Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 11

Sut i Baratoi ar Gyfer Bedydd

Sut i Baratoi ar Gyfer Bedydd

“Beth sy’n fy rhwystro i rhag cael fy medyddio?”—ACT 8:36.

CÂN 50 Fy Ngweddi Wrth Ymgysegru

CIPOLWG a

Ledled y byd, mae rhai hen ac ifanc yn gwneud cynnydd ac yn cael eu bedyddio (Gweler paragraffau 1-2)

1-2. Pam na ddylet ti ddigalonni os nad wyt ti’n barod i gael dy fedyddio? (Gweler y llun ar y clawr.)

 OS OES gen ti ddiddordeb cael dy fedyddio, rwyt ti wedi gosod nod arbennig i ti dy hun. Ond, a wyt ti’n barod i gymryd y cam hwnnw nawr? Os wyt ti’n teimlo dy fod ti’n barod ac mae’r henuriaid yn cytuno, dos amdani y cyfle nesaf gei di. Mae ’na fywyd anhygoel yng ngwasanaeth Jehofa o dy flaen!

2 Ar y llaw arall, oes rhywun wedi dweud wrthot ti bod angen iti wneud mwy o gynnydd cyn cael dy fedyddio? Neu wyt ti wedi dod i’r casgliad hwnnw dy hun? Os felly, paid â digalonni oherwydd gelli di wneud cynnydd tuag at y nod hwnnw, p’un a wyt ti’n hen neu’n ifanc.

“BETH SY’N FY RHWYSTRO?”

3. Beth gwnaeth swyddog llys o Ethiopia ei ofyn i Philip, a pha gwestiwn sy’n codi? (Actau 8:36, 38)

3 Darllen Actau 8:36, 38. Gofynnodd swyddog llys o Ethiopia i Philip yr efengylwr: “Beth sy’n fy rhwystro i rhag cael fy medyddio?” Roedd y dyn o Ethiopia eisiau cael ei fedyddio. Ond a oedd ef wir yn barod ar gyfer y cam pwysig hwnnw?

Roedd y swyddog o Ethiopia yn benderfynol o barhau i ddysgu am Jehofa (Gweler paragraff 4)

4. Sut dangosodd y dyn o Ethiopia ei fod yn benderfynol o ddysgu mwy?

4 Roedd y dyn o Ethiopia “wedi mynd i Jerwsalem i addoli.” (Act. 8:27) Mae’n rhaid mai proselyt Iddewig oedd y dyn, felly yn fwy na thebyg, roedd wedi derbyn crefydd yr Iddewon. Heb os, fe fyddai wedi dysgu am Jehofa o’r Ysgrythurau Hebraeg. Ond roedd yn awyddus i ddysgu mwy. Yn wir, pan wnaeth Philip ei gyfarfod ar y ffordd, beth oedd y swyddog yn ei wneud? Roedd yn darllen sgrôl y proffwyd Eseia. (Act. 8:28) Roedd hynny’n cynnwys gwirioneddau dwfn o’r Beibl, felly doedd y swyddog ddim yn fodlon dysgu pethau sylfaenol yn unig. Roedd eisiau parhau i ddysgu mwy.

5. Sut gwnaeth y dyn o Ethiopia ymateb i’r hyn roedd wedi ei ddysgu?

5 Swyddog uchel yn llys y Frenhines Candace o Ethiopia oedd y dyn. Roedd “yn gyfrifol am ei holl drysor hi.” (Act. 8:27) Er ei fod yn ddyn prysur, gyda llawer o gyfrifoldebau, cymerodd yr amser i addoli Jehofa. Doedd ef ddim yn fodlon ar ddysgu’r gwir yn unig; gwnaeth ef hefyd roi ar waith yr hyn roedd yn ei ddysgu. Felly aeth yr holl ffordd o Ethiopia i Jerwsalem er mwyn addoli Jehofa yn y deml. Mae’n rhaid bod y dyn wedi treulio llawer o amser a gwario llawer o arian i wneud y siwrnai, ond roedd yn fodlon gwneud unrhyw beth er mwyn addoli Jehofa.

6-7. Sut gwnaeth y dyn o Ethiopia ddal ati i gryfhau ei gariad at Jehofa?

6 Dysgodd y dyn o Ethiopia rai pethau newydd a phwysig gan Philip, gan gynnwys pwy oedd y Meseia. (Act. 8:34, 35) Mae’n siŵr bod dysgu am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud drosto wedi cyffwrdd â’i galon. Beth oedd ei ymateb? Yn lle parhau fel proselyt Iddewig uchel ei barch, roedd ei gariad at Jehofa a’i Fab yn ei gymell i newid ei fywyd. Penderfynodd gael ei fedyddio yn un o ddilynwyr Crist a gwelodd Philip ei fod yn barod am y cam hwn. Felly fe wnaeth ei fedyddio.

7 Gelli di hefyd baratoi ar gyfer bedydd drwy ddilyn yr un camau â’r dyn o Ethiopia. Hynny yw, drwy barhau i ddysgu, rhoi ar waith beth rwyt ti’n ei ddysgu, a dal ati i gryfhau dy gariad at Dduw. Yna byddi dithau hefyd yn gallu dweud yn hyderus: “Beth sy’n fy rhwystro i rhag cael fy medyddio?”

PARHA I DDYSGU

8. Beth mae Ioan 17:3 yn dy annog di i’w wneud?

8 Mae’r geiriau yn Ioan 17:3 (Darllen) wedi cymell llawer ohonon ni i astudio’r Beibl. Mae’r geiriau hynny hefyd yn ein hannog ni i barhau i ddysgu. Wnawn ni byth orffen ‘dod i adnabod yr unig wir Dduw.’ Bydd hynny’n mynd ymlaen am byth. (Preg. 3:11) Y mwyaf rydyn ni’n ei ddysgu, y mwyaf y byddwn ni’n closio at Jehofa.—Salm 73:28.

9. Ar ôl dysgu’r pethau sylfaenol am y gwir, beth sy’n rhaid inni ei wneud?

9 Fel dywedodd yr apostol Paul yn ei lythyr at yr Hebreaid, mae dysgu am Jehofa yn dechrau gyda’r ‘pethau sylfaenol.’ Doedd Paul ddim yn bychanu’r “ddysgeidiaeth sylfaenol”; ond yn hytrach yn ei chymharu â’r llaeth sy’n rhoi maeth i fabi. (Heb. 5:12; 6:1) Gwnaeth ef hefyd annog pob Cristion i barhau i wneud cynnydd a dysgu’r gwirioneddau dyfnach yng Ngair Duw. Wyt ti wedi datblygu blas ar ddysgeidiaethau dyfnach y Beibl? Ac a wyt ti’n barod i ddal ati i ddysgu mwy am Jehofa a’i fwriad?

10. Pam mae rhai’n ei chael hi’n anodd astudio?

10 I lawer ohonon ni, gall astudio fod yn dipyn o her. Ai dyna sut wyt ti’n teimlo? Yn yr ysgol, a wnest ti ddysgu sut i ddarllen ac astudio’n effeithiol? A wnest ti elwa o astudio, a’i fwynhau? Neu a ddest ti i’r casgliad nad oedd defnyddio llyfrau i astudio yn dy siwtio di? Os felly, cofia fod llawer o bobl yn teimlo’r un fath. Ond mae Jehofa yn barod i dy helpu di. Gan ei fod yn berffaith, ef yw’r Athro gorau erioed.

11. Sut mae Jehofa’n dangos mai Ef yw’r Addysgwr Mawr?

11 Mae Jehofa yn cyfeirio ato’i hun fel yr Addysgwr Mawr. (Esei. 30:20, 21) Mae’n athro amyneddgar a charedig sy’n edrych am y da yn y rhai mae’n eu dysgu. (Salm 130:3) Dydy ef byth yn disgwyl iti wneud rhywbeth sydd y tu hwnt i dy allu. A chofia, Ef yw’r un a ddyluniodd dy ymennydd, sydd yn rhodd arbennig. (Salm 139:14) Mae gynnon ni awydd naturiol i ddysgu, a dyna’n union mae ein Creawdwr eisiau inni ei wneud am byth. Felly byddai’n syniad da i ‘ddysgu dyheu’ am wirioneddau’r Beibl nawr. (1 Pedr 2:2) Gosoda amcanion realistig a chadw at rwtîn o ddarllen y Beibl a’i astudio. (Jos. 1:8) Wedyn, gyda help Jehofa, byddi di’n dod i fwynhau darllen a dysgu amdano ef yn fwy ac yn fwy.

12. Pam dylen ni ganolbwyntio ar Iesu wrth wneud ein hastudiaeth bersonol?

12 Mae efelychu esiampl Iesu yn agos yn hanfodol er mwyn gwasanaethu Jehofa, yn enwedig yn yr amserau anodd hyn. (1 Pedr 2:21) Felly treulia amser yn aml yn myfyrio ar fywyd a gweinidogaeth Iesu. Dywedodd ef yn blaen wrth ei ddisgyblion y bydden nhw’n wynebu heriau, ond roedd yn hyderus y bydden nhw’n llwyddo, yn union fel y gwnaeth ef. (Luc 14:27, 28; Ioan 16:33) Myfyria ar fanylion hanes bywyd Iesu, a gosoda amcanion o ran sut i’w efelychu yn dy fywyd bob dydd.

13. Beth dylet ti barhau i ofyn i Jehofa amdano, a pham?

13 Mae gwybodaeth yn ein helpu ni i ddysgu mwy am Jehofa. Ond dydy hynny ddim yn ddigon ar ei ben ei hun. Hefyd mae’n rhaid inni ddod i garu Jehofa a rhoi ffydd ynddo. (1 Cor. 8:1-3) Wrth iti barhau i ddysgu, gofynna’n gyson i Jehofa am fwy o ffydd. (Luc 17:5) Mae’n ateb y fath weddïau’n hael. Bydd gwybodaeth gywir am Dduw yn dy helpu i gael ffydd go iawn, a bydd hynny’n dy helpu i wneud mwy o gynnydd.—Iago 2:26.

PARHA I ROI AR WAITH YR HYN RWYT TI’N EI DDYSGU

Cyn y Dilyw, aeth Noa a’i deulu ati’n ffyddlon i roi ar waith beth roedden nhw wedi ei ddysgu (Gweler paragraff 14)

14. Sut gwnaeth yr apostol Pedr bwysleisio pa mor bwysig yw rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu? (Gweler hefyd y llun.)

14 Drwy sôn am hanes Noa, dangosodd yr apostol Pedr pa mor bwysig ydy hi i Gristnogion ddal ati i roi ar waith beth maen nhw’n ei ddysgu. Roedd Jehofa wedi rhybuddio Noa y byddai’n anfon dilyw i ddinistrio pobl ddrwg. Ond doedd gwybod bod y dilyw yn dod ddim yn ddigon ynddo’i hun i achub Noa a’i deulu. Sylwa fod Pedr wedi cyfeirio at yr adeg cyn y Dilyw, “tra oedd yr arch yn cael ei hadeiladu.” (1 Pedr 3:20) Ymateb Noa a’i deulu i’r hyn a ddysgon nhw gan Dduw oedd adeiladu llong enfawr, sef yr arch. (Heb. 11:7) Aeth Pedr ymlaen i gymharu beth wnaeth Noa â bedydd, gan ddweud: “Mae bedydd, sy’n cyfateb i hyn, yn eich achub chi nawr hefyd.” (1 Pedr 3:21) Felly, gallwn ni ddweud bod y gwaith rwyt ti’n ei wneud nawr i baratoi ar gyfer bedydd yn debyg i’r gwaith a wnaeth Noa a’i deulu am flynyddoedd i adeiladu’r arch. Beth sy’n rhaid iti ei wneud er mwyn bod yn barod i gael dy fedyddio?

15. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n wir edifar?

15 Un o’r pethau cyntaf mae’n rhaid inni ei wneud ydy edifarhau am ein pechodau. (Act. 2:37, 38) Mae bod yn wir edifar yn arwain at wneud newidiadau mawr. Wyt ti wedi cefnu ar arferion sy’n gas gan Jehofa, fel byw yn anfoesol, defnyddio tybaco, rhegi, neu ddefnyddio iaith gas? (1 Cor. 6:9, 10; 2 Cor. 7:1; Eff. 4:29) Os wyt ti heb wneud hynny eto, dal ati i geisio gwneud y newidiadau er mwyn dod dros unrhyw beth allai dy rwystro di rhag cael dy fedyddio. Pwy gelli di ofyn iddo am help? Beth am yr un sy’n dy helpu di i astudio’r Beibl, neu’r henuriaid yn dy gynulleidfa? Ac os wyt ti’n ifanc ac yn byw gartref, paid â stopio gofyn i dy rieni am help.

16. Beth mae’n ei olygu i gael rwtîn ysbrydol da?

16 Mae hi hefyd yn bwysig iti gael rwtîn ysbrydol da. Mae hynny’n cynnwys mynd i’r cyfarfodydd a chymryd rhan ynddyn nhw. (Heb. 10:24, 25) Ac unwaith rwyt ti’n gymwys i bregethu, gwna hynny’n rheolaidd. Drwy gael rhan lawn yn y gwaith pregethu, byddi di’n ei fwynhau’n fwy. (2 Tim. 4:5) Os wyt ti’n ifanc ac yn byw gartref, gelli di ofyn i ti dy hun: ‘Ydw i’n mynd i’r cyfarfodydd ac yn pregethu heb i fy rhieni orfod fy atgoffa i?’ Drwy wneud y pethau hynny drostot ti dy hun, rwyt ti’n dangos bod gen ti ffydd yn Jehofa a dy fod ti’n ei garu ac yn ddiolchgar iddo. Mae Jehofa’n ystyried y “gweithredoedd o ddefosiwn duwiol” hyn yn rhoddion iddo. (2 Pedr 3:11; Heb. 13:15) Mae wrth ei fodd ag unrhyw anrhegion rydyn ni’n eu rhoi iddo o wirfodd calon. (Cymhara 2 Corinthiaid 9:7.) Rydyn ninnau hefyd yn cael llawenydd mawr o roi ein gorau i Jehofa.

PARHA I GRYFHAU DY GARIAD AT JEHOFA

17-18. Pa rinwedd hanfodol fydd yn dy helpu di i weithio tuag at fedydd, a pham? (Diarhebion 3:3-6)

17 Wrth iti weithio tuag at fedydd, byddi di’n siŵr o wynebu heriau. Efallai bydd pobl yn gwneud hwyl am dy ben oherwydd dy ffydd newydd, neu efallai byddi di’n profi gwrthwynebiad neu erledigaeth. (2 Tim. 3:12) Wrth iti drio cefnu ar dy hen ffordd o fyw, efallai byddi di’n llithro’n ôl i arferion drwg o bryd i’w gilydd. Neu efallai dy fod ti’n dechrau colli amynedd a theimlo’n rhwystredig am fod dy nod i weld mor bell i ffwrdd. Beth fydd yn dy helpu di i ddyfalbarhau er gwaethaf popeth? Rhinwedd hanfodol—cariad at Jehofa.

18 Mae dy gariad at Jehofa yn rhywbeth arbennig—y rhinwedd orau sydd gen ti. (Darllen Diarhebion 3:3-6.) Mae cariad cryf at Dduw yn gallu dy helpu i drechu heriau bywyd. Mae’r Beibl yn sôn yn aml am gariad ffyddlon Jehofa tuag at ei weision. Mae hyn yn rhwymyn sydd byth yn datod nac yn gwanhau. (Salm 100:5, BCND) Rwyt ti wedi cael dy greu ar ddelw Duw. (Gen. 1:26) Felly sut gelli di ddangos yr un math o gariad?

Gelli di ddweud wrth Jehofa bob dydd dy fod ti’n ddiolchgar (Gweler paragraff 19) b

19. Sut gelli di fod yn fwy diolchgar am bopeth mae Jehofa wedi ei wneud drostot ti? (Galatiaid 2:20)

19 Yn gyntaf, tria ddangos i Jehofa bob dydd dy fod ti’n ddiolchgar. (1 Thes. 5:18) Gofynna i ti dy hun, ‘Sut mae Jehofa wedi dangos cariad ata i heddiw?’ Yna, paid ag anghofio diolch i Jehofa am y pethau penodol mae ef wedi eu gwneud drostot ti. A chofia fod Jehofa wedi gwneud pethau da drostot ti am ei fod yn dy garu di fel unigolyn. Dyna’n union wnaeth yr apostol Paul ei sylweddoli am Jehofa. (Darllen Galatiaid 2:20.) Gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i eisiau dangos i Jehofa fy mod i’n ei garu ef hefyd?’ Bydd dy gariad at Jehofa yn dy helpu di i wrthod temtasiynau, i ddelio â heriau, ac i gadw at dy rwtîn ysbrydol. Fel hyn, byddi di’n dangos dy gariad tuag at dy Dad o ddydd i ddydd.

20. Beth mae’n ei olygu i gysegru dy hun i Jehofa, a pha mor bwysig ydy’r penderfyniad hwnnw?

20 Ymhen amser, bydd dy gariad at Jehofa yn dy gymell di i ddweud gweddi arbennig a chysegru dy hun iddo. Cofia, unwaith iti gysegru dy hun i Jehofa, mae gen ti’r gobaith anhygoel o gael perthyn iddo am byth. Pan wyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa, rwyt ti’n addo unwaith ac am byth dy fod ti am ei wasanaethu a hynny drwy amserau da a drwg. Mae’n wir bod hynny’n benderfyniad mawr, ond meddylia am hyn: O’r holl benderfyniadau byddi di’n eu gwneud yn dy fywyd, y rhai da a’r rhai drwg, cysegru dy hun i Jehofa fydd yr un gorau erioed. (Salm 50:14) Bydd Satan yn ceisio gwanhau dy gariad at dy Dad, gan obeithio na fyddi di’n aros yn ffyddlon iddo. Paid byth â gadael i Satan lwyddo! (Job 27:5) Os ydy dy gariad at Jehofa yn gryf, byddi di’n cadw at dy addewid i’w wasanaethu am byth, ac yn parhau i glosio ato.

21. Pam gallwn ni ddweud mai dim ond y dechrau ydy bedydd?

21 Ar ôl iti gysegru dy hun i Jehofa, siarada â’r henuriaid am gymryd y cam nesaf a chael dy fedyddio. Ond nid dyna’r diwedd. Cofia mai dim ond dechrau ar fywyd diddiwedd yng ngwasanaeth Jehofa yw bedydd. Felly er mwyn cryfhau dy gariad at dy Dad nefol o ddydd i ddydd, gosoda amcanion nawr. Bydd hyn yn dy gymell di i gael dy fedyddio. Am ddiwrnod arbennig fydd hwnnw! Gad i dy gariad at Jehofa a’i Fab barhau i dyfu am byth!

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”

a Er mwyn gwneud cynnydd fel ein bod ni’n gymwys i gael ein bedyddio, mae’n rhaid cael y cymhelliad iawn a chymryd y camau cywir. Dewch inni edrych ar esiampl swyddog llys o Ethiopia i weld beth sy’n rhaid i fyfyriwr y Beibl ei wneud cyn cael ei fedyddio.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer ifanc yn gweddïo ar Jehofa ac yn dweud wrtho pa mor ddiolchgar ydy hi am bopeth mae ef wedi ei roi iddi.