Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 39

Edrycha! Tyrfa Fawr o Bobl

Edrycha! Tyrfa Fawr o Bobl

‘Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed dechrau ei chyfri yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen.’—DAT. 7:9.

CÂN 60 Mae Eu Bywydau yn y Fantol

CIPOLWG *

1. Beth oedd sefyllfa’r apostol Ioan ar ddiwedd y ganrif gyntaf OG?

AR DDIWEDD y ganrif gyntaf OG, roedd yr apostol Ioan mewn sefyllfa anodd iawn. Roedd ef mewn oed, wedi ei gaethiwo ar ynys Patmos, ac mae’n debyg mai ef oedd yr unig apostol yn dal yn fyw. (Dat. 1:9) Roedd yn gwybod bod gwrthwynebwyr yn camarwain y cynulleidfaoedd ac yn creu rhaniadau. Efallai iddi ymddangos bod fflam fechan Cristnogaeth ar fin cael ei diffodd.—Jwd. 4; Dat. 2:15, 20; 3:1, 17.

Gwelodd yr apostol Ioan dyrfa fawr lle roedd pawb wedi eu gwisgo mewn mentyll gwynion a changhennau palmwydd yn eu dwylo (Gweler paragraff 2)

2. Yn ôl Datguddiad 7:9-14, pa weledigaeth gyffrous a gafodd Ioan? (Gweler y llun ar y clawr.)

2 Yng nghanol yr amgylchiadau enbyd hynny, cafodd Ioan weledigaeth broffwydol gyffrous. Yn y weledigaeth, mae angel yn dweud wrth bedwar angel arall i ddal gwyntoedd dinistriol y gorthrymder mawr yn ôl nes bod grŵp o weision yn derbyn y sêl olaf. (Dat. 7:1-3) Mae’r grŵp hwnnw yn cynnwys y 144,000 a fydd yn rheoli gyda Iesu yn y nefoedd. (Luc 12:32; Dat. 7:4) Yna, mae Ioan yn sôn am grŵp arall, sydd mor fawr nes iddo ddweud: “Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o mlaen i—tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen.” (Darllen Datguddiad 7:9-14.) Dychmyga pa mor hapus roedd Ioan i ddysgu am lu o bobl yn gwasanaethu Duw yn y ffordd gywir yn y dyfodol!

3. (a) Pam dylai gweledigaeth Ioan gryfhau ein ffydd? (b) Beth byddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon?

3 Yn sicr, gwnaeth y weledigaeth honno gryfhau ffydd Ioan. Dylai hynny gryfhau ein ffydd yn fwy byth, gan ein bod ni’n byw yn yr amser pan fydd y weledigaeth yn cael ei chyflawni! Yn ein dyddiau ni, mae miliynau o bobl wedi dechrau addoli Jehofa ac yn gobeithio goroesi’r gorthrymder mawr a byw am byth ar y ddaear. Yn yr erthygl hon, byddwn yn dysgu sut gwnaeth Jehofa ddatgelu pwy oedd y dyrfa fawr i’w bobl dros wyth degawd yn ôl. Yna, byddwn yn ystyried dau beth am y dyrfa honno: (1) ei maint a (2) ei hamrywiaeth. Dylai’r pwyntiau hyn gryfhau ffydd pob un sy’n gobeithio bod yn rhan o’r grŵp arbennig hwnnw.

BLE BYDD Y DYRFA FAWR YN BYW?

4. Pa wirionedd Ysgrythurol dydy gau Gristnogaeth ddim yn ei ddeall, a sut roedd Myfyrwyr y Beibl yn wahanol yn hyn o beth?

4 Yn gyffredinol, nid yw gau Gristnogaeth yn dysgu’r gwirionedd Ysgrythurol am fodau dynol ufudd yn byw am byth ar y ddaear yn y dyfodol. (2 Cor. 4:3, 4) Heddiw, mae’r rhan fwyaf o grefyddau gau Gristnogaeth yn dysgu bod pobl dda yn mynd i’r nefoedd ar ôl iddyn nhw farw. Roedd hi’n wahanol, fodd bynnag, i’r grŵp bach o Fyfyrwyr y Beibl a ddechreuodd gyhoeddi’r Tŵr Gwylio ym 1879. Deallon nhw y byddai Duw yn gwneud y ddaear yn Baradwys unwaith eto ac y byddai miliynau o fodau dynol ufudd yn byw yma ar y ddaear—nid yn y nefoedd. Sut bynnag, cymeron nhw amser i ddeall yn glir pwy fyddai’r bodau dynol ufudd hyn.—Math. 6:10.

5. Beth roedd Myfyrwyr y Beibl yn ei gredu am y 144,000?

5 Wrth gwrs, gwnaeth Myfyrwyr y Beibl hefyd ddeall o’r Ysgrythurau y byddai rhai yn cael “eu rhyddhau o’r ddaear,” sef eu prynu o’r ddaear i reoli gyda Iesu yn y nefoedd. (Dat. 14:3) Byddai’r grŵp hwnnw yn cynnwys 144,000 o Gristnogion selog ac ymgysegredig a oedd wedi gwasanaethu Duw yn ffyddlon tra oedden nhw ar y ddaear. Beth am y dyrfa fawr?

6. Beth roedd Myfyrwyr y Beibl yn ei gredu am y dyrfa fawr?

6 Yn ei weledigaeth, gwelodd Ioan y grŵp hwnnw “yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen.” (Dat. 7:9) Wrth i Fyfyrwyr y Beibl edrych ar y geiriau hynny, daethon nhw i’r casgliad y byddai’r dyrfa fawr, fel y 144,000, yn byw yn y nefoedd. Petai’r 144,000 a’r dyrfa fawr yn byw yn y nefoedd, sut byddai un grŵp yn wahanol i’r llall? Roedd Myfyrwyr y Beibl yn meddwl bod rhaid i’r dyrfa fawr gynnwys Cristnogion nad oedden nhw wedi bod yn llwyr ufudd i Dduw tra oedden nhw ar y ddaear. Er eu bod nhw’n byw bywydau gweddol lân, efallai fod rhai ohonyn nhw wedi aros yn aelodau o eglwysi gau Gristnogaeth. Daeth Myfyrwyr y Beibl i’r casgliad fod gan y rhai hyn rywfaint o gariad tuag at Dduw ond nid digon i reoli gyda Iesu. Oherwydd nad oedd eu cariad tuag at Dduw yn ddigon cryf, byddai’r dyrfa fawr yn gymwys i fod yn y nef o flaen yr orsedd ond nid i eistedd ar orseddau.

7. Yn ôl Myfyrwyr y Beibl, pwy fyddai’n byw ar y ddaear yn ystod y Mil Blynyddoedd, a beth roedden nhw’n ei gredu am y dynion ffyddlon gynt?

7 Pwy, felly, a fyddai’n byw ar y ddaear? Roedd Myfyrwyr y Beibl yn credu, ar ôl i’r 144,000 a’r dyrfa fawr gael eu casglu i’r nefoedd, y byddai miliynau o bobl eraill yn cael byw ar y ddaear i fwynhau bendithion Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. Doedd Myfyrwyr y Beibl ddim yn disgwyl i’r miliynau hynny wasanaethu Jehofa cyn dechreuad Teyrnasiad Crist. Yn hytrach, roedden nhw’n meddwl y byddai’r grŵp hwn yn dysgu am Jehofa yn ystod y Mil Blynyddoedd. Wedi hynny, byddai’r rhai a ufuddhaodd i safonau Jehofa yn cael eu bendithio â bywyd tragwyddol ar y ddaear, ond byddai’r rhai a wrthryfelodd yn cael eu dinistrio. Roedd Myfyrwyr y Beibl yn meddwl bod rhai a fyddai’n “dywysogion” ar y ddaear yn ystod y mil blynyddoedd yn mynd i’r nefoedd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Credon nhw hefyd fod y tywysogion hyn yn cynnwys “yr hen ffyddloniaid gynt” (y rhai a fu farw cyn Crist) a fyddai’n cael eu hatgyfodi yn ystod y Mil Blynyddoedd.—Salm 45:16.

8. Pa dri grŵp a oedd yn ymddangos fel petai ganddyn nhw ran ym mhwrpas Duw?

8 Felly, roedd Myfyrwyr y Beibl yn meddwl bod ’na dri grŵp: (1) y 144,000, a fyddai’n rheoli gyda Iesu yn y nefoedd; (2) y dyrfa fawr o Gristnogion llai selog, a fyddai’n sefyll o flaen gorsedd Iesu yn y nefoedd; a (3) miliynau o bobl a fyddai’n dysgu am Jehofa ar y ddaear yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist. * Ond, yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Jehofa eu helpu i ddeall y pwnc yn well.—Diar. 4:18.

GOLEUNI’R GWIRIONEDD YN DISGLEIRIO’N FWY LLACHAR

Yn y gynhadledd ym 1935, cafodd llawer â’r gobaith daearol eu bedyddio (Gweler paragraff 9)

9. (a) Ym mha ffordd gallai’r dyrfa fawr ar y ddaear “sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen”? (b) Pam mae’r ddealltwriaeth hon o Datguddiad 7:9 yn gwneud synnwyr?

9 Ym 1935, daeth hi’n glir pwy oedd y dyrfa fawr yng ngweledigaeth Ioan. Sylweddolodd Tystion Jehofa nad oedd rhaid i’r dyrfa fawr fod yn y nefoedd yn llythrennol i “sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen.” Yn lle hynny, maen nhw’n gwneud hyn mewn ffordd symbolaidd. Er y bydden nhw’n byw ar y ddaear, gallai’r dyrfa fawr sefyll “o flaen yr orsedd” drwy gydnabod awdurdod Jehofa a dangos eu bod nhw’n derbyn yr awdurdod hwnnw drwy ufuddhau iddo. (Esei. 66:1) Gallen nhw sefyll “o flaen yr Oen” drwy roi ffydd yn aberth pridwerthol Iesu. Yn yr un modd, mae Mathew 25:31, 32 yn dweud bydd “yr holl genhedloedd”—gan gynnwys y rhai drwg—yn “cael eu casglu” o flaen Iesu ar ei orsedd odidog. Yn amlwg, ar y ddaear y mae’r holl genhedloedd hyn, nid yn y nefoedd. Mae’r addasiad hwn i’n dealltwriaeth yn gwneud synnwyr. Mae’n esbonio pam nad yw’r Beibl yn dweud bod y dyrfa fawr yn cael ei chymryd i’r nefoedd. Dim ond un grŵp sydd â’r addewid o fywyd tragwyddol yn y nefoedd—y 144,000, a fydd yn teyrnasu dros y ddaear fel brenhinoedd gyda Iesu.—Dat. 5:10.

10. Pam byddai angen i’r dyrfa fawr ddysgu am Jehofa cyn y Mil Blynyddoedd?

10 Ers 1935, mae Tystion Jehofa wedi deall bod y dyrfa fawr yng ngweledigaeth Ioan yn cynnwys grŵp o Gristnogion ffyddlon sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Er mwyn goroesi’r gorthrymder mawr, byddai’n rhaid i’r dyrfa fawr ddysgu am Jehofa a’i addoli cyn dechreuad y Mil Blynyddoedd. Byddai angen iddyn nhw ddangos ffydd gref er mwyn “gallu osgoi’r pethau ofnadwy sy’n mynd i ddigwydd” cyn Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist.—Luc 21:34-36.

11. Pam gallai rhai Myfyrwyr y Beibl fod wedi meddwl y byddai rhai efallai’n cael eu cymryd i’r nefoedd ar ôl y Mil Blynyddoedd?

11 Beth am y syniad fod rhai brodyr sy’n esiamplau rhagorol ar y ddaear yn mynd i gael eu cymryd i’r nefoedd ar ôl y Mil Blynyddoedd? Cafodd y syniad hwnnw ei awgrymu flynyddoedd yn ôl yn Tŵr Gwylio 15 Chwefror 1913. Byddai rhywun fod wedi gallu rhesymu, ‘Pam byddai dynion ffyddlon gynt dim ond yn cael byw ar y ddaear, tra bod Cristnogion llai ffyddlon yn cael y wobr o fywyd yn y nefoedd?’ Wrth gwrs, roedd ’na ddau syniad anghywir yn effeithio ar eu ffordd o feddwl: (1) y byddai’r dyrfa fawr yn byw yn y nefoedd a (2) y byddai’r dyrfa fawr yn cynnwys Cristnogion llai selog.

12-13. Beth mae’r eneiniog a’r dyrfa fawr yn ei wybod am eu gwobr?

12 Fel y gwelon ni, fodd bynnag, ers 1935, mae Tystion Jehofa wedi deall yn glir mai’r rhai a fydd yn goroesi Armagedon yw’r dyrfa fawr yng ngweledigaeth Ioan. Byddan nhw’n dod trwy’r gorthrymder mawr yma ar y ddaear, ac yn “gweiddi’n uchel: ‘Ein Duw sydd wedi’n hachub ni!—yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd, a’r Oen!’” (Dat. 7:10, 14) Ar ben hynny, mae’r Ysgrythurau yn dysgu bod y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i fywyd yn y nefoedd yn derbyn “rhywbeth gwell” na’r dynion ffyddlon gynt. (Heb. 11:40) Yn unol â hynny, dechreuodd ein brodyr wahodd pobl yn frwdfrydig i wasanaethu Jehofa â’r gobaith o fywyd tragwyddol ar y ddaear.

13 Mae’r rhai sy’n perthyn i’r dyrfa fawr yn llawenhau yn eu gobaith. Maen nhw’n deall bod Jehofa’n penderfynu ble bydd ei bobl ffyddlon yn ei wasanaethu, p’un a yw hynny yn y nefoedd neu ar y ddaear. Mae’r rhai eneiniog a’r dyrfa fawr yn sylweddoli nad ydyn nhw’n haeddu eu gwobr a’i bod hi’n bosib dim ond oherwydd i Jehofa ddarparu aberth pridwerthol Iesu Grist.—Rhuf. 3:24.

MAWR O RAN MAINT

14. Ar ôl 1935, pam roedd llawer yn cwestiynu sut byddai’r broffwydoliaeth am y dyrfa fawr yn cael ei chyflawni?

14 Ar ôl i ddealltwriaeth pobl Jehofa gael ei haddasu ym 1935, roedd llawer yn dal i ofyn sut y gallai’r rhai â’r gobaith daearol ddod yn dyrfa mor fawr o ran maint. Er enghraifft, roedd Ronald Parkin yn 12 oed pan ddeallodd pobl Jehofa pwy oedd y dyrfa fawr. Mae’n cofio: “Ar yr adeg honno, roedd ’na tua 56,000 o gyhoeddwyr ar draws y byd ac roedd llawer ohonyn nhw, efallai’r rhan fwyaf ohonyn nhw, yn eneiniog. Felly, doedd y dyrfa fawr ddim yn ymddangos yn fawr iawn o gwbl.”

15. Sut mae’r gwaith o gasglu’r dyrfa fawr wedi parhau i gynyddu?

15 Yn y blynyddoedd nesaf, sut bynnag, cafodd cenhadon eu hanfon i lawer o wledydd, a gwnaeth nifer Tystion Jehofa barhau i gynyddu. Yna, ym 1968, dechreuodd rhaglen astudio’r Beibl gan ddefnyddio’r llyfr The Truth That Leads to Eternal Life. Roedd yr esboniad syml o wirionedd y Beibl yn denu mwy o bobl at Jehofa nag erioed o’r blaen. O fewn pedair blynedd, cafodd mwy na 500,000 o ddisgyblion newydd eu bedyddio. Wrth i’r Eglwys Gatholig golli ei gafael ar America Ladin a gwledydd eraill ac wrth i gyfyngiadau ar ein gwaith gael eu codi yn Nwyrain Ewrop a rhannau o Affrica, cafodd miliynau mwy eu bedyddio. (Esei. 60:22) Yn y blynyddoedd diweddar, mae cyfundrefn Jehofa wedi cynhyrchu nifer o dŵls effeithiol eraill i helpu pobl ddysgu gwirioneddau’r Beibl. Mae’n glir fod tyrfa fawr—yn cynnwys mwy nag wyth miliwn o bobl heddiw—wedi cael ei chasglu.

MAWR O RAN AMRYWIAETH

16. O le y mae’r dyrfa fawr yn cael ei chasglu?

16 Wrth iddo gofnodi ei weledigaeth, dywedodd Ioan y byddai’r dyrfa fawr yn dod “o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith.” Rhagfynegodd y proffwyd Sechareia rywbeth tebyg yn gynharach. Ysgrifennodd: “Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl clogyn Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’”—Sech. 8:23.

17. Beth mae pobl Jehofa yn ei wneud i helpu pobl o bob cenedl ac iaith?

17 Mae Tystion Jehofa yn sylweddoli, er mwyn i bobl o bob iaith gael eu casglu, fod rhaid pregethu’r newyddion da mewn llawer o ieithoedd. Rydyn ni wedi bod yn cyfieithu deunydd astudio Beiblaidd am dros 130 o flynyddoedd, ond heddiw rydyn ni’n cyfieithu yn fwy nag erioed i gannoedd o ieithoedd. Yn amlwg, mae Jehofa’n gwneud gwyrth yn ein dyddiau ni—mae’n casglu tyrfa fawr o bob cenedl. Gan fod bwyd ysbrydol ar gael mewn cymaint o ieithoedd, mae’r grŵp hwn yn addoli mewn ffordd gwbl unedig, er bod ei aelodau yn dod o amrywiol gefndiroedd. Ac mae pobl Jehofa yn adnabyddus am bregethu’n selog a dangos cariad tuag at ei gilydd. Mae hynny’n cryfhau ein ffydd!—Math. 24:14; Ioan 13:35.

BETH MAE’R WELEDIGAETH YN EI OLYGU INNI?

18. (a) Yn unol ag Eseia 46:10, 11, pam nad ydyn ni’n cael ein synnu bod Jehofa wedi cyflawni’r broffwydoliaeth am y dyrfa fawr? (b) Pam nad yw’r rhai sy’n gobeithio byw ar y ddaear yn teimlo eu bod nhw’n colli allan?

18 Mae gennyn ni bob rheswm i deimlo’n llawn cyffro am broffwydoliaeth y dyrfa fawr! Nid yw’n syndod inni fod Jehofa wedi cyflawni’r broffwydoliaeth honno mewn ffordd mor ryfeddol. (Darllen Eseia 46:10, 11.) Mae aelodau o’r dyrfa fawr yn gwerthfawrogi’r gobaith mae Jehofa wedi ei roi iddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw’n colli allan gan nad ydyn nhw wedi cael eu heneinio ag ysbryd Duw i wasanaethu yn y nefoedd gyda Iesu. Trwy gydol yr Ysgrythurau, darllenwn am ddynion a menywod ffyddlon a gafodd eu harwain gan yr ysbryd glân; ond eto, dydyn nhw ddim yn rhan o’r 144,000. Un esiampl yw Ioan Fedyddiwr. (Math. 11:11) Esiampl arall yw Dafydd. (Act. 2:34) Byddan nhw, ynghyd â llawer o bobl eraill, yn cael eu hatgyfodi i fyw mewn paradwys ar y ddaear. Bydd pob un ohonyn nhw—ynghyd â’r dyrfa fawr—yn cael y cyfle i ddangos eu ffyddlondeb i Jehofa a’i sofraniaeth.

19. Sut mae cyflawniad gweledigaeth Ioan o’r dyrfa fawr yn pwysleisio’r syniad fod amser yn brin a bod gweithredu’n fater o frys?

19 Dyma’r tro cyntaf yn hanes dyn y mae Duw wedi uno miliynau o bobl o bob cenedl. P’un a ydyn ni’n gobeithio byw yn y nefoedd neu yma ar y ddaear, rydyn ni angen helpu cymaint o bobl ag sy’n bosib i ddod yn rhan o’r dyrfa fawr o “ddefaid eraill.” (Ioan 10:16) Cyn bo hir, bydd Jehofa’n dod â’r gorthrymder mawr a fydd yn dinistrio’r llywodraethau a’r crefyddau sydd wedi achosi i fodau dynol ddioddef. Am gyfle arbennig sydd gan bob aelod o’r dyrfa fawr—i wasanaethu Jehofa ar y ddaear am byth!—Dat. 7:14.

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn trafod gweledigaeth broffwydol Ioan o’r dyrfa fawr yn cael ei chasglu. Heb amheuaeth, bydd yn cryfhau ffydd pob un sy’n rhan o’r grŵp hwnnw.

^ Par. 8 Gweler Jehovah’s Witnesses—Proclaimers of God’s Kingdom, tt. 159-163.