gyfer Rhieni.”)
10 Beth os nad yw’n bosib i chi deithio i gefn gwlad? Mae Amol, sydd hefyd yn byw yn India, yn dweud: “Yn lle dw i’n byw, mae rhieni’n gorfod gweithio oriau hir, ac mae teithio i gefn gwlad yn gallu bod yn ddrud. Ond mae parc bach, neu deras ar ben to, yn gallu bod yn lle da i wylio’r greadigaeth a siarad am rinweddau Jehofa.” Os ydych chi’n edrych yn ofalus yn eich ardal chi, mae’n debyg y byddwch chi’n darganfod llawer o bethau ym myd natur gallwch chi eu dangos i’ch plant. (Salm 104:24) Mae’n debyg cewch hyd i adar, pryfed, planhigion, a mwy. Mae Karina, o’r Almaen, yn dweud: “Mae fy mam yn hoff iawn o flodau, felly pan o’n i’n eneth fach, byddai hi’n tynnu fy sylw at flodau hyfryd pryd bynnag bydden ni’n mynd am dro.” Beth arall gallwch chi ei ddefnyddio i ddysgu eich plant? Mae’r gyfundrefn wedi cynhyrchu nifer o fideos a chyhoeddiadau am y greadigaeth. Felly lle bynnag rydych chi’n byw, gallwch chi helpu eich plant i weld beth mae Duw wedi ei greu. Nesaf, dewch inni ystyried rhai o rinweddau Jehofa gallwch chi dynnu sylw atyn nhw wrth siarad â’ch plant.
MAE “RHINWEDDAU ANWELEDIG” JEHOFA YN AMLWG
11. Sut mae rhieni yn gallu helpu eu plant i weld tystiolaeth o gariad Jehofa?
11 Er mwyn helpu’ch plant i weld tystiolaeth o gariad Jehofa, gallwch chi gyfeirio at y ffordd dyner mae llawer o anifeiliaid yn gofalu am eu rhai ifanc. (Math. 23:37) Gallwch chi hefyd dynnu sylw at yr amrywiaeth hyfryd yn y greadigaeth, sy’n rhoi cymaint o bleser inni. Mae Karina, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn dweud: “Pan oedden ni’n mynd allan am dro, byddai mam yn fy annog i stopio ac edrych ar sut mae pob blodyn yn unigryw, a sut mae ei harddwch yn adlewyrchu cariad Jehofa. Hyd heddiw, dw i’n dal i edrych yn fanwl ar flodau ac yn sylwi ar eu lliw a sut mae pob un wedi ei ddylunio’n wahanol. Maen nhw’n dal i atgoffa fi gymaint mae Jehofa yn ein caru ni.”
12. Sut gall rhieni helpu eu plant i weld tystiolaeth o ddoethineb Duw? (Salm 139:14) (Gweler hefyd y llun.)
12 Helpwch eich plant i weld tystiolaeth o ddoethineb Duw. Yn bendant, mae Jehofa yn llawer mwy doeth na ni. (Rhuf. 11:33) Er enghraifft, gallwch chi gyfeirio at sut mae dŵr yn codi i wneud cymylau, ac yna, sut mae’r cymylau’n cludo’r dŵr yn hawdd o un lle i’r llall. (Job 38:36, 37) Gallwch chi hefyd dynnu sylw at y ffordd ryfeddol mae’r corff wedi ei ddylunio. (Darllen Salm 139:14.) Ystyriwch sut gwnaeth tad o’r enw Vladimir wneud hynny. Mae’n dweud: “Un diwrnod, syrthiodd ein mab oddi ar ei feic a’i frifo ei hun. Ar ôl ychydig o ddyddiau, roedd y briw wedi gwella. Gwnaeth fy ngwraig a minnau esbonio bod Jehofa wedi creu’r corff gyda’r gallu i’w drwsio’i hun. Yna gwnaethon ni sôn bod pobl yn methu creu unrhyw beth sy’n gwneud hynny. Er enghraifft, dydy car ddim yn gallu trwsio’i hun ar ôl damwain. Roedd y profiad hwn yn helpu ein mab i ddeall doethineb Jehofa.”
13. Sut gall rhieni helpu eu plant i weld tystiolaeth o nerth Duw? (Eseia 40:26)
13 Mae Jehofa yn ein gwahodd ni i edrych i fyny ar y nefoedd ac i feddwl am ei nerth anhygoel, sy’n cadw’r sêr yn eu lle. (Darllen Eseia 40:26.) Gallwch chi annog eich plant i edrych i fyny ar y nefoedd ac i feddwl yn ddwfn am beth maen nhw’n ei weld. Sylwch beth mae Tingting, chwaer o Taiwan, yn ei gofio am ei phlentyndod: “Un tro, aeth mam â fi i wersylla, ac roedden ni’n gallu gweld cymaint o sêr y nos gan ein bod ni’n bell o’r ddinas a’r holl oleuadau. Ar y pryd o’n i’n poeni na fyddwn i’n gallu aros yn ffyddlon i Jehofa achos roedd eraill yn fy ysgol yn rhoi pwysau arna i. Anogodd fy mam imi feddwl am y nerth ddefnyddiodd Jehofa i greu’r holl sêr hynny, ac i gofio ei fod yn bendant yn gallu defnyddio’r un nerth i fy helpu innau i wrthsefyll unrhyw brawf. Ar ôl dod i werthfawrogi’r greadigaeth bryd hynny, des i i adnabod Jehofa yn well, a des i’n fwy penderfynol byth o’i wasanaethu.”
14. Sut gall rhieni ddefnyddio’r greadigaeth i helpu eu plant i weld bod Jehofa yn Dduw hapus?
14 Mae creadigaeth Jehofa yn datgelu ei lawenydd a’i hiwmor hefyd. Mae gwyddonwyr wedi sylwi bod y rhan fwyaf o anifeiliaid, gan gynnwys adar a physgod, yn chwarae. (Job 40:20) Ydy eich plant chi erioed wedi chwerthin wrth wylio anifeiliaid yn chwarae? Efallai wrth weld cath fach yn mynd ar ôl pelen o wlân, neu gŵn bach yn rhedeg ar ôl ei gilydd. Y tro nesaf mae eich plant yn chwerthin wrth wylio anifeiliaid yn cael hwyl, beth am eu hatgoffa nhw bod Jehofa yn Dduw hapus?—1 Tim. 1:11.
MWYNHEWCH GREADIGAETH JEHOFA FEL TEULU
15. Beth all helpu rhieni i ddarganfod beth sydd ar feddyliau eu plant? (Diarhebion 20:5) (Gweler hefyd y llun.)
15 Weithiau mae plant yn ei chael hi’n anodd siarad â’u rhieni am eu problemau. Os mai dyna sut mae eich plant yn teimlo, efallai bydd angen ichi wneud ymdrech i’w cael nhw i fynegi eu teimladau. (Darllen Diarhebion 20:5.) Mae rhai rhieni wedi darganfod bod hynny’n haws pan fyddan nhw’n mwynhau byd natur gyda’u plant. Pam? Un rheswm ydy bod ’na lai o bethau i dynnu sylw’r plant a’r rhieni. Mae tad o’r enw Masahiko yn Taiwan yn sôn am reswm arall: “Pan fyddwn ni’n treulio amser yn yr awyr agored—yn cerdded yn y mynyddoedd neu ar lan y môr—fel arfer mae’r plant wedi ymlacio mwy. Ar adegau fel hyn mae’n haws eu hannog nhw i fynegi eu hunain, ac i ddarganfod beth sydd ar eu meddyliau.” Mae Katya, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn dweud: “Ar ôl ysgol, byddai fy mam yn mynd â fi i’r parc. Mewn awyrgylch mor heddychlon, roedd hi’n haws imi sôn am beth oedd wedi digwydd yn yr ysgol, neu am beth oedd ar fy meddwl.”
16. Sut gall teuluoedd ymlacio a chael hwyl wrth fwynhau creadigaeth Jehofa?
16 Wrth i deuluoedd fwynhau creadigaeth Jehofa, maen nhw’n gallu ymlacio a chael hwyl gyda’i gilydd, ac mae hynny’n cryfhau’r berthynas rhyngddyn nhw. Mae’r Beibl yn dweud bod ’na “amser i chwerthin . . . ac amser i ddawnsio.” (Preg. 3:1, 4) Drwy waith ei law, mae Jehofa wedi rhoi llefydd arbennig ar y ddaear inni allu mwynhau gweithgareddau iachus. Mae llawer o deuluoedd yn hoffi treulio amser gyda’i gilydd yng nghefn gwlad, yn y mynyddoedd, ar y traeth, neu mewn gwarchodfa natur. Mae llawer o blant wrth eu boddau yn chwarae mewn parc, yn gwylio anifeiliaid, neu’n nofio mewn afon, llyn, neu’r môr. Am gyfleoedd rhagorol sydd gynnon ni i ymlacio a mwynhau natur yn yr awyr agored gyda chreadigaeth Duw o’n cwmpas ym mhobman.
17. Pam dylai rhieni helpu eu plant i fwynhau creadigaeth Duw?
17 Ym myd newydd Duw, bydd rhieni a phlant yn mwynhau creadigaeth Jehofa yn fwy nag erioed o’r blaen. Yn wahanol iawn i heddiw, fydd ddim rheswm inni ofni anifeiliaid, a fyddan nhw ddim yn ein hofni ni chwaith. (Esei. 11:6-9) Byddwn ni’n gallu mwynhau’r pethau mae Jehofa wedi eu creu am byth. (Salm 22:26, BCND) Ond chi rieni, does dim rhaid disgwyl tan hynny i helpu eich plant i ddechrau mwynhau’r greadigaeth. Wrth ichi ddefnyddio’r greadigaeth i ddysgu eich plant, mae’n debyg byddan nhw’n teimlo’r un ffordd â’r Brenin Dafydd, a ddywedodd: “[Jehofa] does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti’n eu gwneud.”—Salm 86:8.
CÂN 134 Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant
a Mae gan lawer o frodyr a chwiorydd atgofion melys o dreulio amser yn mwynhau’r greadigaeth gyda’u rhieni. Maen nhw’n dal i gofio sut roedd eu rhieni’n defnyddio’r cyfleoedd hynny i’w dysgu nhw am bersonoliaeth Jehofa. Os oes gynnoch chi blant, sut gallwch chi eu dysgu nhw am rinweddau Duw gan ddefnyddio’r greadigaeth? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw.