ERTHYGL ASTUDIO 13
CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod
Y Cysur o Wybod Dy Fod Ti’n Plesio Jehofa
“Rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.”—LUC 3:22.
PWRPAS
Sut i ddod dros unrhyw amheuon dy fod ti’n plesio Jehofa.
1. Sut gall rhai o weision ffyddlon Jehofa deimlo?
MAE’R Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda’i bobl!” (Salm 149:4) Am beth calonogol i wybod! Ond yn anffodus, weithiau gall rhai deimlo mor ddigalon nes eu bod nhw’n amau a ydyn nhw’n gallu plesio Jehofa fel unigolion. Gwnaeth llawer o bobl ffyddlon Jehofa yn adeg y Beibl hefyd brwydro yn erbyn teimladau o’r fath.—1 Sam. 1:6-10; Job 29:2, 4; Salm 51:11.
2. Pwy sy’n plesio Jehofa?
2 Mae’r Beibl yn dangos yn glir gall pobl amherffaith blesio Jehofa. Sut? Mae’n rhaid inni ymarfer ffydd yn Iesu a chael ein bedyddio. (Ioan 3:16) Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos yn gyhoeddus ein bod ni wedi edifarhau am ein pechodau ac wedi addo i Dduw i wneud ei ewyllys. (Act. 2:38; 3:19) Mae Jehofa wrth ei fodd pan ydyn ni’n cymryd y camau hyn i feithrin perthynas ag ef. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gadw ein haddewid i Jehofa, rydyn ni’n ei blesio, ac mae’n ein hystyried ni’n ffrindiau iddo.—Salm 25:14.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod?
3 Ond pam mae rhai weithiau yn teimlo dydyn nhw ddim yn plesio Jehofa? Sut mae Jehofa yn dangos ei gymeradwyaeth? A sut gall Cristion fod yn hyderus ei fod yn plesio Jehofa?
PAM MAE RHAI YN TEIMLO DYDYN NHW DDIM YN PLESIO JEHOFA?
4-5. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono, hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo’n ddi-werth?
4 Mae teimlo’n ddi-werth wedi bod yn broblem fawr i nifer ohonon ni ers ein plentyndod. (Salm 88:15) Dywedodd brawd o’r enw Adrián: “Dwi wastad wedi teimlo’n ddi-werth. Dwi’n cofio fel plentyn bach o’n i’n gweddïo byddai fy nheulu yn byw yn y Baradwys, ond doeddwn i ddim yn teimlo’n ddigon da i fod yno gyda nhw.” Dywedodd Tony a gafodd ei fagu gan rieni doedd ddim yn Dystion: “Doedd fy rhieni byth yn dweud wrtho i eu bod nhw’n fy ngharu i, neu eu bod nhw’n prowd ohono i. O’n i’n teimlo fel doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth o gwbl i’w plesio nhw.”
5 Os wyt ti’n teimlo’n ddi-werth weithiau, cofia fod Jehofa wedi dy ddenu di ato. (Ioan 6:44) Mae Duw yn gweld ein rhinweddau da ac yn ein hadnabod yn well nag ydyn ni’n ein hadnabod ein hunain. (1 Sam. 16:7; 2 Cron. 6:30) Felly, gallwn ni drystio Jehofa pan mae’n dweud ein bod ni’n werthfawr iddo.—1 Ioan 3:19, 20.
6. Sut roedd yr apostol Paul yn teimlo am ei bechodau?
6 Efallai rwyt ti’n dal yn teimlo’n euog am bethau wnest ti cyn dysgu’r gwir. (1 Pedr 4:3) A wyt ti weithiau’n teimlo fydd Jehofa byth yn maddau iti? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Ers adeg y Beibl hyd heddiw, mae llawer o weision ffyddlon Jehofa wedi brwydro yn erbyn eu gwendidau a theimladau o euogrwydd. Er enghraifft, roedd yr apostol Paul yn teimlo’n ofnadwy wrth feddwl am ei amherffeithion. (Rhuf. 7:24) Er bod Paul wedi edifarhau a chael ei fedyddio, roedd yn dal yn cyfeirio ato’i hun fel y “lleiaf o’r apostolion” a’r ‘pechadur gwaethaf.’—1 Cor. 15:9; 1 Tim. 1:15.
7. Beth dylen ni ei gofio am ein pechodau?
7 Mae ein Tad nefol yn addo maddau inni os ydyn ni’n edifar. (Salm 86:5) Felly, os ydyn ni’n wir yn teimlo’n ddrwg am ein pechodau, gallwn ni fod yn hollol hyderus bod Jehofa wedi maddau inni.—Col. 2:13.
