Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 36

Mae Armagedon yn Newyddion Da!

Mae Armagedon yn Newyddion Da!

“Dyma’r ysbrydion drwg yn casglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle . . . Armagedon.”—DAT. 16:16.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

CIPOLWG *

1-2. (a) Pam mae Armagedon yn newyddion da i ddynolryw? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?

A WYT ti wedi clywed pobl yn defnyddio’r gair “Armagedon” wrth sôn am ryfel niwclear neu drychineb amgylcheddol? Fodd bynnag, mae’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am Armagedon yn cynnwys newyddion da, sy’n rheswm dros lawenhau! (Dat. 1:3) Ni fydd rhyfel Armagedon yn dinistrio dynolryw; bydd yn ei hachub! Sut felly?

2 Mae’r Beibl yn dangos y bydd rhyfel Armagedon yn achub dynolryw drwy ddod â rheolaeth ddynol i ben. Bydd y rhyfel hwnnw yn achub dynolryw drwy ddinistrio’r rhai drwg a gwarchod y rhai cyfiawn. Ac fe fydd yn achub dynolryw drwy amddiffyn ein planed rhag cael ei difetha. (Dat. 11:18) Er mwyn inni allu deall y gwirioneddau hyn yn well, gad inni ystyried pedwar cwestiwn: Beth yw Armagedon? Beth fydd yn digwydd cyn Armagedon? Sut gallwn ni gael ein hachub yn ystod Armagedon? Sut gallwn ni aros yn ffyddlon wrth i Armagedon agosáu?

BETH YW ARMAGEDON?

3. (a) Beth mae’r gair “Armagedon” yn ei olygu? (b) Sut mae Datguddiad 16:14, 16 yn dangos nad lle llythrennol yw Armagedon?

3 Darllen Datguddiad 16:14, 16. Unwaith yn unig mae’r gair “Armagedon” yn ymddangos yn yr Ysgrythurau, ac mae’n deillio o ymadrodd Hebraeg sy’n golygu “Bryn Megido.” (Dat. 16:16, tdn) Dinas yn Israel gynt oedd Megido. (Jos. 17:11) Ond nid yw Armagedon yn cyfeirio at unrhyw le llythrennol ar y ddaear. A bod yn fanwl gywir, mae’n cyfeirio at y sefyllfa lle bydd brenhinoedd y ddaear yn cael eu casglu i frwydro yn erbyn Jehofa. (Dat. 16:14) Fodd bynnag, yn yr erthygl hon, byddwn ni hefyd yn defnyddio’r term “Armagedon” i gyfeirio at y rhyfel a fydd yn dilyn yn syth ar ôl i “frenhinoedd y ddaear” gael eu casglu at ei gilydd. Sut rydyn ni’n gwybod bod Armagedon yn cyfeirio at le symbolaidd? Yn gyntaf, nid bryn llythrennol yw Megido. Yn ail, mae’r ardal o amgylch Megido yn rhy fach ar gyfer holl “frenhinoedd y ddaear,” eu byddinoedd, a’u harfau. Yn drydydd, fel y gwelwn yn nes ymlaen yn yr erthygl hon, bydd rhyfel Armagedon yn cychwyn pan fydd “brenhinoedd” y byd yn ymosod ar bobl Dduw, sydd wedi eu gwasgaru o gwmpas y byd.

4. Pam gwnaeth Duw enwi ei ryfel mawr olaf ar ôl y lle Megido?

4 Pam gwnaeth Jehofa enwi ei ryfel mawr olaf ar ôl y lle Megido? Yn adeg y Beibl, digwyddodd lawer o frwydrau ym Megido a Dyffryn Jesreel. Ar brydiau, roedd Jehofa’n helpu ei bobl i frwydro. Er enghraifft, “wrth nentydd Megido,” gwnaeth Duw helpu’r Barnwr Barac o Israel i orchfygu byddin Canaaneaidd a oedd o dan arweiniad Sisera. Diolchodd Barac a’r broffwydes Debora i Jehofa am eu buddugoliaeth wyrthiol. Dyma nhw’n canu: “Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr, ac ymladd yn erbyn Sisera. Dyma afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd.”—Barn. 5:19-21.

5. Ym mha ffordd bwysig y bydd rhyfel Armagedon yn wahanol i’r rhyfel yn nyddiau Barac?

5 Gwnaeth Barac a Debora orffen eu cân gyda’r geiriau: “O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gyd ddarfod yr un fath! Ond boed i’r rhai sy’n dy garu di ddisgleirio’n llachar fel yr haul ganol dydd!” (Barn. 5:31) Yn ystod Armagedon, bydd gelynion Duw hefyd yn cael eu dinistrio, tra bydd y rhai sy’n caru Duw yn cael eu hachub. Ond mae ’na un gwahaniaeth pwysig rhwng y ddau ryfel. Yn ystod rhyfel Armagedon, ni fydd pobl Dduw yn brwydro. Fydd ganddyn nhw ddim arfau hyd yn oed! Byddan nhw’n cadw’n gryf drwy “aros yn llonydd a chredu” yn nerth Jehofa a’i fyddinoedd nefol.—Esei. 30:15; Dat. 19:11-15.

6. Sut efallai bydd Jehofa’n trechu ei elynion yn ystod Armagedon?

6 Sut bydd Duw yn trechu ei elynion yn Armagedon? Gallai wneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gallai ddefnyddio daeargrynfeydd, cenllysg, a mellt. (Job 38:22, 23; Esec. 38:19-22) Efallai bydd yn gwneud i’w elynion frwydro yn erbyn ei gilydd. (2 Cron. 20:17, 22, 23) Ac mae’n bosib y bydd yn defnyddio ei angylion i ladd y rhai drwg. (Esei. 37:36) Beth bynnag mae Duw yn ei ddefnyddio, bydd ef yn ennill. Bydd ei holl elynion yn cael eu dinistrio. A bydd y rhai cyfiawn i gyd yn cael eu hachub.—Diar. 3:25, 26.

BETH FYDD YN DIGWYDD CYN ARMAGEDON?

7-8. (a) Yn ôl 1 Thesaloniaid 5:1-6, pa ddatganiad anghyffredin y bydd arweinwyr y byd yn ei wneud? (b) Pam y bydd y datganiad hwn yn gelwydd peryglus?

7 Bydd y datganiad o heddwch a diogelwch, sef “mae pethau’n mynd yn dda,” a “dyn ni’n saff,” yn digwydd cyn dydd Jehofa. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:1-6.) Mae 1 Thesaloniaid 5:2 yn sôn am “yr Arglwydd yn dod,” neu ddydd Jehofa, sy’n cyfeirio at y “gorthrymder mawr.” (Dat. 7:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Sut byddwn ni’n gwybod bod y gorthrymder hwnnw ar fin dechrau? Mae’r Beibl yn dweud y bydd ’na ddatganiad anghyffredin iawn. Bydd y datganiad hwnnw yn arwydd o ddechreuad y gorthrymder mawr.

8 Dyna fydd y datganiad o heddwch a diogelwch a gafodd ei broffwydo. Pam y bydd arweinwyr y byd yn dweud hynny? A fydd arweinwyr crefyddol yn cymryd rhan? Mae’n bosib. Fodd bynnag, bydd y datganiad hwnnw yn ddim byd ond celwydd wedi ei ysbrydoli gan y cythreuliaid. Bydd y celwydd hwn yn enwedig o beryglus oherwydd ei fod yn gwneud i bobl deimlo’n saff, ond mewn gwirionedd, bydd y gorthrymder mwyaf yn hanes dyn ar fin cychwyn. Yn wir, “yn sydyn bydd dinistr yn dod. Bydd yn dod mor sydyn â’r poenau mae gwraig yn eu cael pan mae ar fin cael babi.” Beth am weision ffyddlon Jehofa? Efallai bydd dechreuad sydyn y gorthrymder mawr yn eu synnu, ond fe fyddan nhw’n barod amdano.

9. A fydd Jehofa’n dinistrio byd Satan ar unwaith? Esbonia.

9 Fydd Jehofa ddim yn dileu byd Satan ar unwaith, fel y gwnaeth yn nyddiau Noa. Yn hytrach, bydd yn dinistrio un rhan yn gyntaf, ac yna’r gweddill yn hwyrach ymlaen. Yn gyntaf, fe fydd yn dinistrio Babilon Fawr, sef ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Yna, yn ystod rhyfel Armagedon, fe fydd yn dinistrio gweddill byd Satan, gan gynnwys ei systemau gwleidyddol, milwrol, a masnachol. Gad inni drafod manylion y ddau ddigwyddiad pwysig hyn.

10. Yn ôl Datguddiad 17:1, 6, ac 18:24, pam y bydd Jehofa’n dinistrio Babilon Fawr?

10 “Y gosb mae’r butain fawr . . . yn ei ddioddef.” (Darllen Datguddiad 17:1, 6; 18:24.) Mae Babilon Fawr wedi achosi i lawer amharchu enw Duw. Mae hi wedi rhaffu celwyddau am Dduw. Mae hi wedi ei phuteinio ei hun yn ysbrydol drwy gefnogi llywodraethau dynol. Mae hi wedi gorthrymu ei haelodau a dwyn eu harian. Ac mae hi wedi lladd llawer o bobl, gan gynnwys rhai o weision Duw. (Dat. 19:2) Sut bydd Jehofa’n dinistrio Babilon Fawr?

11. Beth yw’r “anghenfil ysgarlad,” a sut bydd Duw yn ei ddefnyddio yn erbyn Babilon Fawr?

11 Bydd Jehofa’n dinistrio’r “butain fawr” drwy gyfrwng “deg corn” yr “anghenfil ysgarlad.” Mae’r anghenfil hwnnw yn cynrychioli’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r deg corn yn cynrychioli’r llywodraethau sy’n cefnogi’r gyfundrefn honno. Ar amser mae Duw wedi ei benodi, bydd y grymoedd gwleidyddol hynny yn ymosod ar Fabilon Fawr. “Byddan nhw yn ei dinistrio hi’n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth” drwy ysbeilio ei chyfoeth a dinoethi ei drygioni. (Dat. 17:3, 16) Bydd y dinistr hwn mor sydyn nes iddo deimlo ei fod wedi digwydd mewn un diwrnod. Bydd hyn yn sioc i’r rhai sydd wedi ei chefnogi, ac yn enwedig am iddi frolio: “Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd; fydda i ddim yn weddw, a fydd dim rhaid i mi alaru byth!”—Dat. 18:7, 8.

12. Beth na fydd Jehofa’n gadael i’r cenhedloedd ei wneud, a pham ddim?

12 Ni fydd Duw yn gadael i’r cenhedloedd ddinistrio ei bobl. Maen nhw’n falch o fod yn bobl iddo, ac maen nhw wedi ufuddhau i’w orchymyn i ffoi rhag Babilon Fawr. (Act. 15:16, 17; Dat. 18:4) Maen nhw hefyd wedi helpu eraill i ffoi rhagddi. Felly, fydd gweision Jehofa ddim yn derbyn “y plâu fydd yn dod i’w chosbi hi.” Ond eto, bydd eu ffydd yn cael ei phrofi.

Ble bynnag y byddan nhw ar y ddaear, bydd pobl Dduw yn ymddiried ynddo pan fydd yr ymosodiad yn dechrau (Gweler paragraff 13) *

13. (a) Pwy yw Gog? (b) Yn ôl Eseciel 38:2, 8, 9, beth fydd yn achosi i Gog ymosod ar bobl Dduw?

13 Ymosodiad Gog. (Darllen Eseciel 38:2, 8, 9.) Ar ôl i Jehofa ddinistrio’r gau grefyddau i gyd, dim ond un grefydd fydd ar y ddaear. Gweision Jehofa yn unig fydd ar ôl. Wrth gwrs, bydd hyn yn gwylltio Satan. Bydd yn dangos ei ddicter drwy ddefnyddio ‘tri ysbryd drwg,’ sef propaganda cythreulig, er mwyn achosi i grŵp o genhedloedd ymosod ar bobl Jehofa. (Dat. 16:13, 14) Gelwir y grŵp hwnnw o genhedloedd yn “Gog o dir Magog.” Pan fydd y cenhedloedd yn ymosod ar bobl Jehofa, byddan nhw wedi cyrraedd y lle symbolaidd o’r enw Armagedon.—Dat. 16:16.

14. Beth bydd Gog yn ei sylweddoli?

14 Bydd Gog yn ymddiried yn ei ‘gryfder dynol’—ei fyddinoedd milwrol. (2 Cron. 32:8) Byddwn ni’n ymddiried yn ein Duw, Jehofa—safiad a fydd yn ymddangos yn ffôl yng ngolwg y cenhedloedd. Pam? Oherwydd roedd Babilon Fawr yn bwerus, ond ni wnaeth ei duwiau ei hachub hi rhag yr “anghenfil” a’i ‘ddeg corn’! (Dat. 17:16) Felly, bydd Gog yn disgwyl buddugoliaeth rwydd. Bydd yn “dod fel cwmwl du dros y wlad,” ac yn ymosod ar bobl Jehofa. (Esec. 38:16) Ond yna bydd Gog yn sylweddoli ei fod wedi cael ei ddal mewn magl. Yn debyg i Pharo wrth y Môr Coch, bydd Gog yn sylweddoli ei fod yn brwydro yn erbyn Jehofa.—Ex. 14:1-4; Esec. 38:3, 4, 18, 21-23.

15. Beth bydd Iesu’n ei wneud yn ystod rhyfel Armagedon?

15 Bydd Crist a’i fyddinoedd nefol yn amddiffyn pobl Dduw ac yn dinistrio’r cenhedloedd a’u byddinoedd yn llwyr. (Dat. 19:11, 14, 15) Ond beth fydd yn digwydd i Satan, prif elyn Jehofa, a ddywedodd gelwyddau i’r cenhedloedd a’u harwain at Armagedon? Bydd Iesu yn taflu ef a’i gythreuliaid i bydew diwaelod, lle y byddan nhw’n cael eu caethiwo am fil o flynyddoedd.—Dat. 20:1-3.

SUT GELLI DI GAEL DY ACHUB YN YSTOD ARMAGEDON?

16. (a) Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n “nabod Duw”? (b) Beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n adnabod Jehofa yn ystod rhyfel Armagedon?

16 P’un a ydyn ni wedi bod yn y gwirionedd am lawer o flynyddoedd neu beidio, i gael ein hachub yn ystod Armagedon, bydd rhaid inni ddangos ein bod “yn nabod Duw” ac yn ufuddhau i’r “newyddion da am Iesu, ein Harglwydd.” (2 Thes. 1:7-9) Rydyn ni’n “nabod Duw” pan fyddwn ni’n gwybod am ei hoff bethau, ei gas bethau, a’i safonau. Rydyn ni hefyd yn dangos ein bod ni’n ei adnabod pan fyddwn ni’n ei garu, yn ufuddhau iddo, ac yn ei addoli ef yn unig. (1 Ioan 2:3-5; 5:3) O ddangos ein bod ni’n adnabod Duw, cawn yr anrhydedd o gael ‘ein hadnabod gan Dduw,’ a fydd yn achub ein bywydau yn ystod Armagedon! (1 Cor. 8:3, BCND) Sut felly? Oherwydd gall cael ‘ein hadnabod gan Dduw’ olygu ei fod ef yn ein cymeradwyo.

17. Beth mae’n ei olygu i ufuddhau i’r “newyddion da am Iesu, ein Harglwydd”?

17 Mae’r “newyddion da am Iesu, ein Harglwydd” yn cynnwys dysgeidiaethau Iesu, sydd yng Ngair Duw. Rydyn ni’n ufuddhau i’r newyddion da pan fyddwn ni’n ei roi ar waith yn ein bywydau. Mae’r ufudd-dod hwnnw yn cynnwys rhoi gwasanaeth Jehofa yn gyntaf yn ein bywydau, byw yn ôl safonau cyfiawn Duw, a phregethu am Deyrnas Dduw. (Math. 6:33; 24:14) Mae hefyd yn cynnwys cefnogi brodyr eneiniog Crist wrth iddyn nhw wneud eu gwaith pwysig.—Math. 25:31-40.

18. Ym mha ffordd y bydd brodyr eneiniog Crist yn gallu gwobrwyo’r defaid eraill?

18 Yn fuan bydd gweision eneiniog Duw yn gallu gwobrwyo’r ‘defaid eraill’ am bopeth maen nhw wedi ei wneud i helpu’r rhai eneiniog. (Ioan 10:16) Sut felly? Cyn i ryfel Armagedon gychwyn, bydd pob un o’r 144,000 wedi cael ei gymryd i’r nefoedd i fod yn ysbryd greadur anfarwol. Yna, byddan nhw’n rhan o’r byddinoedd nefol a fydd yn dinistrio Gog ac yn amddiffyn tyrfa fawr o bobl Jehofa. (Dat. 2:26, 27; 7:9, 10) Yn wir, bydd y dyrfa fawr yn hapus iawn eu bod nhw wedi cael rhan yn cefnogi gweision eneiniog Jehofa tra oedd y rhai hyn yn dal i fod ar y ddaear!

SUT GALLWN NI AROS YN FFYDDLON WRTH I’R DIWEDD AGOSÁU?

19-20. Er gwaethaf ein treialon, sut gallwn ni aros yn ffyddlon wrth i Armagedon agosáu?

19 Yn ystod y dyddiau diwethaf anodd hyn, mae llawer o bobl Jehofa yn wynebu treialon. Er hynny, gallwn ddyfalbarhau gyda llawenydd. (Iago 1:2-4) Un peth a fydd yn ein helpu yw parhau i weddïo o’r galon. (Luc 21:36) Yn ogystal â gweddïo, dylen ni astudio Gair Duw a myfyrio arno bob dydd, gan gynnwys ei broffwydoliaethau rhyfeddol am bethau a fydd yn digwydd yn fuan. (Salm 77:12) Bydd y gweithgareddau hyn, ynghyd â gwneud ein gorau yn y weinidogaeth, yn cadw ein ffydd yn gryf a’n gobaith yn fyw!

20 Meddylia pa mor hapus y byddi di pan fydd Babilon Fawr wedi cael ei dinistrio a phan fydd Armagedon drosodd! Yn bwysicach, dychmyga dy lawenydd pan fydd pawb yn parchu enw Duw a’i hawl i reoli! (Esec. 38:23) Yn sicr, mae Armagedon yn newyddion da i’r rhai sy’n adnabod Duw, yn ufuddhau i’w Fab, ac yn dyfalbarhau i’r diwedd.—Math. 24:13.

CÂN 143 Gweithiwn, Gwyliwn, a Disgwyliwn

^ Par. 5 Mae pobl Jehofa wedi bod yn disgwyl am Armagedon am amser hir. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod beth yw Armagedon, beth fydd yn digwydd cyn Armagedon, a sut gallwn ni aros yn ffyddlon wrth i’r diwedd agosáu.

^ Par. 71 DISGRIFIAD O’R LLUN: Bydd pethau dramatig yn digwydd o’n cwmpas. Byddwn ni (1) yn cael rhan yn y weinidogaeth cyhyd ag y bo modd, (2) yn cadw at ein rhaglen o astudiaeth, a (3) yn parhau i ymddiried yn Nuw i’n hamddiffyn.

^ Par. 85 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r heddlu yn paratoi i dorri i mewn i dŷ teulu Cristnogol sy’n hyderus fod Iesu a’i angylion yn ymwybodol o beth sy’n digwydd.