Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 37

Cadwa’n Brysur

Cadwa’n Brysur

“Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr.”—PREG. 11:6, BCND.

CÂN 68 Hau Had y Deyrnas

CIPOLWG *

1-2. Beth yw’r cysylltiad rhwng Pregethwr 11:6 a’r gwaith pregethu?

MEWN rhai gwledydd, mae pobl yn awyddus i wrando ar y newyddion da. Dyna’r union neges oedden nhw ei hangen! Mewn gwledydd eraill, does gan bobl fawr ddim diddordeb yn Nuw na’r Beibl. Beth yw’r ymateb arferol yn dy ardal di? Ni waeth beth yw’r ymateb, mae Jehofa yn disgwyl inni ddal ati i bregethu nes bydd ef yn dweud bod y gwaith wedi ei orffen.

2 Mae Jehofa eisoes wedi penderfynu pryd bydd y gwaith pregethu yn dod i ben, a phryd “fydd y diwedd yn dod.” (Math. 24:14, 36) Yn y cyfamser, sut gallwn ni roi ar waith y geiriau ‘paid â gorffwys’? *Darllen Pregethwr 11:6, BCND.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Roedd yr erthygl flaenorol yn trafod pedwar peth sydd rhaid inni ei wneud er mwyn bod yn bysgotwyr dynion effeithiol. (Math. 4:19) Bydd yr erthygl hon yn trafod tair ffordd y gallwn ni gryfhau ein penderfyniad i bregethu, ni waeth pa anawsterau a wynebwn. Byddwn ni’n dysgu pam mae hi’n bwysig inni (1) canolbwyntio ar y gwaith pregethu, (2) bod yn amyneddgar, a (3) cadw ffydd gref.

CANOLBWYNTIA

4. Pam mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni?

4 Rhagfynegodd Iesu ddigwyddiadau ac amgylchiadau a fyddai’n arwydd o’r dyddiau diwethaf. Gwyddai y gall y pethau hyn dynnu sylw ei ddilynwyr oddi wrth y gwaith pregethu. Dyna pam y dywedodd wrth ei ddisgyblion, “byddwch wyliadwrus.” (Math. 24:42, BCND) Yn nyddiau Noa, roedd ’na lawer o bethau oedd yn tynnu sylw pobl oddi ar y rhybudd a gawson nhw ganddo. Gall yr un pethau dynnu ein sylw ninnau heddiw. (Math. 24:37-39; 2 Pedr 2:5) Dyna pam mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni.

5. Sut mae Actau 1:6-8 yn disgrifio maint y gwaith pregethu?

5 Heddiw, mae gwir angen inni ganolbwyntio ar y gwaith o bregethu am y Deyrnas. Rhagfynegodd Iesu y byddai’r gwaith hwn yn ehangu ac yn parhau ymhell ar ôl iddo farw. (Ioan 14:12) Ar ôl i Iesu farw, aeth rhai o’i ddisgyblion yn ôl i bysgota. Ar ôl ei atgyfodiad, rhoddodd Iesu ddalfa wyrthiol o bysgod i rai o’i ddisgyblion. Defnyddiodd yr achlysur hwnnw i bwysleisio bod eu haseiniad fel pysgotwyr dynion yn bwysicach nag unrhyw waith arall. (Ioan 21:15-17) Ychydig cyn i Iesu fynd i’r nef, dywedodd wrth ei ddisgyblion y byddai’r gwaith tystiolaethu a gychwynnodd yn mynd ymhell tu hwnt i ffiniau Israel. (Darllen Actau 1:6-8.) Flynyddoedd wedyn, rhoddodd Iesu weledigaeth i’r apostol Ioan i ddangos iddo beth fyddai’n digwydd “ar ddydd yr Arglwydd.” * Ymhlith pethau eraill, gwelodd Ioan ddigwyddiad rhyfeddol: O dan arweiniad yr angylion, roedd “neges dragwyddol” yn cael ei chyhoeddi “i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.” (Dat. 1:10, BCND; 14:6) Yn amlwg felly, mae Jehofa yn dymuno inni gael rhan yn y gwaith pregethu byd-eang nes ei fod wedi ei gwblhau.

6. Sut gallwn ni barhau i ganolbwyntio ar y gwaith pregethu?

6 Gallwn ni ganolbwyntio ar y gwaith pregethu os ydyn ni’n myfyrio ar bopeth mae Jehofa yn ei wneud i’n helpu ni. Er enghraifft, mae’n rhoi digonedd o fwyd ysbrydol inni drwy gyfrwng cyhoeddiadau printiedig a digidol, recordiadau sain a fideo, a darllediadau dros y We. Meddylia: Ar ein gwefan swyddogol, mae ’na wybodaeth ar gael mewn dros 1,000 o ieithoedd! (Math. 24:45-47) Mewn byd sydd wedi ei rannu gan wahaniaethau gwleidyddol, crefyddol, ac economaidd, mae mwy nag wyth miliwn o weision Duw yn wirioneddol unedig mewn brawdoliaeth fyd-eang. Er enghraifft, ar ddydd Gwener, Ebrill 19, 2019, roedd Tystion ar draws y byd wedi eu huno mewn trafodaeth o destun y dydd. Y noson honno, gwnaeth 20,919,041 o bobl goffáu marwolaeth Iesu. Wrth fyfyrio ar ein braint o weld y digwyddiadau gwyrthiol hyn, a chael rhan ynddyn nhw, cawn ein cymell i ganolbwyntio ar y gwaith o bregethu am y Deyrnas.

Ni chaniataodd Iesu i unrhyw beth gymryd ei sylw oddi ar dystiolaethu am y gwir (Gweler paragraff 7)

7. Sut mae esiampl Iesu yn ein helpu i ddal ati i ganolbwyntio?

7 Ffordd arall gallwn ni ganolbwyntio ar y gwaith pregethu yw dilyn esiampl Iesu. Ni adawodd i unrhyw beth dynnu ei sylw oddi ar bregethu. (Ioan 18:37) Ni chafodd ei hudo gan Satan pan gynigiodd “holl wledydd y byd a’u cyfoeth iddo,” na’i demtio pan geisiodd eraill ei wneud yn frenin. (Math. 4:8, 9; Ioan 6:15) Ni chafodd ei denu gan gyfoeth materol, na’i rwystro gan wrthwynebiad ffyrnig. (Luc 9:58; Ioan 8:59) Pan fydd ein ffydd o dan brawf, gallwn lwyddo i ganolbwyntio os gwnawn ni gofio cyngor yr apostol Paul. Anogodd Gristnogion i ddilyn esiampl Iesu fel na fydden nhw’n “colli plwc a digalonni”!—Heb. 12:3.

BYDDA’N AMYNEDDGAR

8. Beth yw amynedd, a pham mae mor angenrheidiol heddiw?

8 Amynedd yw’r gallu i ddisgwyl i sefyllfa newid heb gynhyrfu. P’un a ydyn ni’n edrych ymlaen at ddiwedd rhyw sefyllfa annifyr neu wedi bod yn disgwyl yn hir am ryw ddymuniad arbennig, mae eisiau amynedd arnon ni. Roedd y proffwyd Habacuc yn dyheu am weld yr amgylchiadau treisgar yn Jwda yn dod i ben. (Hab. 1:2) Roedd disgyblion Iesu yn gobeithio bod y Deyrnas “yn mynd i ddod unrhyw funud” a’u rhyddhau nhw o reolaeth feichus Rhufain. (Luc 19:11) Rydyn ni’n dyheu am y diwrnod pan fydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar ddrygioni ac yn sefydlu byd newydd llawn cyfiawnder. (2 Pedr 3:13) Ond, mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar a disgwyl am amser penodedig Jehofa. Ystyria rai o’r ffyrdd y mae Jehofa yn ein dysgu i fod yn amyneddgar.

9. Pa esiamplau sy’n dangos bod Jehofa yn amyneddgar?

9 Mae Jehofa yn esiampl berffaith o amynedd. Rhoddodd ddigon o amser i Noa adeiladu’r arch ac i alw ar bobl “i fyw yn ufudd i Dduw.” (2 Pedr 2:5; 1 Pedr 3:20) Gwrandawodd Jehofa wrth i Abraham ei gwestiynu drosodd a throsodd ynglŷn â’i benderfyniad i ddinistrio pobl Sodom a Gomorra. (Gen. 18:20-33) Roedd Jehofa yn hynod o amyneddgar gyda chenedl anffyddlon Israel am ganrifoedd. (Neh. 9:30, 31) Gwelwn dystiolaeth o amynedd Jehofa heddiw wrth iddo roi digon o amser i bawb mae’n eu denu “newid eu ffyrdd.” (2 Pedr 3:9; Ioan 6:44; 1 Tim. 2:3, 4) Mae esiampl Jehofa yn rhoi digon o reswm i ninnau fod yn amyneddgar wrth inni barhau i bregethu a dysgu. Mae hefyd yn defnyddio eglureb yn ei Air i ddysgu amynedd inni.

Fel ffermwr gweithgar, rydyn ni’n disgwyl yn amyneddgar am ganlyniadau ein hymdrechion (Gweler paragraffau 10-11)

10. Beth mae esiampl y ffermwr yn Iago 5:7, 8 yn ein dysgu?

10 Darllen Iago 5:7, 8Mae esiampl y ffermwr yn tyfu cnydau yn ein dysgu ni sut i fod yn amyneddgar. Mae’n wir fod rhai planhigion yn tyfu’n gyflym. Ond, mae’r rhan fwyaf, yn enwedig y rhai sy’n dwyn ffrwyth, yn cymryd llawer hirach i aeddfedu. Roedd y tymor tyfu yn Israel yn para tua chwe mis. Byddai’r ffermwr yn hau ei hadau ar ôl glawogydd cynnar yr hydref ac yn medi’r cnwd ar ôl glawogydd hwyr y gwanwyn. (Marc 4:28) Peth doeth fyddai efelychu amynedd y ffermwr. Ond, dydy hyn ddim bob amser yn hawdd.

11. Sut bydd amynedd yn ein helpu yn ein gweinidogaeth?

11 Fel arfer mae pobl amherffaith eisiau gweld canlyniadau eu gwaith ar unwaith. Eto, os ydyn ni eisiau i’n planhigion dyfu a dwyn ffrwyth, mae’n rhaid inni dalu sylw cyson iddyn nhw. Mae’n rhaid palu, plannu, chwynnu, a rhoi dŵr iddyn nhw. Mae’r gwaith o wneud disgyblion hefyd yn gofyn am ymdrech gyson. Mae’n cymryd amser inni ddadwreiddio chwyn rhagfarn a difaterwch o galonnau ein myfyrwyr. Bydd amynedd yn ein helpu i beidio â digalonni os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnon ni. Hyd yn oed pan fyddwn ni’n dod ar draws rhai sy’n fodlon gwrando a dysgu, rydyn ni dal angen bod yn amyneddgar. Allwn ni ddim gorfodi myfyriwr y Beibl i gael mwy o ffydd. Ar brydiau, roedd hyd yn oed disgyblion Iesu yn araf i ddeall ystyr yr hyn roedd yn ei ddysgu. (Ioan 14:9) Gad inni gofio, er ein bod yn plannu ac yn dyfrio, Duw sy’n gwneud iddo dyfu.—1 Cor. 3:6.

12. Sut gallwn ni ddangos amynedd wrth bregethu i aelodau’r teulu sydd ddim yn Dystion?

12 Weithiau mae’n anodd dangos amynedd wrth bregethu i aelodau’r teulu sydd ddim yn Dystion. Gall yr egwyddor yn Pregethwr 3:1, 7 ein helpu. Mae’n dweud bod ’na “amser i gadw’n dawel ac amser i siarad.” Gall ein hymddygiad da fod yn dystiolaeth ynddo’i hun, ond eto rydyn ni’n effro i bob cyfle i siarad am y gwir. (1 Pedr 3:1, 2) Rydyn ni’n amyneddgar gyda phawb—gan gynnwys aelodau’r teulu—wrth inni bregethu a dysgu’n selog.

13-14. Pa esiamplau o amynedd gallwn ni eu hefelychu?

13 Gallwn ni ddysgu bod yn amyneddgar oddi wrth esiamplau rhai ffyddlon yn adeg y Beibl yn ogystal â’n hoes ni. Roedd Habacuc yn dyheu am ddiwedd drygioni, ond dywedodd yn llawn hyder: ‘Dw i’n mynd i ddisgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud.’ (Hab. 2:1) Mynegodd yr apostol Paul ei ddymuniad cryf i ‘orffen’ ei weinidogaeth. Eto, daliodd ati’n amyneddgar i rannu’r “newyddion da am gariad a haelioni Duw.”—Act. 20:24.

14 Ystyria esiampl cwpl priod a raddiodd o Gilead a chael eu haseinio i wlad lle does ’na ddim llawer o Dystion ac nid Cristnogaeth yw’r brif grefydd. Ychydig iawn o bobl oedd eisiau astudio’r Beibl. Ar y llaw arall, byddai eu ffrindiau Gilead oedd yn gwasanaethu mewn gwledydd eraill yn sôn am eu holl astudiaethau Beiblaidd ffrwythlon. Er gwaethaf y cynnydd araf yn eu tiriogaeth eu hunain, daliodd y cwpl ati i bregethu’n amyneddgar. O’r diwedd, ar ôl pregethu am wyth mlynedd mewn tiriogaeth oedd yn ymddangos yn anffrwythlon, cawson nhw’r llawenydd o weld un o’u myfyrwyr y Beibl yn cael ei fedyddio. Beth sy’n gyffredin rhwng yr esiamplau o’n hoes ni a’r rhai o’r oes a fu? Wnaeth y rhai ffyddlon hyn ddim stopio bod yn selog na llaesu eu dwylo, a chawson nhw eu gwobrwyo gan Jehofa am eu hamynedd. Gad inni wrando ar gyngor y Beibl: “Dilynwch esiampl y rhai hynny sy’n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar—nhw ydy’r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi ei addo.”—Heb. 6:10-12.

CADWA DY FFYDD YN GRYF

15. Beth yw un ffordd y mae ffydd yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol o gadw’n brysur yn y gwaith pregethu?

15 Mae gynnon ni ffydd yn y neges a bregethwn, felly rydyn ni’n awyddus i’w rhannu â chymaint o bobl ag sy’n bosib. Rydyn ni’n ymddiried yn yr addewidion yng Ngair Duw. (Salm 119:42; Esei. 40:8) Rydyn ni wedi gweld proffwydoliaethau Beiblaidd yn cael eu cyflawni yn ein hoes ni. Rydyn ni wedi gweld sut mae pobl wedi newid eu bywydau er gwell pan maen nhw’n dechrau rhoi cyngor y Beibl ar waith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein gwneud yn fwy sicr byth fod newyddion da’r Deyrnas yn neges mae pawb angen ei chlywed.

16. Yn unol â Salm 46:1-3, sut mae dy ffydd yn Jehofa ac Iesu yn cryfhau dy benderfyniad i bregethu?

16 Hefyd, mae gynnon ni ffydd yn Jehofa, Ffynhonnell y neges rydyn ni’n ei rhannu, ac yn yr un y mae wedi ei benodi yn Frenin y Deyrnas, sef Iesu. (Ioan 14:1) Ni waeth beth sy’n digwydd inni, bydd Jehofa wastad yn ein cadw ni’n saff ac yn rhoi nerth inni. (Darllen Salm 46:1-3.) Ar ben hynny, rydyn ni’n sicr bod Iesu yn arwain y gwaith pregethu o’r nefoedd, gan ddefnyddio’r grym a’r awdurdod y mae Jehofa wedi ei roi iddo.—Math. 28:18-20.

17. Rho enghraifft o pam dylen ni ddal ati i bregethu.

17 Mae ffydd yn rhoi hyder inni y bydd Jehofa yn bendithio ein hymdrechion, weithiau mewn ffyrdd annisgwyl. (Preg. 11:6) Er enghraifft, mae miloedd o bobl yn cerdded heibio ein trolïau a’n stondinau llyfrau bob diwrnod. Ydy’r dull yma o bregethu yn effeithiol? Yn bendant! Gwnaeth rhifyn Tachwedd 2014 Ein Gweinidogaeth sôn am fyfyrwraig ifanc mewn prifysgol a oedd eisiau ysgrifennu traethawd ar Dystion Jehofa. Roedd hi’n methu dod o hyd i Neuadd y Deyrnas, ond fe ddaeth hi o hyd i’n stondin lyfrau ar y campws, yn ogystal â’r wybodaeth roedd ei hangen arni ar gyfer ei thraethawd. Yn y pen draw, cafodd hi ei bedyddio, ac erbyn hyn mae hi’n arloesi’n llawn amser. Mae’r fath brofiadau yn ein cymell ni i bregethu oherwydd eu bod yn profi bod ’na dal bobl sydd angen clywed neges y Deyrnas.

BYDDA’N BENDERFYNOL O GADW’N BRYSUR

18. Pam ydyn ni’n sicr y bydd y gwaith pregethu yn cael ei gwblhau fel mae Jehofa eisiau?

18 Gallwn fod yn sicr y bydd y gwaith pregethu’n cael ei gwblhau ar yr amser iawn. Ystyria beth ddigwyddodd yn nyddiau Noa. Profodd Jehofa ei fod wastad yn gwneud pethau ar yr adeg orau. Tua 120 mlynedd o flaen llaw, penderfynodd Jehofa pryd fyddai’r Dilyw yn dechrau. Ddegawdau yn ddiweddarach, rhoddodd Jehofa gomisiwn i Noa adeiladu’r arch. Am tua 40 neu 50 mlynedd cyn i’r Dilyw ddechrau, daliodd Noa ati i weithio’n galed. Er gwaethaf y ffaith nad oedd pobl yn gwrando arno, daliodd ati i bregethu’r neges rybuddiol nes dywedodd Jehofa ei bod yn amser i ddod â’r anifeiliaid i mewn i’r arch. Wedyn, ar yr adeg iawn, caeodd Jehofa’r drws.—Gen. 6:3; 7:1, 2, 16.

19. Beth gallwn ni edrych ymlaen ato os gwnawn ni gadw’n brysur?

19 Yn fuan, bydd Jehofa’n dod â’r gwaith pregethu am y Deyrnas i ben; bydd yn cau’r drws ar hen system Satan ac yn dod â byd newydd cyfiawn yn ei le. Tan hynny, gad inni efelychu Noa, Habacuc, ac eraill sydd heb laesu eu dwylo. Gad inni barhau i ganolbwyntio ar y gwaith pregethu, i fod yn amyneddgar, ac i gadw ffydd gref yn Jehofa a’i addewidion.

CÂN 75 “Dyma Fi! Anfon Fi!”

^ Par. 5 Roedd yr erthygl flaenorol yn annog myfyrwyr y Beibl sy’n gwneud cynnydd i dderbyn gwahoddiad Iesu i fod yn bysgotwyr dynion. Bydd yr erthygl hon yn trafod tair ffordd y gall pob cyhoeddwr, y rhai newydd a’r profiadol, gryfhau eu penderfyniad i ddal ati yn y gwaith pregethu nes bydd Jehofa yn dweud ei fod wedi gorffen.

^ Par. 2 ESBONIAD: Yng nghyd-destun yr erthygl hon, mae’r ymadrodd ‘paid â gorffwys’ yn golygu bod yn benderfynol o ddal ati i bregethu’r newyddion da nes bydd Jehofa yn dweud bod y gwaith wedi gorffen.

^ Par. 5 Cychwynnodd ‘dydd yr Arglwydd’ pan ddaeth Iesu yn Frenin ym 1914 a bydd yn parhau hyd ddiwedd ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd.