Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dal Ati i Ymdrechu â Jehofa am Fendith

Dal Ati i Ymdrechu â Jehofa am Fendith

“Yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.”—GEN. 32:28.

CANEUON: 60, 38

1, 2. Pa bethau y mae’n rhaid i weision Jehofa frwydro yn eu herbyn?

O’R DYN ffyddlon cyntaf, Abel, hyd at ein dyddiau ni, mae addolwyr ffyddlon wedi gorfod ymdrechu. Dywedodd yr apostol Paul wrth y Cristnogion Hebreig eu bod nhw wedi sefyll yn gadarn ac “wedi gorfod dioddef yn ofnadwy” wrth iddyn nhw geisio cymeradwyaeth a bendith Jehofa. (Heb. 10:32-34, beibl.net) Roedd Paul yn cymharu ymdrech Cristnogion ag ymdrech athletwyr a oedd yn cystadlu mewn mabolgampau Groegaidd, a oedd yn cynnwys rhedeg, reslo, a bocsio. (Heb. 12:1, 4) Heddiw, rydyn ni’n rhedeg ras bywyd, yn cystadlu yn erbyn rhai sy’n ceisio tynnu ein sylw, ein baglu, ein llorio, a chipio oddi arnon ni ein llawenydd a gwobrwyon y dyfodol.

2 Yn gyntaf, rydyn ni’n gorfod brwydro neu reslo yn erbyn Satan a’i fyd drwg. (Eff. 6:12) Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwrthod dylanwad y byd drwy “chwalu’r cestyll mae’r gelyn yn eu hamddiffyn.” Mae rheini’n cynnwys athrawiaethau, athroniaethau, ac arferion niweidiol fel bod yn anfoesol yn rhywiol, ysmygu, a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau. Ac mae’n rhaid inni frwydro’n barhaol yn erbyn digalondid a’n gwendidau cnawdol.—2 Cor. 10:3-6; Col. 3:5-9.

3. Sut mae Duw yn ein hyfforddi ni i ymladd yn erbyn ein gelynion?

3 A yw hi’n wir bosibl trechu gwrthwynebwyr grymus o’r fath? Ydy, ond nid heb frwydro. Trwy ddefnyddio esiampl bocsiwr o’r cyfnod a fu, dywedodd Paul amdano’i hun: “Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy’n curo’r awyr â’i ddyrnau.” (1 Cor. 9:26) Yn union fel y mae bocsiwr yn cwffio yn erbyn ei elyn, mae’n rhaid i ninnau hefyd ein hamddiffyn ein hunain rhag ein gelynion. Mae Jehofa yn ein hyfforddi ac yn ein helpu ni yn ein gornest. Mae’n rhoi cyfarwyddiadau inni o’i Air sy’n gallu achub ein bywydau. Mae hefyd yn ein helpu ni drwy gyfrwng ein cyhoeddiadau Beiblaidd, ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau Cristnogol. Wyt ti’n rhoi ar waith yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu? Petaet ti’n peidio â gwneud hynny, byddet ti’n “curo’r awyr” yn hytrach na gwrthwynebu dy elyn yn llwyr.

4. Sut gallwn ni osgoi cael ein trechu gan ddrygioni?

4 Gall ein gelynion ymosod arnon ni pan nad ydyn ni’n disgwyl hynny, a rhoi cic inni pan ydyn ni ar y llawr, felly, mae’n rhaid inni aros yn effro drwy’r amser. Mae’r Beibl yn rhybuddio: “Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.” (Rhuf. 12:21) Mae’r anogaeth i beidio â gadael i ddrygioni dy drechu di yn dangos ein bod ni’n gallu trechu drygioni. Gallwn wneud hyn os ydyn ni’n parhau i frwydro yn ei erbyn. Neu, os ydyn ni’n rhoi’r gorau iddi ac yn stopio cwffio, mae yna berygl y bydden ni’n cael ein trechu gan Satan, ei fyd drwg, a’n cnawd amherffaith. Paid byth â gadael i Satan dy ddychryn di fel dy fod ti’n gostwng dy ddwylo a derbyn dy drechu!—1 Pedr 5:9.

5. (a) Beth all ein helpu ni i ddal ati yn ein brwydr i ennill bendith Duw? (b) Pa gymeriadau Beiblaidd y byddwn ni’n eu hystyried?

