Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Amddiffyn y Newyddion Da Gerbron Uwch-Swyddogion

Amddiffyn y Newyddion Da Gerbron Uwch-Swyddogion

“DYMA’R dyn dw i wedi ei ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a’u brenhinoedd.” (Act. 9:15, beibl.net) Dywedodd yr Arglwydd Iesu y geiriau hynny am Iddew a oedd newydd ddod yn Gristion, hynny yw, yr apostol Paul.

Un o’r “brenhinoedd” hynny oedd yr Ymerawdwr Rhufeinig Nero. Sut byddet ti’n teimlo petaet ti’n gorfod amddiffyn dy ffydd o flaen rheolwr o’r fath? Ond eto, mae Cristnogion yn cael eu hannog i efelychu Paul. (1 Cor. 11:1) Un ffordd o wneud hynny yw ystyried profiadau Paul o ran systemau cyfreithiol ei ddydd.

Cyfraith gwlad Israel oedd Cyfraith Moses a oedd yn gosod y safonau moesol ar gyfer Iddewon crefyddol ym mhobman. Ar ôl Pentecost 33 OG, nid oedd yn rhaid i wir addolwyr gadw Cyfraith Moses. (Act. 15:28, 29; Gal. 4:9-11) Ond, nid oedd Paul a’r Cristnogion eraill yn siarad yn amharchus am y Gyfraith; roedden nhw’n medru tystiolaethu mewn llawer o gymunedau Iddewig heb unrhyw drafferth. (1 Cor. 9:20) Yn wir, ar sawl achlysur, roedd Paul yn mynd i’r synagog, lle y gallai dystiolaethu i bobl a oedd yn gwybod am Dduw Abraham ac a fyddai’n gwrando ar resymu Paul ar sail yr Ysgrythurau Hebraeg.—Act. 9:19, 20; 13:5, 14-16; 14:1; 17:1, 2.

Dewisodd yr apostolion Jerwsalem fel canolbwynt i drefnu’r gwaith pregethu. Yn aml, roedden nhw’n dysgu pobl yn y deml. (Act. 1:4; 2:46; 5:20) Ambell waith, teithiodd Paul i Jerwsalem, ac, yn y pen draw, cafodd ei arestio yno. Rhoddodd hynny gychwyn ar broses gyfreithiol a fyddai’n gorffen yn Rhufain.

PAUL A CHYFRAITH RHUFAIN

Beth fyddai agwedd awdurdodau Rhufain tuag at y daliadau roedd Paul yn eu pregethu? I ateb y cwestiwn hwnnw, peth da fyddai ystyried agwedd y Rhufeiniaid tuag at grefydd yn gyffredinol. Nid oedden nhw’n gorfodi’r grwpiau ethnig yn yr ymerodraeth i gefnu ar eu crefydd, oni bai y byddai hynny yn achosi perygl i’r Wladwriaeth neu i foesoldeb y bobl.

Rhoddodd Rhufain hawliau eang i’r Iddewon ar draws yr ymerodraeth. Dywed y llyfr Backgrounds of Early Christianity: “Roedd gan Iddewiaeth statws arbennig yn ymerodraeth Rhufain. . . . Roedd yr Iddewon yn rhydd i arfer eu crefydd, ac wedi eu hesgusodi rhag addoli duwiau’r wladwriaeth Rufeinig. Roedden nhw’n gallu dilyn Cyfraith Moses yn eu cymunedau eu hunain.” Hefyd, nid oedd rhaid iddyn nhw gyflawni gwasanaeth milwrol. * Roedd cyfreithiau’r Rhufeiniaid yn gwarchod y ffydd Iddewig, a byddai Paul yn defnyddio’r ddarpariaeth honno i amddiffyn Cristnogaeth gerbron yr awdurdodau Rhufeinig.

Defnyddiodd gelynion Paul sawl dull gwahanol i geisio troi’r werin bobl a’r awdurdodau yn erbyn yr apostol. (Act. 13:50; 14:2, 19; 18:12, 13) Ystyria un achlysur. Gwnaeth yr henuriaid Cristnogol glywed sôn ymysg yr Iddewon fod Paul yn annog eraill i “wrthgilio oddi wrth Moses.” Gallai storïau o’r fath fod wedi gwneud i rai Cristnogion newydd o dras Iddewig feddwl nad oedd Paul yn parchu trefn Duw. Hefyd, gallai’r Sanhedrin ddatgan mai gwrthgiliad oddi wrth Iddewiaeth oedd Cristnogaeth. Petai hynny’n digwydd, byddai’r Iddewon a oedd yn gysylltiedig â’r Cristnogion yn cael eu cosbi. Byddan nhw’n cael eu gwahardd rhag cymdeithasu â’r gymuned a rhag pregethu yn y synagog a’r deml. Felly, awgrymodd henuriaid y gynulleidfa fod Paul yn profi’r storïau hynny’n anghywir drwy fynd i’r deml a gwneud rhywbeth nad oedd Duw yn ei ddisgwyl ganddo, ond nad oedd yn annerbyniol chwaith.—Act. 21:18-27.

Drwy wneud hynny, cafodd Paul gyfleoedd i “amddiffyn yr Efengyl” a’i sefydlu’n gyfreithlon. (Phil. 1:7) Yn y deml, gwnaeth yr Iddewon godi twrw a cheisio lladd Paul. Arestiwyd Paul gan y cadlywydd milwrol Rhufeinig. Wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer chwipio Paul, dywedodd wrthyn nhw ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. O ganlyniad, cafodd Paul ei gymryd i Gesarea, lle’r oedd y Rhufeiniaid yn rheoli Jwdea. Yno, byddai cyfleoedd anarferol ar gael iddo i dystiolaethu’n ddewr o flaen yr awdurdodau. Mae’n debyg fod hynny wedi cyflwyno Cristnogaeth i bobl nad oedd wedi clywed llawer amdani.

Mae Actau pennod 24 yn disgrifio achos llys Paul gerbron Ffelix, llywodraethwr Rhufeinig Jwdea, a oedd eisoes wedi clywed ychydig am ddaliadau’r Cristnogion. Roedd yr Iddewon yn cyhuddo Paul o dorri cyfraith Rhufain mewn o leiaf dair ffordd. Roedden nhw’n dweud ei fod yn annog gwrthryfel ymhlith yr Iddewon ar draws yr ymerodraeth; ei fod yn arwain sect beryglus; a’i fod yn ceisio halogi’r Deml a oedd, bryd hynny, yn cael ei gwarchod gan y Rhufeiniaid. (Act. 24:5, 6) Gallai’r cyhuddiadau hynny fod wedi arwain at ddedfryd o farwolaeth.

Mae’r ffordd y gwnaeth Paul ddelio â’r cyhuddiadau hynny o ddiddordeb i Gristnogion heddiw. Arhosodd yn dawel ei feddwl ac yn barchus. Cyfeiriodd Paul at y Gyfraith a’r Proffwydi, a soniodd am ei hawl i addoli Duw ei hynafiaid. Roedd gan Iddewon eraill yr hawl hwnnw o dan gyfraith Rhufain. (Act. 24:14) Mewn amser, roedd Paul yn gallu amddiffyn a chyhoeddi ei ffydd o flaen y llywodraethwr nesaf, Porcius Ffestus, yn ogystal â gerbron y Brenin Herod Agripa.

Yn olaf, er mwyn iddo gael gwrandawiad teg, dywedodd Paul: “Yr wyf yn apelio at Gesar,” sef rheolwr mwyaf pwerus y cyfnod.—Act. 25:11.

ACHOS LLYS PAUL GERBRON CESAR

“Y mae’n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar,” meddai angel wrth Paul yn ddiweddarach. (Act. 27:24) Pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Rhufeinig Nero reoli, fe ddywedodd na fyddai’n barnu pob achos llys yn bersonol. Yn ystod wyth mlynedd gyntaf ei reolaeth, roedd yn dirprwyo’r rhan fwyaf o’r gwaith hwnnw i eraill. Yn ôl y llyfr The Life and Epistles of Saint Paul, pan oedd Nero yn barnu achosion llys yn bersonol, byddai’n gwneud hynny yn ei balas ei hun, gyda chymorth grŵp o ymgynghorwyr profiadol a dylanwadol.

Nid yw’r Beibl yn dweud a wnaeth Nero ei hun wrando ar Paul a’i farnu, neu a wnaeth ofyn i rywun arall wneud hynny ac adrodd yn ôl iddo. Beth bynnag a ddigwyddodd, yn fwy na thebyg roedd Paul yn esbonio ei fod yn addoli Duw’r Iddewon a hefyd ei fod yn annog y bobloedd i barchu’r llywodraeth. (Rhuf. 13:1-7; Titus 3:1, 2) Mae’n ymddangos fod Paul yn llwyddiannus wrth amddiffyn y newyddion da o flaen yr uwch-swyddogion, oherwydd cafodd Paul ei ryddhau gan lys Cesar.—Phil. 2:24; Philem. 22.

EIN COMISIWN I AMDDIFFYN Y NEWYDDION DA

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o’m hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i’r Cenhedloedd.” (Math. 10:18) Braint yw cynrychioli Iesu yn y modd hwn. Gall ein hymdrechion i amddiffyn y newyddion da arwain at fuddugoliaethau cyfreithiol. Wrth gwrs, nid yw penderfyniadau cyfreithiol dynion yn cadarnhau’r newyddion da yn yr ystyr llawn. Dim ond Teyrnas Dduw a fydd yn rhoi terfyn ar orthrymder ac anghyfiawnder.—Preg. 8:9; Jer. 10:23.

Ond, hyd yn oed heddiw, pan fydd Cristnogion yn amddiffyn eu ffydd, mae enw Jehofa yn cael ei anrhydeddu. Yn debyg i Paul, dylen ni geisio bod yn dawel ein hysbryd, yn ddiffuant, ac yn argyhoeddedig. Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Peidiwch poeni ymlaen llaw beth i’w ddweud wrth amddiffyn eich hunain. Bydda i’n rhoi’r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy’n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!”—Luc 21:14, 15, beibl.net; 2 Tim. 3:12; 1 Pedr 3:15.

Pan fydd Cristnogion yn amddiffyn eu ffydd o flaen brenhinoedd, llywodraethwyr, neu swyddogion eraill, gallan nhw roi tystiolaeth i bobl nad ydyn nhw fel arfer yn hawdd eu cyrraedd â’r newyddion da. Mae rhai penderfyniadau ffafriol y llysoedd wedi coethi cyrff o gyfreithiau, ac felly wedi amddiffyn y rhyddid i lefaru ac i addoli. Ond, beth bynnag yw canlyniadau achosion o’r fath, mae’r dewrder y mae gweision Duw yn ei ddangos o dan bwysau yn gwneud iddo lawenhau.

Wrth inni amddiffyn ein ffydd, rydyn ni’n anrhydeddu enw Jehofa

^ Par. 8 Yn ôl yr ysgrifennwr James Parkes: “Roedd gan yr Iddewon . . . yr hawl i gadw eu harferion eu hunain. Doedd dim byd anghyffredin am y ddarpariaeth hon, oherwydd ei bod hi’n arfer gan y Rhufeiniaid i roi’r hunanlywodraeth fwyaf posibl i wahanol rannau o’r ymerodraeth.”