Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 37

Bydda’n Barod i Ymostwng i Jehofa—Pam a Sut?

Bydda’n Barod i Ymostwng i Jehofa—Pam a Sut?

“Oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol?”—HEB. 12:9.

CÂN 9 Jehofa Yw Ein Brenin!

CIPOLWG *

1. Pam dylen ni ymostwng i Jehofa?

DYLEN ni ymostwng * i Jehofa am ei fod yn Greawdwr inni. Fel Creawdwr, mae ganddo’r hawl i osod safonau dros ei greadigaeth. (Dat. 4:11) Ond mae gennyn ni reswm da arall dros fod yn ufudd iddo—ei ffordd ef o reoli yw’r gorau. Trwy gydol hanes, mae llawer o fodau dynol wedi rheoli dros eraill. O’i gymharu â nhw, Jehofa yw’r Rheolwr doethaf, a mwyaf cariadus, trugarog, a thosturiol ohonyn nhw i gyd.—Ex. 34:6; Rhuf. 16:27; 1 Ioan 4:8.

2. Pa resymau mae Hebreaid 12:9-11 yn eu rhoi dros ymostwng i Jehofa?

2 Mae Jehofa eisiau inni ufuddhau iddo, nid oherwydd ein bod yn ei ofni, ond oherwydd ein bod yn ei garu ac yn ei weld fel Tad cariadus. Yn ei lythyr at yr Hebreaid, mae Paul yn esbonio y dylen ni “wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol” achos “mae disgyblaeth Duw yn siŵr o wneud lles i ni.”—Darllen Hebreaid 12:9-11.

3. (a) Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ymostwng i Jehofa? (b) Pa gwestiynau byddwn ni yn eu hateb?

3 Ymostyngwn i Jehofa drwy wneud ein gorau i ufuddhau iddo ym mhob peth a thrwy ymwrthod â’r duedd i ddibynnu ar ein deall ein hunain. (Diar. 3:5) Fe fydd hi’n haws ildio i Jehofa wrth inni sylwi ar ei rinweddau hardd. Pam? Oherwydd bod y rhinweddau hyn yn cael eu hadlewyrchu ym mhopeth mae’n ei wneud. (Salm 145:9) Mwya’n y byd y dysgwn am Jehofa, mwya’n y byd y byddwn ni’n ei garu. A phan rydyn ni’n caru Jehofa, does dim angen rhestr hir o reolau yn dweud wrthon ni beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud. Rydyn ni’n ceisio meddwl a theimlo fel y mae Jehofa eisiau inni ei wneud. (Salm 97:10) Ond, o bryd i’w gilydd, gallwn ni ei chael hi’n anodd ufuddhau i Jehofa. Pam felly? A beth gall henuriaid, tadau, a mamau ei ddysgu oddi wrth Nehemeia y llywodraethwr; y Brenin Dafydd; a Mair, mam Iesu? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau hynny.

PAM GALL YMOSTWNG I JEHOFA FOD YN HER?

4-5. Yn ôl Rhufeiniaid 7:21-23, pam mae ymostwng i Jehofa yn gallu bod yn anodd?

4 Un rheswm y gall fod yn anodd ymostwng i Jehofa yw ein bod ni i gyd wedi etifeddu pechod ac o ganlyniad rydyn ni’n amherffaith. Felly mae gennyn ni dueddiadau gwrthryfelgar. Ar ôl i Adda ac Efa wrthryfela yn erbyn Duw a bwyta’r ffrwyth gwaharddedig, gwnaethon nhw osod eu safonau eu hunain. (Gen. 3:22) Heddiw, mae’n well gan y rhan fwyaf o ddynolryw anwybyddu Jehofa a phenderfynu drostyn nhw eu hunain beth sy’n iawn a beth sy’n ddrwg.

5 Gall hyd yn oed y rhai sy’n adnabod Jehofa a’i garu ei chael hi’n anodd ymostwng yn llwyr iddo. Wynebodd yr apostol Paul yr her hon. (Darllen Rhufeiniaid 7:21-23.) Fel Paul, rydyn ni eisiau gwneud yr hyn sy’n iawn yng ngolwg Jehofa. Ond mae’n rhaid inni frwydro bob dydd yn erbyn y tueddiad i wneud pethau drwg.

6-7. Pa reswm arall sydd dros gael hi’n anodd ymostwng i Jehofa? Rho enghraifft.

6 Rheswm arall pam mae ymostwng i Jehofa’n gallu bod yn her yw dylanwad y diwylliant y cawson ni ein magu ynddo. Mae llawer o syniadau dynol yn groes i ewyllys Jehofa, a gall fod yn frwydr i’n rhyddhau ein hunain oddi wrth syniadau sy’n gyffredin yn ein diwylliant ni. Dyma un enghraifft.

7 Mewn rhai llefydd mae hi’n gyffredin i bobl ifanc fod dan bwysau i ennill llawer o arian. Dyma’r her a wynebodd chwaer o’r enw Mary. * Cyn dysgu am Jehofa, aeth hi i un o’r ysgolion gorau yn y wlad. Teimlodd Mary fod ei theulu’n rhoi pwysau arni i gael swydd â chyflog mawr mewn gyrfa uchel ei pharch. A dyna roedd hithau’n ei ddymuno hefyd. Ond, ar ôl dysgu am Jehofa a dod i’w garu, newidiodd hi ei nod mewn bywyd. Er hynny, mae’n cyfaddef: “Weithiau dw i’n gweld cyfleoedd busnes deniadol iawn a fyddai efallai yn gwneud lot o bres imi ond a fyddai’n amharu ar fy mywyd ysbrydol. Oherwydd fy magwraeth, mae hi’n dal yn anodd imi ddweud na. Dw i’n gorfod deisyfu ar Jehofa i fy helpu i wrthsefyll y temtasiwn i dderbyn gwaith a allai fy rhwystro rhag gwneud cymaint yng ngwasanaeth Jehofa.”—Math. 6:24.

8. Beth wnawn ni ei ystyried nawr?

8 Mae ymostwng i Jehofa yn dda inni. Ond mae gan y rhai sydd ag awdurdod, fel henuriaid, tadau, a mamau, reswm arall dros ddilyn cyfarwyddyd Duw; maen nhw’n gallu helpu pobl eraill. Gad inni ystyried esiamplau o’r Beibl sy’n gallu ein dysgu sut i ddefnyddio awdurdod mewn ffordd sy’n plesio Jehofa.

YR HYN Y GALL HENURIAID EI DDYSGU ODDI WRTH NEHEMEIA

Henuriaid yn cydweithio ag eraill wrth weithio ar Neuadd y Deyrnas, fel y gwnaeth Nehemeia pan helpodd ailadeiladu waliau Jerwsalem (Gweler paragraffau 9-11) *

9. Pa heriau a wynebodd Nehemeia?

9 Mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb i henuriaid fugeilio ei bobl. (1 Pedr 5:2) Gall henuriaid ddysgu llawer o’r modd y deliodd Nehemeia â phobl Jehofa. Ac yntau’n llywodraethwr ar Jwda, roedd gan Nehemeia gryn dipyn o awdurdod. (Neh. 1:11; 2:7, 8; 5:14) Dychmyga rai o’r heriau a wynebodd Nehemeia. Fe ddysgodd fod y bobl wedi halogi’r deml a doedden nhw ddim yn cefnogi’r Lefiaid yn ariannol fel y dylen nhw fod wedi ei wneud yn ôl y Gyfraith. Doedd yr Iddewon ddim yn ufuddhau i’r gyfraith ynglŷn â chadw’r Saboth, ac roedd rhai o’r dynion wedi priodi gwragedd estron. Byddai Nehemeia yn gorfod delio â’r sefyllfa anodd hon.—Neh. 13:4-30.

10. Sut gwnaeth Nehemeia ymateb i’w heriau?

10 Ni wnaeth Nehemeia gamddefnyddio ei awdurdod a mynnu fod pobl Dduw yn dilyn ei safonau ei hun. Yn lle hynny, ceisiodd arweiniad Jehofa mewn gweddi daer, ac aeth ati i ddysgu Cyfraith Jehofa i’r bobl. (Neh. 1:4-10; 13:1-3) Gweithiodd Nehemeia ochr yn ochr â’i frodyr, a’u helpu hyd yn oed i ailadeiladu waliau Jerwsalem.—Neh. 4:15.

11. Yn ôl 1 Thesaloniaid 2:7, 8, sut dylai henuriaid drin rhai yn y gynulleidfa?

11 Efallai na fydd rhaid i’r henuriaid ddelio â’r un problemau â Nehemeia, ond gallan nhw ei efelychu mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, maen nhw’n gweithio’n galed er lles eu brodyr a’u chwiorydd. A dydyn nhw ddim yn meddwl eu bod nhw’n well nag eraill oherwydd eu hawdurdod. Yn hytrach, maen nhw’n dyner wrth ddelio â’r gynulleidfa. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:7, 8.) Mae eu cariad dwfn a’u hagwedd ostyngedig yn effeithio ar y ffordd y maen nhw’n siarad ag eraill. Yn ôl henuriad profiadol o’r enw Andrew: “Yn fy mhrofiad i mae brodyr a chwiorydd yn tueddu ymateb yn dda i garedigrwydd a chynhesrwydd yr henuriaid.” Dywed Tony, henuriad arall: “Dw i’n ceisio rhoi cyngor Philipiaid 2:3 ar waith a byddaf yn ceisio gweld eraill yn bwysicach na fi. Mae hyn yn fy helpu i beidio ag ymddwyn fel unben.”

12. Pam ei bod hi’n bwysig i henuriaid fod yn ostyngedig?

12 Mae’n rhaid i henuriaid fod yn ostyngedig, fel y mae Jehofa yn ostyngedig. Er mai Penarglwydd y bydysawd yw Jehofa, “mae’n plygu i lawr” ac yn “codi pobl dlawd o’r baw.” (Salm 18:35; 113:6, 7) Y gwir yw, mae Jehofa’n casáu pobl sy’n falch ac yn ffroenuchel.—Diar. 16:5.

13. Pam mae henuriad yn gorfod “rheoli ei dafod”?

13 Mae “rheoli ei dafod” yn angenrheidiol i henuriad sy’n ymostwng i Jehofa. Neu, fel arall, gallai siarad yn gas petai rhywun yn amharchus tuag ato. (Iago 1:26; Gal. 5:14, 15) Dywed Andrew a ddyfynnwyd ynghynt: “Ar brydiau, dw i wedi bod ar fin ymateb yn angharedig i frawd neu chwaer a oedd yn ymddangos yn amharchus. Ond, roeddwn yn myfyrio ar esiamplau dynion ffyddlon yn y Beibl, ac mae hynny wedi fy helpu i ddysgu’r pwysigrwydd o fod yn ostyngedig ac yn addfwyn.” Mae henuriaid yn dangos eu bod nhw’n ymostwng i Jehofa drwy fod yn garedig wrth siarad ag aelodau’r gynulleidfa, gan gynnwys eu cyd-henuriaid.—Col. 4:6.  

YR HYN Y MAE TADAU YN GALLU DYSGU ODDI WRTH Y BRENIN DAFYDD

14. Pa rôl sydd wedi ei haseinio i dadau gan Jehofa, a beth y mae ef yn ei ddisgwyl ganddyn nhw?

14 Mae Jehofa wedi penodi’r tad yn ben ar y teulu, ac mae Duw yn disgwyl iddo hyfforddi a disgyblu ei blant. (1 Cor. 11:3, BCND; Eff. 6:4) Ond mae ’na gyfyngiadau ar awdurdod y tad—mae’n atebol i Jehofa, yr un a sefydlodd y teulu. (Eff. 3:14, 15) Mae tadau’n dangos eu bod yn ymostwng i Jehofa drwy ddefnyddio eu hawdurdod mewn ffordd sy’n plesio Duw. Fe allan nhw ddysgu llawer drwy astudio bywyd y Brenin Dafydd.

Dylai gweddïau tad Cristnogol fod yn arwydd o’i ostyngeiddrwydd (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Pam mae Brenin Dafydd yn esiampl dda i dadau?

