Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 11

CÂN 129 Dyfalbarhawn

Gelli Di Ddal Ati Er Gwaethaf Siom

Gelli Di Ddal Ati Er Gwaethaf Siom

“Rwyt ti wedi dal ati er mwyn fy enw i.”DAT. 2:3.

PWRPAS

Gallwn ni ddyfalbarhau i wasanaethu Jehofa er gwaethaf siom.

1. Pam mae bod yn rhan o gyfundrefn Jehofa yn fendith?

 MAE’N fendith go iawn i fod yn rhan o gyfundrefn Jehofa yn yr amser cythryblus hwn. Wrth i gyflwr y byd waethygu, mae Jehofa wedi rhoi inni deulu ysbrydol o frodyr a chwiorydd unedig. (Salm 133:1) Mae’n ein helpu ni i gael rhwymau teuluol cryf. (Eff. 5:33–6:1) Ac mae’n rhoi’r doethineb sydd ei angen arnon ni i gael gwir heddwch mewnol.

2. Beth mae’n rhaid inni ei wneud, a pham?

2 Er hynny, mae’n rhaid inni weithio’n galed i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon. Pam? Oherwydd, ar adegau gall amherffeithion pobl eraill ein pechu ni. Ar ben hynny, mae’n anodd delio â diffygion ni’n hunain, yn enwedig os ydyn ni’n gwneud yr un camgymeriadau drosodd a throsodd. Mae angen inni ddyfalbarhau i wasanaethu Jehofa (1) pan fydd cyd-addolwr yn ein pechu ni (2) pan fydd ein gŵr neu’n gwraig yn ein siomi ni, a (3) pan fyddwn ni’n siomedig gyda ni’n hunain. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod y sefyllfaoedd hyn, a hefyd ystyried beth gallwn ni ei ddysgu gan gymeriadau ffyddlon o’r Beibl.

DYFALBARHA PAN FYDD CYD-ADDOLWR YN DY BECHU

3. Pa sialens mae pobl Jehofa yn ei hwynebu?

3 Y sialens. Mae gan rai o’n cyd-addolwyr nodweddion personoliaeth sy’n mynd ar ein nerfau. Efallai bydd eraill yn ein siomi ni neu’n ein trin ni mewn ffordd ddifeddwl neu angharedig. Mae’r rhai sy’n cymryd y blaen yn gallu gwneud camgymeriadau. Gallai’r problemau hyn wneud i rai amau ai dyma ydy cyfundrefn Duw. Yna, yn hytrach na pharhau i wasanaethu Duw ysgwydd yn ysgwydd â’u brodyr a’u chwiorydd, efallai y byddan nhw’n cefnu ar y rhai sydd wedi eu pechu neu hyd yn oed stopio mynd i’r cyfarfodydd. (Seff. 3:9) Ydy hynny’n ddoeth? Ystyria beth gallwn ni ei ddysgu o rywun yn y Beibl a wnaeth brofi problemau tebyg.

4. Pa heriau roedd yr apostol Paul yn eu hwynebu?

4 Yr esiampl Feiblaidd. Roedd yr apostol Paul yn gwybod bod ei frodyr a’i chwiorydd Cristnogol yn amherffaith. Er enghraifft, cafodd ei gamfarnu yn fuan ar ôl iddo ddod yn Gristion. (Act. 9:26) Yn nes ymlaen, roedd rhai yn siarad y tu ôl i’w gefn er mwyn niweidio ei enw da. (2 Cor. 10:10) Gwelodd Paul henuriad yn gwneud penderfyniad anghywir a allai fod wedi baglu eraill. (Gal. 2:​11, 12) Gwnaeth Marc, a oedd yn gweithio’n agos â Paul, ei siomi yn fawr iawn. (Act. 15:​37, 38) Gallai Paul fod wedi caniatáu i’r sefyllfaoedd hyn achosi iddo gefnu ar y rhai oedd wedi ei bechu. Ond eto, cadwodd agwedd bositif tuag at ei frodyr a’i chwiorydd a daliodd ati i weithio’n galed yng ngwasanaeth Jehofa. Beth helpodd Paul i ddyfalbarhau?

5. Beth helpodd Paul i beidio â chefnu ar ei frodyr a’i chwiorydd? (Colosiaid 3:​13, 14) (Gweler hefyd y llun.)

5 Roedd Paul yn caru ei frodyr a’i chwiorydd. Roedd cariad Paul at eraill yn ei helpu i ganolbwyntio, nid ar eu hamherffeithion, ond ar eu rhinweddau da. Roedd cariad hefyd yn helpu Paul i wneud yr hyn a ysgrifennodd ei hun yn Colosiaid 3:​13, 14. (Darllen.) Ystyria sut cafodd hyn ei brofi’n wir yn achos Marc. Er bod Marc wedi gadael Paul yn ystod ei daith genhadol gyntaf, doedd Paul ddim wedi dal dig. Yn nes ymlaen, pan ysgrifennodd Paul lythyr caredig at y gynulleidfa yn Colosae, gwnaeth ganmol Marc fel cyd-weithiwr gwerthfawr a dweud ei fod “wedi dod yn gysur mawr” iddo. (Col. 4:​10, 11) Pan oedd yn garcharor yn Rhufain, gofynnodd Paul yn benodol i Marc ddod i’w helpu. (2 Tim. 4:11) Yn amlwg, gwnaeth faddau i’w frodyr. Beth gallwn ni ei ddysgu o Paul?

Roedd ’na anghytundeb rhwng Paul, Barnabas, a Marc. Ond gwnaeth yr apostol roi hynny y tu ôl iddo ac roedd yn hapus i weithio gyda Marc eto (Gweler paragraff 5)


6-7. Sut gallwn ni ddal ati i ddangos cariad at ein brodyr a’n chwiorydd er gwaethaf eu hamherffeithion? (1 Ioan 4:7)

6 Y wers. Mae Jehofa eisiau inni ddal ati i ddangos cariad at ein brodyr a’n chwiorydd. (Darllen 1 Ioan 4:7.) Pan fydd rhywun yn y gynulleidfa yn ein trin ni’n annheg, gallwn ni drystio eu bod nhw’n trio plesio Jehofa ac, yn syml, wedi ymddwyn heb feddwl. (Diar. 12:18) Mae Duw yn caru ei weision ffyddlon er gwaethaf eu diffygion. Dydy ef ddim yn cefnu arnon ni nac yn dal dig. (Salm 103:9) Mae mor bwysig inni efelychu ein Tad maddeugar!—Eff. 4:32–5:1.

7 Cofia, hefyd, wrth i’r diwedd agosáu, mae angen inni aros yn agos at ein brodyr a’n chwiorydd. Gallwn ni ddisgwyl i erledigaeth waethygu. Efallai byddwn ni’n ffeindio ein hunain yn y carchar am ein ffydd. Os bydd hynny’n digwydd, byddwn ni angen ein brodyr a’n chwiorydd yn fwy nag erioed. (Diar. 17:17) Ystyria beth ddigwyddodd i Josep, a henuriad yn Sbaen. Cafodd ei garcharu gyda brodyr eraill am gadw’n niwtral. Mae’n dweud: “Doedd gynnon ni ddim preifatrwydd yn y carchar, felly roedd y risg o fod yn flin gyda’n gilydd yn uchel. Roedd yn rhaid inni oddef ein gilydd a bod yn barod i faddau. Gwnaeth hyn ein cadw’n ni’n unedig a’n cadw ni’n saff rhag carcharorion doedd ddim yn gwasanaethu Jehofa. Am gyfnod, roedd fy mraich mewn cast ar ôl cael damwain, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud pethau drosto i fy hun. Ond gwnaeth brawd olchi fy nillad a gwneud pethau ymarferol eraill i edrych ar fy ôl i. Gwnes i brofi cariad diffuant pan oeddwn i ei angen y mwyaf.” Mae gynnon ni resymau da dros ddatrys problemau gyda’n gilydd nawr!

DYFALBARHA PAN FYDD DY ŴR NEU DY WRAIG YN DY SIOMI

8. Pa sialens mae cyplau priod yn ei hwynebu?

8 Y sialens. Mae gan bob priodas anawsterau. Mae’r Beibl yn cydnabod bydd pobl briod “yn cael llawer o broblemau.” (1 Cor. 7:28) Pam? Oherwydd bod priodas yn dod â dau berson amherffaith at ei gilydd sydd â phersonoliaethau a diddordebau gwahanol. Gall gŵr a gwraig hefyd ddod o gefndiroedd neu ddiwylliannau gwahanol. Ymhen amser, gall nodweddion ymddangos nad oedd yn amlwg cyn y briodas. Gall unrhyw un o’r pethau hynny achosi drwgdeimlad, ac efallai bydd gŵr neu wraig yn rhoi’r bai ar y llall yn hytrach na chydnabod ei ran yn y broblem. Gallan nhw hyd yn oed ddechrau meddwl mai gwahanu neu ysgaru ydy’r ateb. Ond a fydd hynny’n datrys eu problemau? b Gad inni ddysgu oddi wrth gymeriad yn y Beibl a wnaeth ddyfalbarhau mewn priodas hynod o anodd.

9. Pa sialens roedd Abigail yn ei hwynebu?

9 Yr esiampl Feiblaidd. Roedd Abigail yn briod i Nabal. Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn ddyn blin ac annifyr. (1 Sam. 25:3) Mae’n rhaid bod bywyd gyda dyn o’r fath wedi bod yn anodd i Abigail. A fyddai hi wedi gallu ffeindio ffordd hawdd allan o’r briodas? Cafodd hi’r cyfle pan ddaeth Dafydd, darpar frenin Israel, i ladd ei gŵr am drin ei ddynion yn ddrwg. (1 Sam. 25:​9-13) Gallai Abigail fod wedi dianc, gan adael i Dafydd gyflawni ei gynllun. Ond, gwnaeth hi ymyrryd a pherswadio Dafydd i adael i Nabal fyw. (1 Sam. 25:​23-27) Beth wnaeth ei chymell hi?

10. Beth efallai oedd yn cymell Abigail i aros mewn priodas anodd?

10 Roedd Abigail yn caru Jehofa ac yn parchu ei safonau ynglŷn â phriodas. Mwy na thebyg, byddai hi wedi gwybod beth ddywedodd Duw wrth iddo briodi Adda ac Efa. (Gen. 2:24) Roedd Abigail eisiau plesio Jehofa ac roedd hi’n gwybod ei fod yn ystyried priodas yn gysegredig. Byddai hynny wedi ei hysgogi hi i wneud beth bynnag oedd hi’n gallu i achub pawb yn ei chartref, gan gynnwys ei gŵr. Gweithredodd hi’n gyflym i stopio Dafydd rhag lladd Nabal. Roedd hi hefyd yn barod i ymddiheuro am rywbeth doedd hi ddim wedi ei wneud. Yn amlwg, roedd Jehofa yn caru’r ddynes ddewr ac anhunanol hon. Beth gall gwragedd a gwŷr ei ddysgu o esiampl Abigail?

11. (a) Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan bobl briod? (Effesiaid 5:33) (b) Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Carmen weithio i achub ei phriodas? (Gweler hefyd y llun.)

11 Y wers. Mae Jehofa yn disgwyl i bobl briod barchu priodas hyd yn oed os ydy hi’n anodd iddyn nhw fyw gyda’i gilydd. Mae’n rhaid bod Duw yn hapus iawn pan mae pobl briod yn gweithio’n galed i ddatrys problemau ac i ddangos parch a chariad anhunanol. (Darllen Effesiaid 5:33.) Ystyria esiampl Carmen. Tua chwe mlynedd ar ôl priodi, dechreuodd Carmen astudio gyda Thystion Jehofa a chael ei bedyddio. “Doedd fy ngŵr ddim yn cymryd y newyddion yn dda,” meddai Carmen. “Roedd yn genfigennus o Jehofa. Roedd yn gas gyda fi ac yn bygwth fy ngadael i.” Er hynny, gwnaeth Carmen ddyfalbarhau yn ei phriodas. Am 50 mlynedd, roedd hi’n gweithio’n galed i gael priodas a oedd yn seiliedig ar gariad a pharch. “Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, dysgais sut i siarad gyda thact a bod yn fwy caredig gyda fy ngŵr. Gwnes i bopeth o fewn fy ngallu i ddiogelu fy mhriodas gan wybod ei bod yn sanctaidd yng ngolwg Jehofa. Wnes i erioed geisio gadael fy ngŵr oherwydd fy mod i’n caru Jehofa.” c Os ydy trafferthion yn codi yn dy briodas, gelli di drystio bydd Jehofa yn dy gefnogi a dy helpu i ddyfalbarhau.

A allwn ni ddysgu gwers o barodrwydd Abigail i achub ei theulu a’i chartref? (Gweler paragraff 11)


DAL ATI PAN WYT TI’N SIOMEDIG GYDA TI DY HUN

12. Pa sialens gallen ni ei hwynebu os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol?

12 Y sialens. Efallai ein bod ni’n teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to os ydyn ni wedi pechu’n ddifrifol. Mae’r Beibl yn cydnabod gall ein pechodau gwneud inni deimlo fel bod ein “calon wedi ei thorri.” (Salm 51:17) Roedd brawd o’r enw Robert wedi gweithio’n galed am flynyddoedd i fod yn gymwys i fod yn was y gynulleidfa. Ond, gwnaeth bechu’n ddifrifol a sylweddoli ei fod wedi bradychu Jehofa. “Daeth fy nghydwybod i lawr arna i fel tunnell o frics,” meddai. “Ar ôl hynny, roeddwn i’n teimlo’n sâl yn fy stumog. Gwnes i lefain a gweddïo ar Jehofa. Rydw i’n cofio meddwl na fyddai Duw byth eto’n trafferthu i wrando arna i. Pam y byddai ef? Roeddwn i wedi ei siomi.” Gall ildio i bechod wneud inni deimlo mor dorcalonnus nes inni gredu bod Jehofa wedi ein gadael ni, a gall hynny achosi inni roi’r gorau iddi. (Salm 38:4) Os wyt ti’n teimlo fel hyn, ystyria gymeriad ffyddlon o’r Beibl a ddyfalbarhaodd i wasanaethu Jehofa er gwaethaf pechu’n ddifrifol.

13. Sut gwnaeth yr apostol Pedr bechu’n ddifrifol, a beth wnaeth arwain at hynny?

13 Yr esiampl Feiblaidd. Ar y noson cyn i Iesu gael ei ladd, gwnaeth yr apostol Pedr gyfres o gamgymeriadau a arweiniodd at fethiant gwaethaf ei fywyd. Yn gyntaf, roedd Pedr yn orhyderus, yn brolio y byddai’n ffyddlon hyd yn oed petai’r apostolion eraill yn cefnu ar Iesu. (Marc 14:​27-29) Nesaf, pan oedd yng ngardd Gethsemane, doedd Pedr ddim yn gallu aros yn effro. (Marc 14:​32, 37-41) Yna, pan ddaeth dorf i arestio Iesu, gwnaeth Pedr ffoi. (Marc 14:50) Yn olaf, gwadodd Pedr adnabod Iesu dair gwaith, gan hyd yn oed ddweud celwydd ar ei lw. (Marc 14:​66-71) Beth oedd ymateb Pedr pan sylweddolodd pa mor ddifrifol oedd ei bechod? Gwnaeth dorri i lawr a dechrau wylo, efallai wedi ei lethu gan euogrwydd. (Marc 14:72) Dychmyga boen Pedr pan gafodd ei ffrind Iesu ei ddienyddio rai oriau’n hwyrach. Mae’n rhaid bod Pedr wedi teimlo’n dda i ddim!

14. Beth helpodd Pedr i ddal ati i wasanaethu Jehofa? (Gweler y llun.)

14 Llwyddodd Pedr i ddal ati yng ngwasanaeth Jehofa am sawl rheswm. Yn hytrach nag ynysu ei hun; aeth at ei frodyr a’i chwiorydd ysbrydol a chael ei gysuro. (Luc 24:33) Hefyd, ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, ymddangosodd i Pedr, mwy na thebyg i’w annog. (Luc 24:34; 1 Cor. 15:5) Yn nes ymlaen, yn lle ceryddu Pedr am ei fethiannau, dywedodd Iesu wrth ei ffrind y byddai’n derbyn mwy o gyfrifoldebau. (Ioan 21:​15-17) Roedd Pedr yn gwybod ei fod wedi pechu’n ddifrifol, ond ni wnaeth rhoi’r gorau iddi. Pam? Oherwydd ei fod yn gwybod nad oedd ei Feistr, Iesu, wedi cefnu arno. A gwnaeth brodyr ysbrydol Pedr hefyd ddal ati i’w gefnogi. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Pedr?

Mae Ioan 21:​15-17 yn dangos ni wnaeth Iesu gefnu ar Pedr, a gwnaeth hynny galonogi Pedr i ddal ati (Gweler paragraff 14)


15. Beth mae Jehofa eisiau inni fod yn hyderus ohono? (Salm 86:5; Rhufeiniaid 8:​38, 39) (Gweler hefyd y llun.)

15 Y wers. Mae Jehofa eisiau inni fod yn hyderus o’i gariad a’i faddeuant. (Darllen Salm 86:5; Rhufeiniaid 8:​38, 39.) Pan ydyn ni’n pechu, rydyn ni’n teimlo’n euog. Mae hynny’n normal ac yn briodol. Fodd bynnag, ddylen ni ddim meddwl ein bod ni y tu hwnt i gariad a maddeuant Jehofa. Yn lle hynny, dylen ni ofyn am help ar unwaith. Dywed Robert, y soniwyd amdano’n gynharach: “Gwnes i ddibynnu ar fy nerth fy hun i wrthsefyll temtasiwn, ac o ganlyniad, syrthiais i bechod.” Sylweddolodd byddai’n rhaid iddo siarad â’r henuriaid. Mae’n dweud: “Pan gymerais y cam hwnnw, gwnaethon nhw fy helpu yn syth i deimlo cariad Jehofa, ac roeddwn i’n gwybod bod yr henuriaid yn fy ngharu i hefyd. Gwnaethon nhw fy helpu i gredu bod Jehofa ddim wedi fy ngadael i.” Gallwn ninnau hefyd fod yn siŵr bod Jehofa yn ein caru ni’n fawr iawn a bydd yn maddau ein pechodau os ydyn ni’n edifar, yn gofyn am help, ac yn ceisio’n daer i beidio â gwneud yr un camgymeriadau eto. (1 Ioan 1:​8, 9) Mae hyder o’r fath yn ein hatal rhag rhoi’r gorau iddi pan fyddwn ni’n baglu neu’n cwympo.

Beth mae gwaith caled yr henuriaid i dy helpu yn dy wneud di’n hyderus ohono? (Gweler paragraff 15)


16. Pam rwyt ti’n benderfynol o ddal ati i wasanaethu Jehofa?

16 Mae Jehofa yn gwerthfawrogi’n fawr ein hymdrechion i’w wasanaethu yn ystod y dyddiau olaf anodd hyn. Gyda help Jehofa, gallwn ni ddyfalbarhau er gwaethaf siom. Gallwn ni feithrin cariad at ein brodyr a’n chwiorydd a maddau iddyn nhw hyd yn oed os ydyn nhw’n ein pechu. Gallwn ni ddangos cymaint rydyn ni’n caru Duw drwy wneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys problemau yn ein priodas. Ac os ydyn ni’n pechu, gallwn ni geisio help Jehofa, derbyn ei gariad a’i faddeuant, a pharhau i symud ymlaen i’w wasanaethu. Gallwn ni fod yn sicr y byddwn ni’n cael bendithion di-rif os ydyn ni’n ‘peidio â rhoi’r gorau i wneud daioni.’—Gal. 6:9.

SUT GALLWN NI DDAL ATI I WASANAETHU JEHOFA PAN . . .

  • mae cyd-addolwr yn ein pechu ni?

  • mae ein gŵr neu’n gwraig yn ein siomi ni?

  • ydyn ni’n siomi ein hunain?

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

a Newidiwyd rhai enwau.

b Mae’r Beibl yn annog gŵr a gwraig i beidio â gwahanu, ac yn dweud yn glir nad ydy gwahanu yn caniatáu i un neu’r llall ailbriodi. Er hynny, mae rhai Cristnogion wedi dewis gwahanu mewn sefyllfaoedd arbennig. Gweler ôl-nodyn 4 “Gŵr a Gwraig yn Gwahanu” yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!