Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Elwa ar Arweiniad Jehofa Heddiw

Elwa ar Arweiniad Jehofa Heddiw

PENDERFYNIAD DOETH YNG NGWLAD PWYL

“RO’N i’n 15 mlwydd oed pan gefais fy medyddio, a chwe mis wedi hynny dechreuais arloesi’n gynorthwyol. Ar ôl blwyddyn, dechreuais arloesi’n llawn amser. Ar ôl graddio o’r ysgol uwchradd, gofynnais am aseiniad i bregethu lle’r oedd yr angen am gyhoeddwyr yn fwy. Ro’n i eisiau symud i ffwrdd oddi wrth fy nhref enedigol ac oddi wrth fy nain. Ro’n i’n byw gyda fy nain ond doedd hi ddim yn un o Dystion Jehofa. Gofynnodd arolygwr y gylchdaith imi aros a phregethu yn yr un dref y cefais fy ngeni ynddi, a gwnaeth fy nghalon suddo! Ceisiais guddio fy siomedigaeth. Yn isel fy ysbryd, cerddais i ffwrdd i feddwl am yr hyn roedd yr arolygwr wedi gofyn imi ei wneud. Dywedais wrth fy mhartner yn y weinidogaeth: ‘Dw i’n meddwl fy mod i’n bihafio fel Jona. Ac yn y diwedd, aeth Jona i Ninefe. Felly, mi wna i wasanaethu le bynnag rydw i’n cael fy aseinio.’

“Erbyn hyn, dw i wedi bod yn arloesi yn fy nhref enedigol am bedair blynedd, a dw i’n gallu gweld pa mor ddoeth oedd dilyn y cyfarwyddyd a gefais. Y brif broblem oedd fy agwedd negyddol fy hun. Rŵan, dw i wrth fy modd. Mewn un mis, mi wnes i gynnal 24 o astudiaethau Beiblaidd. Diolch i Jehofa, dechreuais astudiaeth hefyd gyda fy nain a oedd yn erbyn y gwir yn y gorffennol.”

DIWEDDGLO HAPUS YN FFIJI

Roedd dynes a oedd yn astudio’r Beibl yn Ffiji yn gorfod dewis rhwng mynd i gynhadledd Gristnogol a mynd gyda’i gŵr i barti pen-blwydd un o’i berthnasau. Rhoddodd ei gŵr ganiatâd iddi fynd i’r gynhadledd. Dywedodd hi y byddai’n ymuno â’r parti ar ôl iddi ddychwelyd. Ond, ar ôl dod adref o’r gynhadledd, roedd hi’n teimlo y byddai’n well peidio â’i rhoi ei hun mewn perygl ysbrydol, felly, ni aeth hi i’r parti.

Yn y cyfamser, dywedodd ei gŵr wrth ei berthnasau ei fod wedi gofyn i’w wraig ymuno â nhw ar ôl iddi ddychwelyd o “gyfarfod y Tystion.” Dywedon nhw, “Fydd hi ddim yn dod; dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu penblwyddi! *

O ganlyniad, roedd y gŵr yn teimlo’n falch iawn o’i wraig oherwydd ei bod hi wedi gwneud safiad dros ei daliadau a’i chydwybod. Roedd ei ffyddlondeb hi yn rhoi’r cyfle iddi dystiolaethu iddo, ac i eraill hefyd. Beth oedd y canlyniad? Dechreuodd y gŵr astudio’r Beibl a mynychu’r cyfarfodydd gyda’i wraig.

^ Par. 7 Gweler “Questions From Readers” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Rhagfyr 2001.