Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rieni, Helpwch Eich Plant i Adeiladu Ffydd

Rieni, Helpwch Eich Plant i Adeiladu Ffydd

“Bechgyn a merched . . . Boed iddyn nhw foli enw’r Arglwydd.”—SALM 148:12, 13, beibl.net.

CANEUON: 88, 115

1, 2. (a) Pa her y mae rhieni yn ei hwynebu, a sut gallan nhw lwyddo? (b) Pa bedwar pwynt y byddwn ni’n eu trafod nawr?

“RYDYN ni’n credu yn Jehofa, ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y bydd ein plant yn credu,” meddai cwpl priod o Ffrainc. Dywedon nhw: “Nid rhywbeth y mae rhywun yn ei etifeddu yw ffydd. Mae ein plant ni’n meithrin ffydd fesul tipyn.” Ysgrifennodd un brawd o Awstralia: “Yr her fwyaf y mae rhiant yn debygol o’i hwynebu yw adeiladu ffydd yng nghalon ei blentyn. Mae’n rhaid iti fanteisio ar bob adnodd sydd ar gael iti. Efallai dy fod ti’n teimlo dy fod ti wedi rhoi ateb da i gwestiwn dy blentyn. Ond wedyn mae’n gofyn yr un cwestiwn unwaith eto! Efallai fod yr atebion yn ei fodloni heddiw ond yn annigonol ar gyfer yfory. Mae’n eithaf posibl y bydd rhaid iti drafod rhai pynciau sawl gwaith drosodd.”

2 Os wyt ti’n rhiant, wyt ti weithiau’n teimlo fel na fedri di ysgwyddo’r cyfrifoldeb o ddysgu dy blant i fod yn bobl o ffydd? Yn wir, o ddibynnu ar ein doethineb ein hunain, does neb ohonon ni’n gymwys i’r dasg! (Jer. 10:23) Ond, pan ddibynnwn ar Dduw am arweiniad, gallwn lwyddo. I adeiladu ffydd dy plant, rho sylw i’r pedwar pwynt canlynol: (1) Tyrd i’w hadnabod yn dda. (2) Dysga nhw o’th galon. (3) Defnyddia eglurebau da. (4) Bydda’n amyneddgar a gweddigar.

ADNABOD DY BLANT YN DDA

3. Sut gall rhieni efelychu esiampl Iesu wrth ddysgu eu plant?

3 Roedd Iesu eisiau gwybod barn ei ddisgyblion. (Math. 16:13-15) Efelycha ei esiampl. Ar ôl i bawb ymlacio, anoga dy blant i fynegi eu teimladau. Mae hynny’n cynnwys siarad am unrhyw amheuon sydd ganddyn nhw. Ysgrifennodd un brawd pymtheng mlwydd oed o Awstralia: “Mae fy nhad yn aml yn siarad gyda fi am fy ffydd ac yn fy helpu i resymu. Mae’n gofyn: ‘Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?’ ‘Wyt ti’n credu beth mae’n ei ddweud?’ ‘Pam rwyt ti’n credu ynddo?’ Mae eisiau imi ateb yn fy ngeiriau fy hun. Wrth imi fynd yn hŷn, roedd yn rhaid imi ymhelaethu ar fy atebion.”

4. Pam mae hi’n bwysig i gymryd cwestiynau dy blentyn o ddifrif? Rho enghraifft.

4 Os yw dy blentyn yn ansicr ynglŷn â dysgeidiaeth, paid â gorymateb na bod yn amddiffynnol. Yn amyneddgar, helpa dy blentyn i resymu ar y mater. “Cymera gwestiynau dy blentyn o ddifrif,” meddai un tad. “Paid â’u diystyru nhw, a phaid â gwrthod trafod pwnc oherwydd ei fod yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus.” Da fyddai ystyried cwestiynau diffuant dy blentyn fel arwydd o’i wir ddiddordeb a’i awydd i ddeall. Er ei fod yn 12 mlwydd oed yn unig, roedd Iesu’n gofyn cwestiynau pwysfawr. (Darllen Luc 2:46.) “Pan ddywedais fy mod i’n cwestiynu a oedden ni’n perthyn i’r wir grefydd neu beidio,” meddai un chwaer bymtheng mlwydd oed o Denmarc, “wnaeth fy rhieni ddim cynhyrfu—er efallai roedden nhw’n poeni amdanaf. Gwnaethon nhw ddefnyddio’r Beibl i ateb fy holl gwestiynau.”

5. Sut gall rhieni ddangos nad ydyn nhw’n cymryd ffydd eu plant yn ganiataol?

5 Tyrd i adnabod dy blant yn dda—eu ffordd o feddwl, eu teimladau, a’u pryderon. Paid byth â chymryd yn ganiataol fod ganddyn nhw ffydd oherwydd eu bod nhw’n mynychu’r cyfarfodydd ac yn mynd ar y weinidogaeth. Gweddïa gyda dy blant a throstyn nhw hefyd. Bydda’n ymwybodol o unrhyw brawf ar eu ffydd, a helpa nhw i ddelio gyda hyn.

DYSGA O’R GALON

6. Pan fydd y gwirionedd yng nghalonnau’r rhieni, sut mae hynny’n eu helpu fel athrawon?

6 Fel athro, roedd Iesu’n cyffwrdd â’r galon oherwydd ei fod yn caru Jehofa, Gair Duw, a phobl. (Luc 24:32; Ioan 7:46) Bydd cariad o’r fath yn helpu rhieni i gyffwrdd â chalonnau eu plant. (Darllen Deuteronomium 6:5-8; Luc 6:45.) Rieni, byddwch yn astudwyr da o’r Beibl a’n cyhoeddiadau. Cymerwch ddiddordeb yn y greadigaeth ac mewn erthyglau yn ein cyhoeddiadau sy’n trafod y pwnc. (Math. 6:26, 28) Bydd hynny’n ehangu eich gwybodaeth, yn gwneud ichi werthfawrogi Jehofa yn well, ac yn eich gwneud chi’n fwy cymwys i ddysgu eich rhai ifanc.—Luc 6:40.

7, 8. Pan fo calon rhiant wedi ei llenwi â gwirionedd y Beibl, beth fydd y canlyniad? Esbonia.

7 Pan fydd gwirionedd y Beibl yn dy galon dithau, byddi di eisiau trafod y pethau hyn â’r teulu. Gwna hynny pan fyddi di’n paratoi ar gyfer y cyfarfodydd, yn ystod addoliad y teulu, ac ar unrhyw adeg arall. Ar ben hynny, ni ddylid gorfodi sgyrsiau o’r fath, ond dylen nhw fod yn naturiol ac yn ddigymell—yn rhan o sgyrsiau bob dydd. Roedd cwpl o’r Unol Daleithiau bob amser yn sôn am Jehofa wrth iddyn nhw fwynhau bwyd da a byd natur. “Rydyn ni’n atgoffa ein plant o gariad Jehofa a’i fod wedi meddwl ymlaen llaw am ein hanghenion,” meddai’r rhieni. Pan oedd cwpl o Dde Affrica yn garddio gyda’u dwy ferch, roedden nhw’n tynnu sylw at ryfeddod yr hadau yn egino a’r planhigion yn tyfu. “Roedden ni’n ceisio meithrin yn ein merched barch tuag at fywyd a’i gymhlethdod syfrdanol,” medden nhw.

8 Pan oedd ei fab tua deng mlwydd oed, gwnaeth tad o Awstralia fynd gyda’i fab i’r amgueddfa gan wneud yn fawr o’r ymweliad er mwyn cryfhau ffydd ei blentyn yn Nuw a’i greadigaeth. “Mi welon ni greaduriaid hynafol y môr fel trilobitau ac amonitau,” meddai’r tad. “Yr hyn wnaeth ein taro ni oedd bod y creaduriaid diflanedig hyn yn hardd, cymhleth, a chyflawn—dim llai na’r hyn a welwn ni heddiw. Felly, os gwnaeth bywyd esblygu o ffurfiau syml i rai mwy cymhleth, pam roedd y creaduriaid hynafol hyn eisoes mor gymhleth? Gwnaeth hynny argraff fawr arnaf i a rhannais hynny gyda fy mab.”

DEFNYDDIA EGLUREBAU EFFEITHIOL

9. Pam mae eglurebau yn effeithiol, a sut gwnaeth un fam ddangos hynny?

9 Roedd Iesu’n aml yn defnyddio eglurebau a oedd yn procio’r dychymyg, yn apelio at y galon, ac yn hogi’r cof. (Math. 13:34, 35) Mae gan blant ddychymyg byw. Felly, rieni, defnyddiwch eglurebau yn eich dysgu. Dyna wnaeth un fam yn Japan. Pan oedd ei dau fachgen yn wyth ac yn ddeg oed, dyma hi’n eu dysgu nhw am atmosffer y ddaear a’r gofal a ddangosodd Jehofa wrth iddo ei greu. Er mwyn gwneud hynny, rhoddodd i’r bechgyn laeth, siwgr, a choffi. Yna, gofynnodd i’r ddau fachgen wneud coffi iddi. “Roedden nhw’n cymryd gofal mawr,” esboniodd. “Pan ofynnais iddyn nhw pam roedden nhw wedi bod mor ofalus, dywedon nhw eu bod nhw eisiau gwneud y coffi yn union fel yr oeddwn i’n ei hoffi. Eglurais fod Duw yn cymysgu’r nwyon yn yr atmosffer yr un mor ofalus—yn berffaith ar ein cyfer.” Roedd yr eglureb honno’n addas ar gyfer eu hoedran, ac wedi cydio yn eu dychymyg mewn ffordd na fyddai dysgu drwy siarad yn unig wedi ei wneud. Teg yw dweud y bydden nhw wedi cofio’r wers honno am yn hir!

Gelli di ddefnyddio pethau cyffredin er mwyn adeiladu ffydd yn Nuw ac yn y greadigaeth (Gweler paragraff 10)

10, 11. (a) Pa eglureb y gallet ti ei defnyddio i helpu dy blentyn i adeiladu ffydd yn Nuw? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pa eglurebau effeithiol rwyt ti wedi eu defnyddio?

10 Byddet ti hefyd yn gallu defnyddio rysáit i helpu dy blentyn i adeiladu ffydd yn Nuw. Sut? Ar ôl iti wneud cacen neu fisgedi, esbonia bwrpas y rysáit. Yna, rho ddarn o ffrwyth i’th blentyn, afal efallai, a gofyn: “Oeddet ti’n gwybod bod gan yr afal hwn ei ‘rysáit’ ei hun?” Yna, torra’r afal yn ddau, a rho’r hedyn iddo. Gallet ti esbonio bod y rysáit wedi ei “hysgrifennu” yn yr hedyn, ond mewn iaith sy’n llawer mwy cymhleth na’r geiriau mewn llyfr ryseitiau. Gallet ti ofyn: “Os oedd rhywun wedi ysgrifennu rysáit y gacen, pwy oedd wedi ysgrifennu rysáit lawer mwy cymhleth yr afal?” Ar gyfer plentyn hynach, byddet ti’n gallu esbonio bod rysáit yr afal—yn wir, y rysáit ar gyfer y goeden afalau gyfan—yn rhan o’r cod sydd yn y DNA. Gyda’ch gilydd, gallwch edrych ar y lluniau sydd ar dudalennau 10 hyd 20 o’r llyfryn The Origin of Life—Five Questions Worth Asking.

11 Mae llawer o rieni yn mwynhau darllen gyda’u plant y gyfres “Was it Designed?” yn yr Awake! Neu maen nhw’n ei defnyddio i ddysgu syniadau syml i blant bach. Er enghraifft, gwnaeth cwpl o Denmarc gymharu awyrennau ag adar. “Mae awyrennau yn edrych yn debyg i adar,” medden nhw. “Ond, ydy awyrennau yn gallu dodwy wyau a deor awyrennau bach? A oes angen llain lanio arbennig ar adar? A sut byddet ti’n cymharu sŵn awyren â chân aderyn? Felly, pwy sy’n fwy clyfar—gwneuthurwr yr awyren neu Greawdwr yr aderyn?” Gall sylwadau o’r fath, ynghyd â chwestiynau da, helpu plentyn i feddwl yn bwyllog ac i adeiladu ffydd yn Nuw.—Diar. 2:10-12.

12. Sut gall eglurebau helpu plant i adeiladu ffydd yn y Beibl?

12 Hefyd, gall eglurebau effeithiol gryfhau ffydd plentyn yng nghywirdeb y Beibl. Er enghraifft, ystyria Job 26:7. (Darllen, beibl.net.) Sut gelli di ddangos bod yr adnod hon wedi ei hysbrydoli? Yn hytrach nag adrodd y ffeithiau’n unig, pam na wnei di brocio dychymyg dy blentyn? Esbonia’r ffaith fod Job wedi byw ymhell cyn oes y telesgop a’r llong ofod. Un syniad fyddai gofyn i’th blentyn ddangos pa mor anodd y byddai i rai gredu bod rhywbeth sydd mor fawr â’r ddaear yn gallu hongian ar ddim. Gall y plentyn ddefnyddio pêl neu garreg i esbonio’r pwynt drwy ddangos bod gwrthrychau â màs yn gorfod gorwedd ar rywbeth. Byddai gwers o’r fath yn argraffu ar feddwl y plentyn fod Jehofa wedi cofnodi ffeithiau yn y Beibl ymhell cyn i ddynion fedru eu profi.—Neh. 9:6.

EGWYDDORION GWERTHFAWR Y BEIBL

13, 14. Sut gall rhieni bwysleisio pa mor werthfawr yw egwyddorion y Beibl?

13 Mae’n hynod o bwysig fod dy blant yn deall pa mor werthfawr yw egwyddorion y Beibl. (Darllen Salm 1:1-3.) Mae sawl ffordd o wneud hyn. Er enghraifft, gelli di ofyn i’th blant ddychmygu eu bod nhw’n mynd i fyw ar ynys anghysbell a’u bod nhw’n gorfod dewis grŵp o bobl i fyw yno gyda nhw. Yna, gofynna: “Pa rinweddau y mae’n rhaid i’r bobl sy’n byw ar yr ynys eu cael er mwyn i’r grŵp cyfan fyw’n gytûn?” Gallet ti hefyd ofyn iddyn nhw feddwl am y cyngor doeth sydd i’w gael yn Galatiaid 5:19-23.

14 O wneud hynny, gellid dysgu dwy wers bwysig. Yn gyntaf, mae safonau Duw yn meithrin gwir heddwch ac undod. Yn ail, mae Jehofa yn ein haddysgu a’n paratoi ni heddiw ar gyfer bywyd yn y byd newydd. (Esei. 54:13; Ioan 17:3) Gelli di ddod â’r pwyntiau hyn yn fyw drwy drafod hanes brawd neu chwaer o’n cyhoeddiadau. Efallai o’r gyfres “The Bible Changes Lives,” yn y Tŵr Gwylio. Neu, os oes rhywun yn dy gynulleidfa wedi gorfod gwneud newidiadau mawr yn ei fywyd er mwyn plesio Jehofa, gelli di ofyn iddo rannu ei brofiad â’r teulu. Mae esiamplau fel hyn yn dod ag egwyddorion y Beibl yn fyw!—Heb. 4:12.

15. Beth dylet ti ei gadw mewn cof wrth ddysgu dy blant?

15 Dyma’r pwynt: Wrth iti ddysgu dy blant, paid â mynd i rigol. Defnyddia dy ddychymyg. Gwna iddyn nhw roi eu meddwl ar waith, gan gadw mewn cof eu hoedran. Gwna’r dysgu yn gyffrous, ac yn brofiad sy’n cryfhau eu ffydd. “Paid byth â rhoi’r gorau i feddwl am ffyrdd newydd o ddysgu hen bynciau,” meddai un tad.

BYDDA’N FFYDDLON, AMYNEDDGAR, A GWEDDIGAR

16. Wrth ddysgu plant, pam mae amynedd mor hanfodol? Esbonia.

16 Mae ysbryd Duw yn angenrheidiol ar gyfer meithrin ffydd gref. (Gal. 5:22, 23) Fel ffrwyth go iawn, mae’n cymryd amser i ffydd dyfu. Felly, bydd rhaid iti ddangos amynedd a dyfalbarhad wrth ddysgu dy blant. “Rhoddodd fy ngwraig a minnau lot fawr o sylw i’n plant,” meddai brawd o Japan sy’n dad i ddau o blant. “O’r adeg roedden nhw’n ifanc iawn, roeddwn i’n astudio gyda nhw am 15 munud bod diwrnod, heblaw am ddiwrnodau’r cyfarfodydd. Doedd 15 munud ddim yn ormod inni.” Ysgrifennodd arolygwr cylchdaith: “Pan oeddwn yn fy arddegau, roedd gen i gymaint o gwestiynau ac amheuon fel nad oeddwn i’n medru eu mynegi nhw i gyd mewn geiriau. Gydag amser, cafodd llawer o’m cwestiynau eu hateb yn ystod ein cyfarfodydd, ein haddoliad teuluol, ac wrth imi astudio’n bersonol. Dyna pam mae hi’n bwysig i rieni ddal ati i ddysgu eu plant.”

Os wyt ti am fod yn athro effeithiol, mae’n rhaid i Air Duw fod yn dy galon di yn gyntaf (Gweler paragraff 17)

17. Pam mae esiampl dda’r rhieni mor bwysig, a sut gwnaeth un cwpl osod esiampl dda i’w merched?

17 Mae dy ffydd di yn hynod o bwysig! Bydd dy blant yn sylwi ar yr hyn rwyt ti’n ei wneud, a bydd hynny’n cael dylanwad da arnyn nhw. Felly, chi rieni, daliwch ati i adeiladu eich ffydd eich hunain. Gadewch i’ch plant weld pa mor real yw Jehofa i chi. Pan fo cwpl o Bermiwda yn pryderu am bethau, maen nhw’n gweddïo gyda’u plant gan ofyn i Jehofa eu harwain nhw, ac maen nhw’n annog eu plant i weddïo ar eu pennau eu hunain. “Rydyn ni hefyd yn dweud wrth ein merch hynaf, ‘Mae’n rhaid iti ymddiried yn llwyr yn Jehofa, cadw’n brysur yng ngwaith y Deyrnas, a phaid â phryderu’n ormodol.’ Pan mae hi’n gweld y canlyniadau, mae hi’n gwybod bod Jehofa yn ein helpu ni. Mae hyn wedi gwneud gwyrthiau o ran ei ffydd yn Nuw a’r Beibl.”

18. Pa ffaith bwysig y dylai rhieni ei chydnabod?

18 Yn y diwedd, wrth gwrs, mae’n rhaid i blant feithrin eu ffydd eu hunain. Fel rhieni, gallwch chi blannu a dyfrio. Fodd bynnag, dim ond Duw sy’n gallu gwneud i ffydd dyfu. (1 Cor. 3:6) Gweddïwch, felly, am ei ysbryd a gweithiwch yn galed i ddysgu eich plant annwyl, ac o wneud hynny, byddwch yn rhoi cymaint i Jehofa ei fendithio.—Eff. 6:4.