Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 38

Gwna’r Gorau o Gyfnod Heddychlon

Gwna’r Gorau o Gyfnod Heddychlon

“Roedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.”—2 CRON. 14:6.

CÂN 60 Mae Eu Bywydau yn y Fantol

CIPOLWG *

1. Pryd gallai hi fod yn her i wasanaethu Jehofa?

PRYD, wyt ti’n meddwl, yw’r adeg fwyaf heriol i wasanaethu Jehofa—pan wyt ti’n delio â phroblemau anodd, neu pan mae dy fywyd yn weddol heddychlon? Yn wyneb heriau, rydyn ni’n barod iawn i ddibynnu ar Jehofa. Ond beth rydyn ni’n ei wneud pan mae bywyd yn hawdd? A ydyn ni’n anghofio weithiau pa mor bwysig ydy hi i wasanaethu Duw? Rhybuddiodd Jehofa yr Israeliaid fod hyn yn gallu digwydd.—Deut. 6:10-12.

Brwydrodd y Brenin Asa yn gryf yn erbyn gau addoliad (Gweler paragraff 2) *

2. Pa esiampl a osododd y Brenin Asa?

2 Mae’r Brenin Asa yn esiampl ragorol o rywun a wnaeth y peth doeth drwy ddibynnu’n llwyr ar Jehofa. Gwasanaethodd Jehofa nid yn unig ar adegau anodd, ond hefyd yn ystod cyfnod o heddwch. O adeg gynnar yn ei fywyd, roedd Asa yn gwbl “ffyddlon i’r ARGLWYDD.” (1 Bren. 15:14) Dangosodd Asa ei fod yn gwasanaethu Jehofa â’i holl galon drwy gael gwared ar gau addoliad o Jwda. Mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi “cael gwared â’r allorau paganaidd a’r temlau lleol, malu’r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera.” (2 Cron. 14:3, 5) Fe wnaeth ef hyd yn oed ddiswyddo ei nain Maacha o fod yn fam frenhines. Pam? Am ei bod hi wedi annog pobl i addoli eilun.—1 Bren. 15:11-13.

3. Beth byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?

3 Gwnaeth Asa fwy na chael gwared ar gau addoliad. Hyrwyddodd addoliad pur, gan helpu pobl Jwda i droi yn ôl at Jehofa. Bendithiodd Jehofa Asa a’r Israeliaid gyda chyfnod o heddwch. * “Roedd y wlad yn dawel” am ddeng mlynedd yn ystod teyrnasiad Asa. (2 Cron. 14:1, 4, 6) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut defnyddiodd Asa y cyfnod heddychlon hwnnw. Yna, byddwn ni’n ystyried esiampl Cristnogion y ganrif gyntaf a wnaeth y gorau o gyfnod heddychlon, fel Asa. Yn olaf, byddwn ni’n ateb y cwestiwn hwn: Os wyt ti’n byw mewn gwlad sy’n caniatáu addoliad rhydd, sut gelli di wneud y defnydd gorau o’r cyfnod heddychlon hwnnw?

SUT DEFNYDDIODD ASA GYFNOD O HEDDWCH

4. Yn ôl 2 Cronicl 14:2, 6, 7, sut defnyddiodd Asa gyfnod o heddwch?

4 Darllen 2 Cronicl 14:2, 6, 7. Dywedodd Asa wrth y bobl mai Jehofa oedd wedi “rhoi heddwch [iddyn nhw] o bob cyfeiriad.” Ond doedd Asa ddim yn teimlo fod y cyfnod o heddwch yn amser i ymlacio. I’r gwrthwyneb, dechreuodd adeiladu dinasoedd, waliau, tyrau, a giatiau. Dywedodd wrth bobl Jwda: “Mae’r wlad yma’n dal gynnon ni.” Beth roedd Asa yn ei olygu? Roedd yn golygu nad oedd unrhyw elynion yn y wlad a allai eu rhwystro nhw rhag symud o gwmpas yn rhydd ac adeiladu. Anogodd y bobl i fanteisio ar y cyfnod heddychlon hwn.

5. Pam gwnaeth Asa gryfhau ei fyddin?

5 Hefyd, defnyddiodd Asa y cyfnod o heddwch i gryfhau ei fyddin. (2 Cron. 14:8) Ydy hyn yn golygu nad oedd yn ymddiried yn Jehofa? Nac ydy. Yn hytrach, gwyddai Asa fod ganddo ddyletswydd fel Brenin i baratoi’r bobl ar gyfer heriau y gallen nhw eu hwynebu yn y dyfodol. Gwyddai hefyd na fyddai’r cyfnod o heddwch yr oedd Jwda yn ei fwynhau yn para am byth, a dyna’n union a ddigwyddodd.

SUT DEFNYDDIODD CRISTNOGION Y GANRIF GYNTAF GYFNOD O HEDDWCH

6. Sut defnyddiodd Cristnogion y ganrif gyntaf gyfnod o heddwch?

6 Er cafodd Cristnogion y ganrif gyntaf eu herlid yn aml, cawson nhw hefyd gyfnodau o heddwch. Sut defnyddiodd y disgyblion y cyfleoedd hynny? Pregethodd y dynion a merched ffyddlon hynny y newyddion da yn ddi-baid. Yn ôl yr hanes yn llyfr yr Actau, “roedden nhw’n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni’r Arglwydd.” Gwnaethon nhw ddal ati i bregethu’r newyddion da, ac o ganlyniad, “roedd eu niferoedd yn tyfu.” Yn amlwg, bendithiodd Jehofa eu pregethu selog yn ystod cyfnod heddychlon.—Act. 9:26-31.

7-8. Beth wnaeth Paul ac eraill pan gawson nhw’r cyfle? Esbonia.

7 Achubodd disgyblion y ganrif gyntaf ar bob cyfle i rannu’r newyddion da. Er enghraifft, pan sylweddolodd yr apostol Paul fod ganddo gyfle i bregethu a gwneud disgyblion yn Effesus, arhosodd yn y ddinas er mwyn manteisio ar y cyfle hwnnw.—1 Cor. 16:8, 9.

8 Cafodd Paul a Christnogion eraill gyfle arall i bregethu yn y flwyddyn 49 OG pan gafodd y mater o enwaedu ei ddatrys. (Act. 15:23-29) Ar ôl i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi i’r cynulleidfaoedd, gweithiodd y disgyblion yn galed i gyhoeddi “neges yr Arglwydd.” (Act. 15:30-35) Beth oedd y canlyniad? Mae’r Beibl yn dweud: “Roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhw’n tyfu bob dydd.”—Act. 16:4, 5.

DEFNYDDIO CYFNODAU O HEDDWCH HEDDIW

9. Beth yw’r sefyllfa mewn llawer o wledydd heddiw, a beth allwn ni ofyn i ni’n hunain?

9 Mewn llawer o wledydd heddiw, rydyn ni’n rhydd i bregethu. A wyt ti’n byw mewn gwlad sy’n caniatáu rhyddid i addoli? Os felly, gofynna i ti dy hun, ‘Sut ydw i’n defnyddio’r rhyddid hwn?’ Mae’r dyddiau diwethaf yn adeg gyffrous i bobl Jehofa, oherwydd maen nhw’n brysur yn y gwaith pregethu a dysgu mwyaf a fuodd erioed. (Marc 13:10) Mae ’na lawer gallwn ni ei wneud yn y gwaith hwn!

Mae llawer yn profi’r llawenydd mawr sy’n dod o bregethu i bobl mewn gwlad arall, neu o dystiolaethu i rai sy’n siarad iaith wahanol (Gweler paragraffau 10-12) *

10. Beth mae 2 Timotheus 4:2 yn ein hannog ni i’w wneud?

10 Sut gelli di fanteisio ar gyfnod o heddwch? (Darllen 2 Timotheus 4:2 o’r troednodyn. *) Beth am ystyried a fedri di neu aelod o dy deulu wneud mwy yn y gwaith pregethu, neu hyd yn oed arloesi? Nid dyma’r amser i gasglu cyfoeth a phethau materol—pethau na fydd yn goroesi’r gorthrymder mawr gyda ni.—Diar. 11:4; Math. 6:31-33; 1 Ioan 2:15-17.

11. Beth mae rhai wedi ei wneud er mwyn helpu cymaint o bobl â phosib i glywed y newyddion da?

11 Mae llawer o gyhoeddwyr wedi dysgu iaith newydd er mwyn iddyn nhw allu helpu eraill i ddysgu am Jehofa. Mae cyfundrefn Duw yn eu cefnogi drwy gynhyrchu llenyddiaeth Feiblaidd mewn mwy a mwy o ieithoedd. Er enghraifft, yn 2010, roedd ein llenyddiaeth ar gael mewn tua 500 o ieithoedd. Erbyn heddiw, mae’r nifer wedi codi i dros 1,000 o ieithoedd!

12. Sut mae pobl yn elwa o glywed neges y Deyrnas yn eu mamiaith? Rho esiampl.

12 Sut mae pobl yn teimlo pan fyddan nhw’n clywed am Jehofa yn eu hiaith eu hunain? Ystyria brofiad chwaer a elwodd o gynhadledd ranbarthol ym Memffis, Tennessee, UDA. Cafodd y gynhadledd ei chyflwyno yn Ciniarwandeg, iaith sy’n cael ei siarad yn bennaf yn Rwanda, Congo (Kinshasa), ac Iwganda. Ar ôl y gynhadledd, dywedodd y chwaer: “Dyma’r tro cyntaf imi ddeall rhaglen ysbrydol yn llawn ers imi symud i’r Unol Daleithiau 17 mlynedd yn ôl.” Yn amlwg, gwnaeth clywed y rhaglen yn ei mamiaith gyffwrdd â’i chalon. Os ydy dy amgylchiadau yn caniatáu, a elli di ddysgu iaith arall er mwyn helpu rhai yn dy diriogaeth? A fyddai rhywun yn dy diriogaeth yn fwy parod i wrando ar dy neges petaset ti’n siarad â nhw yn eu mamiaith? Bydd y gwobrwyon yn werth yr ymdrech.

13. Sut defnyddiodd ein brodyr yn Rwsia gyfnod o heddwch?

13 Does gan bob un o’n brodyr mo’r rhyddid i bregethu’n agored. Ar adegau, mae llywodraethau wedi cyfyngu ar ein gwaith pregethu. Er enghraifft, ystyria ein brodyr yn Rwsia. Ar ôl degawdau o erledigaeth, cawson nhw ryddid i addoli ym mis Mawrth 1991. Bryd hynny, roedd tua 16,000 o gyhoeddwyr yn Rwsia. Ugain mlynedd wedyn, roedd y nifer hwnnw wedi tyfu i dros 160,000! Yn amlwg, gwnaeth ein brodyr y gorau o’u cyfle i bregethu’n rhydd. Wnaeth y cyfnod heddychlon hwnnw ddim para. Ond, er bod pethau wedi newid, mae eu sêl dros Jehofa yn dal yn gryf. Maen nhw’n parhau i wneud popeth a allan nhw i’w wasanaethu.

NI FYDD Y CYFNOD O HEDDWCH YN PARA

Wedi i’r Brenin Asa weddïo’n daer, rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth i Jwda dros fyddin enfawr (Gweler paragraffau 14-15)

14-15. Sut defnyddiodd Jehofa ei nerth i helpu Asa?

14 Yn nyddiau Asa, daeth y cyfnod o heddwch i ben yn y pen draw. Daeth byddin anferth o Ethiopia gyda mwy na miliwn o filwyr. Roedd eu pennaeth, Serach, yn hollol sicr y gallai ef a’i fyddin orchfygu Jwda. Ond, roedd y Brenin Asa yn trystio ei Dduw, Jehofa, yn hytrach na phoeni am niferoedd. Gweddïodd: “Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni’n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di.”—2 Cron. 14:11.

15 Er bod gan y fyddin o Ethiopia bron i ddwbl y nifer o filwyr, roedd Asa’n cydnabod nerth Jehofa a’i allu i weithredu ar ran Ei bobl. Ac ni wnaeth Jehofa ei siomi; cafodd y fyddin o Ethiopia ei chwalu.—2 Cron. 14:8-13.

16. Sut rydyn ni’n gwybod na fydd y cyfnod o heddwch yn para?

16 Er nad ydyn ni’n gwybod yn union beth sydd o’n blaenau ni fel unigolion, rydyn ni’n gwybod na fydd unrhyw gyfnod o heddwch mae pobl Dduw yn ei fwynhau yn para. Cofia beth ddywedodd Iesu am y dyddiau diwethaf: “Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi.” (Math. 24:9) Hefyd, dywedodd yr apostol Paul: “Bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid.” (2 Tim. 3:12) Mae Satan “wedi gwylltio’n gandryll,” a bydden ni’n twyllo ein hunain petasen ni’n meddwl y gallen ni osgoi effeithiau ei ddicter.—Dat. 12:12.

17. Ym mha ffyrdd gall ein ffydd gael ei phrofi?

17 Yn y dyfodol agos, bydd pob un ohonon ni yn wynebu prawf ar ein ffydd. Yn fuan, fe fydd y byd yn profi “argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen.” (Math. 24:21) Yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai bydd aelodau o’n teulu yn troi yn ein herbyn ac efallai bydd ein gwaith yn cael ei wahardd. (Math. 10:35, 36) A fyddwn ninnau, fel Asa, yn ymddiried yn Jehofa i’n helpu a’n hamddiffyn?

18. Yn ôl Hebreaid 10:38, 39, beth fydd yn ein helpu i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod o heddwch?

18 Mae Jehofa yn ein paratoi yn ysbrydol nawr ar gyfer beth sydd i ddod. Mae’n arwain y “gwas ffyddlon a chall” i roi ‘bwyd yn ei bryd,’ fel bod gynnon ni bopeth rydyn ni ei angen er mwyn aros yn gryf. (Math. 24:45) Ond mae’n rhaid i ninnau wneud ein rhan ac adeiladu ffydd gadarn yn Jehofa.—Darllen Hebreaid 10:38, 39.

19-20. Ar ôl darllen 1 Cronicl 28:9, pa gwestiynau dylen ni ofyn i ni’n hunain, a pham?

19 Fel y Brenin Asa, mae’n rhaid inni chwilio am Jehofa. (2 Cron. 14:4; 15:1, 2) Rydyn ni’n dechrau chwilio amdano drwy ddod i’w adnabod a chael ein bedyddio. Rydyn ni’n manteisio ar bob cyfle i gryfhau ein cariad tuag at Jehofa. I weld sut rydyn ni’n gwneud yn hyn o beth, gallen ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd?’ Mae’r cyfarfodydd yn rhoi’r nerth inni ddal ati i wasanaethu Jehofa, a chyfle i gael ein hannog gan ein brodyr a’n chwiorydd. (Math. 11:28) Hefyd, gallen ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n astudio’r Beibl yn rheolaidd?’ Os wyt ti’n byw gyda dy deulu, wyt ti’n neilltuo amser bob wythnos ar gyfer addoliad teuluol? Neu os wyt ti’n byw ar dy ben dy hun, wyt ti’n dal i neilltuo amser fel petaset ti’n rhan o deulu? Hefyd, wyt ti’n gwneud dy orau i bregethu i eraill a’u dysgu?

20 Pam dylen ni ofyn y cwestiynau hynny? Mae’r Beibl yn dweud fod Jehofa yn chwilio ein meddyliau a’n calonnau, felly dylen ninnau wneud yr un fath. (Darllen 1 Cronicl 28:9.) Os gwelwn fod angen inni newid ein hamcanion, agwedd, neu ffordd o feddwl, dylen ni ofyn i Jehofa am help i wneud y newidiadau hynny. Nawr yw’r amser i baratoi ein hunain ar gyfer y profion sydd i ddod. Paid â gadael i unrhyw beth dy rwystro rhag gwneud y gorau o gyfnod o heddwch!

CÂN 62 Y Gân Newydd

^ Par. 5 Wyt ti’n byw mewn gwlad lle elli di addoli Jehofa yn rhydd? Os felly, sut wyt ti’n defnyddio’r cyfnod o heddwch? Bydd yr erthygl hon yn dy helpu i ystyried sut gelli di efelychu’r Brenin Asa o Jwda a Christnogion y ganrif gyntaf. Gwnaethon nhw’r gorau o adeg pan oedd y wlad yn dawel ac yn rhydd rhag unrhyw helynt.

^ Par. 3 ESBONIAD: Mae’r gair “heddwch” yn golygu mwy nag absenoldeb rhyfel yn unig. Mae’r gair Hebraeg hefyd yn cyfleu’r syniad o iechyd da, diogelwch, a’n lles cyffredinol.

^ Par. 10 2 Timotheus 4:2, NWT: “Pregetha’r gair; gwna hynny ar frys mewn cyfnodau ffafriol a chyfnodau anodd; cywira, cerydda, ac anoga, gyda phob amynedd, gan roi dy sgiliau dysgu ar waith.”

^ Par. 58 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Diswyddodd Asa ei nain o fod yn fam frenhines am ei bod yn hyrwyddo gau addoliad. Dilynodd cefnogwyr ffyddlon Asa ei esiampl gan ddinistrio eilunod.

^ Par. 60 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Cwpl selog yn symleiddio eu bywyd er mwyn gwasanaethu lle mae angen mwy o gyhoeddwyr.