YMADRODD BEIBLAIDD
Maddeuant cyn i’r Pris Gael Ei Dalu
Yr unig ffordd gallwn ni dderbyn maddeuant am ein pechodau yw drwy’r pris gwnaeth Iesu ei dalu gyda’i waed. (Eff. 1:7) Ond, mae’r Beibl yn dweud: “Gwnaeth Duw hyn i ddangos . . . ei amynedd drwy faddau pechodau a gafodd eu gwneud yn y gorffennol,” hynny yw, cyn i Iesu aberthu ei fywyd. (Rhuf. 3:25) Sut roedd hi’n bosib i Jehofa wneud hyn, ac ar yr un pryd, gadw ei safonau o gyfiawnder perffaith?
O’r foment addawodd Jehofa fod “disgynnydd” am achub pobl ffyddlon, roedd fel petai y pris wedi ei dalu’n barod. (Gen. 3:15; 22:18) Roedd Jehofa yn gwbl hyderus y byddai ei Fab yn aberthu ei fywyd o’i wirfodd, ar yr amser penodedig. (Gal. 4:4; Heb. 10:7-10) Pan oedd Iesu ar y ddaear, rhoddodd Jehofa yr awdurdod iddo i faddau pechodau. Roedd Iesu yn gwybod byddai gwerth ei aberth yn gorchuddio pechodau pobl. Ar sail hynny, roedd yn gallu maddau iddyn nhw cyn iddo dalu’r pris.—Math. 9:2-6.