Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

A ydy Pregethwr 5:8 yn cyfeirio at reolwyr dynol neu at Jehofa?

Mae’r adnod ddiddorol hon yn dweud: “Os wyt ti’n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau’n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i’w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn.”—Preg. 5:8.

O safbwynt dynol, mae’r adnod hon yn ddisgrifiad da o ddynion sydd ag awdurdod mewn llywodraeth. Ond, yn fwy na hynny, mae’n cyfleu gwirionedd am Jehofa a ddylai’n cysuro ni a thawelu ein meddyliau.

Mae Pregethwr 5:8 yn cyfeirio at reolwr annheg sy’n trin y tlawd yn llawdrwm. Dylai’r rheolwr gofio ei fod yn debygol fod rhywun sydd â safle uwch, neu fwy o awdurdod yn y llywodraeth nag ef, yn ei wylio. Ac mewn gwirionedd, efallai bod ’na eraill â safleoedd uwch fyth. Yn anffodus, mewn llywodraethau dynol, gall y rheolwyr i gyd fod yn llwgr, ac mae’r bobl gyffredin yn dioddef oherwydd yr holl anghyfiawnder.

Ond eto, ni waeth pa mor anobeithiol mae pethau’n ymddangos, cawn gysur o wybod fod Jehofa yn gwylio “pob swyddog,” hyd yn oed y rhai uchaf mewn llywodraethau dynol. Gallwn erfyn ar Dduw am help a thaflu ein beichiau arno. (Salm 55:22; Phil. 4:6, 7) Gwyddwn fod Jehofa yn “gwylio popeth sy’n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu’r rhai sy’n ei drystio fe’n llwyr.”—2 Cron. 16:9.

Felly, mae Pregethwr 5:8 yn cydnabod beth yw gwir sefyllfa pobl mewn llywodraeth—mae ’na wastad rywun sydd â mwy o awdurdod. Yn bwysicach fyth, gall yr adnod ein helpu ni i fyfyrio ar y ffaith mai Jehofa yw’r awdurdod uchaf, ie, y Goruchaf. Mae’n rheoli nawr drwy ei Fab, Iesu Grist, Brenin y Deyrnas. Mae’r Hollalluog, sy’n gwylio pawb, yn hollol gyfiawn a theg, fel y mae ei Fab hefyd.