15 Penododd Jehofa Dafydd yn ben, nid yn unig ar ei deulu, ond hefyd ar genedl Israel gyfan. Ac yntau’n frenin, roedd gan Dafydd lawer o rym. Ar brydiau, fe gamddefnyddiodd ei rym a gwneud camgymeriadau difrifol. (2 Sam. 11:14, 15) Ond dangosodd ei fod yn ymostwng i Jehofa drwy dderbyn y ddisgyblaeth. Pan weddïodd, mynegodd ei deimladau i Jehofa. Ac fe geisiodd ei orau i ufuddhau i gyngor Jehofa. (Salm 51:1-4) Yn ogystal, roedd yn ddigon gostyngedig i dderbyn cyngor da gan ddynion a merched fel ei gilydd. (1 Sam. 19:11, 12; 25:32, 33) Dysgodd Dafydd o’i gamgymeriadau a chanolbwyntiodd ei fywyd ar wasanaethu Jehofa.

16. Pa wersi gall tadau eu dysgu oddi wrth y Brenin Dafydd?

16 Ystyria rai o’r gwersi y gall tadau eu dysgu oddi wrth y Brenin Dafydd: Paid â chamddefnyddio’r awdurdod y mae Jehofa wedi ei roi iti. Cyfaddefa dy gamgymeriadau, a gwranda ar eraill pan fyddan nhw’n rhoi cyngor iti o’r Beibl. Os gwnei di felly, bydd dy deulu yn dy barchu am dy ostyngeiddrwydd. Wrth weddïo gyda’r teulu, pwysig yw mynegi dy deimladau dwfn i Jehofa—gad iddyn nhw glywed cymaint yr wyt ti’n dibynnu arno. Ac yn fwy na dim, trefna dy fywyd o gwmpas dy wasanaeth i Jehofa. (Deut. 6:6-9) Y mae dy esiampl yn un o’r rhoddion mwyaf gwerthfawr y gelli di ei roi i dy deulu.

YR HYN Y GALL MAMAU EI DDYSGU ODDI WRTH MAIR

17. Pa rôl y mae Jehofa wedi ei rhoi i famau?

17 Mae Jehofa wedi rhoi cyfrifoldeb pwysig yn y teulu i’r fam, ac y mae hi wedi cael rhywfaint o awdurdod dros ei phlant. (Diar. 6:20) Gall dylanwad y fam ar ei phlant effeithio arnyn nhw am weddill eu bywydau. (Diar. 22:6) Sylwa beth y gall mamau ei ddysgu oddi wrth Mair, mam Iesu.

18-19. Beth y gall mamau ei ddysgu o esiampl Mair?

18 Roedd Mair yn hyddysg yn yr Ysgrythur. Roedd ganddi barch dwfn tuag at Jehofa a chyfeillgarwch agos ag ef. Roedd hi’n fodlon ildio i gyfarwyddyd Jehofa, er i hyn olygu newidiadau mawr yn ei bywyd hi.—Luc 1:35-38, 46-55.

Os bydd mam wedi blino neu wedi dechrau colli amynedd, bydd angen arni roi mwy o ymdrech i fynegi cariad tuag at ei theulu (Gweler paragraff 19) *

19 Os wyt ti’n fam, mae sawl ffordd y gelli di efelychu Mair. Sut? Yn gyntaf, drwy gadw dy gyfeillgarwch â Jehofa yn gryf drwy dy astudiaeth bersonol o’r Beibl a dy weddïau preifat. Yn ail, drwy fod yn fodlon gwneud newidiadau yn dy fywyd er mwyn plesio Jehofa. Er enghraifft, hwyrach dy fod ti wedi cael dy godi gan rieni a oedd yn colli eu tymer yn hawdd ac yn siarad yn gas â’u plant. Efallai dy fod ti wedi tyfu i fyny yn meddwl bod hyn yn ffordd normal i fagu teulu. Hyd yn oed ar ôl dysgu safonau Jehofa, gelli di ei chael hi’n anodd dangos amynedd tuag at y plant a pheidio â chynhyrfu, yn enwedig os byddan nhw’n cambihafio pan wyt ti wedi blino. (Eff. 4:31) Ar adegau fel hyn, mae eisiau iti ddibynnu’n fwy ar Jehofa gan weddïo arno am help. Dywed un fam o’r enw Lydia: “Dw i wedi gorfod gweddïo’n daer imi beidio â bod yn frwnt fy nhafod pan oedd fy mab yn anufudd. Mi ydw i hyd yn oed wedi stopio siarad yng nghanol brawddeg a gweddïo’n ddistaw bach am help Jehofa. Mae gweddi yn fy nghadw’n dawel fy ysbryd.”—Salm 37:5.

20. Pa her sydd gan rai mamau, a sut mae dod dros yr her honno?

20 Mae rhai mamau yn ei chael hi’n anodd dangos i’w plant eu bod nhw yn eu caru. (Titus 2:3, 4) Mae rhai menywod wedi cael eu codi mewn teulu lle nad oedd gan eu rhieni berthynas gynnes â’u plant. Os cest ti dy fagu fel ’na, does dim rhaid iti ailadrodd camgymeriadau dy rieni. Efallai bydd mam sy’n ymostwng i ewyllys Jehofa yn gorfod dysgu sut i ddangos cariad tuag at ei phlant. Fe all fod yn anodd iddi newid y ffordd y mae hi’n meddwl, yn teimlo, ac yn ymddwyn. Ond mae hynny yn bosib, a bydd y newidiadau hynny yn fuddiol iddi hi a’i theulu.

DAL ATI I YMOSTWNG I JEHOFA

21-22. Yn ôl Eseia 65:13, 14, pa fuddion gawn ni o ymostwng i Jehofa?

21 Roedd y Brenin Dafydd yn deall yn iawn pa mor fuddiol yw ymostwng i Jehofa. Ysgrifennodd: “Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy’n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni. Ydyn, maen nhw’n rhoi goleuni i dy was; ac mae gwobr fawr i’r rhai sy’n ufuddhau.” (Salm 19:8, 11) Heddiw, gallwn weld y gwahaniaeth rhwng y rhai sy’n ymostwng i Jehofa a’r rhai sydd yn gwrthod ei gyngor cariadus. Mae gan y rhai sydd yn ildio i Jehofa yr agwedd iawn ac y maen nhw’n “canu’n braf.”—Darllen Eseia 65:13, 14.

22 Pan fydd henuriaid, tadau, a mamau yn barod i ymostwng i Jehofa, mae eu bywydau yn newid er gwell, mae eu teuluoedd yn hapusach, ac mae’r gynulleidfa i gyd yn fwy unedig. Ac yn bwysicach oll, maen nhw’n llawenhau calon Jehofa. (Diar. 27:11) Dyma’r wobr fwyaf y gallwn ni ei chael!

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn trafod pam y dylen ni ymostwng i Jehofa. Fe fydd yn ystyried sut y dylai henuriaid, tadau, a mamau ddefnyddio’r awdurdod a roddwyd iddyn nhw gan Jehofa. Ystyriwn hefyd beth gallan nhw ei ddysgu oddi wrth Nehemeia y llywodraethwr; y Brenin Dafydd; a Mair, mam Iesu.

^ Par. 1 ESBONIADAU: Mae gan y gair ymostwng ystyr negyddol i’r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i fod yn ufudd i rywun. Sut bynnag, mae pobl Dduw yn dewis ufuddhau iddo, felly, dydyn nhw ddim yn deall y syniad o ymostwng mewn ffordd negyddol.

^ Par. 7 Newidiwyd rhai enwau yn yr erthygl hon.

^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Henuriad yn gweithio gyda’i fab ar Neuadd y Deyrnas, fel yr helpodd Nehemeia eraill wrth ailadeiladu waliau Jerwsalem.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Tad yn cynrychioli ei deulu mewn gweddi daer i Jehofa.

^ Par. 66 DISGRIFIAD O’R LLUN: Treuliodd bachgen oriau yn chwarae gemau fideo heb orffen ei waith cartref na’i dasgau o gwmpas y tŷ. Mae ei fam, er ei bod wedi blino ar ôl gwaith, yn ei ddisgyblu heb golli ei thymer na bod yn frwnt ei thafod.