ERTHYGL ASTUDIO 10
CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl
Dal Ati i Ddilyn Iesu ar ôl Bedydd
“Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio ddydd ar ôl dydd a dal ati i fy nilyn i.”—LUC 9:23.
PWRPAS
Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i feddwl am ein hymgysegriad. Bydd hefyd yn helpu’r rhai sydd newydd wedi cael eu bedyddio i aros yn ffyddlon.
1-2. Sut mae bywyd yn gwella ar ôl bedydd?
RYDYN ni’n hapus iawn pan ydyn ni’n cael ein bedyddio ac yn dod yn rhan o deulu Jehofa. Byddai’r rhai sydd â’r fraint anhygoel honno’n cytuno â geiriau’r salmydd Dafydd, a ddywedodd: “Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu dewis, a’u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.”—Salm 65:4.
2 Dydy perthynas agos â Jehofa ddim yn rhywbeth sydd ar gael i bawb. Fel gwnaethon ni ei drafod yn yr erthygl flaenorol, mae Jehofa’n dewis nesáu at y rhai sy’n profi eu bod nhw eisiau cael perthynas agos ag ef. (Iago 4:8) Ar ôl cysegru dy hun a chael dy fedyddio, rwyt ti’n nesáu at Jehofa mewn ffordd arbennig. Yna, gelli di fod yn sicr bod Jehofa’n “tywallt bendith arnat ti; fyddi di’n brin o ddim byd!”—Mal. 3:10; Jer. 17:7, 8.
3. Pa gyfrifoldeb pwysig sydd gan bob Cristion sydd wedi cael ei ymgysegru a’i fedyddio? (Pregethwr 5:4, 5)
3 Ond wrth gwrs, dim ond y cam cyntaf ydy bedydd. Ar ôl iti gymryd y cam hwnnw, byddi di eisiau gwneud dy orau glas i gadw at dy ymgysegriad, hyd yn oed yn wyneb temtasiwn a threialon. (Darllen Pregethwr 5:4, 5.) Gan dy fod ti’n un o ddisgyblion Iesu, byddi di’n dilyn ei esiampl a’i orchmynion yn agos. (Math. 28:19, 20; 1 Pedr 2:21) Bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i wneud hynny.
DAL ATI I DDILYN IESU ER GWAETHAF TEMTASIWN A THREIALON
4. Ym mha ystyr mae disgyblion Iesu yn cario “stanc dienyddio”? (Luc 9:23)
4 Paid â meddwl bydd dy fywyd yn hawdd unwaith iti gael dy fedyddio. Dywedodd Iesu byddai ei ddisgyblion yn cario “stanc dienyddio ddydd ar ôl dydd.” (Darllen Luc 9:23.) Ydy hynny’n golygu bydd dilynwyr Iesu’n dioddef drwy’r adeg? Dim o gwbl. Roedd Iesu ond yn pwysleisio bydd ei ddilynwyr yn wynebu heriau yn ogystal â chael eu bendithio, ac weithiau bydd yr heriau hynny’n boenus iawn.—2 Tim. 3:12.
5. Pa fendithion gwnaeth Iesu eu haddo i’r rhai sy’n gwneud aberthau?
5 Mae’n bosib dy fod ti wedi profi gwrthwynebiad gan dy deulu yn barod, neu wedi aberthu pethau materol er mwyn rhoi’r Deyrnas yn gyntaf. (Math. 6:33) Os felly, gelli di fod yn sicr bod Jehofa’n sylwi ar dy ffyddlondeb. (Heb. 6:10) Mae’n debyg dy fod ti wedi gweld gwirionedd geiriau Iesu yn dy fywyd: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, does neb sydd wedi gadael tŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu gaeau er fy mwyn i ac er mwyn y newyddion da na fydd yn cael canwaith mwy nawr yn ystod y cyfnod presennol—tai, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a chaeau, ynghyd ag erledigaeth—ac yn y system sydd i ddod, fywyd tragwyddol.” (Marc 10:29, 30) Yn bendant, mae’r bendithion rwyt ti wedi eu cael yn llawer gwell nag unrhyw aberth rwyt ti wedi ei wneud.—Salm 37:4.
6. Pam bydd rhaid iti frwydro yn erbyn “chwant y cnawd” ar ôl cael dy fedyddio?
6 Ond, rwyt ti’n un o ddisgynyddion amherffaith Adda, felly bydd rhaid iti ddal ati i frwydro yn erbyn “chwant y cnawd” ar ôl iti gael dy fedyddio. (1 Ioan 2:16) Efallai weithiau byddi di’n teimlo’n ddigalon fel roedd yr apostol Paul, a ysgrifennodd: “Yn fy nghalon, rydw i’n wir yn caru cyfraith Duw. Ond rydw i’n gweld cyfraith arall yn fy nghorff sy’n brwydro yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac mae hi’n fy ngwneud i’n garcharor i gyfraith pechod sydd yn fy nghorff.” (Rhuf. 7:22, 23) Ond bydd cofio’r addewid wnest ti wrth gysegru dy hun i Jehofa yn gwneud iti deimlo’n benderfynol o frwydro yn erbyn temtasiwn. Y gwir amdani yw, pan wyt ti’n wynebu temtasiynau, bydd dy ymgysegriad yn gwneud dy fywyd yn llawer haws. Sut?
7. Sut bydd cysegru dy hun i Jehofa yn dy helpu di i aros yn ffyddlon iddo?
7 Pan wyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa rwyt ti’n gwadu dy hun, sy’n golygu gwrthod dilyn unrhyw chwantau neu amcanion sydd ddim yn plesio Jehofa. (Math. 16:24) Felly wrth iti gael dy brofi, fydd dim rhaid iti bendroni am beth i’w wneud. Byddi di wedi cau’r drws ar bob opsiwn heb law am un—ffyddlondeb i Jehofa. Byddi di, fel Job, yn benderfynol o blesio Jehofa. Er bod Job wedi wynebu treialon hynod o anodd, dywedodd yn gadarn: “Bydda i’n onest [ffyddlon, NWT] hyd fy medd!”—Job 27:5.
8. Sut gall meddwl yn ddwfn am dy weddi o ymgysegriad dy helpu di i wrthod temtasiwn?
8 Bydd meddwl yn ddwfn am dy weddi o ymgysegriad i Jehofa yn rhoi’r nerth rwyt ti ei angen i wrthod temtasiwn. Er enghraifft, a fyddet ti’n dechrau fflyrtio gyda chymar rhywun arall? Na fyddet siŵr! Byddi di wedi penderfynu gwrthod gwneud hynny’n barod. Ac os dwyt ti ddim yn gadael i deimladau anweddus ddatblygu yn y lle cyntaf, fydd dim rhaid iti frwydro yn nes ymlaen i gael gwared arnyn nhw. Byddi di’n gwrthod “dilyn llwybrau pobl ddrwg.”—Diar. 4:14, 15.
9. Sut gall meddwl yn ddwfn am dy weddi o ymgysegriad hefyd dy helpu di i flaenoriaethu gweithgareddau ysbrydol?
9 Beth petai rhywun yn cynnig gwaith iti a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd iti fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd? Byddi di’n gwybod beth i’w wneud. Ymhell cyn iti gael y cynnig, byddet ti wedi penderfynu gwrthod swydd o’r fath yn barod. Felly, fydd dim rhaid iti weithio allan os byddi di’n dal yn gallu llwyddo ar ôl gwneud penderfyniad drwg. Gall myfyrio ar esiampl Iesu ein helpu ni. Roedd ef yn benderfynol o blesio ei dad. Felly efelycha Iesu, a gwrthoda unrhyw demtasiwn i wneud rhywbeth fydd ddim yn plesio’r Duw rwyt ti wedi ei ymgysegru iddo.—Math. 4:10; Ioan 8:29.
10. Sut bydd Jehofa’n dy helpu di i ddal ati i ddilyn Iesu ar ôl cael dy fedyddio?
10 Y gwir amdani yw, mae temtasiynau a threialon yn rhoi cyfle inni ddangos ein bod ni’n benderfynol o ddal ati i ddilyn Iesu. Gelli di fod yn hyderus bydd Jehofa yn dy helpu di. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae Duw yn ffyddlon, ac ni fydd yn gadael ichi gael eich temtio y tu hwnt i’r hyn rydych chi’n gallu ei oddef, ond bydd hefyd yn dangos y ffordd allan er mwyn ichi allu dyfalbarhau.”—1 Cor. 10:13.
SUT I BARHAU I DDILYN IESU
11. Beth ydy un o’r ffyrdd gorau o ddal ati i ddilyn Iesu? (Gweler hefyd y llun.)
11 Roedd Iesu’n selog, ac arhosodd yn agos at Jehofa mewn gweddi. (Luc 6:12) Un o’r ffyrdd gorau o ddal ati i ddilyn Iesu Grist ydy drwy barhau i wneud pethau sy’n dy helpu di i nesáu at Jehofa. Mae’r Beibl yn dweud: “Pa bynnag gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, gadewch inni ddal ati i gerdded mewn ffordd drefnus ar yr un llwybr hwn.” (Phil. 3:16) O bryd i’w gilydd, byddi di’n clywed profiadau brodyr a chwiorydd sy’n penderfynu gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Efallai gwnaethon nhw fynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, neu symud i le mae’r angen yn fwy. Mae pobl Jehofa yn wastad yn awyddus i wneud mwy yn y weinidogaeth. Felly, os wyt ti’n gallu gosod nod o’r fath, dos amdani! (Act. 16:9) Ond beth os dwyt ti ddim yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd? Paid â digalonni. Mae dyfalbarhad yn hollbwysig yn y ras Cristnogol. (Math. 10:22) Cofia fod Jehofa’n gwerthfawrogi popeth rwyt ti’n gallu ei wneud yn ôl dy amgylchiadau. Mae hynny’n ffordd bwysig o ddal ati i ddilyn Iesu ar ôl iti gael dy fedyddio.—Salm 26:1.
12-13. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n dechrau colli dy sêl? (1 Corinthiaid 9:16, 17) (Gweler hefyd y blwch “ Arhosa yn y Ras.”)
12 Beth os wyt ti’n teimlo bod dy weddïau a dy weinidogaeth wedi troi’n fecanyddol am gyfnod? Neu, beth os dwyt ti ddim yn mwynhau darllen y Beibl cymaint ag yr oeddet ti yn y gorffennol? Os wyt ti’n teimlo fel hyn ar ôl cael dy fedyddio, paid â dod i’r casgliad dy fod ti wedi colli ysbryd Jehofa. Rydyn ni’n amherffaith, felly gall ein teimladau amrywio. Os wyt ti’n dechrau colli dy sêl, myfyria ar esiampl yr apostol Paul. Roedd yn ceisio efelychu Iesu, ond roedd hefyd yn gwybod na fyddai’n teimlo’n frwdfrydig drwy’r adeg. (Darllen 1 Corinthiaid 9:16, 17.) Dywedodd: “Os ydw i’n gwneud hyn hyd yn oed yn erbyn fy ewyllys, mae gen i o hyd weinyddiaeth sydd wedi ei hymddiried imi.” Mewn geiriau eraill, roedd Paul yn benderfynol o gyflawni ei weinidogaeth, er gwaethaf sut roedd ef yn teimlo yn y foment.
13 Mewn ffordd debyg, paid â gwneud penderfyniadau ar sail dy deimladau amherffaith. Bydda’n benderfynol o wneud y peth iawn er gwaethaf sut rwyt ti’n teimlo. Os wyt ti’n parhau i wneud beth sy’n iawn, bydd teimladau da yn dilyn. Bydd cadw at rwtîn ysbrydol da yn dy helpu di i ddal ati i ddilyn Iesu ar ôl cael dy fedyddio. Ar ben hynny, gelli di hefyd galonogi eraill drwy dy esiampl gyson.—1 Thes. 5:11.
‘DAL ATI I CHWILIO; DAL ATI I BROFI’
14. Beth dylen ni ei adolygu yn rheolaidd, a pham? (2 Corinthiaid 13:5)
14 Bydd edrych ar dy fywyd ac ar dy arferion yn rheolaidd ar ôl cael dy fedyddio hefyd yn help mawr iti. (Darllen 2 Corinthiaid 13:5.) A wyt ti’n dal yn gweddïo bob dydd, yn darllen ac yn astudio’r Beibl, yn mynychu’r cyfarfodydd, ac yn cael rhan yn y weinidogaeth? Ceisia ffeindio ffyrdd o fwynhau’r pethau hyn, ac o elwa ohonyn nhw’n fwy byth. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n gallu esbonio pethau sylfaenol y Beibl i bobl eraill? Oes ’na bethau galla i eu gwneud er mwyn mwynhau’r weinidogaeth yn fwy? Pa mor sbesiffig ydy fy ngweddïau, ac a ydyn nhw’n dangos fy mod i’n dibynnu’n llwyr ar Jehofa? Ydw i’n mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd? Sut galla i ganolbwyntio’n well yn y cyfarfodydd, a chymryd rhan yn fwy ynddyn nhw?’
15-16. Beth gwnest ti ei ddysgu gan brofiad un brawd ynglŷn â gwrthod temtasiwn?
15 Mae’n bwysig hefyd i wybod beth ydy ein gwendidau. Gwnaeth brawd o’r enw Robert rannu profiad sy’n egluro hyn. Dywedodd: “Pan o’n i tua 20 oed, roedd gen i swydd rhan amser. Un diwrnod ar ôl gwaith, gwnaeth un o fy nghyd-weithwyr fy ngwahodd i draw i’w thŷ. Dywedodd hi y bydden ni ar ein pennau ein hunain, a bydden ni’n ‘cael hwyl.’ I gychwyn, gwnes i roi cwpl o esgusodion wan, ond yn y diwedd gwnes i ddweud na ac esbonio’r rheswm pam.” Gwnaeth Robert wrthod temtasiwn, ac mae hynny’n beth da. Ond wrth edrych yn ôl yn nes ymlaen, sylweddolodd y dylai fod wedi ymateb yn well. Mae’n cyfaddef: “Wnes i ddim ei gwrthod hi mor sydyn na mor gryf â Joseff gyda gwraig Potiffar. (Gen. 39:7-9) A dweud y gwir, o’n i wedi synnu i weld pa mor anodd oedd hi imi wrthod temtasiwn. Gwnaeth y digwyddiad hwn fy helpu i weld bod rhaid imi gryfhau fy mherthynas â Jehofa.”
16 Efallai byddi di’n elwa o wneud rhywbeth tebyg i Robert drwy archwilio dy hun yn fanwl. Hyd yn oed os wyt ti’n llwyddo i wrthod temtasiwn, gofynna i ti dy hun, ‘Faint o amser gwnaeth hi ei gymryd imi ddweud na?’ Os wyt ti’n gweld lle i wella, paid â bod yn rhy galed arnat ti dy hun. Bydda’n hapus dy fod ti nawr yn ymwybodol o dy wendid. Gweddïa ar Jehofa, a chymryd camau i fod yn fwy penderfynol o fyw yn ôl safonau moesol Jehofa.—Salm 139:23, 24.
17. Sut gwnaeth ymddygiad Robert anrhydeddu enw Jehofa?
17 Mae ’na fwy gallwn ni ei ddysgu o brofiad Robert. Aeth ymlaen i ddweud: “Ar ôl imi wrthod gwahoddiad y ddynes, dywedodd hi, ‘Gwnest ti basio’r prawf!’ Gofynnais iddi beth roedd hi’n ei olygu. Gwnaeth hi esbonio ei bod hi’n ffrindiau â rhywun a oedd wedi bod yn Dyst yn y gorffennol. Dywedodd ei ffrind bod pob Tyst ifanc yn byw bywyd dwbl ac yn bachu ar bob cyfle i gyfaddawdu. Felly gwnaeth hi ddweud wrth ei ffrind y byddai hi’n arbrofi i weld os bydda i’n gwneud yr un peth. Roeddwn i mor falch fy mod i wedi anrhydeddu enw Jehofa.”
18. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud ar ôl cael dy fedyddio? (Gweler hefyd y blwch “ Cyfres y Byddi Di’n Ei Mwynhau.”)
18 Pan wyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa ac yn cael dy fedyddio, rwyt ti’n dangos dy fod ti eisiau sancteiddio ei enw ni waeth beth sy’n digwydd. Hefyd, gelli di fod yn hyderus bod Jehofa’n ymwybodol o’r temtasiynau a’r treialon rwyt ti’n eu hwynebu. Trystia y bydd Jehofa’n bendithio dy holl ymdrechion, ac yn defnyddio ei ysbryd glân i roi’r nerth rwyt ti ei angen i aros yn ffyddlon. (Luc 11:11-13) Gyda help Jehofa, byddi di’n gallu dal ati i ddilyn Iesu ar ôl bedydd.
SUT BYDDET TI’N ATEB?
-
Ym mha ystyr mae Cristnogion yn cario “stanc dienyddio ddydd ar ôl dydd”?
-
Beth gelli di ei wneud i ddal ati i ddilyn Iesu?
-
Sut gall meddwl am dy weddi o ymgysegriad dy helpu di i aros yn ffyddlon?
CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion