Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 38

“Dewch Ata i, . . . a Rhof i Orffwys i Chi”

“Dewch Ata i, . . . a Rhof i Orffwys i Chi”

“Dewch ata i, bawb sy’n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.”—MATH. 11:28.

CÂN 17 Gad Imi Dy Helpu

CIPOLWG *

1. Fel y cofnodwyd yn Mathew 11:28-30, pa addewid a roddodd Iesu?

RHODDODD Iesu addewid hyfryd i dyrfa o bobl a oedd yn gwrando arno. “Dewch ata i,” meddai, “a rhof i orffwys i chi.” (Darllen Mathew 11:28-30.) Nid geiriau gwag mo’r rhain. Meddylia, er enghraifft, am beth wnaeth ef i helpu dynes a oedd yn dioddef oherwydd salwch difrifol.

2. Sut gwnaeth Iesu helpu dynes a oedd yn sâl?

2 Roedd angen help mawr ar y ddynes hon. Roedd hi wedi mynd i weld llawer o feddygon yn y gobaith y byddai hi’n cael ei hiacháu. Roedd hi wedi bod yn dioddef am 12 mlynedd, ond doedd neb yn gallu ei helpu. Yn ôl y Gyfraith, roedd hi’n aflan. (Lef. 15:25) Yna y clywodd hi fod Iesu yn gallu iacháu pobl a oedd yn dioddef, felly, ceisiodd hi ddod o hyd iddo. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma hi’n cyffwrdd ag ymyl ei fantell a chael ei hiacháu yn syth! Ond fe wnaeth Iesu fwy na iacháu ei chorff—adferodd ei hurddas. Er enghraifft, wrth ei chyfarch, dangosodd ei fod yn ei charu a’i pharchu drwy ei galw hi’n “wraig annwyl.” Heb os, cafodd y ddynes honno ei hadfywio a’i chryfhau!—Luc 8:43-48.

3. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hateb?

3 Sylwa fod y ddynes wedi mynd at Iesu. Hi a gymerodd y cam cyntaf. Mae’r un peth yn wir heddiw—mae’n rhaid i ninnau wneud yr ymdrech i fynd at Iesu. Yn ein dyddiau ni, dydy Iesu ddim yn iacháu yn gorfforol y rhai sy’n dod ato. Ond mae’n dal i estyn y gwahoddiad: “Dewch ata i, . . . a rhof i orffwys i chi.” Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ateb pum cwestiwn: Sut gallwn ni fynd at Iesu? Beth roedd Iesu yn ei olygu pan ofynnodd inni gymryd ei iau? Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Iesu? Pam mae’r gwaith y mae ef wedi ei roi inni yn ein hadfywio? A sut gallwn ni barhau i gael ein hadfywio o dan iau Iesu?

“DEWCH ATA I”

4-5. Beth yw rhai o’r ffyrdd y gallwn ni fynd at Iesu?

4 Un ffordd o fynd at Iesu yw dysgu cymaint ag y gallwn ni am y pethau a ddywedodd ac a wnaeth. (Luc 1:1-4) Ni all neb wneud hyn droson ni—mae’n rhaid inni astudio’r hanesion hyn droson ni’n hunain. Hefyd, rydyn ni’n mynd at Iesu drwy benderfynu cael ein bedyddio a dod yn ddisgyblion i Grist.

5 Ffordd arall o fynd at Iesu yw gofyn i’r henuriaid am help pan fo angen. Mae Iesu yn defnyddio’r brodyr hyn i ofalu am ei ddefaid. (Eff. 4:7, 8, 11; Ioan 21:16; 1 Pedr 5:1-3) Mae’n rhaid inni achub y blaen a gofyn am eu help. Allwn ni ddim disgwyl i’r henuriaid ddarllen ein meddyliau a gwybod beth sydd ei angen arnon ni. Rho sylw i’r hyn mae brawd o’r enw Julian yn ei ddweud: “Roedd yn rhaid imi adael fy aseiniad Bethel oherwydd salwch, ac awgrymodd un o’m ffrindiau y dylwn i ofyn am alwad fugeiliol. Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn meddwl bod angen ymweliad arna’ i. Ond wedyn, gofynnais am help, a’r ymweliad hwnnw oedd un o’r anrhegion gorau imi ei chael erioed.” Gall henuriaid ffyddlon, fel y rhai a aeth i weld Julian, ein helpu i ddeall meddwl Crist. (1 Cor. 2:16; 1 Pedr 2:21) Dyma’n wir yw un o’r anrhegion gorau y gallan nhw ei rhoi inni.

“DEWCH GYDA MI O DAN FY IAU”

6. Beth roedd Iesu yn ei olygu pan ddywedodd: “Dewch gyda mi o dan fy iau”?

6 Pan ddywedodd Iesu: “Dewch gyda mi o dan fy iau,” gallai fod wedi golygu “Derbyniwch fy awdurdod.” Gallai hefyd fod wedi golygu “Dewch o dan yr iau gyda mi, ac fe wnawn ni weithio i Jehofa gyda’n gilydd.” Naill ffordd neu’r llall, mae’r iau yn golygu gwaith.

7. Yn ôl Mathew 28:18-20, pa waith sydd wedi cael ei roi inni, a beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

7 Rydyn ni’n derbyn gwahoddiad Iesu pan fyddwn ni’n cysegru ein bywydau i Jehofa a chael ein bedyddio. Mae’r gwahoddiad hwn yn agored i bawb—fydd Iesu byth yn gwrthod rhywun diffuant sydd eisiau gwasanaethu Duw. (Ioan 6:37, 38) Mae pob un o ddilynwyr Crist wedi cael y fraint o rannu yn y gwaith yr oedd Jehofa wedi gofyn i Iesu ei wneud. Gallwn fod yn sicr y bydd Iesu gyda ni drwy’r amser i’n helpu ni i wneud y gwaith hwnnw.—Darllen Mathew 28:18-20.

“ER MWYN I CHI DDYSGU GEN I”

Adfywia eraill fel y gwnaeth Iesu (Gweler paragraffau 8-11) *

8-9. Pam roedd pobl ostyngedig yn cael eu denu at Iesu, a pha gwestiynau y dylen ni eu gofyn i ni’n hunain?

8 Roedd pobl ostyngedig yn cael eu denu at Iesu. (Math. 19:13, 14; Luc 7:37, 38) Pam? Meddylia am y gwahaniaeth rhwng Iesu a’r Phariseaid. Roedd yr arweinwyr crefyddol hynny’n oeraidd ac yn ffroenuchel. (Math. 12:9-14) Roedd Iesu yn gariadus ac yn ostyngedig. Roedd y Phariseaid yn uchelgeisiol ac yn falch o’u statws mewn cymdeithas. Dywedodd Iesu mai peth drwg yw bod fel ’na. Dysgodd ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac i wasanaethu eraill. (Math. 23:2, 6-11) Roedd y Phariseaid yn arglwyddiaethu ar eraill ac yn codi ofn arnyn nhw. (Ioan 9:13, 22) Roedd Iesu yn adfywio eraill drwy weithredoedd a geiriau caredig.

9 Wyt ti wedi dysgu’r gwersi hyn oddi wrth Iesu? Gofynna i ti dy hun: ‘Oes gen i enw da am fod yn addfwyn ac yn ostyngedig? Ydw i’n hapus i wneud gwaith sy’n syml er mwyn gwasanaethu eraill? Ydw i’n garedig wrth eraill?’

10. Sut brofiad oedd gweithio gyda Iesu?

10 Roedd Iesu wedi creu awyrgylch braf a chroesawgar ar gyfer ei gyd-weithwyr, ac roedd wrth ei fodd yn eu hyfforddi nhw. (Luc 10:1, 19-21) Roedd yn annog ei ddisgyblion i ofyn cwestiynau, ac roedd clywed eu barn yn bwysig iddo. (Math. 16:13-16) Yn debyg i blanhigion mewn tŷ gwydr, gwnaeth y disgyblion ffynnu. Roedden nhw’n talu sylw i’r hyn a ddysgodd Iesu iddyn nhw ac yn dwyn ffrwyth drwy eu gweithredoedd da.

Bydda’n rhywun hawdd ymwneud ag ef

Bydda’n selog

Bydda’n ostyngedig ac yn weithgar *

11. Pa gwestiynau y dylen ni eu gofyn i ni’n hunain?

11 A oes gen ti awdurdod dros eraill? Os oes gen ti, gofynna i ti dy hun: ‘Pa fath o awyrgylch yr ydw i’n ei greu yn y gwaith neu yn y cartref? Ydw i’n hyrwyddo heddwch? Ydw i’n annog eraill i ofyn cwestiynau? Ydw i’n fodlon gwrando ar eu barn?’ Dydyn ni byth eisiau bod fel y Phariseaid, a oedd yn digio wrth y rhai a ofynnodd gwestiynau iddyn nhw ac yn erlid y rhai a oedd yn meddwl mewn ffordd wahanol iddyn nhw.—Marc 3:1-6; Ioan 9:29-34.

“A CHEWCH CHI ORFFWYS”

12-14. Pam mae’r gwaith a roddwyd inni gan Iesu yn ein hadfywio?

12 Pam mae gwneud y gwaith a roddwyd inni gan Iesu yn ein hadfywio ni? Mae ’na lawer o resymau, ond rho sylw i ambell un.

13 Mae gennyn ni’r arolygwyr gorau. Dydy ein Prif Arolygwr, Jehofa, ddim yn feistr llym nac yn ddiddiolch. Mae’n gwerthfawrogi ein gwaith. (Heb. 6:10) Ac mae’n rhoi’r nerth rydyn ni’n ei angen i ofalu am ein cyfrifoldebau. (2 Cor. 4:7; Gal. 6:5) Mae Iesu, ein Brenin, yn gosod yr esiampl. (Ioan 13:15) Ac mae’r henuriaid sy’n ein bugeilio ni yn ceisio efelychu Iesu, y “Bugail mawr.” (Heb. 13:20; 1 Pedr 5:2) Maen nhw’n gwneud eu gorau i fod yn garedig, yn galonogol, ac yn ddewr wrth iddyn nhw ein bwydo a’n hamddiffyn.

14 Mae gennyn ni’r ffrindiau gorau. Does gan neb arall y ffrindiau cariadus na’r un pwrpas mewn bywyd ag sydd gennyn ni. Meddylia: Ein braint ni yw gweithio gyda brodyr a chwiorydd sydd â’r safonau moesol uchaf ond eto sydd ddim yn hunangyfiawn. Maen nhw’n dalentog ond yn wylaidd, ac maen nhw’n ystyried pobl eraill yn uwch na nhw eu hunain. Yn eu golwg nhw, ffrindiau ydyn ni, nid jest cyd-weithwyr. Ac mae eu cariad tuag aton ni mor gryf fel eu bod nhw’n fodlon marw droson ni!

15. Sut dylen ni deimlo am y gwaith rydyn ni’n ei wneud?

15 Mae gennyn ni’r gwaith gorau. Rydyn ni’n dysgu pobl y gwirionedd am Jehofa ac yn dinoethi celwyddau’r Diafol. (Ioan 8:44) Mae Satan yn llethu pobl â beichiau trwm nad ydyn nhw’n gallu eu cario. Er enghraifft, mae ef eisiau inni gredu na fydd Jehofa yn maddau inni am ein pechodau ac mae eisiau inni deimlo nad ydyn ni’n haeddu cael ein caru. Am gelwyddau ofnadwy sy’n gwneud i bobl deimlo’n hynod o ddigalon! Pan fyddwn ni’n mynd at Grist, mae ein pechodau yn cael eu maddau. Y gwir amdani yw y mae Jehofa yn caru pob un ohonon ni’n fawr iawn. (Rhuf. 8:32, 38, 39) Mae helpu pobl i ddibynnu ar Jehofa a’u gweld nhw’n gwella eu bywydau yn dod â llawenydd mawr inni!

DAL ATI I GAEL DY ADFYWIO O DAN IAU IESU

16. Sut mae’r cyfrifoldebau y mae Iesu yn gofyn inni eu hysgwyddo yn wahanol i gyfrifoldebau eraill?

16 Mae’r cyfrifoldebau y mae Iesu yn gofyn inni eu hysgwyddo yn wahanol i gyfrifoldebau eraill. Er enghraifft, ar ddiwedd diwrnod o waith seciwlar, mae llawer wedi blino’n lân ac yn teimlo’n anfodlon eu byd. Ar y llaw arall, ar ôl treulio amser yn gwasanaethu Jehofa a Christ, mae ’na deimlad o foddhad. Efallai ein bod ni wedi ymlâdd ar ôl diwrnod o waith ac mae’n cymryd ymdrech fawr i fynd i’r cyfarfod y noson honno. Ond, yn aml, byddwn yn dod adref ar ôl y cyfarfod wedi ein hadfywio. Mae’r un peth yn wir pan wnawn ni ymdrech i bregethu neu i wneud ein hastudiaeth bersonol. Mae’r bendithion a gawn yn llawer mwy na’r ymdrech!

17. Pam y mae’n rhaid inni fod yn realistig ac yn ofalus?

17 Mae’n rhaid inni fod yn realistig. Dim ond hyn a hyn o egni sydd gan bob un. Felly, mae’n rhaid inni fod yn ofalus beth rydyn ni’n ceisio ei wneud. Er enghraifft, gallwn wastraffu egni drwy gasglu eiddo materol. Sylwa ar beth ddywedodd Iesu wrth ddyn ifanc cyfoethog a ofynnodd: “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” Roedd y dyn ifanc eisoes yn ufuddhau i’r Gyfraith. Mae’n rhaid ei fod yn ddyn da oherwydd y mae Efengyl Marc yn dweud bod “Iesu wedi hoffi’r dyn yn fawr.” Rhoddodd Iesu wahoddiad i’r rheolwr ifanc. “Dos, a gwertha dy eiddo i gyd,” meddai Iesu, “yna tyrd, dilyn fi.” Roedd y dyn mewn cyfyng-gyngor, roedd eisiau dilyn Iesu, ond yn methu gadael ei eiddo “am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.” (Marc 10:17-22) O ganlyniad, fe wrthododd yr iau a gynigiodd Iesu iddo a pharhaodd i fod yn was “i arian.” (Math. 6:24) Pa ddewis byddet ti wedi ei wneud?

18. Beth dylen ni ei wneud o bryd i’w gilydd, a pham?

18 O dro i dro, peth da yw meddwl am beth rydyn ni’n ei roi yn y lle cyntaf yn ein bywydau. Pam? Fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni’n defnyddio ein hegni mewn ffordd ddoeth. Ystyria beth mae dyn ifanc o’r enw Mark yn ei ddweud: “Am flynyddoedd lawer, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n byw bywyd syml. Roeddwn i’n arloesi, ond eto roedd arian a gwneud bywyd yn gyffyrddus yn wastad ar fy meddwl. Roeddwn i’n ceisio deall pam roedd fy mywyd yn anodd. Yna, dyma fi’n sylweddoli fy mod i’n ceisio fy muddiannau fy hun yn gyntaf ac yn rhoi i Jehofa yr amser a’r egni oedd gen i ar ôl.” Newidiodd Mark ei ffordd o feddwl a’i ffordd o fyw er mwyn iddo allu gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. “Weithiau, dw i’n poeni am arian,” meddai Mark, “ond efo cefnogaeth Jehofa ac Iesu, dw i’n gallu canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa.”

19. Pam y mae cael yr agwedd iawn yn bwysig?

19 Fe wnawn ni barhau i gael ein hadfywio o dan iau Iesu os gwnawn ni dri pheth. Yn gyntaf, cadwa’r agwedd iawn. Gwneud gwaith Jehofa yr ydyn ni, felly mae’n rhaid gwneud hynny yn ffordd Jehofa. Ni yw’r gweithwyr, a Jehofa yw’r Meistr. (Luc 17:10) Os ceisiwn wneud ei waith ef yn ein ffordd ni, fe fyddwn ni’n tynnu’n erbyn yr iau. Mae hyd yn oed ychen cryf yn debyg o’u brifo eu hunain a diffygio os byddan nhw’n ceisio tynnu’n groes a brwydro yn erbyn yr iau y mae eu meistr yn ei reoli. Ar y llaw arall, gallwn wneud pethau anhygoel a dod dros unrhyw rwystr os dilynwn arweiniad Jehofa. Cofia nad oes neb yn gallu stopio ei ewyllys rhag cael ei gyflawni!—Rhuf. 8:31; 1 Ioan 4:4.

20. Beth ddylai ein cymell i fynd o dan iau Iesu?

20 Yn ail, gweithreda gyda’r cymhelliad cywir. Ein bwriad yw dod â chlod i’n Tad cariadus, Jehofa. Gwnaeth y rhai yn y ganrif gyntaf a oedd wedi eu cymell gan drachwant neu hunanoldeb droi’n anhapus a gadael iau Iesu. (Ioan 6:25-27, 51, 60, 66; Phil. 3:18, 19) I’r gwrthwyneb, roedd y rhai a gafodd eu cymell gan eu cariad anhunanol tuag at Dduw a chymydog yn hapus i fynd o dan yr iau honno drwy gydol eu bywydau ar y ddaear, ac roedd ganddyn nhw’r gobaith o wasanaethu gyda Christ yn y nefoedd. Yn yr un modd, byddwn ninnau’n aros yn hapus drwy fynd o dan iau Iesu gyda’r bwriadau cywir.

21. Yn ôl Mathew 6:31-33, beth gallwn ni ddisgwyl y bydd Jehofa yn ei wneud?

21 Yn drydydd, cael y disgwyliadau cywir. Rydyn ni wedi dewis bywyd o hunanaberth a gwaith caled. Cawson ni’n rhybuddio gan Iesu y bydden ni’n wynebu erledigaeth. Ond fe allwn ni ddisgwyl y bydd Jehofa yn rhoi inni’r nerth er mwyn dyfalbarhau drwy unrhyw her. Y mwyaf yr ydyn ni’n dyfalbarhau, y cryfaf y byddwn ni’n dod. (Iago 1:2-4) Gallwn hefyd ddisgwyl y bydd Jehofa yn darparu ar ein cyfer ni, ac y bydd Iesu yn ein bugeilio ni, ac y bydd ein brodyr a’n chwiorydd yn ein hannog ni. (Darllen Mathew 6:31-33; Ioan 10:14; 1 Thes. 5:11) Oes gwir angen unrhyw beth arall arnon ni?

22. Am beth rydyn ni’n ddiolchgar?

22 Ar yr union ddiwrnod y cafodd y ddynes ei hiacháu gan Iesu, fe gafodd hi ei hadfywio. Ond fe fyddai hi’n cael ei hadfywio’n barhaol dim ond pe byddai hi’n dod yn ddisgybl ffyddlon i Grist. Beth rwyt ti’n ei feddwl a wnaeth hi? Petasai hi wedi dewis mynd o dan iau Iesu, dychmyga’r wobr—gwasanaethu gyda Iesu yn y nefoedd! Byddai unrhyw aberth roedd hi wedi ei wneud er mwyn dilyn Crist yn werth yr ymdrech. Dim ots beth yw ein gobaith—byw am byth ar y ddaear neu yn y nefoedd—gallwn fod yn ddiolchgar ein bod ni wedi derbyn gwahoddiad Crist: “Dewch ata i”!

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

^ Par. 5 Mae Iesu yn ein gwahodd ni i fynd ato. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i dderbyn y gwahoddiad? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw, a bydd yn ein hatgoffa o sut gallwn ni gael ein hadfywio drwy gydweithio â Christ.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwnaeth Iesu adfywio eraill mewn nifer o wahanol ffyrdd.

^ Par. 66 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn debyg i Iesu, mae brawd yn adfywio eraill mewn amryw ffyrdd.