ERTHYGL ASTUDIO 12
CÂN 77 Goleuni Mewn Byd Tywyll
Osgoi’r Tywyllwch—Aros yn y Goleuni
“Tywyllwch oeddech chi gynt, ond nawr goleuni ydych chi.”—EFF. 5:8.
PWRPAS
Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r eglureb am dywyllwch a goleuni yn Effesiaid pennod 5?
1-2. (a) O dan ba amgylchiadau cafodd y llythyr i’r Effesiaid ei ysgrifennu? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?
TRA OEDD yn gaeth i’w dŷ yn Rhufain, roedd yr apostol Paul wir eisiau annog ei gyd-addolwyr. Nid oedd yn gallu ymweld â nhw, felly ysgrifennodd llythyrau gan gynnwys un i’r Effesiaid tua 60 neu 61 OG.—Eff. 1:1; 4:1.
2 Bron i ddeng mlynedd yn gynharach, roedd Paul wedi treulio llawer o amser yn Effesus yn pregethu ac yn dysgu’r newyddion da. (Act. 19:1, 8-10; 20:20, 21) Roedd Paul yn caru ei frodyr yno yn fawr iawn ac eisiau eu helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa. Ond, pam ysgrifennodd i’r Cristnogion eneiniog am dywyllwch a goleuni? A pha wersi gall pob Cristion eu dysgu o’i gyngor? Gad inni drafod yr atebion.
O’R TYWYLLWCH I’R GOLEUNI
3. Pa eglureb ddefnyddiodd Paul yn ei lythyr i’r Effesiaid?
3 Ysgrifennodd Paul i’r Cristnogion yn Effesus: “Tywyllwch oeddech chi gynt, ond nawr goleuni ydych chi.” (Eff. 5:8) Defnyddiodd Paul yr eglureb o dywyllwch a goleuni i esbonio cymaint roedden nhw wedi newid. Gad inni ystyried pam dywedodd Paul wrth yr Effesiaid mai “tywyllwch oeddech chi gynt.”
4. Ym mha ffyrdd oedd yr Effesiaid mewn tywyllwch crefyddol?
4 Tywyllwch Crefyddol. Cyn dysgu’r gwir a dod yn Gristnogion, roedd yr Effesiaid yn gaeth i syniadau gau grefydd ac ofergoelion. Roedd llawer o bobl yn ystyried teml Artemis, a oedd yn Effesus, fel un o saith rhyfeddod y byd. Roedd y ddinas yn llawn o eilunaddoliaeth, ac roedd crefftwyr eilunod yn gwneud llawer o arian o’r bobl a oedd yn mynd yno i addoli. (Act. 19:23-27) Ac ar ben hynny, roedd y ddinas yn enwog am hudoliaeth.—Act. 19:19.
5. Ym mha ffyrdd oedd yr Effesiaid mewn tywyllwch moesol?
5 Tywyllwch Moesol. Roedd pobl Effesus yn enwog am eu hanfoesoldeb difrifol ac am ymddwyn heb gywilydd. Roedd anfoesoldeb rhywiol yn cael ei drafod yn y theatrau a hyd yn oed yn ystod gwasanaethau crefyddol. (Eff. 5:3) Roedd llawer o’r bobl “heb unrhyw fath o synnwyr moesol,” ymadrodd sy’n golygu yn llythrennol, “wedi stopio teimlo poen.” (Eff. 4:17-19) Cyn dysgu am safonau Jehofa, doedd eu cydwybodau ddim yn eu poeni nhw. Doedd ganddyn nhw ddim ots am deimladau Jehofa ynglŷn â’u gweithredoedd nhw. O ganlyniad, roedd Paul yn gallu dweud: “Maen nhw mewn tywyllwch yn feddyliol ac yn bell i ffwrdd o’r bywyd sy’n perthyn i Dduw.”
6. Pam roedd Paul yn gallu dweud wrth yr Effesiaid: “Nawr goleuni ydych chi”?
6 Ond, gwnaeth rhai o’r Effesiaid adael y tywyllwch. Ysgrifennodd Paul amdanyn nhw: “Nawr goleuni ydych chi mewn undod â’r Arglwydd.” (Eff. 5:8) Roedden nhw wedi gadael anfoesoldeb a gweithredoedd gau grefydd, ac eisoes yn byw yn unol â Gair Duw a oedd fel goleuni iddyn nhw. (Salm 119:105) Roedden nhw wedi dod “yn efelychwyr Duw” ac yn gwneud eu gorau glas i addoli ac i blesio Jehofa.—Eff. 5:1.
7. Ym mha ffordd ydy ein sefyllfa ni yn debyg i lawer o’r Cristnogion yn Effesus?
7 Mewn ffordd debyg, cyn inni ddysgu’r gwir, roedden ni mewn tywyllwch moesol a chrefyddol. Roedd rhai ohonon ni yn dathlu gwyliau paganaidd ac yn byw bywyd anfoesol. Ond unwaith inni ddysgu safonau Jehofa, penderfynon ni i wneud newidiadau a byw mewn ffordd a fyddai’n gwneud Duw’n hapus. Ac o ganlyniad, rydyn ni wedi elwa mewn llawer o ffyrdd. (Esei. 48:17) Ond dydy hi ddim yn wastad yn hawdd i osgoi’r tywyllwch a pharhau i “gerdded fel plant goleuni.” Sut gallwn ni wneud hyn?
OSGOI’R TYWYLLWCH
8. Yn ôl Effesiaid 5:3-5, beth oedd yn rhaid i’r Effesiaid osgoi?
8 Darllen Effesiaid 5:3-5. Er mwyn cadw draw o dywyllwch moesol, roedd rhaid i’r Cristnogion yn Effesus wrthod, nid yn unig gweithredoedd anfoesol, ond hefyd siarad am anfoesoldeb. Gwnaeth Paul atgoffa’r Effesiaid bod rhaid iddyn nhw wneud hyn er mwyn derbyn “etifeddiaeth yn Nheyrnas Crist a Duw.”
9. Pam dylen ni fod yn ofalus iawn i osgoi gwneud unrhyw beth a all arwain at anfoesoldeb?
9 Mae’n rhaid inni i gyd ddal ati i frwydro yn erbyn “gweithredoedd anffrwythlon sy’n perthyn i’r tywyllwch.” (Eff. 5:11) Y mwyaf mae person yn edrych ar, yn gwrando ar, neu’n siarad am rywbeth aflan neu anfoesol, y mwyaf hawdd bydd hi iddyn nhw wneud rhywbeth anfoesol. (Gen. 3:6; Iago 1:14, 15) Mewn un wlad, gwnaeth nifer o frodyr ddod yn “ffrindiau” ar ôl dechrau sgwrsio ar-lein. Ar y cychwyn roedden nhw’n siarad am Jehofa a’r gwir, ond fesul tipyn, dechreuon nhw sgwrsio am bethau afiach. Ac yna, prif bwnc eu trafodaethau oedd rhyw. Yn nes ymlaen, gwnaeth nifer o’r brodyr hyn ddweud bod sgwrsio am bethau aflan wedi eu harwain nhw at weithredoedd anfoesol.
10. Sut mae Satan yn ceisio ein twyllo? (Effesiaid 5:6)
10 Mae byd Satan yn ceisio ein twyllo ni i feddwl dydy’r pethau mae Jehofa’n galw’n aflan ac yn anfoesol ddim yn ddrwg o gwbl. (2 Pedr 2:19) Dydy hyn ddim yn ein synnu ni! Ers amser maith yn ôl, mae’r Diafol wedi ceisio drysu pobl fel nad ydyn nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg. (Esei. 5:20; 2 Cor. 4:4) Does dim syndod fod cymaint o ffilmiau, rhaglenni teledu, a gwefannau yn hyrwyddo syniadau sy’n gwbl groes i safonau cyfiawn Jehofa. Mae Satan yn ceisio ein twyllo ni i feddwl fod drwgweithredoedd nid yn unig yn dderbyniol ond yn hwylus ac yn ddiniwed.—Darllen Effesiaid 5:6.
11. Sut mae profiad Angela yn pwysleisio’r angen i wrando ar gyngor doeth Effesiaid 5:7? (Gweler hefyd y llun.)
11 Mae Satan eisiau inni dreulio amser gyda phobl sy’n gwneud hi’n anodd inni lynu at safonau Jehofa. Dyna pam gwnaeth Paul erfyn ar y Cristnogion yn Effesus: “Peidiwch â gwneud fel y maen nhw’n gwneud,” hynny ydy, fel y rhai sy’n gwneud beth sy’n anghywir yng ngolwg Duw. (Eff. 5:7) Ond cofia fod rhaid inni fod yn fwy gofalus na’r Effesiaid oherwydd gall cwmni drwg o’r fath heddiw cynnwys nid yn unig cymdeithasu wyneb yn wyneb, ond hefyd ar gyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth Angela, a sy’n byw yn Asia, ddarganfod pa mor beryglus gall gyfryngau cymdeithasol fod. Dywedodd hi: “Yn araf deg, mae’n gallu newid sut mae rhywun yn meddwl. Ar ôl tipyn, doeddwn i ddim yn meindio cael ‘ffrindiau’ doedd ddim yn parchu’r Beibl. Ac yn y pen draw, o’n i’n dechrau meddwl ei bod hi’n dderbyniol i fyw mewn ffordd doedd ddim yn plesio Jehofa.” Gwnaeth rhai henuriaid cariadus ei helpu hi i wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae hi’n dweud: “Dwi nawr yn hoelio fy sylw ar bethau ysbrydol yn hytrach na llenwi fy mhen ar gyfryngau cymdeithasol.”
12. Beth fydd yn ein helpu ni i lynu at safonau Jehofa o ran da a drwg?
12 Rhaid inni frwydro yn erbyn meddwl bod anfoesoldeb yn dderbyniol. Rydyn ni’n gwybod yn well. (Eff. 4:19, 20) Byddai’n peth da inni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n ofalus i osgoi cymdeithasu yn ddiangen gydag eraill yn y gwaith, yn yr ysgol, neu gydag unrhyw un sydd ddim yn parchu safonau Jehofa? Ydw i’n cadw safonau Jehofa yn ddewr hyd yn oed os ydy rhai yn fy ngalw i’n berson cul?’ Ar ben hynny, fel mae 2 Timotheus 2:20-22 yn dangos, efallai bydd rhaid inni fod yn ofalus wrth ddewis ffrindiau y tu mewn i’r gynulleidfa Gristnogol. Mae’n bosib ni fydd pawb yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon i Jehofa.
CERDDED “FEL PLANT GOLEUNI”
13. Beth mae’n ei olygu i barhau i “gerdded fel plant goleuni”? (Effesiaid 5:7-9)
13 Anogodd Paul y Cristnogion yn Effesus, nid yn unig i ddal ati i wrthod y tywyllwch, ond i barhau i “gerdded fel plant goleuni.” (Darllen Effesiaid 5:7-9.) Beth mae hynny’n ei olygu? Yn syml, i ymddwyn fel gwir Gristnogion drwy’r amser. Un ffordd gallwn ni gyrraedd y nod hwn yw trwy ddarllen ac astudio Gair Duw a’n cyhoeddiadau sydd wedi eu seilio ar y Beibl. Mae’n enwedig o bwysig i dalu sylw manwl at esiampl a dysgeidiaethau Iesu Grist, “goleuni’r byd.”—Ioan 8:12; Diar. 6:23.
14. Sut gall yr ysbryd glân ein helpu ni?
14 Er mwyn ymddwyn “fel plant goleuni,” rydyn ni angen help ysbryd glân Duw. Pam? Oherwydd mae’n her i aros yn lân yn y byd anfoesol hwn. (1 Thes. 4:3-5, 7, 8) Gall yr ysbryd glân ein helpu ni i frwydro yn erbyn meddylfryd y byd, gan gynnwys ei athroniaethau a’i safbwyntiau eraill sy’n groes i ffordd Jehofa o feddwl. Gall yr ysbryd glân hefyd ein helpu ni i feithrin “pob math o ddaioni a chyfiawnder a gwirionedd.”—Eff. 5:9.
15. Ym mha ffyrdd gallwn ni dderbyn yr ysbryd glân? (Effesiaid 5:19, 20)
15 Dywedodd Iesu y byddai Jehofa’n “rhoi’r ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Felly un ffordd o dderbyn yr ysbryd glân yw drwy weddïo. Hefyd, gallwn ni ei dderbyn drwy foli Jehofa yn ein cyfarfodydd Cristnogol. (Darllen Effesiaid 5:19, 20.) Bydd dylanwad da’r ysbryd glân yn ein helpu ni i fyw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa.
16. Beth fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth? (Effesiaid 5:10, 17)
16 Pan fydd rhaid inni wneud penderfyniadau pwysig, mae’n hanfodol inni “ddeall beth ydy ewyllys Jehofa” a gweithredu’n unol â hynny. (Darllen Effesiaid 5:10, 17.) Wrth inni ddod o hyd i egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol i’n sefyllfa ni, rydyn ni’n wir yn ceisio meddylfryd Duw ar y mater. Ac yna, wrth inni roi’r egwyddorion hyn ar waith, byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau da.
17. Sut gallwn ni ddefnyddio ein hamser yn ddoeth? (Effesiaid 5:15, 16) (Gweler hefyd y llun.)
17 Rhoddodd Paul gyngor i’r Cristnogion yn Effesus i ddefnyddio eu hamser yn ddoeth. (Darllen Effesiaid 5:15, 16.) Mae’r “un drwg,” ein gelyn Satan, eisiau ein cadw ni’n rhy brysur i wasanaethu Duw. (1 Ioan 5:19) Byddai’n hawdd iawn i Gristion flaenoriaethu arian, addysg, neu waith. Er nad ydy’r pethau hyn yn anghywir ynddyn nhw eu hunain, byddai eu ceisio nhw’n gyntaf yn arwydd fod person yn dechrau meddwl fel pobl y byd. Ddylai’r pethau hyn byth gymryd lle ein gwasanaeth i Jehofa. Dylen ni ddefnyddio ein hamser yn y ffordd orau a cherdded “fel plant goleuni” drwy ganolbwyntio ar y peth mwyaf pwysig.
18. Pa gamau gwnaeth Donald eu cymryd er mwyn gwneud defnydd gwell o’i amser?
18 Bydda’n effro i unrhyw gyfle i wasanaethu Jehofa yn fwy. Dyma a wnaeth Donald, sy’n byw yn Ne Affrica. Dywedodd: “Ar ôl meddwl am fy mywyd, gwnes i erfyn ar Jehofa am help i wneud mwy yn y weinidogaeth. Gweddïais am swydd a fyddai’n gadael mwy o amser i bregethu. Gyda help Jehofa, gwnes i ddod o hyd i waith addas. Yna, gwnaeth fy ngwraig a minnau ddechrau gwasanaethu’n llawn amser gyda’n gilydd.”
19. Sut gallwn ni barhau i “gerdded fel plant goleuni”?
19 Yn sicr, mae’n rhaid bod llythyr Paul yn wir wedi calonogi Cristnogion yn Effesus i aros yn ffyddlon i Jehofa, ac mae ei gyngor yn werthfawr inni hefyd. Mae’n gallu ein helpu ni i ddewis adloniant a chwmni yn ddoeth. Mae’n gallu ein hysgogi ni i astudio’r Beibl yn rheolaidd fel bod goleuni’r gwir yn arwain ein bywydau. Ac mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd yr ysbryd glân, sy’n meithrin rhinweddau da ynon ni. Pan fyddwn ni’n rhoi’r hyn a ysgrifennodd Paul ar waith, byddwn ni’n gwneud penderfyniadau doeth sy’n plesio Jehofa. Trwy wneud y pethau hyn byddwn ni’n osgoi tywyllwch y byd hwn ac yn aros yn y goleuni!
SUT BYDDET TI’N ATEB?
-
At beth y mae’r “tywyllwch” a’r “goleuni” yn Effesiaid 5:8 yn cyfeirio?
-
Sut gallwn ni osgoi’r “tywyllwch”?
-
Sut gallwn ni barhau “i gerdded fel plant goleuni”?
CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
a Newidiwyd rhai enwau.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Dyma gopi cynnar o lythyr yr apostol Paul i’r Effesiaid.