Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 9

CÂN 75 “Dyma Fi! Anfon Fi!”

A Wyt Ti’n Barod i Gysegru Dy Hun i Jehofa?

A Wyt Ti’n Barod i Gysegru Dy Hun i Jehofa?

“Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i?”SALM 116:12.

PWRPAS

Bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i feithrin perthynas agos â Jehofa. Bydd hynny’n gwneud iti eisiau cysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio.

1-2. Cyn cael ei fedyddio, beth mae’n rhaid i unigolyn ei wneud?

 YN YSTOD y pum mlynedd diwethaf, mae dros filiwn o bobl wedi cael eu bedyddio fel Tystion Jehofa. Yn debyg iawn i Timotheus, gwnaeth llawer ohonyn nhw ddysgu’r gwir pan oedden nhw’n ifanc iawn. (2 Tim. 3:​14, 15) Gwnaeth eraill ddysgu’r gwir fel oedolion, rhai ohonyn nhw yn eu henaint. Ychydig yn ôl, cafodd dynes a oedd yn astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa ei bedyddio yn 97 oed!

2 Os wyt ti’n astudio’r Beibl neu os wyt ti’n cael dy fagu gan rieni sy’n Dystion, a wyt ti’n meddwl am gael dy fedyddio? Mae hynny’n nod anhygoel! Ond cyn cael dy fedyddio, bydd rhaid iti gysegru dy hun i Jehofa. Bydd yr erthygl hon yn esbonio beth mae ymgysegriad yn ei olygu. Bydd hefyd yn dy helpu di i beidio â dal yn ôl rhag cymryd y cam hwnnw a chael dy fedyddio, unwaith iti fod yn barod.

BETH YDY YMGYSEGRIAD?

3. Rho esiamplau Beiblaidd o rai oedd wedi’u cysegru i Jehofa.

3 Yn y Beibl, mae cysegriad yn golygu cael ei roi ar wahân am reswm arbennig. Roedd yr Israeliaid yn genedl gysegredig i Jehofa. Ond roedd rhai o’r Israeliaid wedi eu cysegru fel unigolion i Jehofa mewn ffordd arbennig. Er enghraifft, roedd Aaron yn gwisgo twrban gyda phlât aur bach arno, symbol ei fod wedi ei gysegru i wasanaethu Duw. Roedd hynny’n dangos ei fod wedi cael ei roi ar wahân i wasanaethu Jehofa mewn ffordd arbennig—fel archoffeiriad Israel. (Lef. 8:9) Cafodd y Nasareaid hefyd eu cysegru i Jehofa mewn ffordd arbennig. Mae’r gair “Nasaread” yn dod o air Hebraeg sy’n golygu “Un ar wahân” neu “Un sydd wedi cael ei gysegru.” Roedd rhaid iddyn nhw fyw yn ôl rheolau penodol yng Nghyfraith Moses.—Num. 6:​2-8.

4. (a) Sut mae’r rhai sydd wedi eu hymgysegru i Jehofa wedi cael eu rhoi ar wahân am reswm arbennig? (b) Beth mae’n ei olygu i berson “wadu ei hun”? (Gweler hefyd y llun.)

4 Pan wyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa, rwyt ti’n dewis dod yn un o ddisgyblion Iesu, ac ewyllys Duw fydd y peth pwysicaf yn dy fywyd. Ond beth mae ymgysegriad Cristnogol yn ei gynnwys? Dywedodd Iesu: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun.” (Math. 16:24) Gall yr ymadrodd Groeg sydd wedi cael ei gyfieithu ‘gwadu ei hun’ hefyd golygu “dweud na wrth ei hun.” Fel un o weision cysegredig Jehofa, bydd rhaid iti ddweud na wrth unrhyw beth sy’n mynd yn erbyn ei ewyllys. (2 Cor. 5:​14, 15) Mae hynny’n cynnwys dweud na wrth ‘weithredoedd y cnawd,’ fel anfoesoldeb rhywiol. (Gal. 5:​19-21; 1 Cor. 6:18) A fydd cyfyngiadau o’r fath yn gwneud dy fywyd yn anodd? Nid os wyt ti’n caru Jehofa ac yn hollol hyderus bod ei gyfreithiau yn dda iti. (Salm 119:97; Esei. 48:​17, 18) Dywedodd brawd o’r enw Nicholas, “Gelli di ystyried safonau Jehofa fel barrau ar gell carchar sy’n dy stopio di rhag gwneud beth rwyt ti eisiau, neu fel barrau ar gaets llewod sy’n dy amddiffyn di rhag peryg.”

A wyt ti’n ystyried safonau Jehofa fel barrau ar gell carchar sy’n dy stopio di rhag gwneud beth rwyt ti eisiau, neu fel barrau ar gaets llewod sy’n dy amddiffyn di rhag peryg? (Gweler paragraff 4)


5. (a)  Sut rwyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa? (b) Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ymgysegriad a bedydd? (Gweler hefyd y llun.)

5 Sut rwyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa? Rwyt ti’n addo i Jehofa mewn gweddi byddi di’n addoli ef yn unig ac yn rhoi ei ewyllys yn gyntaf yn dy fywyd. Mewn gwirionedd, rwyt ti’n addo byddi di’n parhau i’w garu “â dy holl galon ac â dy holl enaid ac â dy holl feddwl ac â dy holl nerth.” (Marc 12:30) Mae dy ymgysegriad yn rhywbeth rhyngot ti a Jehofa yn unig. Ond mae bedydd yn rhywbeth cyhoeddus, sy’n dangos i bawb dy fod ti wedi cysegru dy hun i Jehofa. Mae dy ymgysegriad yn addewid pwysig a sanctaidd. Felly, mae Jehofa yn disgwyl iti wneud dy orau glas i gadw at hynny, a dylet ti ddisgwyl yr un peth oddi wrthot ti dy hun hefyd.—Preg. 5:​4, 5.

Mae cysegru dy hun i Jehofa yn golygu addo iddo y byddi di’n ei addoli ef yn unig a blaenoriaethu gwneud ei ewyllys (Gweler paragraff 5)


PAM CYSEGRU DY HUN I JEHOFA?

6. Beth sy’n ysgogi unigolyn i gysegru ei hun i Jehofa?

6 Y prif reswm dros gysegru dy hun i Jehofa ydy dy gariad tuag ato. Ond mae dy gariad yn fwy nag emosiwn yn unig. Mae wedi ei seilio ar ‘wybodaeth gywir’ a “dealltwriaeth ysbrydol.” Mae’r pethau wnest ti eu dysgu o’r Beibl am Jehofa wedi achosi i dy gariad dyfu. (Col. 1:9) Felly rwyt ti’n hyderus (1) bod Jehofa yn wir yn bodoli, (2) mai Gair ysbrydoledig Jehofa ydy’r Beibl, a (3) ei fod yn defnyddio ei gyfundrefn i gyflawni ei ewyllys.

7. Beth dylen ni ei wneud cyn cysegru ein hunain i Dduw?

7 Dylai’r rhai sy’n cysegru eu hunain i Jehofa wybod dysgeidiaethau sylfaenol Gair Duw, byw yn ôl ei safonau, a gwneud eu gorau i rannu eu ffydd yn ôl eu hamgylchiadau. (Math. 28:​19, 20) Mae eu cariad tuag at Jehofa wedi tyfu ac maen nhw yn wir eisiau addoli ef yn unig. Ydy hynny’n wir yn dy achos di? Bydd cariad o’r fath yn dy helpu di i sylweddoli ddylet ti ddim gael dy fedyddio jest er mwyn plesio’r person sy’n astudio gyda ti neu dy rieni; nac ystyried ymgysegriad fel rhywbeth rwyt ti’n ei wneud oherwydd bod dy ffrindiau’n gwneud yr un peth.

8. Sut mae diolchgarwch yn helpu unigolyn sy’n penderfynu ymgysegru i Jehofa? (Salm 116:​12-14)

8 Mae’n ddigon naturiol i gysegru dy hun i Jehofa ar ôl meddwl am bopeth mae ef wedi ei wneud drostot ti. (Darllen Salm 116:​12-14.) Mae’r Beibl yn dweud bod “pob rhodd dda a phob anrheg berffaith” yn dod oddi wrth Jehofa. (Iago 1:17) Aberth Iesu ydy’r anrheg gorau oll. Meddylia amdani! Mae aberth Iesu wedi ei gwneud hi’n bosib iti gael perthynas agos â Jehofa ac wedi rhoi’r cyfle iti fyw am byth. (1 Ioan 4:​9, 10, 19) Drwy gysegru dy hun i Jehofa rwyt ti’n diolch iddo am yr anrheg arbennig honno a’r holl fendithion rwyt ti wedi eu cael ganddo. (Deut. 16:17; 2 Cor. 5:15) Mae gwers 46 pwynt 4 o’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! yn trafod diolchgarwch o’r fath, ac yn cynnwys y fideo tri munud Presenting Your Gifts to God.

A WYT TI’N BAROD AM YMGYSEGRIAD A BEDYDD?

9. Pam ni ddylai unigolyn deimlo dan bwysau i gysegru ei hun?

9 Mae’n bosib dwyt ti ddim eto’n teimlo’n barod i gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio. Efallai dy fod ti angen mwy o amser i newid pethau yn dy fywyd er mwyn byw yn ôl safonau Jehofa, neu i gryfhau dy ffydd. (Col. 2:​6, 7) Os felly, paid â chymharu dy hun ag eraill. Mae pawb yn tyfu’n ysbrydol ar gyflymder gwahanol, ac mae pob person ifanc yn barod i gysegru ei hun ar adegau gwahanol. Tria weld pa newidiadau sydd rhaid iti eu gwneud ac yna gwna dy orau, heb gymharu dy hun ag unrhyw un arall.—Gal. 6:​4, 5.

10. Beth gelli di ei wneud os dwyt ti ddim yn teimlo’n barod ar gyfer ymgysegriad a bedydd? (Gweler hefyd y blwch “ I’r Rhai Sy’n Cael Eu Magu yn y Gwir.”)

10 Hyd yn oed os wyt ti’n sylweddoli dwyt ti ddim eto’n barod i gysegru dy hun i Jehofa, cadwa’r nod hwnnw o dy flaen di. Gweddïa ar Jehofa am help i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol yn dy fywyd. (Phil. 2:13; 3:16) Gelli di fod yn hyderus bydd Jehofa yn clywed dy weddïau ac yn ymateb.—1 Ioan 5:14.

PAM MAE RHAI YN DAL YN ÔL

11. Sut bydd Jehofa yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon iddo?

11 Mae rhai yn dal yn ôl rhag cysegru eu hunain a chael eu bedyddio er eu bod nhw’n barod. Efallai eu bod nhw’n poeni, ‘Beth os dwi’n pechu’n ddifrifol ac yn cael fy niarddel?’ Os ydy hynny’n codi ofn arnat ti, paid â phoeni. Bydd Jehofa’n rhoi popeth rwyt ti ei angen i “gerdded yn deilwng [ohono] er mwyn . . . ei blesio’n llawn.” (Col. 1:10) Mae Jehofa wedi rhoi’r nerth i lawer o bobl wneud y peth iawn, a bydd yn dy helpu di hefyd. (1 Cor. 10:13) Mae Jehofa yn helpu ei bobl i aros yn ffyddlon, a dyna pam mae dim ond ychydig iawn o bobl yn cael eu diarddel o’r gynulleidfa Gristnogol.

12. Sut gallwn ni osgoi pechu’n ddifrifol?

12 Mae pob un ohonon ni’n wynebu temtasiynau i wneud pethau anghywir. (Iago 1:14) Ond dy ddewis di ydy sut rwyt ti’n ymateb, a gelli di ddewis beth i wneud yn wyneb temtasiwn. Mae rhai pobl yn honni dydyn ni ddim yn gyfrifol am beth rydyn ni’n ei wneud, ond dydy hynny ddim yn wir. Gelli di ddysgu sut i reoli chwantau drwg. Hyd yn oed os ydy tueddiadau drwg yn dod i’r wyneb, gelli di eu gwrthod nhw. Er mwyn gwneud hynny, mae ’na angen iti weddïo bob dydd, astudio Gair Duw, mynd i’r cyfarfodydd, a rhannu dy ffydd ag eraill. Bydd gwneud y pethau hyn yn rheolaidd yn dy helpu di i aros yn ffyddlon i Jehofa. A phaid byth ag anghofio—bydd Jehofa yn dy helpu di i gadw dy addewid iddo.—Gal. 5:16.

13. Pa esiampl dda a osododd Joseff inni?

13 Bydd hi’n haws iti gadw dy ymgysegriad i Jehofa os wyt ti’n penderfynu o flaen llaw beth i’w wneud yn wyneb temtasiwn. Mae’n amlwg bod llawer o bobl yn y Beibl wedi gwneud yr un peth, ac roedden nhw hefyd yn amherffaith. Er enghraifft, gwnaeth gwraig Potiffar drio perswadio Joseff dro ar ôl tro i gael rhyw gyda hi. Ond mae’r Beibl yn dweud bod Joseff wedi gwrthod ei chynnig heb oedi, a dywedodd: “Sut galla i wneud rhywbeth mor ofnadwy o ddrwg, a phechu yn erbyn Duw ei hun?” (Gen. 39:​8-10) Yn amlwg, roedd Joseff wedi paratoi sut i ymateb cyn iddo gael ei demtio. O ganlyniad i hynny, roedd gwneud y peth iawn yn wyneb temtasiwn yn llawer haws iddo.

14. Sut medrwn ni wrthod temtasiwn?

14 Sut gelli di fod yr un mor benderfynol â Joseff? Gelli di benderfynu nawr beth i’w wneud pan wyt ti’n cael dy demtio. Dysga sut i wrthod y pethau mae Jehofa yn eu casáu yn syth, heb hyd yn oed meddwl amdanyn nhw. (Salm 97:10; 119:165) Yna, wrth i demtasiwn godi, byddi di’n gwneud y peth iawn yn hytrach na simsanu. Byddi di’n gwybod yn barod sut byddi di’n ymateb.

15. Sut gall person ddangos ei fod yn ceisio Jehofa “yn daer”? (Hebreaid 11:6)

15 Efallai rwyt ti’n gwybod dy fod ti wedi dod o hyd i’r gwir ac rwyt ti eisiau gwasanaethu Jehofa â dy holl galon, ond mae ’na rywbeth yn dy ddal di’n ôl rhag cysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio. Os felly, gelli di efelychu y Brenin Dafydd ac erfyn ar Jehofa: “Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni. Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.” (Salm 139:​23, 24) Mae Jehofa’n gwobrwyo’r rhai “sy’n ei geisio’n daer,” ac rwyt ti’n dangos dy fod ti’n gwneud hynny drwy weithio tuag at dy nod o gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio.—Darllen Hebreaid 11:6.

DAL ATI I NESÁU AT JEHOFA

16-17. Sut mae Jehofa’n denu’r rhai sy’n cael eu magu yn y gwir? (Ioan 6:44)

16 Dywedodd Iesu fod Jehofa’n denu ei ddisgyblion ato. (Darllen Ioan 6:44.) Meddylia am ba mor anhygoel ydy hynny a sut mae’n berthnasol iti. Mae Jehofa’n gweld rhywbeth da ym mhob person mae’n ei ddenu ac yn ei ystyried yn “drysor sbesial iddo’i hun.” (Deut. 7:6) Dyna sut mae’n teimlo amdanat ti hefyd.

17 Ond beth os wyt ti’n berson ifanc sydd wedi cael dy fagu yn y gwir? Efallai dy fod ti’n teimlo dydy Jehofa ddim wedi dy ddenu di, ond rwyt ti’n ei wasanaethu oherwydd dyna beth mae dy rieni yn ei wneud. Ond mae’r Beibl yn dweud: “Nesewch at Dduw, ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.” (Iago 4:8; 1 Cron. 28:9) Mae Jehofa yn dy weld di fel unigolyn, ac mae’n denu unigolion ato’i hun. Mae hynny’n cynnwys y rhai sydd wedi cael eu magu yn y gwir. Felly bob tro rwyt ti neu rywun arall yn cymryd y cam cyntaf i nesáu at Jehofa, mae Ef yn ymateb, fel gwelon ni yn Iago 4:8.—Cymhara 2 Thesaloniaid 2:13.

18. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf? (Salm 40:8)

18 Drwy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio, rwyt ti’n efelychu agwedd Iesu. Roedd Iesu’n barod i wneud beth bynnag roedd ei dad eisiau. (Darllen Salm 40:8; Heb. 10:7) Yn yr erthygl nesaf byddwn ni’n trafod beth fydd yn dy helpu di i aros yn ffyddlon hyd yn oed ar ôl cael dy fedyddio.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Beth mae’n ei olygu i gysegru dy hun i Jehofa?

  • Sut mae diolchgarwch yn helpu rhywun i gysegru ei hun?

  • Beth fydd yn dy helpu di i beidio â phechu’n ddifrifol?

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau