Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 36

Wyt Ti’n Barod i Fod yn Bysgotwr Dynion?

Wyt Ti’n Barod i Fod yn Bysgotwr Dynion?

“Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di’n dal pobl yn lle pysgod.”—LUC 5:10.

CÂN 73 Dyro Inni Hyder

CIPOLWG *

1. Pa wahoddiad estynnodd Iesu i bedwar pysgotwr, a sut gwnaethon nhw ymateb?

ROEDD gan y disgyblion Pedr, Andreas, Iago, ac Ioan fusnes pysgota. Dychmyga eu syndod o glywed gwahoddiad Iesu: “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi’n bysgotwyr sy’n dal pobl yn lle pysgod.” Sut gwnaethon nhw ymateb? Mae’r Beibl yn dweud: ‘Heb oedi, dyma nhw’n gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.’ (Math. 4:18-22) Byddai’r penderfyniad hwnnw yn newid eu bywydau am byth. Yn hytrach na dal pysgod llythrennol, bydden nhw’n “dal pobl.” (Luc 5:10) Mae Iesu’n estyn yr un gwahoddiad heddiw i bobl ddiffuant sy’n caru’r gwir. (Math. 28:19, 20) Wyt ti wedi derbyn gwahoddiad Iesu i fod yn bysgotwr dynion? *

2. Pam dylen ni gymryd y penderfyniad i fod yn bysgotwyr dynion o ddifri, a beth fydd yn ein helpu i gymryd y cam hwnnw?

2 Efallai dy fod ti wedi bod yn astudio’r Beibl am sbel, ac wedi gwneud newidiadau yn dy fywyd. Nawr, rwyt ti angen penderfynu a wyt ti eisiau bod yn un o gyhoeddwyr y newyddion da. Os wyt ti’n dal yn ôl rhag derbyn gwahoddiad Iesu, paid â digalonni. Mae’n debyg dy fod yn oedi am dy fod yn gwybod pa mor bwysig yw’r penderfyniad hwn. Mae’n wir fod y Beibl yn dweud y gadawodd Pedr a’i ffrindiau eu rhwydi “heb oedi.” Ond wnaeth Pedr a’i frawd ddim brysio i wneud y penderfyniad hwnnw. Roedden nhw wedi dod i adnabod Iesu a’i dderbyn fel y Meseia fwy na chwe mis yn gynharach. (Ioan 1:35-42) Mae’n debyg dy fod tithau hefyd wedi dysgu llawer am Jehofa ac Iesu, ac rwyt ti eisiau dal ati i wneud cynnydd ysbrydol. Ond, ddylet ti ddim gwneud y penderfyniad hwn heb gyfri’r gost. Beth helpodd Pedr, Andreas ac eraill i wneud y penderfyniad hwn?

3. Pa rinweddau fydd yn cryfhau dy ddymuniad i dderbyn gwahoddiad Iesu?

3 Roedd disgyblion cyntaf Iesu yn frwdfrydig, yn alluog, yn ddewr, ac yn dangos hunanddisgyblaeth. Heb os, roedd y rhinweddau hyn yn eu helpu i fod yn bysgotwyr dynion effeithiol. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gelli di ddatblygu’r rhinweddau hynny fel y gelli di fod yn effeithiol wrth bregethu’r newyddion da a dysgu eraill.

CRYFHA DY AWYDD I BREGETHU

Daeth Pedr ac eraill yn bysgotwyr dynion. Mae’r gwaith hanfodol hwn yn parhau yn ein hoes ni (Gweler paragraffau 4-5)

4. Beth ysgogodd Pedr i fod yn bysgotwr?

4 Roedd Pedr yn dal pysgod i gynnal ei deulu, ond iddo ef, roedd yn fwy na swydd. Mae’n amlwg fod Pedr yn hoff iawn o bysgota. (Ioan 21:3, 9-15) Maes o law, fe ddysgodd hefyd i fod yn hoff iawn o bysgota am ddynion. A gyda chefnogaeth Jehofa, daeth Pedr yn dda iawn yn y gwaith hwnnw.—Act. 2:14, 41.

5. Ar sail Luc 5:8-11, beth roedd Pedr yn poeni amdano, a beth all ein helpu ni i drechu teimladau tebyg?

5 Rydyn ni’n pregethu am ein bod ni’n caru Jehofa; dyna ein prif gymhelliad dros wneud y gwaith hwn. Gall ein cariad tuag at Jehofa ein helpu i drechu unrhyw dueddiad i feddwl nad ydyn ni’n ddigon da. Pan estynnodd Iesu wahoddiad i Pedr i fod yn bysgotwr dynion, dywedodd wrtho: “Paid bod ofn.” (Darllen Luc 5:8-11.) Doedd Pedr ddim yn ofni beth fyddai’n gallu digwydd petai’n dod yn ddisgybl. Yn hytrach, roedd yn synnu at y ddalfa wyrthiol o bysgod roedd Iesu newydd ei rhoi i’r dynion, a theimlodd Pedr nad oedd yn ddigon da i weithio gyda Iesu. Fel Pedr, efallai dy fod tithau’n pryderu am bopeth sydd ynghlwm wrth fod yn ddisgybl i Grist. Os felly, cryfha dy gariad tuag at Jehofa, Iesu, a dy gymydog, a byddi di’n awyddus i dderbyn gwahoddiad Iesu i fod yn bysgotwr dynion.—Math. 22:37, 39; Ioan 14:15.

6. Beth arall sy’n ein cymell i bregethu?

6 Ystyria rai pethau eraill sy’n ein cymell ni i bregethu. Rydyn ni eisiau ufuddhau i orchymyn Iesu: “Ewch i wneud pobl . . . yn ddisgyblion.” (Math. 28:19, 20) Hefyd, rydyn ni’n pregethu am fod pobl “ar goll ac yn gwbl ddiymadferth,” ac maen nhw wir angen dysgu’r gwir am y Deyrnas. (Math. 9:36) Mae Jehofa eisiau i bob math o bobl wybod y gwir a chael eu hachub.—1 Tim. 2:4.

7. Sut mae Rhufeiniaid 10:13-15 yn dangos bod y gwaith pregethu yn bwysig?

7 Pan feddyliwn am sut gall ein gwaith pregethu achub pobl, byddwn ni’n cael ein hysgogi i bregethu. Yn wahanol i bysgotwr masnachol sy’n gwerthu neu’n bwyta’r pysgod mae’n eu dal, rydyn ni’n “dal” pobl er mwyn achub eu bywydau.—Darllen Rhufeiniaid 10:13-15; 1 Tim. 4:16.

HOGA DY SGILIAU

8-9. Beth sydd rhaid i bysgotwr wybod, a pham?

8 Yn adeg Iesu, roedd rhaid i bysgotwr yn Israel wybod sut fath o bysgod y gallai eu dal. (Lef. 11:9-12) Hefyd, roedd rhaid iddo wybod lle i gael hyd i’r pysgod. Fel arfer, mae pysgod yn aros mewn ardal lle mae’r dŵr yn eu siwtio nhw a lle mae ’na ddigon o fwyd. Oes ots pryd mae pysgotwr yn gwneud ei waith? Wrth sôn am yr adeg orau i ddal pysgod llythrennol, sylwa beth ddywedodd Tyst lleol ar un o ynysoedd y Môr Tawel pan estynnodd wahoddiad i genhadwr fynd i bysgota. Dywedodd y cenhadwr. “Wna i dy gyfarfod di am naw o’r gloch bore fory.” Atebodd y brawd, “Dwyt ti ddim yn deall. ’Dyn ni’n mynd ar yr adeg orau ar gyfer y pysgod, nid yr adeg orau i ni.”

9 Yn yr un modd, aeth pysgotwyr dynion yn y ganrif gyntaf i’r llefydd lle byddai’r “pysgod” fel arfer, ac ar amser roedden nhw’n debygol o fod yno. Er enghraifft, pregethodd dilynwyr Iesu yn y deml a’r synagogau, o dŷ i dŷ, ac yn y farchnad. (Act. 5:42; 17:17; 18:4) Mae’n rhaid i ninnau hefyd fod yn gyfarwydd ag arferion y bobl sy’n byw yn ein tiriogaeth ni. Rydyn ni angen bod yn hyblyg a phregethu lle bynnag a phryd bynnag rydyn ni’n fwyaf tebygol o gael hyd i bobl.—1 Cor. 9:19-23.

MAE PYSGOTWYR MEDRUS . . . 1. yn gweithio bryd bynnag a lle bynnag maen nhw’n fwyaf tebygol o gael hyd i bysgod (Gweler paragraffau 8-9)

10. Pa dŵls mae cyfundrefn Jehofa yn eu rhoi inni?

10 Mae pysgotwr angen yr offer cywir, a rhaid iddo wybod sut i’w ddefnyddio. Rydyn ninnau hefyd angen yr offer cywir ar gyfer ein gwaith. Ac mae angen inni wybod sut i’w ddefnyddio. Rhoddodd Iesu gyfarwyddiadau clir i’w ddisgyblion ynglŷn â sut i bysgota am ddynion. Dywedodd wrthyn nhw beth i’w gario, lle i bregethu, a beth i’w ddweud. (Math. 10:5-7; Luc 10:1-11) Heddiw, mae cyfundrefn Jehofa yn darparu Bocs Tŵls Dysgu sy’n cynnwys tŵls sydd wedi profi’n effeithiol, * a chawn ein dysgu sut i ddefnyddio’r tŵls hynny. Mae’r hyfforddiant hwnnw yn ein helpu i fagu’r hyder a hogi’r sgiliau sy’n angenrheidiol i fod yn effeithiol yn ein gwaith.—2 Tim. 2:15.

MAE PYSGOTWYR MEDRUS . . . 2. wedi eu hyfforddi i ddefnyddio’r offer cywir (Gweler paragraff 10)

BYDDA’N DDEWR

11. Pam mae angen i bysgotwyr dynion fod yn ddewr?

11 Mae angen i bysgotwyr masnachol fod yn ddewr. O bryd i’w gilydd, bydd storm yn codi’n annisgwyl ar y môr. Ac yn aml, byddan nhw’n gweithio yn nhywyllwch y nos. Mae angen i bysgotwyr dynion fod yn ddewr hefyd. Pan ddechreuwn bregethu a dweud wrth eraill ein bod ni’n Dystion Jehofa, gallen ni wynebu “storm” o wrthwynebiad gan ein teulu, ffrindiau yn gwneud hwyl am ein pennau, a phobl yn gwrthod ein neges. Ond dydy hyn ddim yn ein synnu. Rhybuddiodd Iesu y byddai’n anfon ei ddilynwyr i ganol pobl fyddai’n eu gwrthwynebu.—Math. 10:16.

12. Yn unol â Josua 1:7-9, beth all ein helpu i fagu dewrder?

12 Sut gelli di fagu dewrder? Yn gyntaf, mae’n rhaid iti gredu bod Iesu yn dal i arwain y gwaith pregethu o’r nefoedd. (Ioan 16:33; Dat. 14:14-16) Nesaf, cryfha dy ffydd yn addewid Jehofa i ofalu amdanat ti. (Math. 6:32-34) Y cryfaf bydd dy ffydd, y mwyaf dewr fyddi dithau. Dangosodd Pedr a’i ffrindiau ffydd gref pan wnaethon nhw adael eu busnes pysgota er mwyn dilyn Iesu. Yn yr un modd, gwnest ti ddangos ffydd gref pan ddywedaist ti wrth dy ffrindiau a theulu dy fod ti wedi dechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa a mynd i’w cyfarfodydd! Mae’n debyg dy fod ti wedi gwneud newidiadau mawr yn dy ymddygiad a ffordd o fyw er mwyn byw’n unol â safonau cyfiawn Jehofa. Roedd hynny hefyd yn gofyn am ffydd a dewrder. Wrth iti barhau i fagu dewrder, gelli di fod yn sicr fod Jehofa “dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!”—Darllen Josua 1:7-9.

MAE PYSGOTWYR MEDRUS . . . 3. yn gweithio’n ddewr drwy bob math o amgylchiadau (Gweler paragraffau 11-12)

13. Sut gall myfyrio a gweddïo dy helpu i fagu dewrder?

13 Ym mha ffyrdd eraill gelli di fagu dewrder? Gweddïa am ddewrder a hyder. (Act. 4:29, 31) Bydd Jehofa yn ateb dy weddïau, a fydd ef byth yn cefnu arnat ti. Mae ef wastad yno i dy gefnogi di. Hefyd, gelli di fyfyrio ar sut mae Jehofa wedi achub eraill yn y gorffennol. A meddylia am sut mae wedi dy helpu di i drechu heriau a rhoi’r nerth iti newid dy ffordd o fyw. Yn bendant, bydd yr Un a arweiniodd ei bobl drwy’r Môr Coch yn gallu dy helpu i fod yn ddisgybl i Grist. (Ex. 14:13) Gelli di gael yr un ffydd yn Jehofa â’r salmydd a ddywedodd: “Mae’r ARGLWYDD ar fy ochr, felly fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”—Salm 118:6.

14. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiadau Masae a Tomoyo?

14 Ffordd arall o fagu dewrder yw drwy edrych ar sut mae Jehofa wedi helpu pobl swil i fod yn hyderus. Ystyria brofiad chwaer o’r enw Masae. Un swil oedd hi, ac roedd hi’n teimlo na fyddai hi byth yn gallu gwneud y gwaith pregethu. Roedd hyd yn oed y syniad o siarad â phobl ddieithr yn ymddangos fel wal a oedd, yn ei meddwl hi, yn rhy uchel i’w dringo. Felly, gwnaeth hi ymdrech arbennig i ddyfnhau ei chariad tuag at Dduw a’i chymdogion. Myfyriodd ar y ffaith fod amser yn brin, a gweddïodd am help i gryfhau’r awydd i bregethu. Llwyddodd i drechu ei hofnau, a hyd yn oed gwasanaethu fel arloeswraig llawn amser. Gall Jehofa helpu cyhoeddwyr newydd i fod “yn ddewr” hefyd. Meddylia am brofiad chwaer o’r enw Tomoyo. Pan wnaeth hi ddechrau pregethu o ddrws i ddrws, gwaeddodd y deiliad cyntaf: “Dw i ddim eisiau unrhyw beth i wneud efo Tystion Jehofa!” a chau’r drws yn glep. Dywedodd Tomoyo yn ddewr wrth ei ffrind: “Glywaist ti hynny? Doedd dim rhaid imi ddweud gair, ac mi wnaeth hi ’nabod fi fel un o Dystion Jehofa. Dw i mor falch!” Mae Tomoyo bellach yn arloesi’n llawn amser.

MEITHRIN HUNANDDISGYBLAETH

15. Beth yw hunanddisgyblaeth, a pham mae’n bwysig i Gristnogion?

15 Mae pysgotwyr llwyddiannus yn dangos hunanddisgyblaeth. Mae hunanddisgyblaeth wedi cael ei ddisgrifio fel “y gallu i orfodi dy hun i wneud pethau y dylai gael eu gwneud.” Mae’n rhaid i bysgotwyr masnachol ddisgyblu eu hunain i godi’n gynnar, i aros nes bydd y gwaith wedi ei orffen, ac i ddal ati er gwaethaf tywydd drwg. Rydyn ninnau hefyd angen hunanddisgyblaeth os ydyn ni am ddal ati a chwblhau ein gwaith.—Math. 10:22.

16. Sut gallwn ni feithrin hunanddisgyblaeth?

16 Dydyn ni ddim yn etifeddu hunanddisgyblaeth. I’r gwrthwyneb, ein tueddiad naturiol yw dilyn y llwybr hawsaf. Mae dangos hunanddisgyblaeth yn gofyn am hunanreolaeth. Felly, mae angen help arnon ni i hyfforddi ein hunain i wneud y pethau sydd efallai’n anodd inni. Mae Jehofa’n rhoi’r help hwnnw inni drwy ei ysbryd glân.—Gal. 5:22, 23.

17. Yn 1 Corinthiaid 9:25-27, sut mae’r apostol Paul yn disgrifio ei ymdrechion i feithrin hunanddisgyblaeth?

17 Roedd gan yr apostol Paul hunanddisgyblaeth. Ond, cyfaddefodd fod rhaid “gwthio” ei hun i’r eithaf er mwyn gwneud y peth iawn. (Darllen 1 Corinthiaid 9:25-27.) Anogodd eraill i ddisgyblu eu hunain a gwneud popeth “mewn ffordd sy’n weddus ac yn drefnus.” (1 Cor. 14:40) Mae’n rhaid inni ddangos hunanddisgyblaeth er mwyn cadw rhaglen ysbrydol dda sy’n cynnwys cael rhan reolaidd yn y gwaith pysgota symbolaidd.—Act. 2:46.

PAID AG OEDI

18. Beth fydd yn ein gwneud ni’n llwyddiannus yng ngolwg Jehofa?

18 Mae pysgotwr masnachol yn mesur ei lwyddiant yn ôl faint o bysgod mae’n eu dal. Ond, i’r gwrthwyneb, dydyn ni ddim yn mesur ein llwyddiant yn ôl faint o bobl rydyn ni’n eu helpu i ddod yn Dystion Jehofa. (Luc 8:11-15) Os gwnawn ni ddal ati i bregethu’r newyddion da a dysgu eraill, byddwn ni’n llwyddiannus yng ngolwg Jehofa. Pam? Oherwydd ein bod ni’n ufuddhau iddo ef a’i Fab.—Marc 13:10; Act. 5:28, 29.

19-20. Pa gymhelliad arbennig sydd gynnon ni i bregethu nawr?

19 Mewn rhai gwledydd, caniateir pysgota yn ystod misoedd penodol yn unig. Yn y llefydd hyn, gall teimlad o frys y pysgotwr gryfhau wrth i’r tymor pysgota ddirwyn i ben. A ninnau’n bysgotwyr dynion, mae gynnon ni’r cymhelliad ychwanegol hwn i bregethu nawr: Mae diwedd y system hon yn prysur ddod! Ychydig iawn o amser sydd ar ôl i rannu yn y gwaith o achub bywydau. Paid ag oedi na disgwyl am yr amgylchiadau perffaith i gael rhan yn y gwaith hanfodol hwn.—Preg. 11:4.

20 Gweithreda nawr i gryfhau dy awydd i bregethu, i ddysgu mwy am neges y Beibl, i fagu dewrder, ac i feithrin hunanddisgyblaeth. Ymuna â’r mwy nag wyth miliwn o bysgotwyr dynion, a byddi di’n profi’r llawenydd mae Jehofa’n ei roi. (Neh. 8:10) Bydda’n benderfynol i bregethu cymaint ag y medri di, ac i ddal ati nes bydd Jehofa’n dweud bod y gwaith wedi gorffen. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod tair ffordd y gallwn ni gryfhau ein penderfyniad i ddal ati i bregethu am y Deyrnas fel pysgotwyr dynion.

CÂN 66 Cyhoeddwch y Newyddion Da

^ Par. 5 Gwahoddodd Iesu bysgotwyr gostyngedig, gweithgar i fod yn ddisgyblion iddo. Heddiw, mae Iesu’n parhau i wahodd pobl gyda’r rhinweddau hynny i fod yn bysgotwyr dynion. Bydd yr erthygl hon yn trafod beth sydd angen i fyfyrwyr y Beibl ei wneud os ydyn nhw’n dal yn ôl rhag derbyn gwahoddiad Iesu.

^ Par. 1 ESBONIAD: Mae’r term “pysgotwyr dynion” yn cyfeirio at bawb sy’n pregethu’r newyddion da ac yn dysgu eraill i ddod yn ddisgyblion i Grist.

^ Par. 10 Gweler yr erthygl “Dysgu Eraill y Gwirionedd” yn rhifyn Hydref 2018, y Tŵr Gwylio, tt. 9-15.