5 Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i’r rhai sy’n ymdrechu beidio ag anghofio’r rheswm dros frwydro yn y lle cyntaf. Er mwyn ennill cymeradwyaeth a bendith Duw, dylen nhw gofio am yr addewid yn Hebreaid 11:6, beibl.net: “Mae’n rhaid i’r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a’i fod yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri.” Mae’r ferf Roeg a gyfieithir “ceisio o ddifri” yn cyfleu gwneud ymdrech lew. (Act. 15:17) Yn yr Ysgrythurau, ceir esiamplau da o ddynion a merched a ymdrechodd yn galed i geisio bendith Jehofa. Roedd Jacob, Rachel, Joseff, a Paul yn wynebu amgylchiadau a oedd yn eu rhoi nhw o dan straen emosiynol a chorfforol, ond eto gwnaeth eu dyfalbarhad arwain at lawer o fendithion. Sut gallwn ni efelychu dyfalbarhad y rhai hyn?

DYFALBARHAD YN ARWAIN AT FENDITHION

6. Beth helpodd Jacob i ddyfalbarhau, a sut cafodd ei wobrwyo? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Roedd y patriarch Jacob yn ymdrechu ac yn dyfalbarhau oherwydd ei fod yn caru Jehofa, yn gwerthfawrogi pethau ysbrydol, ac oherwydd bod ganddo ffydd yn addewid Jehofa i fendithio ei ddisgynyddion. (Gen. 28:3, 4) Mae hyn yn esbonio pam roedd Jacob, ac yntau’n 100 oed bron, yn gwneud popeth yn ei allu i gael bendith Duw, hyd yn oed reslo ag angel ar ffurf ddynol. (Darllen Genesis 32:24-28.) A wnaeth Jacob ddibynnu ar ei nerth a’i ddyfalbarhad ei hun i ymdrechu ag angel mor bwerus? Naddo wrth gwrs! Ond roedd yn benderfynol o ymdrechu, ac nid oedd am droi draw rhag yr her! Fe gafodd ei wobrwyo am ei ddyfalbarhad. Derbyniodd yr enw priodol Israel, (sy’n golygu “Yr un sy’n ymdrechu â Duw” neu “Duw sy’n ymdrechu”). Cafodd Jacob y wobr rydyn ninnau hefyd yn ei cheisio—cymeradwyaeth a bendith Jehofa.

7. (a) Pa sefyllfa anodd a wnaeth Rachel ei hwynebu? (b) Sut gwnaeth hi ddal ati i ymdrechu a sut cafodd hi ei bendithio yn y pen draw?

7 Roedd Rachel, gwraig annwyl Jacob, yr un mor awyddus i weld sut y byddai Jehofa yn cyflawni ei addewid i’w gŵr. Ond roedd hi’n ymddangos fod yna rwystr na fyddai’n bosibl ei drechu. Doedd ganddi ddim plant. Yn ei chyfnod hi, roedd hyn yn cael ei ystyried yn drallod mawr. Sut daeth Rachel o hyd i’r nerth emosiynol a chorfforol i frwydro’n barhaol yn erbyn amgylchiadau torcalonnus a oedd y tu hwnt i’w rheolaeth? Ni wnaeth hi byth roi’r gorau i obeithio. Yn hytrach, daliodd ati i ymdrechu drwy weddïo’n daer ar Dduw. Gwrandawodd Jehofa ar ei deisyfiadau, ac yn y diwedd fe gafodd ei bendithio â phlant. Mae’n rhesymol felly fod Rachel, ar un achlysur, wedi dweud: “Yr wyf wedi ymdrechu’n galed . . . a llwyddo”!—Gen. 30:8, 20-24.

8. Pa her a wynebodd Joseff, a sut mae ei ymateb yn esiampl dda inni?

8 Mae’n debyg iawn fod esiampl dda Jacob a Rachel wedi gwneud argraff fawr ar eu mab Joseff, ac yn dylanwadu ar y ffordd y byddai’n delio â sefyllfaoedd anodd. Pan oedd Joseff yn 17 mlwydd oed, cafodd ei fywyd ei droi ben i waered. Oherwydd cenfigen, fe’i gwerthwyd yn gaethwas gan ei frodyr. Yn ddiweddarach, roedd rhaid iddo ddioddef blynyddoedd o garchar yn yr Aifft. (Gen. 37:23-28; 39:7-9, 20-21) Ni wnaeth Joseff dorri ei galon, ac nid oedd yn dal dig nac yn ceisio dial chwaith. Yn hytrach, rhoddodd ei fryd ar yr hyn roedd yn bwysig iddo, sef ei berthynas â Jehofa. (Lef. 19:18; Rhuf. 12:17-21) Dylai esiampl Joseff ein helpu ni. Er enghraifft, hyd yn oed os cawson ni blentyndod anodd neu os yw ein amgylchiadau presennol yn ymddangos yn anobeithiol, mae’n rhaid inni ymdrechu a dyfalbarhau. Os gwnawn ni hynny, gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn ein bendithio.—Darllen Genesis 39:21-23.

9. Wrth efelychu Jacob, Rachel, a Joseff, pa ymdrech y dylen ni ei gwneud i dderbyn bendith Jehofa?

9 Meddylia am sefyllfa anodd rwyt ti’n ei hwynebu nawr. Efallai dy fod ti’n wynebu anghyfiawnder, amarch, neu ragfarn. Neu efallai fod rhywun wedi dy gyhuddo ar gam, oherwydd cenfigen hwyrach. Yn hytrach na llaesu dwylo, cofia sut y gwnaeth Jacob, Rachel, a Joseff ddal ati i wasanaethu Jehofa â llawenydd. Gwnaeth Duw eu cryfhau a’u bendithio oherwydd iddyn nhw werthfawrogi pethau ysbrydol. Roedden nhw’n dal ati i ymdrechu ac i weithredu yn unol â’u gweddïau. Rydyn ni’n byw’n agos iawn at ddiwedd y system ddrwg hon, ac felly mae gennyn ni resymau da dros ddal ein gafael yn dynn yn ein gobaith! Wyt ti’n fodlon ymdrechu i ennill ffafr Jehofa a reslo amdani fel petai?

BYDDA’N FODLON RESLO AM FENDITH

10, 11. (a) Sut efallai y bydden ni’n gorfod reslo am fendith Duw? (b) Beth fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau da ac i ennill y frwydr yn erbyn digalondid a phethau dibwys?

10 Beth fyddai rhai amgylchiadau sy’n gofyn inni reslo am fendith Duw? Un her y mae llawer wedi ei hwynebu yw’r frwydr i drechu gwendid y cnawd. Mae eraill wedi gorfod gwneud ymdrech lew i feithrin agwedd gadarnhaol tuag at y weinidogaeth. Efallai yn dy achos di, yr her yw dyfalbarhau er gwaethaf salwch neu unigrwydd. Ni ddylen ni anwybyddu’r ymdrech y mae rhai yn gorfod ei gwneud i faddau i rywun sydd wedi pechu yn eu herbyn. Ni waeth pa mor hir y mae rhywun wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, mae’n rhaid inni i gyd ymladd yn erbyn pethau sy’n gallu rhwystro ein gwasanaeth i Dduw, yr un sy’n gwobrwyo’r ffyddlon.

A wyt ti’n reslo am fendith Duw? (Gweler paragraffau 10, 11)

11 A dweud y gwir, gall gwneud penderfyniadau da a byw bywyd Cristion fod yn frwydr galed. Mae hynny’n wir yn enwedig os yw’r galon dwyllodrus yn ein tynnu ni’n groes i’r cyfeiriad cywir. (Jer. 17:9) Os wyt ti’n teimlo dy fod ti, i ryw raddau, wedi cael dy effeithio’n negyddol, da ti, gweddïa am yr ysbryd glân. Gall gweddi a’r ysbryd glân roi’r nerth iti ddilyn y llwybr rwyt ti’n gwybod sy’n iawn ac sy’n derbyn bendith Jehofa. Gweithreda yn ôl dy weddïau. Ceisia ddarllen pwt o’r Beibl bob diwrnod, a rho amser o’r neilltu ar gyfer astudiaeth bersonol a theuluol.—Darllen Salm 119:32.

12, 13. Sut cafodd dau Gristion eu helpu i drechu chwantau drwg?

12 Ceir llawer o esiamplau o sut mae Gair Duw, ei ysbryd, a’n cyhoeddiadau wedi helpu Cristion i drechu chwantau drwg. Gwnaeth un person ifanc yn ei arddegau ddarllen yr erthygl “How Can You Resist Wrong Desires?” a gyhoeddwyd yn Awake! 8 Rhagfyr 2003. Beth oedd ei ymateb? “Mi ydw i’n cwffio i reoli meddyliau drwg. Pan ddarllenais yn yr erthygl ‘fod brwydro yn erbyn chwantau drwg yn beth anodd iawn i lawer,’ roeddwn i’n teimlo’n rhan o’r frawdoliaeth ac nid ar fy mhen fy hun.” Gwnaeth y person ifanc hwn elwa hefyd ar yr erthygl “Alternative Life-Styles—Does God Approve?” a gyhoeddwyd yn Awake! 8 Hydref 2003. Sylwodd fod yr erthygl yn dweud bod y frwydr hon yn ddraenen yn y cnawd i rai. (2 Cor. 12:7) Wrth iddyn nhw frwydro’n barhaol i ymddwyn yn gyfiawn, gallan nhw edrych yn obeithiol tuag at y dyfodol. “Dyna pam,” meddai, “wrth i bob diwrnod fynd heibio, y galla’ i aros yn ffyddlon. Rwy’n ddiolchgar i Jehofa a’i gyfundrefn am yr help rydw i wedi ei gael i oroesi pob diwrnod yn y system ddrwg hon.”

13 Ystyria hefyd brofiad chwaer sy’n byw yn yr Unol Daleithiau. Mae’n ysgrifennu: “Rydw i eisiau diolch ichi am fwydo’r hyn sydd ei angen arnon ni yn ei bryd. Dw i’n aml yn teimlo bod yr erthyglau yma wedi eu hysgrifennu ar fy nghyfer i’n bersonol. Am flynyddoedd, dw i wedi bod yn brwydro yn erbyn chwant cryf am rywbeth y mae Jehofa yn ei gasáu. Ar adegau, dw i eisiau rhoi’r gorau iddi a stopio brwydro. Dw i’n gwybod bod Jehofa yn drugarog ac yn faddeugar, ond oherwydd fy mod gen i’r chwant drwg hwn y tu mewn i mi, a minnau ddim yn ei wir gasáu, dw i’n teimlo nad ydw i’n gallu derbyn ei help. Mae’r frwydr barhaol hon wedi effeithio ar bob agwedd ar fy mywyd i. . . . Ar ôl darllen yr erthygl ‘Do You Have “a Heart to Know” Jehovah?’ yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Mawrth 2013, roeddwn i’n teimlo bod Jehofa wir eisiau fy helpu.”

14. (a) Sut roedd Paul yn teimlo am ei frwydrau personol? (b) Sut gallwn ni frwydro’n llwyddiannus yn erbyn ein gwendidau cnawdol?

14 Darllen Rhufeiniaid 7:21-25. Roedd Paul yn gwybod o’i brofiad ei hun pa mor anodd y mae’n gallu bod i frwydro yn erbyn chwantau a gwendidau’r cnawd. Fodd bynnag, roedd yn hyderus y gallai ennill y frwydr fewnol hon drwy weddïo a dibynnu ar Jehofa a rhoi ffydd yn aberth pridwerthol Iesu. Beth amdanon ni? Wrth inni frwydro yn erbyn ein gwendidau cnawdol ein hunain, gallwn ninnau hefyd lwyddo. Sut? Drwy efelychu Paul, drwy ddibynnu’n llwyr ar Jehofa yn hytrach nag ar ein nerth ein hunain, a thrwy gredu yn y pridwerth.

15. Beth all ein helpu ni i aros yn ffyddlon a dyfalbarhau?

15 Ar adegau, gall Duw adael inni ddangos cymaint y mae rhywbeth yn peri pryder inni. Er enghraifft, beth petaen ni (neu aelod o’n teulu) yn mynd yn ddifrifol wael neu’n wynebu rhyw fath o anghyfiawnder? Bydden ni’n ymddiried yn llwyr yn Jehofa drwy erfyn arno mewn gweddi i roi’r nerth inni sy’n gallu ein helpu ni i aros yn ffyddlon ac i beidio â cholli ein llawenydd a’n cydbwysedd ysbrydol. (Phil. 4:13) Mae profiad llawer, yn nyddiau Paul a heddiw, yn profi bod gweddi yn gallu ein helpu ni i adnewyddu ein nerth a magu’r hyder i ddyfalbarhau.

DAL ATI I YMDRECHU Â JEHOFA AM FENDITH

16, 17. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

16 Byddai’r Diafol wrth ei fodd petaet ti’n rhoi’r gorau iddi ac yn llaesu dy ddwylo. Bydda’n benderfynol o lynu wrth yr hyn sy’n dda. (1 Thes. 5:21) Bydda’n hyderus y gelli di ennill y frwydr yn erbyn Satan, ei fyd drygionus, ac yn erbyn unrhyw dueddiadau pechadurus. Gelli di wneud hynny drwy ymddiried yn llwyr yng ngallu Jehofa i roi nerth iti.—2 Cor. 4:7-9; Gal. 6:9.

17 Ar bob cyfrif, dal ati i frwydro. Dal ati i ymdrechu a dyfalbarhau. Bydda’n hyderus y bydd Jehofa yn tywallt ei fendith arnat ti’n helaeth.—Mal. 3:10.