8-9. Sut gallwn ni stopio teimlo fel na allwn ni byth plesio Jehofa?
8 Rydyn ni i gyd eisiau gwneud ein gorau glas i wasanaethu Jehofa. Ond mae rhai yn teimlo fel na allan nhw byth wneud digon i blesio Jehofa. Mae chwaer o’r enw Amanda yn dweud: “Dwi’n dueddol o feddwl bod gwneud fy ngorau i Jehofa yn golygu gwneud mwy a mwy a mwy, ac felly’n dwi’n rhoi gormod o bwysau arna i fy hun. Dwi mor siomedig pan dwi’n ‘methu,’ ac wedyn dwi’n dechrau meddwl fy mod i wedi siomi Jehofa hefyd.”
9 Sut gallwn ni stopio teimlo fel na allwn ni byth plesio Jehofa? Cofia fod Jehofa’n rhesymol. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas, mae’n gwerthfawrogi pob ymdrech rydyn ni’n ei wneud. Dydy ef ddim yn disgwyl inni wneud rhywbeth dydyn ni ddim yn gallu ei wneud. Hefyd, myfyria ar esiamplau pobl yn y Beibl a wnaeth wasanaethu Jehofa gyda’u holl galon. Meddylia am Paul. Gweithiodd Paul yn galed am flynyddoedd, yn teithio miloedd o filltiroedd, ac yn sefydlu llawer o gynulleidfaoedd. Ond yna gwnaeth ei amgylchiadau gyfyngu ar ei waith o bregethu. A oedd hynny’n golygu bod Paul wedi colli cymeradwyaeth Jehofa? Nag oedd. Daliodd ati i wneud ei orau, a gwnaeth Jehofa bendithio ei ymdrechion. (Act. 28:30, 31) Weithiau, mae’r gorau gallwn ni ei roi i Jehofa yn amrywio. Ond beth sy’n bwysig i Jehofa ydy pam rydyn ni’n ei wneud. Gad inni drafod rhai o’r ffyrdd mae Jehofa’n dangos ein bod ni’n ei blesio.
SUT MAE JEHOFA’N DANGOS EIN BOD NI’N EI BLESIO?
10. Sut gallwn ni “glywed” Jehofa’n dweud ei fod yn hapus gyda ni? (Ioan 16:27)
10 Trwy eiriau’r Beibl. Mae Jehofa wrth ei fodd yn dweud wrth y rhai mae’n eu caru faint maen nhw wedi ei blesio. Mae’r Beibl yn cofnodi dau achlysur pan wnaeth Jehofa hynny gyda’i Fab annwyl. (Math. 3:17; 17:5) Hoffet ti glywed Jehofa’n dweud ei fod yn hapus gyda ti? Dydy Jehofa ddim yn siarad gyda ni yn llythrennol o’r nefoedd, ond gallwn ni “glywed” ei lais trwy dudalennau ei Air. Er enghraifft, gallwn ni wneud hyn wrth inni ddarllen geiriau Iesu yn yr Efengylau. (Darllen Ioan 16:27.) Roedd Iesu yn efelychu ei Dad yn berffaith. Felly, bob tro rydyn ni’n darllen am Iesu yn dweud bod ei ddilynwyr wedi ei blesio, gallwn ni ddychmygu Jehofa yn dweud yr un peth wrthon ni.—Ioan 15:9, 15.
11. Pam dydy problemau bywyd ddim yn golygu ein bod ni wedi colli ffafr Duw? (Iago 1:12)
11 Trwy ei weithredoedd. Mae Jehofa yn awyddus iawn i’n helpu ni ac i ofalu am ein hanghenion materol. Ond weithiau, mae Jehofa yn gadael i bethau drwg ddigwydd yn ein bywydau, fel yn achos Job. (Job 1:8-11) Dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni wedi colli ffafr Duw. Mae treialon yn rhoi cyfle inni ddangos cymaint rydyn ni’n caru ac yn trystio Jehofa. (Darllen Iago 1:12.) Wrth inni wynebu treialon, byddwn ni’n gweld faint mae Jehofa yn ein caru ni ac yn ein helpu ni i ddyfalbarhau.
12. Beth gallwn ni ei ddysgu o brofiad Dimitrii?
12 Gwnaeth brawd o’r enw Dmitrii yn Asia golli ei swydd. Penderfynodd ddangos ei fod yn trystio Jehofa drwy wneud mwy yn y weinidogaeth. Ond wrth i’r misoedd fynd heibio, doedd dal ddim yn gallu ffeindio gwaith. Yna aeth yn sâl, ac roedd yn methu codi o’i wely. Dechreuodd deimlo fel gŵr a thad drwg, a meddwl ei fod wedi colli ffafr Jehofa. Wedyn un noson, rhoddodd ei ferch darn o bapur gyda geiriau Eseia 30:15 arno: “Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder.” Daeth hi at ei wely a dweud, “Dad, pan wyt ti’n teimlo’n ddrwg, gelli di gofio’r adnod hon.” Sylweddolodd Dmitrii fod Jehofa yn dal yn darparu bwyd, dillad, a lloches i’w deulu. Mae’n dweud: “Beth roedd rhaid imi ei wneud oedd peidio â chynhyrfu a chael hyder yn fy Nuw.” Os wyt ti’n wynebu rhywbeth tebyg, cofia fod Jehofa’n gofalu amdanat ti a bydd yn dy helpu di i ddyfalbarhau.
13. Pwy gall Jehofa ei ddefnyddio i ddangos ein bod ni’n ei blesio, a sut?
13 Trwy ein cyd-addolwyr. Mae Jehofa’n dangos ei fod yn hapus gyda ni gan ddefnyddio ein brodyr a’n chwiorydd. Er enghraifft, efallai bydd Jehofa yn ysgogi eraill i ddweud y peth iawn ar yr amser iawn. Dyna beth ddigwyddodd i chwaer yn Asia yn ystod adeg hynod o anodd yn ei bywyd. Gwnaeth hi golli ei swydd ac aeth yn ofnadwy o sâl. Yna, gwnaeth ei gŵr bechu’n ddifrifol a cholli ei freintiau fel henuriad. Dywedodd hi: “Doeddwn i ddim yn deall pam roedd hyn i gyd yn digwydd imi. O’n i’n meddwl efallai fy mod i wedi gwneud rhywbeth o’i le a cholli ffafr Jehofa.” Gweddïodd ein chwaer am gysur. Roedd hi eisiau gwybod os oedd hi’n dal yn plesio Duw. Beth wnaeth Jehofa? Dywedodd hi, “Gwnaeth henuriaid y gynulleidfa siarad â fi a fy helpu i deimlo cariad Jehofa.” Yn nes ymlaen, gofynnodd hi am help Jehofa eto. “Y diwrnod hwnnw, ges i lythyr gan frodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa. Wrth imi ddarllen eu geiriau caredig, o’n i’n gwybod bod Jehofa wedi fy nghlywed i.” Yn bendant, mae Jehofa yn aml yn dangos ei gariad tuag aton ni drwy eiriau pobl eraill.—Salm 10:17.
14. Ym mha ffordd arall mae Jehofa’n dangos ein bod ni’n ei blesio?
14 Mae Jehofa hefyd yn dangos ein bod ni’n ei blesio drwy ddefnyddio ein cyd-addolwyr i roi cyngor inni. Er enghraifft, yn y ganrif gyntaf, defnyddiodd Jehofa yr apostol Paul i ysgrifennu 14 llythyr ysbrydoledig i’w gyd-gredinwyr. Roedd y llythyrau’n cynnwys cyngor a oedd yn garedig ond hefyd yn gryf. Pam gwnaeth Jehofa ysbrydoli Paul i gynnwys cyngor o’r fath? Oherwydd bod Jehofa yn Dad da, sy’n “disgyblu’r rhai mae’n eu caru.” (Diar. 3:11, 12) Felly, os ydyn ni’n derbyn cyngor sy’n seiliedig ar y Beibl, mae hynny’n arwydd bod Jehofa’n ein caru ni ac nid ein bod ni wedi colli ei ffafr. (Heb. 12:6) Oes ’na fwy o dystiolaeth sy’n dangos ein bod ni’n plesio Jehofa?
MWY O DYSTIOLAETH EIN BOD NI’N PLESIO JEHOFA
15. I bwy mae Jehofa’n rhoi ei ysbryd glân, a pham gall hynny roi hyder inni?
15 Mae Jehofa’n rhoi ei ysbryd glân i’r rhai sy’n ei blesio. (Math. 12:18) Er enghraifft, a wyt ti wedi llwyddo i ddangos rhan o ffrwyth yr ysbryd yn dy fywyd? A wyt i’n fwy amyneddgar nawr nag oeddet ti cyn dod i adnabod Jehofa? Mewn gwirionedd, wrth iti ddangos rhinweddau ysbryd Duw yn fwy yn dy fywyd, bydd hi’n fwy amlwg byth dy fod ti’n plesio Jehofa!—Gweler y blwch “ Ffrwyth yr Ysbryd Yw . . . ”
16. Pwy mae Jehofa’n ei ddefnyddio i bregethu’r newyddion da, a sut mae hynny’n gwneud iti deimlo? (1 Thesaloniaid 2:4)
16 Mae Jehofa’n trystio’r rhai sy’n ei blesio gyda’r newyddion da. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:4.) Sylwa ar sut roedd pregethu’r newyddion da wedi helpu chwaer o’r enw Jocelyn. Un diwrnod wnaeth hi ddeffro’n teimlo’n isel. Dywedodd: “O’n i’n teimlo’n wag ac yn dda i ddim. Ond o’n i’n arloesi ac i fod i fynd ar y weinidogaeth ar y diwrnod hwnnw. Felly gwnes i weddïo ar Jehofa a mynd allan.” Y bore hwnnw, gwnaeth Jocelyn cyfarfod Mary, dynes garedig a wnaeth dderbyn astudiaeth Feiblaidd. Rhai misoedd wedyn, dywedodd Mary ei bod hi wedi bod yn gweddïo ar Dduw am help pan gnociodd Jocelyn ar ei drws. Wrth feddwl am y profiad, mae Jocelyn yn dweud, “O’n i’n teimlo fel bod Jehofa yn dweud wrtho i, ‘Rwyt ti’n fy mhlesio i.’” Wrth gwrs, ni fydd pawb yn ymateb yn dda i’n gwaith o bregethu. Ond gallwn ni fod yn siŵr bod Jehofa yn hapus iawn pan ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i rannu’r newyddion da ag eraill.
17. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth Vicky ynglŷn â’r pris a gafodd ei dalu gan Iesu? (Salm 5:12)
17 Ar sail pris aberth Iesu, mae Jehofa yn maddau i’r rhai sy’n ei blesio. (1 Tim. 2:5, 6) Ond beth os ydy ein calonnau yn ein condemnio ni drwy ddweud dydy Jehofa ddim yn hapus gyda ni, er bod gynnon ni ffydd yn y pridwerth ac wedi cael ein bedyddio? Cofia, allwn ni ddim trystio ein teimladau o hyd, ond rydyn ni’n wastad yn gallu trystio Jehofa. Os oes gan rywun ffydd yn y pris a gafodd ei dalu gan Iesu, mae Jehofa’n ei weld yn gyfiawn ac yn addo ei fendithio. (Darllen Salm 5:12; Rhuf. 3:26) Gwnaeth myfyrio ar aberth Iesu helpu Vicky. Un diwrnod, ar ôl meddwl yn ddwfn amdano, gwnaeth hi sylweddoli: “Mae Jehofa wedi bod mor amyneddgar â fi am amser hir iawn. . . . Ond eto, oedd hi fel petaswn i’n dweud wrtho: ‘Dydy dy gariad ddim yn ddigon mawr i fy nghyrraedd i. Dydy aberth dy Fab ddim yn ddigon i faddau imi am fy mhechodau.’” Drwy wneud hyn, dechreuodd hi deimlo cariad Jehofa. Os ydyn ni’n meddwl yn ddwfn am werth aberth Iesu, gallwn ninnau hefyd deimlo cariad a chymeradwyaeth Jehofa.
18. Beth gallwn ni fod yn hyderus ohono os ydyn ni’n dal ati i garu ein Tad nefol?
18 Er gwaethaf ein holl ymdrechion i roi cyngor yr erthygl hon ar waith, efallai byddwn ni’n digalonni ar adegau ac yn gofyn a ydyn ni’n dal yn plesio Jehofa. Os ydy hynny’n digwydd, cofia fod y “rhai sy’n parhau i’w garu Ef” yn ei blesio. (Iago 1:12) Felly, dal ati i nesáu at Jehofa, ac edrycha am dystiolaeth dy fod ti’n ei blesio. Cofia, dydy Jehofa “ddim yn bell oddi wrth unrhyw un ohonon ni.”—Act. 17:27.
SUT BYDDET TI’N ATEB?
-
Pam mae rhai yn meddwl dydyn nhw ddim yn plesio Jehofa?
-
Sut mae Jehofa’n dangos ein bod ni’n ei blesio?
-
Pam gallwn ni fod yn hyderus ein bod ni’n plesio Jehofa?
CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi