Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Paid â Llaesu Dy Ddwylo”

“Paid â Llaesu Dy Ddwylo”

“Na laesa dy ddwylo.”—SEFF. 3:16.

CANEUON: 81, 32

1, 2. (a) Pa fathau o broblemau y mae llawer yn eu hwynebu heddiw, a beth yw’r canlyniad? (b) Pa obaith sicr sydd ar gael yn Eseia 41:10, 13?

DYWEDODD un chwaer a oedd yn arloesi’n llawn amser ac yn briod â henuriad: “Er gwaetha’r ffaith fy mod i’n glynu wrth raglen ysbrydol dda, rydw i wedi bod yn dioddef o orbryder am flynyddoedd lawer. Mae wedi effeithio ar fy nghwsg, fy iechyd, a’r ffordd rydw i’n trin eraill. Weithiau rydw i eisiau rhoi’r gorau iddi a dydw i ddim eisiau gweld neb.”

2 Wyt ti’n deall pam mae’r chwaer yn teimlo felly? Yn anffodus, mae bywyd ym myd drwg Satan yn ein rhoi ni o dan bwysau aruthrol, rhywbeth sy’n gallu llethu person a gwneud iddo deimlo’n orbryderus. Gall hynny fod yn debyg i angor nad yw’n caniatáu i’r llong hwylio’n rhydd. (Diar. 12:25) Beth all dy achosi di i deimlo felly? Wel, efallai dy fod ti’n ymdopi â salwch difrifol, yn dioddef profedigaeth, yn gorfod gofalu’n faterol am y teulu mewn cyfnod economaidd anodd, neu’n cael dy erlid. Gall straen emosiynol o’r fath achosi iti golli dy gryfder. Gallai hefyd achosi iti golli dy lawenydd. Ond, gelli di fod yn sicr fod Duw yn barod i roi help llaw iti.—Darllen Eseia 41:10, 13.

3, 4. (a) Sut mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “dwylo”? (b) Beth all achosi inni laesu dwylo?

3 Yn aml, mae’r Beibl yn cyfeirio at rannau o’r corff i esbonio gwahanol briodoleddau neu weithredoedd. Mae’r llaw, er enghraifft, yn cael ei chrybwyll gannoedd o weithiau. Gall y syniad o gryfhau’r dwylo olygu bod rhywun yn cael ei annog, ei atgyfnerthu, a’i alluogi. (1 Sam. 23:16, Beibl Cysegr-lân; Esra 1:6, tdn., New World Translation) Gall hefyd gyfleu’r syniad o edrych ar y dyfodol mewn ffordd gadarnhaol a gobeithiol.

4 Ar adegau, mae’r ymadrodd “llaesu dwylo” wedi ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy’n ddigalon a heb obaith. (Seff. 3:16, beibl.net; Heb. 12:12) Cyffredin iawn yw bod person yn y sefyllfa honno yn rhoi’r gorau iddi. Os wyt ti’n wynebu amgylchiadau sy’n dy roi di o dan straen yn gorfforol, yn emosiynol, neu hyd yn oed yn ysbrydol, sut gelli di fod yn ddewr? Sut gelli di gael dy annog i ddyfalbarhau a bod yn llawen?

NID YW LLAW JEHOFA YN RHY FYR I ACHUB

5. (a) Pan fo problemau’n codi, beth gallwn ni ei wneud, ond beth dylen ni ein hatgoffa ein hunain ohono? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod?

5 Darllen Seffaneia 3:16, 17. Yn hytrach nag ildio i ofn ac anobaith, sy’n debyg i laesu dwylo, gad inni dderbyn gwahoddiad ein Tad cariadus, Jehofa, i fwrw ein holl bryder arno ef. (1 Pedr 5:7) Pwysig yw inni gofio bod Duw wedi dweud wrth yr Israeliaid na fyddai ei law “yn rhy fyr i achub” ei weision ffyddlon. (Esei. 59:1) Byddwn ni’n trafod tair esiampl ragorol o’r Beibl sy’n dangos dymuniad a gallu Jehofa i gryfhau ei bobl i wneud ei ewyllys er gwaethaf anawsterau sydd, i bob golwg, yn drech na ni. Sylwa ar sut gall yr esiamplau hyn ein cryfhau ni.

6, 7. Pa wersi pwysig y gallwn ni eu dysgu oddi wrth fuddugoliaeth Israel dros yr Amaleciaid?

6 Yn fuan wedi i’r Israeliaid gael eu rhyddhau drwy law Jehofa o’u caethiwed yn yr Aifft, ymosododd yr Amaleciaid arnyn nhw. Yn ddewr iawn, dilynodd Josua gyfarwyddyd Moses ac arwain yr Israeliaid i’r frwydr. Yn y cyfamser, aeth Aaron a Hur gyda Moses i fyny i ben bryn cyfagos er mwyn gallu gweld maes y gad. Ai rhedeg i ffwrdd oedd y dynion hyn oherwydd ofn? Dim o gwbl!

7 Rhoddodd Moses gynllun ar waith a fyddai’n arwain at lwyddiant ar faes y gad. Roedd Moses yn dal ei ddwylo a ffon y gwir Dduw i fyny yn yr awyr. Cyn belled â bod Moses yn gwneud hynny, roedd Jehofa yn cryfhau dwylo’r Israeliaid i ymladd yn llwyddiannus yn erbyn yr Amaleciaid. Fodd bynnag, pan oedd dwylo Moses yn mynd yn flinedig ac yn gostwng, dechreuodd yr Amaleciaid ennill. Heb oedi, dyma Aaron a Hur yn cymryd “carreg a’i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul.” Yn wir, drwy rym llaw nerthol Duw, enillodd yr Israeliaid y frwydr.—Ex. 17:8-13.

8. (a) Beth oedd ymateb Asa pan wnaeth yr Ethiopiaid fygwth Jwda? (b) Sut gallwn ni efelychu’r ffordd y gwnaeth Asa ddibynnu ar Dduw?

8 Dangosodd Jehofa hefyd nad oedd ei law yn rhy fyr i achub y Brenin Asa. Ceir hanes llawer o frwydrau yn y Beibl. Ond y fyddin fwyaf a ddaeth ynghyd oedd byddin Sera yr Ethiopiad. Roedd ganddo 1,000,000 o filwyr profiadol. Roedd tua dwywaith cymaint o filwyr Ethiopia nag o filwyr Jwda. Oni fyddai hi wedi bod yn hawdd i Asa deimlo’n bryderus, ofnus, gwangalon, ac yna llaesu dwylo? Yn hytrach, gofynnodd Asa i Jehofa am help yn syth. O safbwynt milwrol, roedd trechu’r Ethiopiaid yn ymddangos yn amhosibl, “ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl.” (Math. 19:26) Dangosodd Duw ei nerth a “gorchfygodd yr ARGLWYDD yr Ethiopiaid o flaen Asa,” ac roedd “calon Asa yn berffaith gywir i’r ARGLWYDD ar hyd ei oes.”—2 Cron. 14:8-13; 1 Bren. 15:14.

9. (a) Beth na rwystrodd Nehemeia rhag ailadeiladu muriau Jerwsalem? (b) Sut gwnaeth Duw ymateb i weddi Nehemeia?

9 Dychmyga sut roedd Nehemeia yn teimlo pan aeth i Jerwsalem. Roedd y ddinas yn dal yn agored i ymosodiadau, a’i gyd-Iddewon yn teimlo’n ddigalon. Roedd bygythiadau gelynion estron wedi achosi i’r Iddewon laesu dwylo ac i roi’r gorau i’r gwaith o ailadeiladu muriau Jerwsalem. A wnaeth Nehemeia adael i’r sefyllfa achosi iddo yntau hefyd ddigalonni a llaesu dwylo? Naddo! Yn debyg i Moses, Asa, a gweision ffyddlon eraill Jehofa, roedd Asa eisoes wedi dod i’r arfer o ddibynnu ar Jehofa mewn gweddi. Doedd yr achlysur hwn ddim yn wahanol. Yn wyneb yr hyn a oedd yn ymddangos i’r Iddewon fel rhwystrau anorchfygol, gwnaeth Jehofa ymateb i apêl ddiffuant Nehemeia am help. Defnyddiodd Duw ei “allu mawr” a’i “law nerthol” i gryfhau dwylo llesg yr Iddewon. (Darllen Nehemeia 1:10; 2:17-20; 6:9.) A wyt ti’n credu bod Jehofa yn defnyddio ei “allu mawr” a’i “law nerthol” i gryfhau ei weision heddiw?

BYDD JEHOFA YN CRYFHAU DY DDWYLO

10, 11. (a) Sut mae Satan yn ceisio gwneud inni laesu dwylo? (b) Beth mae Jehofa yn ei ddefnyddio i gryfhau ein dwylo? (c) Sut rwyt ti wedi elwa ar hyfforddiant ac addysg ddwyfol?

10 Heb os, ni fydd y Diafol byth yn llaesu dwylo yn ei ymdrechion i rwystro ein gwaith Cristnogol. Mae’n defnyddio celwyddau a bygythiadau sy’n dod o lywodraethau, arweinwyr crefyddol, a gwrthgilwyr. Beth yw ei nod? Achosi inni laesu ein dwylo yn y gwaith o bregethu newyddion da’r Deyrnas. Fodd bynnag, mae Jehofa yn awyddus i roi nerth inni drwy gyfrwng ei ysbryd glân. (1 Cron. 29:12) Hanfodol yw inni dynnu ar yr ysbryd hwnnw fel y gallwn ni wynebu unrhyw her y mae Satan a’i system ddrwg yn ei rhoi ger ein bron. (Salm 18:39; 1 Cor. 10:13) Hefyd, gallwn fod yn ddiolchgar fod Gair Duw gennyn ni, sy’n gynnyrch yr ysbryd glân. Meddylia hefyd am y bwyd ysbrydol rydyn ni’n ei dderbyn bob mis sy’n seiliedig ar y Beibl. Traddodwyd geiriau Sechareia 8:9, 13 (darllen) tra oedd y deml yn Jerwsalem yn cael ei hailadeiladu, ac mae’r geiriau hynny’n briodol i ninnau hefyd.

11 Hefyd, mae’r addysg ddwyfol rydyn ni’n ei derbyn yn ein cyfarfodydd Cristnogol, ein cynulliadau, ein cynadleddau, a’n hysgolion theocrataidd yn ein cryfhau ni. Gall yr hyfforddiant hwnnw ein helpu ni i wneud pethau am y rhesymau cywir, i osod nodau ysbrydol, ac i gyflawni ein cyfrifoldebau Cristnogol. (Salm 119:32) A wyt ti’n awyddus i fanteisio ar yr addysg ddwyfol hon er mwyn cael dy gryfhau?

12. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i aros yn ysbrydol gryf?

12 Gwnaeth Jehofa helpu’r Israeliaid i orchfygu’r Amaleciaid a’r Ethiopiaid, a rhoddodd i Nehemeia a’i gyd-weithwyr y nerth i gwblhau’r gwaith ailadeiladu. Yn yr un modd, bydd Duw yn rhoi nerth i ninnau hefyd fedru gwrthsefyll erledigaeth, difaterwch, a gorbryder fel y gallwn ni ddal ati yn ein gwaith pregethu. (1 Pedr 5:10) Dydyn ni ddim yn disgwyl i Jehofa gyflawni gwyrthiau ar ein cyfer. Yn hytrach, dylen ni wneud ein rhan. Mae hynny’n golygu darllen Gair Duw’n ddyddiol, paratoi ar gyfer ein cyfarfodydd wythnosol a’u mynychu, bwydo ein meddyliau a’n calonnau drwy astudio’n bersonol ac fel teulu, a dibynnu bob amser ar Jehofa mewn gweddi. Gad inni byth adael i ddiddordebau a gweithgareddau eraill ymyrryd â’r ffyrdd a ddefnyddir gan Jehofa i’n cryfhau a’n hannog ni. Os wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi llaesu dy ddwylo o ran unrhyw un o’r pethau hyn, gofynna i Dduw am help. Yna, fe welir bod Duw “yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe.” (Phil. 2:13, beibl.net) Ond beth medri di ei wneud i gryfhau dwylo rhai eraill?

CRYFHAU’R DWYLO LLESG

13, 14. (a) Ar ôl i’w wraig farw, sut cafodd un brawd ei gryfhau? (b) Ym mha ffordd y gallwn ni gryfhau eraill?

13 Mae Jehofa wedi rhoi brawdoliaeth fyd-eang inni, yn llawn brodyr a chwiorydd sy’n gallu ein hannog ni. Cofia fod Paul wedi ysgrifennu: “Cryfhewch y dwylo llesg a’r gliniau gwan, a gwnewch lwybrau union i’ch traed.” (Heb. 12:12, 13) Cafodd llawer yn y ganrif gyntaf eu cryfhau yn y fath fodd. Does dim wedi newid heddiw. Ar ôl colli ei wraig a dioddef amgylchiadau poenus eraill, dywedodd un brawd: “Dysgais na allwn ni ddewis beth fydd yn ein profi, pryd y bydd yn ein profi, na pha mor aml y bydd yn ein profi. Gweddi ac astudiaeth bersonol ydy’r siaced achub sydd wedi cadw fy mhen uwchben y dŵr. Ac mae cefnogaeth fy mrodyr a fy chwiorydd wedi dod â chysur mawr imi. Rydw i wedi sylweddoli pwysigrwydd meithrin perthynas dda â Jehofa a hynny cyn i sefyllfaoedd anodd godi.”

Gall pob un ohonon ni yn y gynulleidfa annog rhywun arall (Gweler paragraff 14)

14 Roedd Aaron a Hur yn llythrennol yn cynnal dwylo Moses yn ystod y frwydr. Gallwn ninnau hefyd edrych am ffyrdd i gynnal eraill a rhoi help ymarferol iddyn nhw. I bwy? I’r rhai sy’n brwydro yn erbyn effeithiau henaint, problemau iechyd, aelodau teulu sy’n eu gwrthwynebu, unigrwydd, a phrofedigaeth. Gallwn ni hefyd gryfhau dwylo’r rhai ifanc sy’n dod o dan bwysau i wneud pethau drwg neu i geisio “llwyddiant” yn y system hon, naill ai’n academaidd, yn ariannol, neu’n broffesiynol. (1 Thes. 3:1-3; 5:11, 14) Edrycha am ffyrdd y gelli di ddangos diddordeb diffuant yn dy frodyr a’th chwiorydd wrth iti dreulio amser gyda nhw yn Neuadd y Deyrnas, yn y weinidogaeth, wrth fwyta pryd o fwyd gyda nhw, neu siarad â nhw dros y ffôn.

15. Pa effaith y gall geiriau cadarnhaol ei chael ar gyd-Gristnogion?

15 Yn dilyn buddugoliaeth ysgubol Asa, anogwyd ef a’i bobl gan y proffwyd Asareia gyda’r geiriau: “Ond byddwch chi’n ddewr a pheidio llaesu dwylo, oherwydd fe gewch chi wobr am eich gwaith.” (2 Cron. 15:7, beibl.net) Ysgogwyd Asa gan hyn i wneud llawer o newidiadau er mwyn adfer gwir addoliad. Mewn modd tebyg, gall dy eiriau cadarnhaol gael effaith ddofn ar eraill. Gelli di eu helpu nhw, felly, i wasanaethu Jehofa yn fwy byth. (Diar. 15:23) Ac yn y cyfarfodydd, paid byth ag anghofio’r effaith rymus y gelli di ei chael ar eraill drwy godi dy law a rhoi sylwadau adeiladol.

16. Fel Nehemeia, sut gall henuriaid gryfhau dwylo’r rhai sydd yn y gynulleidfa? Rho enghreifftiau sy’n dangos sut mae dy gyd-addolwyr wedi dy helpu di’n bersonol.

16 Gwnaeth Jehofa gryfhau dwylo Nehemeia a’i gyd-weithwyr. Gwnaethon nhw gwblhau ailadeiladu muriau Jerwsalem mewn dim ond 52 o ddiwrnodau! (Neh. 2:18, tdn., NW; 6:15, 16) Nid arolygu’r gwaith yn unig roedd Nehemeia yn ei wneud, ond cymryd rhan yn bersonol ynddo. (Neh. 5:16) Yn yr un modd, mae llawer o henuriaid cariadus yn efelychu esiampl Nehemeia drwy helpu ar brosiectau adeiladu theocrataidd, neu drwy ofalu am y Neuadd leol. Wrth weithio ochr yn ochr â’u cyd-gyhoeddwyr yn y weinidogaeth a thrwy fugeilio’r brodyr, mae’r henuriaid yn cryfhau dwylo’r rhai sy’n pryderu.—Darllen Eseia 35:3, 4, beibl.net.

PAID Â LLAESU DY DDWYLO

17, 18. Pan fo problemau’n codi neu pan ydyn ni’n gorbryderu, beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

17 Mae cyd-wasanaethu â’n brodyr a’n chwiorydd yn creu undod. Mae hefyd yn creu cyfeillgarwch a fydd yn para ac yn ychwanegu at hyder y naill a’r llall yn y bendithion sydd i ddod. Wrth inni gryfhau dwylo rhai eraill, rydyn ni’n eu helpu nhw i frwydro yn erbyn amgylchiadau anodd ac i aros yn bositif a gobeithiol ynglŷn â’r dyfodol. Hefyd, bydd gwneud hynny yn ein helpu ni i gadw ein ffocws ysbrydol ac i fod yn sicr y bydd yr hyn y mae Jehofa wedi ei addo ar ein cyfer yn cael ei wireddu. Heb os, mae’n cryfhau ein dwylo ni hefyd.

18 Dylai gweld sut gwnaeth Jehofa gynnal ac amddiffyn ei weision ffyddlon gynt gryfhau ein ffydd a gwneud inni ymddiried ynddo heddiw. Felly, pan fyddi di’n wynebu problemau, paid â llaesu dy ddwylo! Yn hytrach, gweddïa ar Jehofa a gad i’w law nerthol dy gryfhau di er mwyn iti fwynhau bendithion y Deyrnas.—Salm 73:23, 24.