Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Mae Neges yr ARGLWYDD yn Aros am Byth!”

“Mae Neges yr ARGLWYDD yn Aros am Byth!”

“Mae’r glaswellt yn crino, a’r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth!”—ESEIA 40:8.

CANEUON: 95, 97

1, 2. (a) Sut byddai bywyd heb y Beibl? (b) Beth sy’n ein helpu i gael budd o Air Duw?

SUT byddai dy fywyd heb y Beibl? Fyddai cyngor doeth ddim gennyt ti i dy arwain bob dydd. Fyddet ti ddim yn gwybod y gwir am Dduw, am fywyd, nac am y dyfodol. A fyddet ti ddim yn gwybod am y pethau mae Jehofa wedi eu gwneud dros ei bobl yn y gorffennol.

2 Diolch byth, dydyn ni ddim yn y sefyllfa drist honno. Mae Jehofa wedi rhoi ei Air, y Beibl, inni. Mae wedi addo bydd y neges sydd ynddo yn para am byth. Dyfynnodd yr apostol Pedr o Eseia 40:8. Er nad yw’r adnod honno’n sôn yn benodol am y Beibl, mae’n cyfeirio at neges y Beibl. (Darllen 1 Pedr 1:24, 25.) Rydyn ni’n elwa fwyaf ar y Beibl pan ydyn ni’n ei ddarllen yn ein hiaith ein hunain. Mae pobl sy’n caru’r Beibl eisoes yn gwybod hyn. Dros y canrifoedd, mae pobl wedi gweithio’n galed i gyfieithu’r Beibl ac i’w wneud ar gael i bobl er gwaethaf gwrthwynebiad ac anawsterau. Mae Jehofa eisiau i gymaint o bobl â phosib “gael eu hachub a dod i wybod y gwir.”—1 Timotheus 2:3, 4.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut mae Gair Duw wedi goroesi er gwaethaf (1) newidiadau o ran iaith, (2) datblygiadau gwleidyddol a newidiodd yr iaith gyffredin, a (3) gwrthwynebiad i’r gwaith cyfieithu. Sut bydd y drafodaeth hon yn ein helpu? Byddwn ni’n dod i werthfawrogi’r Beibl a’i Awdur yn fwy.—Micha 4:2; Rhufeiniaid 15:4.

NEWIDIADAU O RAN IAITH

4. (a) Sut mae ieithoedd yn newid dros amser? (b) Sut rydyn ni’n gwybod nad ydy Duw yn ffafrio iaith benodol? Sut mae hyn yn gwneud iti deimlo?

4 Wrth i amser fynd heibio, mae ieithoedd yn newid. Gall geiriau ac ymadroddion olygu rhywbeth gwahanol i’r hyn yr oedden nhw’n ei olygu o’r blaen. Efallai y gelli di feddwl am enghreifftiau yn dy iaith di. Mae hyn yn wir mewn hen ieithoedd hefyd. Mae’r Hebraeg a’r Roeg mae pobl yn eu siarad heddiw yn wahanol i’r Hebraeg a’r Roeg a siaradwyd adeg ysgrifennu’r Beibl. Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn deall yr hen ieithoedd a gafodd eu defnyddio i ysgrifennu’r Beibl, felly mae angen cyfieithiad arnyn nhw. Mae rhai wedi meddwl y byddan nhw’n deall y Beibl yn well ar ôl dysgu Hebraeg a Groeg hynafol. Ond, efallai na fydd hynny’n eu helpu cymaint ag y maen nhw’n ei feddwl. * (Gweler y troednodyn.) Rydyn ni’n ddiolchgar iawn fod y Beibl cyfan, neu rannau ohono, wedi cael ei gyfieithu i 3,000 o ieithoedd bron. Jehofa ydy’r un sydd eisiau “i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil” elwa ar ei Air. (Darllen Datguddiad 14:6.) Yn sicr, mae hyn yn gwneud inni deimlo’n agosach at ein Duw cariadus, sydd ddim yn dangos ffafriaeth.—Actau 10:34.

Rydyn ni’n ddiolchgar fod y Beibl cyfan, neu rannau ohono, wedi cael ei gyfieithu i 3,000 o ieithoedd bron

5. Pam roedd y King James Version yn bwysig?

5 Hefyd, mae’r ffaith fod ieithoedd yn newid yn effeithio ar gyfieithiadau o’r Beibl. Efallai roedd cyfieithiad yn hawdd ei ddarllen pan gafodd ei wneud, ond daeth yn fwy anodd ei ddeall wrth i amser fynd heibio. Enghraifft o hyn ydy’r King James Version, a gafodd ei gynhyrchu am y tro cyntaf yn 1611. Daeth yn un o’r Beiblau Saesneg mwyaf poblogaidd. Cafodd geiriad y King James Version ddylanwad mawr ar yr iaith Saesneg. Ond, dim ond ychydig o weithiau roedd enw Jehofa yn ymddangos yn y cyfieithiad hwnnw. Yn y rhan fwyaf o lefydd yn yr Ysgrythurau Hebraeg gwreiddiol lle roedd enw Duw wedi cael ei ysgrifennu, defnyddiwyd y gair “ARGLWYDD” mewn priflythrennau yn ei le. Roedd argraffiadau diweddarach hefyd yn defnyddio’r gair “ARGLWYDD” mewn priflythrennau mewn rhai adnodau yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Drwy wneud hynny, roedd y King James Version yn cydnabod y dylai enw Duw ymddangos yn y Testament Newydd, fel y mae’n cael ei alw gan lawer heddiw.

6. Pam rydyn ni’n ddiolchgar am y New World Translation?

6 Pan oedd y King James Version ar gael am y tro cyntaf, roedd y geiriau Saesneg ynddo yn swnio’n fodern. Ond, wrth i amser fynd heibio, dechreuodd rhai o’r geiriau hynny swnio’n hen ffasiwn, a heddiw maen nhw’n anodd eu deall. Digwyddodd yr un peth yn achos y Beibl Cysegr-lân yn y Gymraeg a chyfieithiadau cynnar o’r Beibl mewn ieithoedd eraill. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar am y New World Translation of the Holy Scriptures, sy’n defnyddio iaith fodern. Mae’r cyfieithiad hwnnw ar gael yn llawn neu’n rhannol mewn dros 150 o ieithoedd. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl yn y byd yn gallu darllen y cyfieithiad hwn yn eu hiaith eu hunain. Mae’r geiriau modern ac eglur yn ei gwneud hi’n hawdd i neges Duw gyrraedd â’n calonnau. (Salm 119:97) Ond, yr hyn sy’n gwneud y New World Translation yn wirioneddol arbennig ydy ei fod yn rhoi enw Duw yn y llefydd yr oedd yn ymddangos yn y testun gwreiddiol.

YR IAITH GYFFREDIN

7, 8. (a) Pam nad oedd llawer o Iddewon yn y drydedd ganrif COG yn gallu deall yr Ysgrythurau Hebraeg? (b) Beth yw’r Septuagint Groeg?

7 Weithiau, mae datblygiadau gwleidyddol wedi newid pa iaith roedd pobl yn ei siarad ar adeg benodol. Ond, mae Jehofa wedi sicrhau y byddai’r Beibl ar gael i bobl mewn iaith y gallen nhw’n ei deall. Er enghraifft, cafodd y 39 llyfr cyntaf yn y Beibl eu hysgrifennu gan yr Iddewon, neu’r Israeliaid. Y nhw oedd y cyntaf a “gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am neges Duw.” (Rhufeiniaid 3:1, 2) Gwnaethon nhw ysgrifennu’r llyfrau hyn naill ai mewn Hebraeg neu Aramaeg. Ond erbyn y drydedd ganrif COG, doedd llawer o Iddewon ddim yn deall Hebraeg bellach. Pam ddim? Pan wnaeth Alecsander Fawr goncro rhannau helaeth o’r byd, lledaenodd yr Ymerodraeth Roegaidd. O ganlyniad, Groeg oedd yr iaith gyffredin yn yr ardaloedd a oedd yn cael eu rheoli gan Wlad Groeg, a dechreuodd llawer o bobl siarad Groeg yn lle eu hiaith eu hunain. (Daniel 8:5-7, 20, 21) Roedd hyn yn cynnwys llawer o Iddewon, felly, fe ddaeth yn anodd iddyn nhw ddeall y Beibl yn yr Hebraeg. Sut byddai’r broblem hon yn cael ei datrys?

8 Tua 250 o flynyddoedd cyn i Iesu gael ei eni, cafodd pum llyfr cyntaf y Beibl eu cyfieithu i’r Roeg. Yn nes ymlaen, cafodd gweddill yr Ysgrythurau Hebraeg eu cyfieithu. Yr enw a roddwyd ar y cyfieithiad hwnnw oedd y Septuagint Groeg. Hwnnw ydy’r cyfieithiad cyntaf o’r Ysgrythurau Hebraeg cyfan rydyn ni’n gwybod amdano.

9. (a) Sut gwnaeth y Septuagint a chyfieithiadau cynnar eraill helpu pobl a oedd yn darllen Gair Duw? (b) Beth yw dy hoff ran o’r Ysgrythurau Hebraeg?

9 Roedd y Septuagint yn ei gwneud hi’n bosib i Iddewon Groeg eu hiaith ddarllen yr Ysgrythurau Hebraeg yn yr iaith Roeg. Dychmyga pa mor gyffrous oedd hi iddyn nhw fedru clywed neu ddarllen Gair Duw yn eu hiaith eu hunain. Yn y pen draw, cafodd y Beibl ei gyfieithu i ieithoedd cyffredin eraill, fel Syrieg, Gotheg a Lladin. Wrth i fwy o bobl ddarllen a deall Gair Duw, roedden nhw hefyd yn ei werthfawrogi. Ac roedd yn bosib iddyn nhw gael eu hoff adnodau, yn union fel rydyn ninnau heddiw. (Darllen Salm 119:162-165.) Yn wir, mae Gair Duw wedi goroesi er gwaethaf newidiadau gwleidyddol ac ieithyddol.

GWRTHWYNEBIAD I’R GWAITH CYFIEITHU

10. Yn adeg John Wycliffe, pam nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn gallu darllen y Beibl?

10 Dros y blynyddoedd, mae llawer o reolwyr pwerus wedi ceisio atal pobl rhag darllen y Beibl. Ond, ni wnaeth dynion a oedd yn ofni Duw stopio eu hymdrechion i sicrhau bod y Beibl ar gael i bawb. Un ohonyn nhw oedd John Wycliffe, a oedd yn byw yn Lloegr yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd yn credu y dylai pawb gael darllen y Beibl. Yn ystod ei fywyd, nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn Lloegr wedi clywed neges y Beibl yn eu hiaith eu hunain. Roedd Beiblau’n ddrud, ac roedd rhaid ysgrifennu pob copi â llaw. Felly, dim ond ychydig iawn o bobl oedd gan gopi o’r Beibl. Hefyd, doedd y rhan fwyaf o bobl ddim yn gallu darllen bryd hynny. Efallai fod y bobl a oedd yn mynd i’r eglwys yn clywed y Beibl yn cael ei ddarllen yn uchel yn yr iaith Ladin, ond iaith hynafol oedd honno a doedd y bobl gyffredin ddim yn ei deall. Sut gwnaeth Jehofa sicrhau y byddai’r Beibl ar gael i bobl yn eu hiaith eu hunain?—Diarhebion 2:1-5.

Roedd John Wycliffe ac eraill eisiau i bawb gael copi o’r Beibl. Wyt ti eisiau hynny hefyd? (Gweler paragraff 11)

11. Pa effaith gafodd Beibl Wycliffe?

11 Yn 1382, cyfieithodd John Wycliffe ac eraill y Beibl i’r Saesneg. Roedd Beibl Wycliffe yn boblogaidd iawn gyda grŵp a oedd yn cael ei alw’n Lolardiaid. Roedden nhw wrth eu boddau â’r Beibl. Roedden nhw’n cerdded o bentref i bentref ar hyd a lled Lloegr. Roedd y Lolardiaid yn darllen y Beibl i bobl ac yn rhoi copïau o rannau ohono wedi ysgrifennu â llaw. Oherwydd eu gwaith, daeth y Beibl yn boblogaidd iawn unwaith eto.

12. Sut roedd y glerigaeth yn teimlo am Feibl Wycliffe?

12 Roedd y clerigwyr yn casáu Wycliffe, ei Feibl, a’i ddilynwyr. Gwnaethon nhw erlid y Lolardiaid a dinistrio pob copi o Feibl Wycliffe yr oedden nhw’n gallu ei ddarganfod. Er bod Wycliffe eisoes wedi marw, gwnaeth y glerigaeth ei farnu’n heretic, neu’n elyn i’r Eglwys. Gwnaethon nhw godi ei esgyrn o’r ddaear, eu llosgi, a lluchio’r ulw i afon Swift. Ond roedd llawer o bobl eisiau darllen a deall Gair Duw, a doedd yr Eglwys ddim yn gallu stopio hynny. Yn ystod y canrifoedd canlynol, dechreuodd pobl yn Ewrop, a rhannau eraill o’r byd, gyfieithu’r Beibl a’i argraffu mewn ieithoedd roedd llawer yn gallu eu deall.

MAE DUW YN EIN DYSGU ER EIN LLES

13. O beth gallwn ni fod yn sicr? Sut mae hyn yn cryfhau ein ffydd?

13 Mae’r Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod y gwaith o gyfieithu’r Septuagint, Beibl Wycliffe, y King James Version, nac unrhyw fersiwn arall wedi ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan Dduw. Wedi dweud hynny, wrth inni ystyried sut cafodd y cyfieithiadau hyn eu cynhyrchu, mae’n glir fod Jehofa wedi cadw ei addewid i amddiffyn ei Air. Mae hyn yn cryfhau ein ffydd fod holl addewidion eraill Jehofa am ddod yn wir hefyd.—Josua 23:14.

14. Sut mae’r hyn rydyn ni’n ei wybod am y Beibl yn cryfhau ein cariad tuag at Dduw?

14 Wrth inni ddysgu sut mae Jehofa wedi amddiffyn ei Air, mae ein ffydd ynddo a’n cariad tuag ato yn cryfhau. * (Gweler y troednodyn.) Pam rhoddodd Jehofa’r Beibl inni yn y lle cyntaf ac wedyn addo ei amddiffyn? Oherwydd ei fod yn ein caru ni a’i fod eisiau ein dysgu er ein lles. (Darllen Eseia 48:17, 18.) Mae hyn yn ein symud i’w garu ac i fod yn ufudd iddo.—1 Ioan 4:19; 5:3.

15. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

15 Rydyn ni’n caru Gair Duw yn fawr iawn, felly sut gallwn ni elwa’n llawn ar ein darllen personol ohono? Sut gallwn ni helpu’r bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth i werthfawrogi’r Beibl? Sut gall y rhai sy’n dysgu yn y gynulleidfa sicrhau bod pob dim maen nhw’n ei ddysgu yn seiliedig ar Air Duw? Byddwn ni’n trafod y cwestiynau hyn yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 4 Gweler yr erthygl “Do You Need to Learn Hebrew and Greek?” yn rhifyn 1 Tachwedd 2009 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 14 Gweler y blwch “ Tyrd i Weld!