Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 35

Mae Jehofa yn Trysori’r Gostyngedig

Mae Jehofa yn Trysori’r Gostyngedig

“Er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae’n gofalu am y gwylaidd.”—SALM 138:6.

CÂN 48 Cerdded Gyda Jehofa Bob Dydd

CIPOLWG *

1. Sut mae Jehofa yn teimlo am bobl ostyngedig? Esbonia.

MAE Jehofa yn caru pobl ostyngedig. Dim ond pobl wirioneddol ostyngedig sy’n gallu cael perthynas glòs a chariadus ag ef. Ar y llaw arall, “mae’n gwybod o bell am y balch.” (Salm 138:6) Rydyn ni i gyd eisiau plesio Jehofa ac eisiau iddo fod yn agos aton ni, felly mae gennyn ni resymau da dros ddysgu bod yn ostyngedig.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod yr atebion i dri chwestiwn: (1) Beth yw gostyngeiddrwydd? (2) Pam dylen ni feithrin y rhinwedd honno? (3) Pa bryd y mae hi’n anodd inni fod yn ostyngedig? Fel y gwelwn ni, pan fyddwn ni’n meithrin gostyngeiddrwydd, rydyn ni’n gwneud i galon Jehofa lawenhau ac yn elwa’n bersonol.—Diar. 27:11; Esei. 48:17.

BETH YW GOSTYNGEIDDRWYDD?

3. Beth yw gostyngeiddrwydd?

3 Nid yw person gostyngedig yn meddwl ei fod yn fwy pwysig nag eraill. Nid yw’n falch. Mae’r Beibl yn dweud bod gan rywun gostyngedig yr agwedd gywir tuag at ei berthynas â Jehofa a phobl eraill. Mae’r person gostyngedig yn cydnabod bod pawb arall yn well nag ef mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.—Phil. 2:3, 4.

4-5. Pam gallwn ni ddweud nad yw gwir ostyngeiddrwydd yn rhywbeth arwynebol?

4 Mae rhai pobl yn rhoi’r argraff eu bod nhw’n ostyngedig ond dydyn nhw ddim mewn gwirionedd. Efallai eu bod nhw’n swil o ran personoliaeth. Neu eu bod nhw efallai’n dangos parch tuag at eraill oherwydd eu diwylliant a’u magwraeth. Ond, o dan y wyneb, gallen nhw fod yn llawn balchder. Yn hwyr neu’n hwyrach, byddan nhw’n datgelu pa fath o bobl ydyn nhw ar y tu mewn.—Luc 6:45.

5 Ar y llaw arall, mae eraill yn ymddangos yn hyderus ac yn dweud yr hyn sydd ar eu meddwl, ond dydy hynny ddim yn eu gwneud nhw’n bobl falch. (Ioan 1:46, 47) Ond eto, dylai rhai fel hynny fod yn ofalus i beidio â dibynnu ar eu galluoedd. Ni waeth pa bersonoliaeth sydd gennyn ni, mae’n rhaid i bob un ohonon ni weithio’n galed i fod yn wirioneddol ostyngedig.

Roedd yr apostol Paul yn ostyngedig a doedd ddim yn meddwl ei fod ef ei hun yn bwysig (Gweler paragraff 6) *

6. Fel mae 1 Corinthiaid 15:10 yn ei ddangos, beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl yr apostol Paul?

6 Ystyria esiampl yr apostol Paul. Cafodd ei ddefnyddio’n fawr iawn gan Jehofa i sefydlu cynulleidfaoedd newydd mewn un ddinas ar ôl y llall. Mae’n debyg iddo wneud mwy yn y weinidogaeth nag unrhyw un o apostolion Iesu Grist. Ond eto, doedd Paul ddim yn meddwl ei fod yn well na’i frodyr. Dywedodd: “Fi ydy’r un lleia pwysig o’r holl rai ddewisodd y Meseia i’w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu’r enw ‘apostol’, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw.” (1 Cor. 15:9) Yna, roedd Paul yn ddigon gostyngedig i ddweud bod ganddo berthynas dda â Jehofa, nid oherwydd ei rinweddau a’i weithredoedd ef ei hun, ond oherwydd cariad anhaeddiannol Duw. (Darllen 1 Corinthiaid 15:10.) Gosododd Paul esiampl dda o sut i fod yn ostyngedig. Pan ysgrifennodd ei lythyr at y Cristnogion yng Nghorinth, doedd byth yn brolio amdano’i hun, er bod rhai yn y gynulleidfa yn ei feirniadu.—2 Cor. 10:10.

Karl F. Klein, brawd gostyngedig a wasanaethai ar y Corff Llywodraethol (Gweler paragraff 7)

7. Sut mae rhai brodyr adnabyddus yn y cyfnod modern wedi dangos gostyngeiddrwydd? Rho esiampl.

7 Mae llawer o bobl Jehofa wedi cael eu hannog gan hanes bywyd y brawd Karl F. Klein, a oedd yn aelod o’r Corff Llywodraethol. Wrth adrodd ei hanes, mae’r brawd Klein yn ostyngedig iawn wrth siarad yn agored am ei wendidau a’r problemau a gafodd yn ei fywyd. Er enghraifft, ceisiodd bregethu o dŷ i dŷ am y tro cyntaf ym 1922. Roedd y profiad mor anodd fel na aeth allan yn y weinidogaeth am ryw ddwy flynedd arall. Yn ddiweddarach, tra oedd yn gwasanaethu yn y Bethel, roedd yn dal dig am gyfnod yn erbyn brawd a oedd wedi rhoi cyngor iddo. Hefyd, fe chwalodd ei nerfau, ond llwyddodd i ddod dros hynny yn y pen draw. Ond eto, fe gafodd lawer o aseiniadau cyffrous a phwysig. Dychmyga’r gostyngeiddrwydd yr oedd ei angen ar frawd mor adnabyddus i gyfaddef ei wendidau yn hollol agored! Mae llawer o frodyr a chwiorydd wedi mwynhau darllen hanes bywyd y brawd Klein a oedd mor onest ac apelgar. *

PAM DYLEN NI FEITHRIN GOSTYNGEIDDRWYDD?

8. Sut mae 1 Pedr 5:6 yn ein helpu i ddeall bod gostyngeiddrwydd yn plesio Jehofa?

8 Y rheswm pwysicaf dros fod yn ostyngedig yw oherwydd ei fod yn plesio Jehofa. Esboniodd yr apostol Pedr hyn yn glir iawn. (Darllen 1 Pedr 5:6.) Wrth gyfeirio at eiriau Pedr, mae’r llyfr Come Be My Follower yn dweud: “Gwenwyn yw balchder. Gall yr effaith fod yn beryglus iawn. Mae person sy’n hynod o alluog ond eto’n falch yn dda i ddim i Dduw. Ar y llaw arall, mae person sydd ag ychydig o allu yn unig yn gallu bod yn werthfawr iawn i Jehofa os yw ef neu hi’n ostyngedig. Bydd Jehofa yn hapus i dy wobrwyo di os wyt ti’n ostyngedig.” * Yn wir, y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw gwneud Jehofa yn hapus!—Diar. 23:15.

9. Sut mae gostyngeiddrwydd yn denu pobl aton ni?

9 Yn ogystal â phlesio Jehofa, rydyn ni’n elwa’n fawr o feithrin gostyngeiddrwydd. Os ydyn ni’n ostyngedig, bydd pobl eraill eisiau bod yn agos aton ni. Er mwyn deall pam, rho dy hun yn eu sefyllfa nhw. (Math. 7:12) Dydy’r rhan fwyaf ohonon ni ddim yn mwynhau treulio amser gyda rhywun sy’n mynnu cael ei ffordd ei hun drwy’r amser ac yn gwrthod gwrando ar awgrymiadau pobl eraill. I’r gwrthwyneb, cawn ein hadfywio o dreulio amser gyda brodyr sy’n dilyn y cyngor hwn: “Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig.” (1 Pedr 3:8) Rydyn ni’n mwynhau bod yng nghwmni pobl ostyngedig ac mae nhwthau’n mwynhau bod yn ein cwmni ni—cyn belled ag yr ydyn ni’n ostyngedig.

10. Sut mae gostyngeiddrwydd yn gwneud ein bywyd yn haws?

10 Hefyd, mae gostyngeiddrwydd yn gwneud ein bywyd yn haws. Ar adegau, byddwn ni’n gweld neu’n profi pethau sy’n ymddangos yn anghywir neu’n annheg. Cydnabyddodd y brenin Solomon: “Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylau a thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.” (Preg. 10:7) Dydy’r rhai sydd yn hynod o alluog ddim bob amser yn derbyn clod. Ac weithiau mae pobl sy’n llai talentog yn derbyn mwy o anrhydedd. Er hynny, cyngor Solomon oedd inni dderbyn bywyd fel y mae ac inni beidio â chynhyrfu ynglŷn ag amgylchiadau negyddol bywyd. (Preg. 6:9) Os ydyn ni’n ostyngedig, fe fydd hi’n haws inni dderbyn bywyd fel y mae—nid fel y dylai fod yn ein tyb ni.

PRYD MAE HI’N ANODD I FOD YN OSTYNGEDIG?

Sut gall sefyllfaoedd fel hwn roi ein gostyngeiddrwydd o dan brawf? (Gweler paragraffau 11-12) *

11. Sut dylen ni ymateb pan fyddwn ni’n cael cyngor?

11 Mae pob diwrnod yn rhoi cyfle inni ddangos ein bod ni’n ostyngedig. Dyma rai enghreifftiau. Pan fyddwn ni’n cael cyngor. Cofia, petai rhywun yn cymryd yr amser i’n rhoi ni ar ben ffordd, mae’n debyg ein bod ni wedi mynd ar gyfeiliorn yn fwy nag yr ydyn ni’n sylweddoli. Ar adegau o’r fath, ein hymateb cyntaf efallai yw gwrthod y cyngor. Y peryg hefyd yw y bydden ni’n beirniadu’r unigolyn sy’n rhoi’r cyngor neu’r ffordd y rhoddodd y cyngor. Ond os ydyn ni’n ostyngedig, byddwn ni’n gwneud ymdrech i ddangos yr agwedd gywir.

12. Yn ôl Diarhebion 27:5, 6, pam dylen ni fod yn ddiolchgar wrth rywun sydd wedi rhoi cyngor inni? Esbonia.

12 Mae person gostyngedig yn gwerthfawrogi cyngor. Er enghraifft: Dychmyga dy fod ti yn y cyfarfod. Ar ôl bod yn siarad â rhai o’r brodyr, mae un ohonyn nhw’n dweud wrthyt ti’n ddistaw bach fod gen ti ychydig o fwyd ar dy ddannedd. Tebyg iawn y byddi di’n teimlo cywilydd. Ond oni fyddet ti’n ddiolchgar am iddo ddweud wrthyt ti? Yn wir, piti na fyddai rhywun wedi dweud rhywbeth yn gynt! Yn yr un modd, dylen ninnau fod yn ddiolchgar wrth un o’n brodyr sydd wedi bod yn ddigon dewr i roi cyngor inni pan fo rhaid. Ffrind yw’r person hwnnw, nid gelyn.—Darllen Diarhebion 27:5, 6; Gal. 4:16.

Pam mae gostyngeiddrwydd yn hanfodol pan fydd eraill yn cael breintiau? (Gweler paragraffau 13-14) *

13. Sut gallwn ni fod yn ostyngedig pan fydd eraill yn cael breintiau yn y gynulleidfa?

13 Pan fydd eraill yn cael breintiau. “Pan fydda’ i’n gweld eraill yn cael breintiau, dw i weithiau’n meddwl pam na chefais innau fy newis,” meddai henuriad o’r enw Jason. Wyt ti erioed wedi meddwl fel ’na? Dydy hi ddim yn anghywir iti fod eisiau gwneud mwy yn y gynulleidfa. (1 Tim. 3:1) Fodd bynnag, mae’n rhaid inni warchod ein meddyliau. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni roi lle i falchder dyfu yn ein calonnau. Er enghraifft, gall dyn Cristnogol ddechrau meddwl mai ef yw’r un mwyaf cymwys ar gyfer rhyw aseiniad penodol. Neu fe all gwraig Gristnogol feddwl, ‘Mae fy ngŵr i’n llawer mwy cymwys na’r brawd hwnnw!’ Ond os ydyn ni’n wirioneddol ostyngedig, byddwn ni’n osgoi agweddau balch o’r fath.

14. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd y gwnaeth Moses ymateb pan gafodd eraill freintiau?

14 Gallwn ddysgu oddi wrth ymateb Moses pan gafodd eraill freintiau. Roedd y cyfrifoldeb o arwain yr Israeliaid yn bwysig iawn i Moses. Beth oedd ymateb Moses pan drefnodd Jehofa i eraill wasanaethu ochr yn ochr ag ef? Doedd Moses ddim yn genfigennus. (Num. 11:24-29) Roedd yn ostyngedig a chaniataodd i eraill ei helpu yn y gwaith o farnu’r bobl. (Ex. 18:13-24) O ganlyniad, doedd yr Israeliaid ddim yn gorfod disgwyl cymaint ag yr oedden nhw gynt. Felly, roedd Moses yn rhoi lles pobl eraill o flaen ei freintiau ef ei hun. Am esiampl dda! Er mwyn inni fod yn wirioneddol ddefnyddiol i Jehofa, dylai ein gostyngeiddrwydd fod yn fwy na’n gallu. Cofia, “er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae’n gofalu am y gwylaidd.”—Salm 138:6.

15. Pa amgylchiadau newydd y mae rhai wedi gorfod eu hwynebu?

15 Pan fyddwn ni’n wynebu amgylchiadau newydd. Yn y blynyddoedd diweddar, mae llawer sydd â degawdau o brofiad wedi derbyn aseiniad newydd. Er enghraifft, yn ôl yn 2014, cafodd arolygwyr rhanbarth a’u gwragedd aseiniadau eraill. Yn yr un flwyddyn hefyd, dywedodd y gyfundrefn na fyddai brawd sy’n cyrraedd 70 oed yn gallu parhau fel arolygwr cylchdaith. Ac na fyddai brodyr 80 oed neu hŷn yn gallu gwasanaethu yn y gynulleidfa fel cydlynydd corff yr henuriaid. Ar ben hynny, yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer yn nheulu’r Bethel wedi cael eu hailaseinio i’r maes. Mae eraill wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwasanaeth llawn-amser arbennig oherwydd problemau iechyd, cyfrifoldebau teuluol, neu amgylchiadau personol eraill.

16. Sut mae ein brodyr a’n chwiorydd wedi dangos gostyngeiddrwydd wrth addasu i’w hamgylchiadau newydd?

16 Doedd y newidiadau hyn ddim yn hawdd i’r brodyr a’r chwiorydd hyn. Yn amlwg, mewn llawer o achosion, roedden nhw’n hoff iawn o’r aseiniadau yr oedden nhw wedi bod yn eu gwneud am flynyddoedd. Fe aeth rhai drwy broses o “alaru” wrth iddyn nhw addasu i’w hamgylchiadau newydd. Er hynny, llwyddon nhw, ymhen amser, i addasu. Pam? Oherwydd eu bod nhw’n caru Jehofa. Roedden nhw’n gwybod eu bod nhw wedi ymgysegru i Dduw—nid i ryw swydd, deitl, nac aseiniad. (Col. 3:23) Maen nhw wrth eu boddau yn gwasanaethu Jehofa yn ostyngedig a hynny mewn unrhyw ffordd. Maen nhw’n rhoi “y pethau [maen nhw’n] poeni amdanyn nhw iddo fe,” gan wybod ei fod yn gofalu amdanyn nhw.—1 Pedr 5:6, 7.

17. Pam rydyn ni’n ddiolchgar fod Gair Duw yn ein hannog ni i feithrin gostyngeiddrwydd?

17 Onid ydyn ni’n ddiolchgar fod Gair Duw yn ein hannog ni i fod yn ostyngedig? Pan fyddwn ni’n meithrin y rhinwedd hon, rydyn ni’n elwa’n bersonol ac mae eraill yn hoffi bod yn ein cwmni. Rydyn ni’n gallu ymdopi’n well â phroblemau bywyd. Uwchlaw popeth, rydyn ni’n closio at ein Tad nefol. Braf iawn yw gwybod bod yr “Un uchel iawn” yn caru ac yn gwerthfawrogi ei weision gostyngedig!—Esei. 57:15.

CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon

^ Par. 5 Mae bod yn ostyngedig yn bwysig iawn. Beth yw gostyngeiddrwydd? Pam dylen ni ei feithrin? A pham mae hi’n anodd i aros yn ostyngedig pan fydd ein hamgylchiadau yn newid? Bydd yr erthygl hon yn trafod y cwestiynau pwysig hyn.

^ Par. 7 Gweler yr erthygl “Jehovah Has Dealt Rewardingly With Me” yn rhifyn 1 Hydref 1984 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yr apostol Paul yn mwynhau cymdeithasu’n ostyngedig ag eraill, gan gynnwys pobl ifanc, mewn cartref un o’i frodyr.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd yn derbyn cyngor Ysgrythurol gan frawd iau.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Dydy’r brawd hŷn ddim yn genfigennus o’r brawd iau sydd wedi cael breintiau yn y gynulleidfa.