Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 10

Pam Dylet Ti Gael Dy Fedyddio?

Pam Dylet Ti Gael Dy Fedyddio?

“Gadewch i bob un ohonoch chi gael ei fedyddio.”—ACTAU 2:38.

CÂN 34 Rhodio Mewn Uniondeb

CIPOLWG a

1-2. Yn aml, beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn cael eu bedyddio, a beth dylet ti feddwl amdano?

 WYT ti erioed wedi gwylio grŵp o bobl ar ddiwrnod eu bedydd? Wrth iddyn nhw ateb y ddau gwestiwn cyn cael eu bedyddio, rwyt ti’n gallu clywed eu ffydd gadarn yn eu hatebion. Rwyt ti’n gweld eu ffrindiau a’u teuluoedd yn falch iawn ohonyn nhw ac yn gwenu o glust i glust. Wrth i dy frodyr a dy chwiorydd newydd ddod allan o’r dŵr, rwyt ti’n gweld y llawenydd ar eu hwynebau, ac mae sŵn y clapio yn fyddarol. Mae hynny’n olygfa gyffredin oherwydd ar gyfartaledd, mae miloedd bob wythnos yn cysegru eu bywydau i Jehofa ac yn cael eu bedyddio fel un o’i Dystion.

2 Beth amdanat ti? Os wyt ti’n meddwl am gael dy fedyddio, rwyt ti’n rhywun arbennig iawn yn y byd creulon hwn oherwydd dy fod ti’n “ceisio Duw.” (Salm 14:1, 2) Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu i dy helpu di, p’un a wyt ti’n hen neu’n ifanc. Ond bydd hefyd yn helpu’r rhai ohonon ni sydd eisoes wedi cael ein bedyddio i fod yn fwy penderfynol o wasanaethu Jehofa am byth. Felly dewch inni ystyried tri rheswm pam rydyn ni’n addoli Jehofa.

RWYT TI’N CARU BETH SYDD YN WIR AC YN GYFIAWN

Mae Satan wedi pardduo enw da Jehofa am filoedd o flynyddoedd, ac mae’n dal wrthi (Gweler paragraffau 3-4)

3. Pam mae gweision Jehofa yn caru beth sydd yn wir ac yn gyfiawn? (Salm 119:128, 163, BCND)

3 Dywedodd Jehofa wrth ei bobl fod “rhaid caru’r gwir.” (Sech. 8:19) Fe wnaeth Iesu annog ei ddilynwyr i geisio bod yn gyfiawn. (Math. 5:6) Mae hynny’n golygu cael awydd cryf i wneud beth sy’n iawn, yn dda, ac yn lân yng ngolwg Duw. Rydyn ni’n siŵr dy fod ti’n caru beth sy’n wir ac yn gyfiawn, ac yn casáu celwyddau a phob math o ddrygioni. (Darllen Salm 119:128, 163, BCND.) Mae rhywun sy’n dweud celwydd yn efelychu Satan, rheolwr y byd hwn. (Ioan 8:44; 12:31) Ers y gwrthryfel yn Eden, mae Satan wedi bod yn lledaenu celwyddau am Dduw gan geisio pardduo enw sanctaidd Jehofa. Aeth mor bell â chyhuddo Jehofa o fod yn Rheolwr hunanol ac anonest sy’n dal pethau da yn ôl rhag ei bobl. (Gen. 3:1, 4, 5) Mae celwyddau gwenwynig Satan yn dal i ddylanwadu ar feddyliau a chalonnau pobl heddiw. Mae Satan yn gallu arwain y rhai sy’n gwrthod “caru’r gwir” i wneud pob math o bethau drwg.—Rhuf. 1:25-31.

4. Sut mae Jehofa wedi profi ei fod yn “Dduw y gwirionedd”? (Gweler hefyd y llun.)

4 Gan fod Jehofa yn “Dduw y gwirionedd,” mae ef eisiau rhyddhau pobl o gelwyddau Satan. (Salm 31:5, BC) Mae’n helpu ei weision i ddysgu’r gwir ac i fod yn onest ac yn gyfiawn. Mae hynny’n rhoi urddas a heddwch mewnol iddyn nhw. (Diar. 13:5, 6) Wyt ti wedi profi hynny wrth iti astudio’r Beibl? Heb os, rwyt ti wedi dysgu mai ffordd Jehofa yw’r gorau i’r ddynoliaeth ac i ti’n bersonol. (Salm 77:13) Felly rwyt ti eisiau ceisio cyfiawnder Duw, amddiffyn y gwir, a helpu i brofi bod Satan yn gelwyddog. (Math. 6:33) Sut gelli di wneud hynny?

5. Sut gelli di gefnogi’r gwir a’r hyn sy’n gyfiawn?

5 Gelli di ddewis ffordd o fyw sy’n dweud, i bob pwrpas: ‘Bydda i’n gwrthod celwyddau Satan ac yn amddiffyn y gwir. Rydw i’n cefnogi sofraniaeth Jehofa ac eisiau gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg.’ Sut gelli di wneud hynny? Yn gyntaf drwy weddïo ar Jehofa ac addo ei wasanaethu am byth, ac yn ail, drwy ddangos hynny’n gyhoeddus drwy gael dy fedyddio. Mae caru’r hyn sy’n wir ac yn gyfiawn yn rheswm pwerus dros gael dy fedyddio!

RWYT TI’N CARU IESU GRIST

6. Pa resymau dros garu Iesu sydd i’w gweld yn Salm 45:4?

6 Mae Salm 45:4, NWT yn cynnwys rhesymau da dros garu Iesu Grist. (Darllen o’r troednodyn. b) Mae Iesu’n caru gostyngeiddrwydd, cyfiawnder, a’r gwir. Felly os wyt ti’n caru’r pethau hynny hefyd, mae’n ddigon naturiol iti garu Iesu Grist. Roedd Iesu’n ddewr wrth amddiffyn yr hyn sy’n iawn ac yn wir. (Ioan 18:37) Ond sut gwnaeth Iesu ddangos gostyngeiddrwydd?

7. Beth sy’n apelio atat ti am ostyngeiddrwydd Iesu?

7 Mae Iesu’n esiampl wych o ostyngeiddrwydd. Er enghraifft, roedd bob tro yn rhoi’r clod i’w Dad, nid iddo’i hun. (Marc 10:17, 18; Ioan 5:19) Pam mae Iesu’n ostyngedig? Oherwydd mae’n caru ei Dad gostyngedig ac yn efelychu ei rinweddau yn berffaith. (Salm 18:35, NWT; Heb. 1:3) Sut mae hynny’n gwneud iti deimlo? Mae’n siŵr o dy gymell di i garu mab Duw a’i efelychu.

8. Pam rydyn ni’n hapus mai Iesu yw ein Brenin?

8 Rydyn ni’n caru Iesu fel ein Brenin oherwydd ef yw’r Rheolwr gorau. Cafodd ei hyfforddi a’i benodi gan Jehofa ei hun. (Esei. 50:4, 5) Meddylia hefyd am y cariad hunan-aberthol mae ef wedi ei ddangos. (Ioan 13:1) Am ei fod yn Frenin arnon ni, mae Iesu yn haeddu ein cariad. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni wir yn ei garu ac yn ffrindiau iddo? Drwy gadw ei orchmynion. (Ioan 14:15; 15:14, 15) Am fraint yw bod yn ffrind i Fab Jehofa!

9. Sut mae bedydd Iesu a bedydd ei ddilynwyr yn debyg?

9 Un o orchmynion Iesu mae’n rhaid i’w ddilynwyr ei gadw yw’r gorchymyn i gael eu bedyddio. (Math. 28:19, 20) Gosododd Iesu’r esiampl yn hyn o beth. Ond roedd ’na rai pethau yn wahanol am fedydd Iesu. (Gweler y blwch “ Bedydd Iesu a Bedydd ei Ddilynwyr—Sut Maen Nhw’n Wahanol.”) Er hynny, mae ’na rai pethau sy’n debyg rhwng bedydd Iesu a bedydd Cristnogion. Fel beth? Pan gafodd Iesu ei fedyddio, roedd yn cyflwyno ei hun i wneud ewyllys ei Dad. (Heb. 10:7) Sut gall dilynwyr Crist ddilyn ei esiampl? Drwy gael eu bedyddio, maen nhw’n dangos yn gyhoeddus eu bod nhw wedi cysegru eu bywydau i Jehofa. O hynny ymlaen, y peth pwysicaf yn eu bywydau ydy gwneud ewyllys Duw, nid eu plesio nhw eu hunain.

10. Pam dylai cariad at Iesu dy gymell i gael dy fedyddio?

10 Rwyt ti eisoes wedi derbyn mai Iesu yw Mab unig-anedig Jehofa, ac rwyt ti’n hapus mai ef yw ein Brenin. Rwyt ti wedi dod i adnabod Iesu ac rwyt ti’n gwybod ei fod yn ostyngedig a’i fod yn efelychu ei Dad yn berffaith. Rwyt ti wedi dysgu sut gwnaeth Iesu helpu rhai mewn angen drwy roi bwyd iddyn nhw, eu cysuro, a hyd yn oed eu hiacháu. (Math. 14:14-21) Rwyt ti wedi gweld sut mae’n arwain ei gynulleidfa heddiw. (Math. 23:10) Ac rwyt ti’n hollol siŵr y bydd yn gwneud llawer mwy yn y dyfodol fel Brenin Teyrnas Dduw. Gelli di ddangos dy fod ti’n ei garu drwy ddilyn ei esiampl. (Ioan 14:21) A gelli di ddechrau gwneud hynny drwy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio.

RWYT TI’N CARU JEHOFA

11. Beth yw’r prif reswm dros gael dy fedyddio, a pham?

11 Beth yw’r prif reswm dros gael dy fedyddio? Eglurodd Iesu beth yw gorchymyn pwysicaf Duw drwy ddweud: “Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid ac â dy holl feddwl ac â dy holl nerth.” (Marc 12:30) Ydy’r geiriau hynny’n disgrifio’r ffordd rwyt ti’n teimlo am Dduw?

Mae pob peth da rwyt ti wedi ei fwynhau yn y gorffennol wedi dod oddi wrth Jehofa a bydd hynny’n parhau hyd byth (Gweler paragraffau 12-13)

12. Pam rwyt ti’n caru Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

12 Mae gynnon ni gymaint o resymau i garu Jehofa. Er enghraifft, ef yw’r “ffynnon sy’n rhoi bywyd,” a’r un sy’n rhoi “pob rhodd dda a phob anrheg berffaith.” (Salm 36:9; Iago 1:17) Rwyt ti wedi dod i wybod bod pob peth da rwyt ti’n ei fwynhau yn dod oddi wrth ein Duw hael a chariadus.

13. Pam mae aberth Iesu yn anrheg mor arbennig?

13 Pam mae aberth Iesu’n anrheg mor hyfryd oddi wrth Jehofa? Meddylia am ba mor agos yw’r berthynas rhwng Jehofa ac Iesu. Wrth iddyn nhw dreulio biliynau o flynyddoedd gyda’i gilydd, aeth y berthynas honno o nerth i nerth. (Diar. 8:22, 23, 30) Dywedodd Iesu: “Mae’r Tad yn fy ngharu i,” ac “[rydw] i’n caru’r Tad” (Ioan 10:17; 14:31) Meddylia felly am y boen roedd Jehofa yn ei theimlo o adael i’w Fab ddioddef a marw. Ond gan fod Jehofa yn caru’r ddynoliaeth—gan gynnwys ti—roedd yn fodlon aberthu ei Fab annwyl i roi gobaith i ti ac eraill fyw am byth. (Ioan 3:16; Gal. 2:20) Dyna’r rheswm pennaf pam rydyn ni’n caru Duw.

14. Beth yw’r nod gorau gelli di ei gael?

14 Heb os, wrth iti ddysgu mwy am Jehofa, mae dy gariad tuag ato wedi tyfu, ac rwyt ti wedi closio ato. Byddi di’n gallu parhau i wneud hynny nawr ac am byth drwy sicrhau bod yr hyn rwyt ti’n ei ddweud a’i wneud yn llawenhau calon Jehofa. (Diar. 23:15, 16) Bydd y ffordd rwyt ti’n byw dy fywyd yn dangos dy fod ti yn wir yn caru Jehofa. (1 Ioan 5:3) Dyna’r nod gorau y gelli di ei ddewis.

15. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n caru Jehofa?

15 Sut gelli di ddangos dy gariad at Jehofa? Yn gyntaf, drwy dy gysegru dy hun iddo mewn gweddi arbennig. (Salm 40:8) Wedyn, rwyt ti’n dangos hynny’n gyhoeddus drwy gael dy fedyddio. Fel rydyn ni eisoes wedi dweud, mae hynny’n garreg filltir hapus yn dy fywyd. Mae hefyd yn drobwynt wrth iti ddechrau byw i Jehofa ac nid i ti dy hun. (Rhuf. 14:8; 1 Pedr 4:1, 2) Efallai bod hynny’n swnio fel cam enfawr. Ond mae’n ei gwneud hi’n bosib iti gael y bywyd gorau oll. Sut?

16. Yn ôl Salm 41:12, sut bydd Jehofa yn gwobrwyo’r rhai sy’n defnyddio eu bywydau i’w wasanaethu?

16 Does neb yn fwy hael na Jehofa. Ni waeth beth rwyt ti’n ei roi iddo, bydd ef wastad yn rhoi llawer mwy yn ôl. (Marc 10:29, 30) Hyd yn oed yn nyddiau diwethaf yr hen system hon, gall Jehofa roi bywyd diddorol, hapus, a llawn ystyr iti. A dim ond y dechrau ydy hynny. Mae bywyd ar ôl bedydd yn gallu para am byth. Bydd y cariad rhyngot ti a dy Dad nefol yn parhau i dyfu, a gelli di fyw mor hir â Jehofa ei hun, yn ddiddiwedd.—Darllen Salm 41:12.

17. Beth gelli di ei roi i Jehofa sydd ddim ganddo’n barod?

17 Pan wyt ti’n cymryd y camau o ymgysegru i Jehofa a chael dy fedyddio, mae gen ti’r fraint o roi rhywbeth gwerthfawr iawn i dy Dad nefol. Mae pob moment hapus a phob peth da rwyt ti wedi ei fwynhau yn dy fywyd wedi dod oddi wrth Jehofa. Ond mae ’na rywbeth y gelli di ei roi yn ôl i’r Un sydd biau popeth yn y nefoedd a’r ddaear—rhywbeth sydd ddim ganddo’n barod. Beth yw hynny? Dy wasanaeth ffyddlon. (Job 1:8; 41:11; Diar. 27:11) Yn bendant, does dim byd gwell y gelli di ei wneud gyda dy fywyd. Heb os, dy gariad at Jehofa ydy’r rheswm gorau dros gael dy fedyddio.

PAM DAL YN ÔL?

18. Pa gwestiynau gelli di eu gofyn i ti dy hun?

18 Felly a fyddi di’n cael dy fedyddio? Dim ond ti all ateb y cwestiwn hwnnw. Ond efallai byddai’n dda iti ofyn, ‘Pam dal yn ôl?’ (Act. 8:36) Cofia’r tri rheswm rydyn ni wedi eu trafod. Yn gyntaf, rwyt ti’n caru beth sydd yn wir ac yn gyfiawn, felly gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i eisiau gweld yr amser pan fydd pawb yn dweud y gwir ac yn gwneud beth sy’n iawn?’ Yn ail, rwyt ti’n caru Iesu Grist, felly gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i eisiau i Fab Duw fod yn Frenin arna i ac ydw i eisiau dilyn ei esiampl?’ Yn drydydd ac yn bennaf, rwyt ti’n caru Jehofa, felly gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i eisiau llawenhau calon Jehofa drwy ei wasanaethu?’ Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i’r cwestiynau hynny, oes gen ti unrhyw reswm i beidio â chael dy fedyddio?—Act. 16:33.

19. Pam na ddylet ti ddal yn ôl rhag cael dy fedyddio? Eglura. (Ioan 4:34)

19 Beth os wyt ti’n dal yn ôl rhag cael dy fedyddio? Meddylia am pan wnaeth Iesu gymharu gwneud ewyllys ei Dad â bwyd. (Darllen Ioan 4:34.) Mae bwyd yn dda inni, ac yn yr un ffordd mae popeth mae Jehofa yn gofyn inni ei wneud er ein lles a byth yn ein brifo ni. Ydy Jehofa eisiau iti gael dy fedyddio? Ydy, mae’n rhan o’i ewyllys. (Act. 2:38) Felly, gelli di fod yn hyderus y bydd ufuddhau i’r gorchymyn hwn er dy les di. Wrth gwrs, fyddet ti byth yn dal yn ôl rhag mwynhau’r pryd o fwyd gorau erioed. Felly pam dal yn ôl rhag cael dy fedyddio?

20. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?

20 Pam mae rhai’n dal yn ôl? Efallai byddan nhw’n dweud, ‘Dydw i ddim yn barod eto.’ Y ffaith amdani yw, y penderfyniad i dy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio yw’r penderfyniad pwysicaf a wnei di yn dy fywyd. Felly mae’n bwysig iti feddwl yn ofalus amdano, a bydd hi’n cymryd amser ac ymdrech fawr i fod yn gymwys. Ond os wyt ti wir eisiau cael dy fedyddio, beth gelli di ei wneud nawr i baratoi? Byddwn ni’n ystyried hynny’n yr erthygl nesaf.

CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa

a Mae bedydd yn gam hanfodol i bawb sy’n astudio’r Beibl. Ond beth all eu cymell nhw i gymryd y cam hwnnw? Yn syml, cariad. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pwy a beth dylen nhw ei garu, a sut fath o fywyd gawn ni ar ôl cael ein bedyddio.

b Salm 45:4, NWT: “Ac yn dy ysblander dos i ennill buddugoliaeth; Marchoga dros y gwir a gostyngeiddrwydd a chyfiawnder, a bydd dy law dde yn cyflawni pethau rhyfeddol.”