Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Bydd yn Gryf a Dewr! Bwrw Iddi!”

“Bydd yn Gryf a Dewr! Bwrw Iddi!”

“Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na phanicio! Mae’r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti.”—1 CRONICL 28:20.

CANEUON: 38, 34

1, 2. (a) Pa aseiniad pwysig gafodd Solomon? (b) Pam roedd Dafydd yn poeni am Solomon?

CAFODD Solomon aseiniad arbennig. Gwnaeth Jehofa ei ddewis i arolygu’r gwaith o adeiladu’r deml yn Jerwsalem, un o’r prosiectau adeiladu mwyaf pwysig erioed! Roedd y deml yn mynd i fod “mor wych,” a byddai’n enwog am ei harddwch. Yn bwysicach na hynny, yr adeilad hwnnw fyddai “teml yr ARGLWYDD Dduw.”—1 Cronicl 22:1, 5, 9-11.

2 Roedd y Brenin Dafydd yn sicr y byddai Duw yn cefnogi Solomon. Ond, roedd Solomon “yn ifanc ac yn ddibrofiad.” A oedd yn ddigon dewr i dderbyn yr aseiniad o adeiladu’r deml? Neu, a fyddai’n gwrthod oherwydd ei fod yn ifanc ac yn ddibrofiad? Er mwyn llwyddo, byddai’n rhaid i Solomon fod yn ddewr a bwrw iddi.

3. Beth roedd Solomon yn gallu ei ddysgu am ddewrder oddi wrth ei dad?

3 Mae’n rhaid bod Solomon wedi dysgu llawer am ddewrder oddi wrth ei dad, Dafydd. Hyd yn oed pan oedd Dafydd yn ifanc iawn, brwydrodd yn erbyn anifeiliaid gwyllt a oedd yn ymosod ar ddefaid ei dad. (1 Samuel 17:34, 35) Hefyd, dangosodd lawer o ddewrder wrth ymladd yn erbyn milwr cryf a dychrynllyd, y cawr Goliath. Yn wir, gyda chymorth Duw a charreg esmwyth, gwnaeth Dafydd ladd Goliath.—1 Samuel 17:45, 49, 50.

4. Pam roedd angen i Solomon fod yn ddewr?

4 Gallwn ddeall pam mai Dafydd oedd y person gorau i annog Solomon i fod yn ddewr ac adeiladu’r deml. (Darllen 1 Cronicl 28:20.) Os nad oedd Solomon wedi dangos dewrder, gallai ofn fod wedi ei barlysu, hynny yw, ei atal rhag hyd yn oed dechrau ar y gwaith. A byddai hynny’n waeth na methu yn ei aseiniad.

Mae angen inni fod yn ddewr a derbyn help Jehofa er mwyn llwyddo yn y gwaith mae ef yn ei roi inni

5. Pam mae angen inni fod yn ddewr?

5 Fel Solomon, mae angen inni fod yn ddewr a derbyn help Jehofa er mwyn llwyddo yn y gwaith mae ef yn ei roi inni. Felly, gad inni ystyried esiamplau o bobl sydd wedi bod yn ddewr yn y gorffennol. Wedyn, gallwn feddwl am sut medrwn ninnau ddangos dewrder a chwblhau ein gwaith.

POBL DDEWR

6. Beth rwyt ti’n ei edmygu am ddewrder Joseff?

6 Roedd Joseff yn ddewr pan wnaeth gwraig Potiffar geisio ei berswadio i gysgu gyda hi. Mae’n rhaid ei fod yn gwybod y byddai gwrthod yn rhoi ei fywyd yn y fantol. Ond, yn hytrach nag ildio iddi, dangosodd ddewrder drwy ei gwrthod ar unwaith.—Genesis 39:10, 12.

7. Sut dangosodd Rahab ddewrder? (Gweler y llun agoriadol.)

7 Esiampl arall o ddewrder ydy Rahab. Pan ddaeth ysbïwyr yr Israeliaid i’w thŷ yn Jericho, byddai hi wedi gallu ildio i ofn a gwrthod eu helpu. Ond, oherwydd ei bod hi’n dibynnu ar Jehofa, dangosodd ddewrder drwy guddio’r ddau ddyn a’u helpu nhw i ddianc yn saff. (Josua 2:4, 5, 9, 12-16) Roedd Rahab yn credu mai Jehofa ydy’r gwir Dduw, ac roedd yn hyderus y byddai Jehofa ryw ffordd neu’i gilydd yn rhoi’r wlad i’r Israeliaid. Ni chaniataodd i ofn dyn, gan gynnwys brenin Jericho a’i ddynion, ei pharlysu. Yn hytrach, dangosodd hi ddewrder a’i hachub ei hun a’i theulu.—Josua 6:22, 23.

8. Sut gwnaeth dewrder Iesu effeithio ar yr apostolion?

8 Roedd apostolion ffyddlon Iesu hefyd yn ddewr iawn. Roedden nhw wedi gweld pa mor ddewr oedd Iesu, ac roedd hynny’n eu helpu nhw i’w efelychu. (Mathew 8:28-32; Ioan 2:13-17; 18:3-5) Pan geisiodd y Sadwceaid eu stopio nhw rhag dysgu am Iesu, ni wnaeth yr apostolion roi’r gorau iddi.—Actau 5:17, 18, 27-29.

9. Sut mae 2 Timotheus 1:7 yn ein helpu i ddeall o le mae dewrder yn dod?

9 Roedd Joseff, Rahab, Iesu, a’r apostolion yn benderfynol o wneud y peth iawn. Roedden nhw’n ddewr, nid oherwydd bod eu hyder yn seiliedig ar eu galluoedd eu hunain, ond oherwydd eu bod nhw’n dibynnu ar Jehofa. Pan fydd angen dewrder arnon ni, mae’n rhaid i ninnau hefyd ddibynnu ar Jehofa, nid arnon ni’n hunain. (Darllen 2 Timotheus 1:7.) Gad inni ystyried dwy agwedd ar ein bywydau lle mae angen inni fod yn ddewr: yn y teulu ac yn y gynulleidfa.

Y GOFYN AM DDEWRDER

10. Pam mae angen i Gristnogion ifanc fod yn ddewr?

10 Mae llawer o sefyllfaoedd yn gallu codi lle mae angen i Gristnogion ifanc fod yn ddewr er mwyn gwasanaethu Jehofa. Gallan nhw ddilyn esiampl Solomon, a ddangosodd ddewrder wrth wneud penderfyniadau doeth i orffen adeiladu’r deml. Er y dylai pobl ifanc gael eu harwain gan eu rhieni, mae ganddyn nhw benderfyniadau pwysig i’w gwneud. (Diarhebion 27:11) Mae angen iddyn nhw fod yn ddewr er mwyn gwneud penderfyniadau doeth ynglŷn â dewis ffrindiau, dewis adloniant, sut i aros yn foesol lân, a phryd i gael eu bedyddio. Mae angen dewrder oherwydd maen nhw’n mynd yn groes i ewyllys Satan, yr un sy’n gwawdio Duw.

11, 12. (a) Sut dangosodd Moses ddewrder? (b) Sut gall pobl ifanc efelychu esiampl Moses?

11 Un penderfyniad pwysig mae’n rhaid i bobl ifanc ei wneud ydy dewis pa nod i’w osod mewn bywyd. Mewn rhai gwledydd, mae pobl ifanc o dan lawer o bwysau i ganolbwyntio ar addysg uwch ac ar gael swydd sy’n talu llawer o bres. Mewn gwledydd eraill, mae’r sefyllfa economaidd yn anodd, ac mae pobl ifanc efallai’n teimlo y dylen nhw ganolbwyntio ar weithio er mwyn helpu’r teulu. Os wyt ti yn un o’r sefyllfaoedd hyn, meddylia am esiampl Moses. Cafodd ei ddwyn i fyny gan ferch Pharo, felly byddai wedi gallu gosod y nod o fod yn gyfoethog neu’n bwysig iawn. Dychmyga’r pwysau byddai ei deulu, ei athrawon, a’i gynghorwyr yn yr Aifft wedi ei roi arno! Ond, roedd Moses yn ddewr, a dewisodd fod gyda pobl Dduw. Ar ôl iddo adael yr Aifft a chyfoeth y wlad honno, dibynnodd yn llwyr ar Jehofa. (Hebreaid 11:24-26) O ganlyniad, cafodd ei fendithio’n fawr gan Jehofa, a bydd Duw yn ei fendithio’n fwy byth yn y dyfodol.

12 Pan fydd pobl ifanc yn dangos dewrder drwy osod amcanion yng ngwasanaeth Jehofa a rhoi’r Deyrnas yn gyntaf, bydd Ef yn eu bendithio nhw. Bydd yn eu helpu i ofalu am anghenion eu teuluoedd. Yn y ganrif gyntaf, roedd y dyn ifanc Timotheus yn canolbwyntio ar wasanaethu Duw, ac fe elli dithau hefyd. * (Gweler y troednodyn.)—Darllen Philipiaid 2:19-22.

Wyt ti’n benderfynol o fod yn ddewr ym mhob agwedd ar dy fywyd? (Gweler paragraffau 13-17)

13. Sut gwnaeth dewrder helpu chwaer ifanc i gyrraedd ei nod?

13 Roedd angen i un chwaer yn Alabama, UDA, fod yn ddewr er mwyn iddi osod amcanion yng ngwasanaeth Duw. Ysgrifennodd hi: “Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, roeddwn i’n swil iawn. Roedd hi’n anodd iawn imi siarad ag eraill yn Neuadd y Deyrnas, heb sôn am gnocio ar ddrysau pobl ddiarth.” Gyda chymorth ei rhieni ac eraill yn y gynulleidfa, llwyddodd y chwaer ifanc hon i gyrraedd ei nod o arloesi’n llawn amser. Mae’n dweud: “Mae byd Satan yn hyrwyddo addysg uwch, enwogrwydd, arian, a chasglu lot o bethau materol.” Ond, roedd hi hefyd yn sylweddoli nad yw’r rhan fwyaf o bobl byth yn cyrraedd yr amcanion hynny, a’u bod nhw’n teimlo mwy o straen a phoen. Mae’n ychwanegu: “Ond, mae gwasanaethu Jehofa wedi dod â’r hapusrwydd mwyaf imi ac rydw i’n teimlo fy mod i wedi cyrraedd fy nod.”

14. Pryd mae angen dewrder ar rieni Cristnogol?

14 Hefyd, mae angen i rieni Cristnogol fod yn ddewr. Er enghraifft, efallai fod dy gyflogwr yn gofyn yn aml iti weithio’n hwyr ar ddyddiau sydd wedi eu neilltuo ar gyfer addoliad y teulu, y weinidogaeth, neu gyfarfodydd y gynulleidfa. Mae angen dewrder i ddweud na wrth dy gyflogwr ac i osod esiampl dda i dy blant. Neu, efallai fod rhai o’r rhieni eraill yn y gynulleidfa yn caniatáu i’w plant wneud pethau dwyt ti ddim eisiau i dy blant di eu gwneud. Pan fydd y rhieni hynny’n gofyn am y rheswm pam, a fyddi di’n ddigon dewr i esbonio dy safbwynt mewn ffordd barchus?

15. Sut gall Salm 37:25 a Hebreaid 13:5 helpu rhieni?

15 Mae angen dewrder i helpu plant i osod a chyrraedd nod realistig yng ngwasanaeth Duw. Er enghraifft, efallai fod rhai rhieni’n poeni am annog eu plant i wneud arloesi’n yrfa iddyn nhw, i wasanaethu mewn ardal lle mae mwy o angen, i wasanaethu ym Methel, neu i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad. Efallai eu bod nhw’n poeni na fydd eu plant yn medru gofalu amdanyn nhw wrth iddyn nhw fynd yn hen. Ond, mae rhieni doeth yn dangos dewrder ac mae ganddyn nhw’r ffydd y bydd Jehofa yn cadw at ei addewidion. (Darllen Salm 37:25; Hebreaid 13:5.) Mae rhieni sy’n dangos dewrder o’r fath ac sy’n dibynnu ar Jehofa yn helpu eu plant i wneud yr un peth.—1 Samuel 1:27, 28; 2 Timotheus 3:14, 15.

16. Sut mae rhai rhieni wedi helpu eu plant i osod nod yng ngwasanaeth Duw, a sut mae gwneud hyn wedi bod o les i’r plant?

16 Gwnaeth cwpl yn yr Unol Daleithiau helpu eu plant i ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Dywed y gŵr: “Cyn i’n plant allu cerdded neu siarad, roedden ni’n sôn wrthyn nhw am y llawenydd sy’n dod o arloesi ac o wasanaethu yn y gynulleidfa. A nawr, dyna ydy eu nod nhw.” Meddai hefyd fod gosod amcanion o’r fath a’u cyrraedd wedi eu helpu i frwydro yn erbyn temtasiynau gan system Satan ac i ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Ysgrifennodd brawd sydd â dau o blant: “Mae llawer o rieni’n gwneud ymdrech fawr ac yn gwario llawer o bres i helpu eu plant i gyrraedd eu nod yn y meysydd chwaraeon, adloniant, ac addysg. Mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr i wneud yr ymdrech honno a gwario’r pres hwnnw yn helpu’r plant i gyrraedd nod a fydd yn eu helpu i gadw perthynas dda â Jehofa. Rydyn ni wedi cael boddhad o weld ein plant yn cyrraedd eu hamcanion ysbrydol a hefyd i fod ar y daith honno gyda nhw.” Gelli di fod yn sicr bod rhieni sy’n helpu eu plant i osod nod ysbrydol, ac i’w gyrraedd, yn cael bendith Jehofa.

BOD YN DDEWR YN Y GYNULLEIDFA

17. Rho esiamplau o ddewrder yn y gynulleidfa.

17 Hefyd, mae angen inni fod yn ddewr yn y gynulleidfa. Er enghraifft, mae angen i’r henuriaid fod yn ddewr wrth ddelio ag achosion o bechod difrifol neu pan fyddan nhw’n gorfod helpu rhai sydd â’u bywydau yn y fantol oherwydd argyfwng meddygol. Mae rhai henuriaid yn mynd i garchardai er mwyn astudio gyda phobl sydd â diddordeb neu er mwyn cynnal cyfarfodydd. A beth am chwiorydd sengl? Mae ganddyn nhw hefyd gyfleoedd i ddangos dewrder a gwasanaethu Jehofa. Gallan nhw arloesi, symud i ardal lle mae angen mwy o help, gweithio ar brosiectau Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen, a mynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Mae rhai yn cael eu gwahodd i fynychu Ysgol Gilead hyd yn oed.

18. Sut gall chwiorydd hŷn fod yn ddewr?

18 Rydyn ni’n caru ein chwiorydd hŷn, ac rydyn ni’n falch o’u cael nhw yn y gynulleidfa! Er nad ydyn nhw i gyd yn gallu gwneud cymaint ag yr oedden nhw ar un adeg yng ngwasanaeth Duw, gallan nhw fod yn ddewr a bwrw iddi o hyd. (Darllen Titus 2:3-5.) Er enghraifft, bydd rhaid i chwaer hŷn fod yn ddewr pan fydd yr henuriaid yn gofyn iddi siarad ag un o’r chwiorydd ifanc am y ffordd mae’n gwisgo. Bydd y chwaer hŷn ddim yn dweud y drefn wrth y chwaer ifanc am ei dillad, ond, mewn ffordd gariadus, bydd hi’n ei helpu i feddwl am sut mae ei dewisiadau yn effeithio ar bobl eraill. (1 Timotheus 2:9, 10) Pan fydd chwiorydd hŷn yn dangos cariad fel hyn, byddan nhw’n cryfhau’r gynulleidfa.

19. (a) Sut gall brodyr bedyddiedig fod yn ddewr? (b) Sut gall Philipiaid 2:13 a 4:13 helpu brodyr i fod yn ddewr?

19 Mae’n rhaid i frodyr sydd wedi eu bedyddio hefyd fod yn ddewr a bwrw iddi. Pan fyddan nhw’n fodlon gwasanaethu fel gweision gweinidogaethol ac fel henuriaid, bydd y gynulleidfa’n elwa. (1 Timotheus 3:1) Ond, gall rhai ddal yn ôl. Efallai fod brawd wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol, a nawr mae’n teimlo nad yw’n ddigon da i fod yn was neu’n henuriad. Gall brawd arall deimlo dydy’r gallu angenrheidiol ddim ganddo i wasanaethu. Os wyt ti’n teimlo felly, gall Jehofa dy helpu i fod yn ddewr. (Darllen Philipiaid 2:13; 4:13.) Cofia esiampl Moses. Roedd ef hefyd yn teimlo nad oedd yn gallu gwneud beth roedd Jehofa wedi gofyn iddo ei wneud. (Exodus 3:11) Ond, gwnaeth Jehofa ei helpu i fagu dewrder a gwneud yr hyn yr oedd angen ei wneud. Sut gall brawd bedyddiedig ddod yn ddewr? Gallai gweddïo ar Jehofa am help a darllen y Beibl bob dydd. Gallai fyfyrio ar esiamplau pobl yn y Beibl a oedd yn ddewr. Gallai hefyd ofyn yn ostyngedig am hyfforddiant gan yr henuriaid a chynnig helpu yn y gynulleidfa mewn unrhyw ffordd sydd ei hangen. Rydyn ni’n annog pob brawd sydd wedi ei fedyddio i fod yn ddewr a gweithio’n galed dros y gynulleidfa!

“MAE’R ARGLWYDD DDUW . . . GYDA TI”

20, 21. (a) Beth gwnaeth Dafydd atgoffa Solomon ohono? (b) O beth gallwn ni fod yn sicr?

20 Gwnaeth y Brenin Dafydd atgoffa Solomon y byddai Jehofa gydag ef hyd nes iddo orffen y gwaith o adeiladu’r deml. (1 Cronicl 28:20) Myfyriodd Solomon ar y geiriau hyn, ac ni wnaeth ganiatáu i’r ffaith ei fod yn ifanc ac yn ddibrofiad ei ddal yn ôl rhag gwneud y gwaith. Yn hytrach, roedd yn ddewr iawn, a chyda help Jehofa, llwyddodd i adeiladu’r deml drawiadol mewn saith mlynedd a hanner.

21 Gwnaeth Jehofa helpu Solomon, ac fe allai ein helpu ninnau i fod yn ddewr ac i gyflawni ein gwaith, yn y teulu ac yn y gynulleidfa. (Eseia 41:10, 13) Os ydyn ni’n dangos dewrder wrth wasanaethu Jehofa, gallwn fod yn sicr y bydd yn ein bendithio ni nawr ac yn y dyfodol. Felly, “bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi!”

^ Par. 12 Cei di hyd i awgrymiadau ar sut i osod amcanion yn dy wasanaeth i Dduw yn yr erthygl “Use Spiritual Goals to Glorify Your Creator,” a gyhoeddwyd yn y Tŵr Gwylio Saesneg, Gorffennaf 15 2004.