Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Mae gair Duw yn fyw”

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Yn ôl Hebreaid 4:12, beth yw “gair Duw” sy’n “fyw a grymus”?

Mae’r cyd-destun yn dangos bod yr apostol Paul yn cyfeirio at neges Duw yn y Beibl, sef y ffordd y mae Duw wedi mynegi ei bwrpas.

Yn aml, mae Hebreaid 4:12 yn cael ei ddefnyddio yn ein cyhoeddiadau i ddangos bod gan y Beibl rym i newid bywydau pobl, ac mae’r syniad hwnnw yn gwbl gywir. Ond, peth da yw gosod Hebreaid 4:12 yn ei gyd-destun ehangach. Roedd Paul yn annog Cristnogion Hebreig i fyw yn unol â bwriadau Duw. Cafodd llawer o’r rhain eu hegluro yn yr Ysgrythurau sanctaidd. Defnyddiodd Paul esiampl yr Israeliaid a gafodd eu rhyddhau o’r Aifft. Roedd ganddyn nhw’r gobaith o fynd i mewn i wlad yr addewid a oedd yn “llifeirio o laeth a mêl,” lle gallen nhw wir orffwys.—Ex. 3:8; Deut. 12:9, 10.

Dyna oedd bwriad clir Duw. Ond, daeth yr Israeliaid yn galon galed ac nid oedden nhw’n dangos ffydd, felly ni chyrhaeddodd y rhan fwyaf ohonyn nhw yr orffwysfa honno. (Num. 14:30; Jos. 14:6-10) Wedi dweud hynny, ychwanegodd Paul fod addewid Duw i “ddod i mewn i’w orffwysfa ef” ar gael o hyd. (Heb. 3:16-19; 4:1) Yn amlwg felly, mae’r “addewid” honno yn rhan o bwrpas Duw. Fel y gwnaeth y Cristnogion Hebreig, gallwn ninnau hefyd ddarllen am fwriad Duw a byw yn unol â’r bwriad hwnnw. I bwysleisio’r ffaith fod yr addewid honno yn un Ysgrythurol, dyfynnodd Paul o Genesis 2:2 a Salm 95:11.

Mae’r addewid i ddod i mewn i orffwysfa Duw “yn aros,” a dylai’r ffaith honno gyffwrdd â’n calonnau. Rydyn ni’n credu bod y gobaith Beiblaidd o fynd i mewn i orffwysfa Duw yn bosibl i ni, ac rydyn ni wedi cymryd camau er mwyn gwneud hynny. Dydyn ni heb wneud hynny drwy geisio dilyn Cyfraith Moses na thrwy geisio ennill cymeradwyaeth Jehofa gyda gweithredoedd eraill. Yn hytrach, trwy ein ffydd rydyn ni wedi bod yn hapus i fyw yn unol â phwrpas Duw ac rydyn ni’n dal i wneud hynny. Hefyd, fel y nodir uchod, mae miloedd o bobl ar draws y byd wedi dechrau astudio’r Beibl a dysgu am sut mae Duw wedi mynegi ei bwrpas. Ysgogwyd llawer ohonyn nhw i newid eu ffordd o fyw, i ddangos ffydd, ac i gael eu bedyddio. Mae’r effaith y mae gair Duw yn ei chael arnyn nhw yn dangos ei fod “yn fyw a grymus.” Mae pwrpas Duw, sydd ar gael yn y Beibl, eisoes wedi effeithio ar ein bywydau, ac fe fydd yn dal i fod yn rym nerthol yn ein bywydau ni.