Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc, Cryfhewch Eich Ffydd

Bobl Ifanc, Cryfhewch Eich Ffydd

“Y mae ffydd . . . yn sicrwydd o bethau na ellir eu gweld.”—HEB. 11:1.

CANEUON: 41, 69

1, 2. Pa bwysau sydd ar bobl ifanc heddiw, a beth fydd yn eu helpu i ymdopi?

“TI’N edrych yn rhy glyfar i gredu yn Nuw.” Dyna ddywedodd cyd-ddisgybl wrth chwaer ifanc ym Mhrydain. Ysgrifennodd brawd yn yr Almaen: “Mae fy athrawon yn credu mai myth yw hanes y creu yn y Beibl. Ac maen nhw’n cymryd yn ganiataol fod y myfyrwyr yn credu mewn esblygiad.” Dywedodd chwaer ifanc yn Ffrainc: “Mae athrawon yn fy ysgol i yn synnu bod rhai o’r disgyblion yn dal yn credu yn y Beibl.”

2 Fel rhywun ifanc sy’n addoli Jehofa, neu fel rhywun sy’n dysgu amdano, a wyt ti’n teimlo o dan bwysau i dderbyn credoau poblogaidd fel esblygiad yn hytrach na chredu mewn Creawdwr? Os felly, y mae camau y gelli di eu cymryd er mwyn cryfhau dy ffydd a’i chynnal. Un cam yw defnyddio dy allu i feddwl, gan fydd hynny yn “dy amddiffyn.” Bydd yn dy warchod rhag athroniaethau a allai ddinistrio dy ffydd.—Darllen Diarhebion 2:10-12.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Gwybodaeth gywir am Dduw yw sail ffydd go iawn. (1 Tim. 2:4) Felly, wrth iti astudio Gair Duw a’n cyhoeddiadau Cristnogol, paid â rhuthro trwy’r wybodaeth. Meddylia am y deunydd nes dy fod ti’n ei ddeall yn iawn. (Math. 13:23) Gad inni weld sut gall hyn gryfhau dy ffydd yn Jehofa fel y Creawdwr ac yn y Beibl—dau bwnc y mae digonedd o “dystiolaeth sicr” yn eu cylch.—Heb. 11:1, beibl.net.

SUT I GRYFHAU DY FFYDD

4. Pam mae pob cred am Dduw ac am darddiad bywyd yn gofyn am ryw fath o ffydd, a beth yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r pwnc?

4 A yw pobl wedi dweud wrthyt ti eu bod nhw’n credu mewn esblygiad oherwydd y mae’n seiliedig ar wyddoniaeth tra bod cred yn Nuw yn seiliedig ar ffydd? Barn gyffredin yw hon. Ond da yw cofio hyn: Ni waeth beth mae rhywun yn ei gredu am Dduw neu am esblygiad, mae’n gofyn am ryw fath o ffydd. Sut felly? Nid oes neb wedi gweld Duw na gweld rhywbeth yn cael ei greu. (Ioan 1:18) Ac nid oes neb, boed yn wyddonydd neu beidio, wedi gweld un math o fywyd yn esblygu yn un arall. Nid oes neb wedi gwylio ymlusgiad yn newid yn famolyn. (Job 38:1, 4) Felly, mae’n rhaid inni edrych ar y dystiolaeth a defnyddio ein meddyliau er mwyn dod i’r casgliad cywir. Ynglŷn â’r greadigaeth, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a’i dduwdod, i’w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.”—Rhuf. 1:20.

Wrth resymu ag eraill, defnyddia’r adnoddau sydd ar gael (Gweler paragraff 5)

5. Pa adnoddau sydd ar gael i’n helpu ni i ddefnyddio ein gallu i feddwl?

5 Trwy “y deall,” gallwn weld pethau nad ydyn nhw’n amlwg neu’n weladwy. (Heb. 11:3) Felly, mae pobl ddeallus yn defnyddio eu meddyliau yn ogystal â’u llygaid a’u clustiau. Mae cyfundrefn Jehofa wedi gwneud ymchwil drylwyr er mwyn creu adnoddau i’n helpu ni i weld ein Creawdwr trwy lygaid ffydd. (Heb. 11:27) Mae’r rhain yn cynnwys y llyfrynnau A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking, y llyfr Is There a Creator Who Cares About You?, a’r fideo The Wonders of Creation Reveal God’s Glory. Hefyd, mae ein cylchgronau yn rhoi llawer inni feddwl amdano. Mae Awake! wedi cynnwys llawer o gyfweliadau â gwyddonwyr ac eraill sy’n egluro pam eu bod nhw nawr yn credu yn Nuw. Mae’r gyfres a elwir “Was It Designed?” yn rhoi enghreifftiau o’r dyluniadau rhyfeddol rydyn ni’n eu gweld ym myd natur. Yn aml, mae gwyddonwyr yn ceisio copïo’r dyluniadau hyn.

6. Sut mae’r adnoddau sydd ar gael yn gallu dy helpu di?

6 Ynglŷn â’r ddau lyfryn a restrir uchod, dywedodd brawd 19 mlwydd oed o’r Unol Daleithiau: “Mae’r rhain wedi bod yn hynod o werthfawr imi. Rwyf wedi eu hastudio tua dwsin o weithiau.” Ysgrifennodd chwaer yn Ffrainc: “Mae’r erthyglau ‘Was it Designed?’ yn syfrdanol! Maen nhw’n dangos bod y peirianwyr gorau yn medru copïo dyluniadau natur ond ni fyddan nhw byth cystal.” Dywedodd rhieni merch 15 mlwydd oed o Dde Affrica: “Fel arfer, y peth cyntaf mae ein merch yn ei ddarllen yn yr Awake! yw’r ‘Cyfweliad.’” Beth amdanat ti? A wyt ti’n manteisio ar yr adnoddau hyn? Gallan nhw gryfhau dy ffydd nes ei bod hi fel coeden â gwreiddiau dwfn a fydd yn medru gwrthsefyll gwyntoedd gau ddysgeidiaethau.—Jer. 17:5-8.

DY FFYDD YN Y BEIBL

7. Pam mae Duw eisiau iti ddefnyddio dy allu i feddwl?

7 A yw’n anghywir i ofyn cwestiynau diffuant am y Beibl? Dim o gwbl! Mae Jehofa eisiau iti ddefnyddio dy synhwyrau i brofi’r gwir i ti dy hun. Nid yw’n dymuno iti gredu oherwydd bod pobl eraill yn credu. Felly, defnyddia dy allu i feddwl i gael gwybodaeth gywir. Wedyn, gall y wybodaeth honno fod yn sail gadarn i’th ffydd. (Darllen 1 Timotheus 2:4; Hebreaid 5:14.) Un ffordd o gael gwybodaeth gywir yw trwy ddewis prosiectau astudio sydd o ddiddordeb i ti.

8, 9. (a) Pa fath o brosiectau astudio mae rhai yn eu mwynhau? (b) Sut mae rhai wedi elwa ar fyfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei astudio?

8 Mae rhai wedi dewis astudio proffwydoliaethau’r Beibl, neu ei gywirdeb hanesyddol, archeolegol, a gwyddonol. Un broffwydoliaeth ddiddorol yw Genesis 3:15. Mae’r adnod hon yn cyflwyno prif thema’r Beibl, sef cyfiawnhau sofraniaeth Duw a sancteiddio’i enw drwy gyfrwng y Deyrnas. Mewn iaith ffigurol, mae’n dangos sut bydd Jehofa yn dad-wneud yr holl ddioddefaint a fu ers Eden. Sut gallet ti astudio Genesis 3:15? Un ffordd yw trwy greu llinell amser. Gallet ti restru adnodau allweddol sy’n dangos sut gwnaeth Duw, fesul tipyn, ddatgelu mwy am yr unigolion a’r digwyddiadau y cyfeirir atyn nhw yn yr adnod hon, a sut caiff y broffwydoliaeth ei chyflawni. Wrth iti weld bod yr ysgrythurau yn unedig, mae’n debyg y byddi di’n dod i’r casgliad fod proffwydi ac ysgrifenwyr y Beibl wedi “eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.”—2 Pedr 1:21.

9 Ysgrifennodd brawd o’r Almaen: “Mae thema’r Deyrnas fel llinyn aur sy’n rhedeg trwy’r Beibl. Mae hynny’n wir er gwaetha’r ffaith fod tua 40 o ddynion wedi ei ysgrifennu. Ac roedd llawer ohonyn nhw yn byw mewn gwahanol oesoedd ac nid oedden nhw’n adnabod ei gilydd.” Darllenodd chwaer o Awstralia erthygl am ystyr y Pasg Iddewig yn y Tŵr Gwylio Saesneg, rhifyn 15 Rhagfyr 2013, a wnaeth argraff fawr arni. Mae cysylltiad agos rhwng gŵyl y Pasg Iddewig, Genesis 3:15, a dyfodiad y Meseia. Ysgrifennodd hi: “Gwnaeth yr erthygl honno agor fy llygaid i weld pa mor rhyfeddol yw Jehofa. Roedd y ffaith fod rhywun wedi meddwl am y drefn hon ar gyfer yr Israeliaid, ac iddi gael ei chyflawni yn Iesu, yn cyffwrdd â’m calon. Roedd rhaid imi stopio ac ystyried pa mor anhygoel oedd swper y Pasg proffwydol!” Pam roedd y chwaer yn teimlo felly? Oherwydd iddi feddwl yn ddwfn nes ei bod hi’n deall yr hyn roedd hi wedi ei ddarllen. Roedd hynny’n cryfhau ei ffydd a’i thynnu’n nes at Jehofa.—Math. 13:23.

10. Sut mae gonestrwydd yr ysgrifenwyr yn cryfhau ein ffydd yn y Beibl?

10 Rhywbeth arall sy’n cryfhau ein ffydd yw gonestrwydd a dewrder y dynion a ysgrifennodd y Beibl. Roedd llawer o’r ysgrifenwyr yn yr amseroedd a fu yn seboni eu harweinwyr ac yn clodfori eu teyrnasoedd. Ond roedd proffwydi Jehofa bob amser yn dweud y gwir. Roedden nhw’n fodlon sôn am ffaeleddau eu pobl eu hunain, a hyd yn oed eu brenhinoedd. (2 Cron. 16:9, 10; 24:18-22) Hefyd, roedden nhw’n onest am eu camgymeriadau personol ac am wendidau gweision eraill Duw. (2 Sam. 12:1-14; Marc 14:50) “Peth prin yw gonestrwydd o’r fath,” meddai brawd ifanc ym Mhrydain. “Mae hyn yn cyfrannu at ein hyder fod y Beibl yn llyfr oddi wrth Jehofa.”

11. Sut gall pobl ifanc ddod i werthfawrogi egwyddorion y Beibl?

11 Egwyddorion manteisiol y Beibl yw’r rheswm i lawer gredu ei fod wedi ei ysbrydoli gan Dduw. (Salm 19:7-11.) Ysgrifennodd chwaer ifanc o Japan: “Ar ôl i fy nheulu roi dysgeidiaethau’r Beibl ar waith, roedden ni’n hapus iawn. Rydyn ni’n mwynhau heddwch, undod, a chariad.” Mae egwyddorion y Beibl yn ein hamddiffyn ni rhag gau addoliad ac ofergoelion sy’n cadw llawer o bobl yn gaeth. (Salm 115:3-8) Ydy athroniaethau sy’n honni nad oes Duw yn effeithio ar bobl? Mae athrawiaethau fel esblygiad yn tueddu i droi natur yn dduw, ac i briodoli iddi alluoedd sy’n perthyn i Jehofa yn unig. Mae’r rhai sy’n dweud nad oes Duw yn mynnu bod y dyfodol yn ein dwylo ni. Ond ni allan nhw gynnig unrhyw obaith sicr am ddyfodol gwell.—Salm 146:3, 4.

RHESYMU AG ERAILL

12, 13. Beth yw ffordd effeithiol o drafod creadigaeth neu’r Beibl â’th gyd-ddisgyblion, athrawon, ac eraill?

12 Sut gelli di fod yn effeithiol wrth resymu ag eraill am y greadigaeth a’r Beibl? Yn gyntaf, paid â chymryd yn ganiataol dy fod ti’n gwybod beth mae eraill yn ei gredu. Mae rhai yn dweud eu bod nhw’n credu mewn esblygiad, ond hefyd yn credu yn Nuw. Maen nhw’n meddwl bod Duw wedi defnyddio esblygiad i greu gwahanol ffurfiau ar fywyd. Cred gyffredin arall yw na fyddai esblygiad yn cael ei ddysgu yn yr ysgol oni bai ei fod yn ffaith. Ac mae eraill yn rhoi’r gorau i gredu yn Nuw oherwydd bod crefydd wedi eu siomi. Felly wrth drafod tarddiad bywyd â rhywun, fel arfer, peth doeth yw gofyn cwestiynau yn gyntaf. Ceisia ddarganfod beth mae’r person yn ei gredu. Os wyt ti’n rhesymol ac yn fodlon gwrando, efallai bydd ef yn barod i wrando arnat ti.—Titus 3:2.

13 Os wyt ti’n teimlo bod rhywun yn ymosod ar dy gred yn y Creawdwr, efallai fod modd gosod y cyfrifoldeb arno ef trwy ofyn sut gallai bywyd fod wedi dechrau heb Greawdwr. Er mwyn i’r ffurf gyntaf ar fywyd barhau, byddai’n rhaid i’r ffurf honno atgenhedlu. Yn ôl un Athro Cemeg, er mwyn gwneud hyn y byddai angen, (1) pilen neu groen amddiffynnol, (2) y gallu i gasglu a phrosesu egni, (3) gwybodaeth yn y genynnau, a (4) y gallu i wneud copïau o’r wybodaeth honno. Fe ychwanegodd: “Mae cymhlethdod hyd yn oed y ffurfiau symlaf ar fywyd yn syfrdanol.”

14. Beth gelli di ei wneud os nad wyt ti’n teimlo’n gymwys i drafod esblygiad neu greadigaeth?

14 Os nad wyt ti’n teimlo’n gymwys i drafod esblygiad a chreadigaeth, gelli di ddefnyddio rhesymeg syml Paul. Ysgrifennodd: “Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth.” (Heb. 3:4) Mae mor rhesymol ac effeithiol! Meddwl deallus sy’n creu dyluniadau cymhleth. Gelli di hefyd ddefnyddio un o’n cyhoeddiadau addas. Rhoddodd chwaer y ddau lyfryn y soniwyd amdanyn nhw gynt i ddyn ifanc a ddywedodd nad oedd yn credu yn Nuw a’i fod yn derbyn esblygiad. Tua wythnos yn ddiweddarach, dywedodd y dyn ifanc: “Nawr rwy’n credu yn Nuw.” Aeth ymlaen i astudio’r Beibl, a heddiw mae’n un o’n brodyr.

15, 16. Sut y gelli di newid y ffordd rwyt ti’n trafod y Beibl, a beth yw’r nod?

15 Gelli di ddilyn yr un camau sylfaenol wrth siarad â rhywun sy’n amau gwirionedd y Beibl. Ceisia ddarganfod beth mae’n ei gredu a pha bynciau sydd o ddiddordeb iddo. (Diar. 18:13) Os oes ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, efallai y byddai’n hoffi gweld pwyntiau sy’n dangos cywirdeb gwyddonol y Beibl. Efallai, bydd gweld enghreifftiau o broffwydoliaethau a hanes cywir yn y Beibl yn gwneud argraff ar eraill. Neu, gelli di dynnu sylw at egwyddorion ymarferol y Beibl, fel y rhai a geir yn y Bregeth ar y Mynydd.

16 Ond cofia, dy nod yw ennill calonnau, nid dadlau. Felly, gwranda’n astud. Gofynna gwestiynau, cadw ysbryd tawel, a dangos barch, yn enwedig wrth siarad â phobl hŷn. Mae’n debyg y byddan nhw’n fwy tebygol o barchu dy safbwynt. Byddan nhw hefyd yn gweld dy fod ti, yn wahanol i lawer o bobl ifanc, wedi meddwl yn ddwfn am dy gredoau. Wrth gwrs, mae angen cofio nad oes rhaid iti ateb pobl sy’n afresymol neu sy’n ceisio gwneud hwyl am ben dy ben di oherwydd dy ddaliadau.—Diar. 26:4.

PROFI’R GWIR I TI DY HUN

17, 18. (a) Sut gelli di brofi’r gwir i ti dy hun? (b) Pa gwestiwn y byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Mae angen mwy na gwybodaeth sylfaenol am y Beibl i gael ffydd gref. Felly, astudia Air Duw fel petaet ti’n cloddio am drysor cudd. (Diar. 2:3-6) Defnyddia’r adnoddau sydd ar gael, er enghraifft, Watchtower Library ar DVD, LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio, ynghyd â Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Hefyd, gosoda’r nod o ddarllen y Beibl cyfan, efallai o fewn blwyddyn. Darllen Gair Duw yw un o’r pethau gorau ar gyfer adeiladu ffydd. O feddwl am ei ieuenctid, dywedodd arolygwr y gylchdaith: “Un peth a oedd yn fy argyhoeddi bod y Beibl yn Air Duw oedd ei ddarllen o glawr i glawr. Wedyn, roedd storïau’r Beibl a ddysgais yn blentyn yn gwneud synnwyr imi. Roedd hyn yn drobwynt yn fy nghynnydd ysbrydol.”

18 Rieni—rydych chi’n chwarae rhan bwysig yn natblygiad ysbrydol eich plant. Sut gallwch eu helpu i gryfhau eu ffydd? Bydd yr erthygl nesaf yn trafod hyn.