Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Meithrin Hunanreolaeth

Meithrin Hunanreolaeth

“Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu: . . . hunanreolaeth.”—GALATIAID 5:22, 23.

CANEUON: 121, 36

1, 2. (a) Beth sy’n dod o ddiffyg hunanreolaeth? (b) Pam y dylen ni drafod hunanreolaeth?

MAE hunanreolaeth yn rhinwedd y gall Jehofa ein helpu ni i’w meithrin. (Galatiaid 5:22, 23) Mae gan Jehofa hunanreolaeth berffaith. Ond, dydy hyn ddim yn wir amdanon ninnau. Mewn gwirionedd, diffyg hunanreolaeth sy’n gyfrifol am lawer o’r problemau sydd gan bobl heddiw. Gall hefyd achosi i rywun lusgo ei draed cyn gwneud pethau pwysig neu achosi iddo beidio â gwneud cystal yn yr ysgol neu’r gweithle. Gall diffyg hunanreolaeth hefyd arwain at gam-drin geiriol, meddwi, trais, ysgariad, dyledion diangen, bod yn gaeth i bethau niweidiol, carchar, poen emosiynol, clefydau rhywiol, a beichiogrwydd digroeso.—Salm 34:11-14.

2 Mae pobl heb hunanreolaeth yn achosi problemau iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill. Wrth i amser fynd heibio, mae diffyg hunanreolaeth yn dod yn fwy amlwg. Dydy hyn ddim yn syndod mawr oherwydd bod Gair Duw wedi rhagfynegi y bydd diffyg hunanreolaeth yn rhan o’r dystiolaeth sy’n profi ein bod ni’n byw yn “y cyfnod olaf hwn.”—2 Timotheus 3:1-3.

3. Pam mae angen hunanreolaeth arnon ni?

3 Pam mae angen hunanreolaeth arnon ni? Mae ’na ddau reswm pwysig. Yn gyntaf, mae’r bobl sy’n gallu rheoli eu teimladau a’u hemosiynau, ar y cyfan, yn cael llai o broblemau. Hefyd, mae hi’n haws iddyn nhw ddod ymlaen yn dda gyda phobl eraill ac i osgoi teimlo’n flin, yn bryderus, neu’n isel eu hysbryd. Yn ail, er mwyn aros yn ffrindiau i Dduw, mae’n rhaid gwrthod temtasiynau a rheoli chwantau drwg. Methodd Adda ac Efa wneud hynny. (Genesis 3:6) Yn yr un modd, mae gan lawer o bobl heddiw broblemau ofnadwy oherwydd nad oes ganddyn nhw hunanreolaeth.

4. Beth ddylai godi calon unrhyw un sy’n cael trafferth i reoli eu chwantau drwg?

4 Mae Jehofa yn deall ein bod ni’n amherffaith a’i bod hi’n anodd inni gael hunanreolaeth. Ond mae eisiau ein helpu ni i fod yn feistr ar ein chwantau drwg. (1 Brenhinoedd 8:46-50) Fel ffrind annwyl, mae’n calonogi’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu teimladau a’u chwantau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu oddi wrth esiampl Jehofa o ran hunanreolaeth. Byddwn ni hefyd yn trafod esiamplau o’r Beibl, rhai da a drwg, ac yn edrych ar awgrymiadau ymarferol a all ein helpu ni.

ESIAMPL JEHOFA

5, 6. Pa esiampl o ran hunanreolaeth y mae Jehofa wedi ei gosod inni?

5 Mae hunanreolaeth Jehofa yn berffaith oherwydd ei fod yntau’n berffaith ym mhob ffordd. (Deuteronomium 32:4) Rydyn ninnau, fodd bynnag, yn amherffaith. Ond pwysig yw inni roi sylw i’w esiampl o hunanreolaeth er mwyn inni fedru ei efelychu’n well. Bydd hyn yn ein helpu i ymateb yn y ffordd iawn pan fydd pethau’n peri gofid inni. Pa enghreifftiau sy’n dangos hunanreolaeth Jehofa?

Mae hunanreolaeth Jehofa yn berffaith oherwydd bod yntau’n berffaith ym mhob ffordd

6 Meddylia am sut y gwnaeth Jehofa ymateb pan wrthryfelodd Satan yn Eden. Yn debygol iawn, gwnaeth honiad y Diafol achosi i bob un o weision ffyddlon Duw yn y nefoedd deimlo sioc, dicter, a dirmyg. Efallai dy fod ti’n teimlo yr un fath pan wyt ti’n meddwl am yr holl ddioddefaint y mae Satan wedi ei achosi. Ond ni wnaeth Jehofa orymateb. Atebodd yn y ffordd iawn. Mae Jehofa wedi bod yn araf i ddigio ac yn deg wrth iddo ddelio gyda gwrthryfel Satan. (Exodus 34:6; Job 2:2-6) Pam? Mae Jehofa wedi caniatáu i amser fynd heibio oherwydd nad yw’n dymuno i unrhyw un gael eu dinistrio ond, yn hytrach,“mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.”—2 Pedr 3:9.

7. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth esiampl Jehofa?

7 Mae esiampl Jehofa yn ein dysgu ni fod rhaid meddwl yn ofalus cyn siarad a bod rhaid inni beidio ag ymateb yn rhy gyflym. Felly, pan fyddi di’n gorfod gwneud penderfyniad pwysig, rho amser i ti dy hun i feddwl dros y peth. Gweddïa am y doethineb i ddweud neu i wneud y peth iawn. (Salm 141:3) Pan ydyn ni wedi cynhyrfu neu’n drist, hawdd iawn yw gorymateb. A dyna pam mae llawer wedi dod i ddifaru pethau maen nhw wedi eu dweud neu eu gwneud heb feddwl!—Diarhebion 14:29; 15:28; 19:2.

ESIAMPLAU DA A DRWG

8. (a) Yn lle y cawn hyd i esiamplau da o hunanreolaeth? (b) Beth helpodd Joseff i wrthsefyll temtasiwn pan geisiodd gwraig Potiffar ei hudo? (Gweler y llun agoriadol.)

8 Pa esiamplau Beiblaidd sy’n tanlinellu pwysigrwydd hunanreolaeth? Efallai dy fod ti’n meddwl am Joseff, mab Jacob. Gwrthododd demtasiwn pan oedd yn gweithio yn nhŷ Potiffar, sef capten gwarchodlu’r Pharo. Roedd gwraig Potiffar wedi gweld bod Joseff “yn ddyn ifanc cryf a golygus,” ac roedd hi wedi ceisio ei hudo fwy nag unwaith. Beth helpodd Joseff i wrthsefyll y temtasiwn? Mae’n debyg y byddai wedi meddwl yn ofalus ymlaen llaw am yr hyn a fyddai’n digwydd petai’n ildio iddi. Yna, pan wnaeth hi afael yn ei ddillad, rhedodd Joseff i fwrdd oddi wrthi. Dywedodd: “Sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?”—Genesis 39:6, 9; darllen Diarhebion 1:10.

Gofynna i Jehofa am ddoethineb a hunanreolaeth i wrthsefyll temtasiwn

9. Sut gelli di baratoi ar gyfer gwrthsefyll temtasiynau?

9 Beth rydyn ni yn ei ddysgu oddi wrth hanes Joseff? Os ydyn ni’n cael ein temtio i dorri un o ddeddfau Duw, mae’n rhaid inni wrthsefyll. Cyn dod yn Dystion Jehofa, roedd rhai yn brwydro yn erbyn gorfwyta, goryfed, ysmygu, camddefnyddio cyffuriau, anfoesoldeb rhywiol, a phroblemau eraill. Hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gael eu bedyddio, gallen nhw fod wedi cael eu temtio gan y pethau hynny. Os ydy hyn yn digwydd i ti, pwysig yw stopio a meddwl sut y bydd dy berthynas di â Jehofa yn cael ei niweidio petaet ti’n ildio i’r temtasiwn. Pwysig yw meddwl ymlaen llaw am y sefyllfaoedd a all dy demtio di ac yna penderfynu sut i’w hosgoi. (Salm 26:4, 5; Diarhebion 22:3) Os byddi di’n cael dy brofi fel hynny, gofynna i Jehofa am ddoethineb a hunanreolaeth i wrthsefyll y temtasiwn hwnnw.

10, 11. (a) Beth sy’n digwydd i lawer o bobl ifanc yn yr ysgol? (b) Beth sy’n gallu helpu Cristnogion ifanc i wrthsefyll y temtasiwn i dynnu’n groes i ddeddfau Duw?

10 Mae rhywbeth tebyg i’r hyn a ddigwyddodd i Joseff yn digwydd heddiw i lawer o Gristnogion ifanc. Ystyria esiampl Kim. Roedd ei chyd-ddisgyblion yn brolio eu bod nhw wedi cael rhyw dros y penwythnos. Doedd gan Kim ddim straeon o’r fath i’w hadrodd. Ar adegau, roedd bod yn wahanol yn gwneud iddi deimlo’n unig ac roedd ei ffrindiau ysgol yn meddwl ei bod hi’n wirion oherwydd nad oedd hi’n fodlon canlyn. Ond roedd Kim yn ddoeth iawn. Roedd hi’n gwybod bod y temtasiwn i gael rhyw yn gryf iawn pan fydd rhywun yn ifanc. (2 Timotheus 2:22) Byddai disgyblion eraill yn gofyn yn aml a oedd hi’n dal yn wyryf neu beidio. Rhoddodd hynny gyfle iddi esbonio pam ei bod hi wedi dewis peidio â chael rhyw. Rydyn ni’n falch iawn o’n pobl ifanc sy’n benderfynol o sefyll yn gadarn ac o beidio â bod yn anfoesol, ac mae Jehofa hefyd yn falch iawn ohonyn nhw!

11 Hefyd, mae’r Beibl yn adrodd hanes rhai a wnaeth fethu gwrthsefyll y temtasiwn i fod yn anfoesol yn rhywiol. Mae’r rhain yn dangos y canlyniadau drwg sy’n dod o ddiffyg hunanreolaeth. Os wyt ti’n wynebu sefyllfa sy’n debyg i Kim, meddylia am hanes y dyn ifanc ffôl a ddisgrifiwyd yn Diarhebion pennod 7. Meddylia hefyd am y canlyniadau trychinebus a ddaeth yn sgil ymddygiad drwg Amnon. (2 Samuel 13:1, 2, 10-15, 28-32) Gall rhieni helpu eu plant i feithrin hunanreolaeth a doethineb drwy drafod yr esiamplau hyn yn ystod addoliad y teulu.

12. (a) Sut gwnaeth Joseff reoli ei deimladau tuag at ei frodyr? (b) Ym mha sefyllfaoedd y dylen ni reoli ein teimladau?

12 Ar achlysur arall, dangosodd Joseff hunanreolaeth unwaith eto. Dyma’r adeg pan ddaeth ei frodyr i’r Aifft i brynu bwyd. Er mwyn ceisio deall beth roedden nhw’n ei feddwl mewn gwirionedd, ni ddywedodd Joseff wrthyn nhw mai ef oedd eu brawd. A phan oedd yn cael trafferth i reoli ei deimladau, gadawodd ei frodyr er mwyn iddo gael bod ar ei ben ei hun i grio. (Genesis 43:30, 31; 45:1) Petai brawd neu chwaer yn dy frifo di, byddai efelychu hunanreolaeth Joseff yn dy helpu di i osgoi dweud neu wneud rhywbeth y byddi’n di’n ei ddifaru yn y dyfodol. (Diarhebion 16:32; 17:27) Neu efallai fod gen ti berthnasau sydd wedi eu diarddel. Os felly, bydd angen iti reoli dy deimladau er mwyn osgoi cysylltu’n ddiangen â nhw. Gall hyn fod yn anodd. Ond bydd hyn yn haws o gofio dy fod ti’n efelychu esiampl Jehofa ac yn dilyn ei orchmynion.

Ni ddylai neb fod yn orhyderus, gan feddwl na fyddai byth yn syrthio i demtasiwn

13. Beth mae digwyddiadau ym mywyd y Brenin Dafydd yn ei ddysgu inni?

13 Rydyn ni hefyd yn dysgu oddi wrth esiampl y Brenin Dafydd. Pan wnaeth Saul a Shimei ei herio, ni wnaeth Dafydd gynhyrfu na defnyddio ei rym yn eu herbyn. (1 Samuel 26:9-11; 2 Samuel 16:5-10) Ond eto, ni lwyddodd Dafydd i ddangos hunanreolaeth bob amser. Rydyn ni’n gwybod am hyn o ddarllen yr hanes amdano’n pechu gyda Bathseba a’i ymateb i drachwant Nabal. (1 Samuel 25:10-13; 2 Samuel 11:2-4) Mae hanes Dafydd yn dysgu gwersi pwysig inni. Yn gyntaf, mae’n bwysig iawn fod arolygwyr yn y gyfundrefn yn dangos hunanreolaeth er mwyn iddyn nhw beidio â chamddefnyddio eu hawdurdod. Yn ail, ni ddylai neb fod yn orhyderus, gan feddwl na fyddai byth yn syrthio i demtasiwn.—1 Corinthiaid 10:12.

AWGRYMIADAU YMARFEROL

14. Beth ddigwyddodd i un brawd, a beth mae ei brofiad yn ei ddysgu inni?

14 Sut gelli di feithrin mwy o hunanreolaeth? Ystyria’r hanes hwn. Gwnaeth cerbyd daro car Luigi. Er mai’r gyrrwr arall a achosodd y ddamwain, dechreuodd weiddi ar Luigi ac roedd y dyn eisiau cwffio. Gweddïodd Luigi ar Jehofa er mwyn iddo fod yn dawel ei ysbryd a cheisiodd dawelu tymer y gyrrwr arall. Ond dal i weiddi a wnaeth y dyn. Felly, ysgrifennodd Luigi gofnod o fanylion yswiriant y dyn a gadael tra oedd y dyn yn dal i weiddi. Wythnos yn ddiweddarach, roedd Luigi yn gwneud ail alwad ar ddynes. Gŵr y ddynes oedd y gyrrwr arall! Roedd cywilydd mawr ar y dyn a dyma’n ymddiheuro am ei ymddygiad drwg. Cynigiodd gysylltu â chwmni yswiriant Luigi er mwyn i’w gar gael ei drwsio’n gynt. Ymunodd y dyn yn y sgwrs am y Beibl a mwynhau. Roedd Luigi wedi dysgu pa mor bwysig oedd peidio â chynhyrfu ar ôl y ddamwain a pha mor drychinebus y gallai’r canlyniadau fod wedi bod petasai wedi gwylltio.—Darllen 2 Corinthiaid 6:3, 4.

Gall y ffordd rydyn ni’n ymateb effeithio ar ein gweinidogaeth Gristnogol (Gweler paragraff 14)

15, 16. Sut gall astudio’r Beibl dy helpu di a helpu dy deulu i feithrin hunanreolaeth?

15 Gall astudio’r Beibl yn rheolaidd ac yn fyfyrgar helpu Cristnogion i feithrin hunanreolaeth. Cofia beth ddywedodd Duw wrth Josua: “Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud. Dyna sut fyddi di’n llwyddo.” (Josua 1:8) Ond sut gall astudio’r Beibl dy helpu i feithrin hunanreolaeth?

16 Rydyn ni wedi dysgu bod y Beibl yn cynnwys esiamplau sy’n esbonio sut rydyn ni’n elwa pan fyddwn ni’n dangos hunanreolaeth a sut rydyn ni’n dioddef o beidio â’i dangos. Am resymau da felly y gwnaeth Jehofa sicrhau bod yr hanesion hyn wedi eu cofnodi yn ei Air. (Rhufeiniaid 15:4) Doeth fyddai inni eu darllen, eu hastudio, a meddwl yn ofalus amdanyn nhw. Ceisia ddeall sut maen nhw’n berthnasol i ti ac i dy deulu. Gofynna i Jehofa am iddo dy helpu i roi ar waith y cyngor sydd yn ei Air. Os wyt ti’n gweld bod gen ti ddiffyg hunanreolaeth, mae’n bwysig iti gydnabod hynny. Wedyn, gweddïa am y peth, a gweithia’n galed i weld sut y medri di wella. (Iago 1:5) Gwna ymchwil yn ein cyhoeddiadau er mwyn darganfod cyngor ymarferol a all dy helpu.

17. Sut gall rhieni ddysgu eu plant i feithrin hunanreolaeth?

17 Sut gelli di helpu dy blant i feithrin hunanreolaeth? Mae rhieni’n gwybod na chafodd eu plant eu geni â’r rhinwedd hon. Felly, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu rhinweddau da i’w plant drwy osod esiampl dda. (Effesiaid 6:4) Os wyt ti’n gweld nad ydy dy blant yn dangos hunanreolaeth, gofynna i ti dy hun a wyt ti’n gosod esiampl dda neu beidio. Gelli di osod esiampl dda drwy fynd ar y weinidogaeth, mynychu’r cyfarfodydd, a chynnal addoliad teuluol yn rheolaidd. A phaid â bod ofn dweud “na” wrth dy blant pan fydd angen! Gosododd Jehofa derfynau ar gyfer Adda ac Efa. Gallai’r terfynau hynny fod wedi eu helpu nhw i barchu awdurdod Jehofa. Mewn ffordd debyg, pan fydd rhieni yn disgyblu eu plant ac yn gosod esiampl dda, gallan nhw ddysgu eu plant i ddangos hunanreolaeth. Rhai o’r pethau mwyaf gwerthfawr y gelli di eu dysgu i dy blant yw cariad tuag at Dduw a pharch tuag at ei safonau.—Darllen Diarhebion 1:5, 7, 8.

18. Pam mae’n bwysig inni ddewis ein ffrindiau’n ddoeth?

18 Os ydyn ni’n rhieni neu ddim, dylai pob un ohonon ni ddewis ein ffrindiau’n ddoeth. Os yw dy ffrindiau’n caru Jehofa, byddan nhw’n dy annog i osod amcanion da ac i osgoi mynd i helynt. (Diarhebion 13:20) Bydd eu hesiampl dda yn dy ysgogi i efelychu eu hunanreolaeth. A bydd dy ymddygiad da yn sicr o’u calonogi nhw hefyd. Bydd yr hunanreolaeth rydyn ni’n ei meithrin yn ein helpu i gael cymeradwyaeth Duw, i fwynhau bywyd, ac i rannu pethau da gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru.