Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 39

Pan Fydd Anwylyn yn Gadael Jehofa

Pan Fydd Anwylyn yn Gadael Jehofa

‘Roedden nhw mor aml yn peri gofid iddo.’—SALM 78:40.

CÂN 102 Helpu’r Rhai Gwan

CIPOLWG *

1. Sut gall rhywun deimlo ar ôl i anwylyn gael ei ddiarddel?

YDY un o dy anwyliaid di wedi cael ei ddiarddel o’r gynulleidfa? Mae hynny’n ddigon i dorri calon! “Pan fu farw fy ngŵr ar ôl 41 mlynedd o briodas,” meddai chwaer o’r enw Hilda, “o’n i’n meddwl mai dyna oedd y peth gwaethaf allai ddigwydd imi, ond pan wnaeth fy mab adael ei gynulleidfa, ei wraig, a’i blant, oedd hynny’n waeth o lawer.” *

Mae Jehofa yn deall dy boen pan fydd un o dy anwyliaid yn stopio ei wasanaethu (Gweler paragraffau 2-3) *

2-3. Yn ôl Salm 78:40, 41, sut mae Jehofa yn teimlo pan fydd ei weision yn ei adael?

2 Dychmyga boen calon Jehofa o weld rhai o’r angylion oedd yn rhan o’i deulu yn cefnu arno. (Jwd. 6) A meddylia cymaint roedd yn ei frifo o weld ei bobl annwyl, yr Israeliaid, yn gwrthryfela yn ei erbyn dro ar ôl tro. (Darllen Salm 78:40, 41.) Gelli di fod yn sicr fod ein Tad nefol cariadus hefyd yn brifo pan fydd rhywun rwyt ti’n ei garu yn ei adael. Mae’n deall y tristwch rwyt ti’n ei deimlo. Yn gwbl dosturiol, bydd yn dy galonogi, ac yn rhoi’r gefnogaeth rwyt ti ei angen.

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth gallwn ni ei wneud i gael help Jehofa pan fyddwn ni’n ymdopi â’r fath golled. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut gallwn ni helpu eraill yn y gynulleidfa sy’n wynebu’r her hon. Ond yn gyntaf, gad inni drafod ffordd o feddwl y dylen ni ei osgoi.

PAID Â RHOI’R BAI ARNAT TI DY HUN

4. Sut mae llawer o rieni yn teimlo pan fydd mab neu ferch yn gadael Jehofa?

4 Pan fydd mab neu ferch annwyl yn gadael Jehofa, mae’n gyffredin i rieni feddwl y dylen nhw fod wedi gwneud mwy i helpu eu plentyn i aros yn y gwir. Ar ôl i’w fab gael ei ddiarddel, gwnaeth un brawd o’r enw Luke gyfaddef: “Wnes i roi’r bai arna fi fy hun. O’n i’n cael hunllefau am y peth. Weithiau o’n i’n crio, ac oedd fy nghalon i’n deilchion.” Roedd Elizabeth, chwaer oedd yn wynebu sefyllfa debyg, yn aml yn poeni: “Beth wnes i o’i le fel mam? O’n i’n teimlo fy mod i heb wneud digon i ddysgu fy mab i garu Jehofa.”

5. Pwy sy’n gyfrifol pan fydd rhywun yn gadael Jehofa?

5 Mae’n rhaid inni gofio fod Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd i bob un ohonon ni. Mae hynny’n golygu gallwn ni ddewis ufuddhau iddo neu beidio. Doedd rhieni rhai plant ddim yn esiamplau da, ond mae’r plant hynny wedi penderfynu gwasanaethu Jehofa ac aros yn ffyddlon iddo. Ond gwnaeth eraill adael y gwir er eu bod nhw wedi cael eu magu gan rieni a wnaeth eu gorau glas i’w dysgu nhw am Jehofa. Yn y pen draw, mae’n rhaid inni benderfynu droston ni’n hunain os ydyn ni am wasanaethu Jehofa. (Jos. 24:15) Felly, os wyt ti’n brifo oherwydd mae dy blentyn wedi stopio gwasanaethu Jehofa, paid â meddwl mai ti sydd ar fai.

6. Sut gall rhywun ifanc teimlo pan fydd rhiant yn gadael Duw?

6 Ar adegau, mae rhiant yn cefnu ar y gwir, a hyd yn oed ei deulu. (Salm 27:10) Gall hynny chwalu byd plant sy’n edrych i fyny at eu rhiant ac yn ei edmygu. Cafodd tad Esther ei ddiarddel, a dywedodd hi: “O’n i’n crio’n aml, oherwydd o’n i’n gweld ei fod o ddim jest yn drifftio i ffwrdd oddi wrth y gwir, gwnaeth o ddewis gadael Jehofa yn gyfan gwbl. Dw i’n caru fy nhad, felly ar ôl iddo gael ei ddiarddel o’n i’n poeni o hyd sut oedd o. O’n i hyd yn oed yn cael pyliau o banig.”

7. Sut mae Jehofa yn teimlo am berson ifanc os yw un o’i rieni wedi cael ei ddiarddel?

7 Os wyt ti’n berson ifanc, ac mae un o dy rieni di wedi cael ei ddiarddel, rydyn ni’n teimlo dy boen i’r byw! Gelli di fod yn hollol sicr fod Jehofa hefyd yn gwybod faint mae hyn yn dy frifo di. Mae’n dy garu di ac yn gwerthfawrogi dy ffyddlondeb, ac mi ydyn ninnau hefyd—dy frodyr a chwiorydd. Cofia hefyd dy fod ti ddim yn gyfrifol am benderfyniadau dy rieni. Fel dywedon ni gynnau, mae Jehofa wedi rhoi dewis i bob person byw. Ac os ydyn ni wedi ymgysegru ein hunain a chael ein bedyddio, mae hynny’n golygu ein bod ni’n “gyfrifol am beth dŷn ni’n hunain wedi ei wneud.”—Gal. 6:5.

8. Beth gall aelodau ffyddlon y teulu ei wneud wrth ddisgwyl i’w anwylyn droi yn ôl at Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “ Tro yn ôl at Jehofa.”)

8 Pan fydd rhywun rwyt ti’n ei garu yn gadael Jehofa, mae’n ddigon naturiol y byddi di’n dal gafael ar y gobaith y byddan nhw’n troi yn ôl ato ryw ddydd. Beth gelli di ei wneud yn y cyfamser? Gwna bopeth elli di i gadw dy ffydd yn gryf. Drwy wneud hynny, byddi di’n gosod esiampl dda ar gyfer gweddill y teulu, ac efallai hyd yn oed ar gyfer yr un gafodd ei ddiarddel. Byddi di hefyd yn cael y nerth rwyt ti ei angen i ymdopi â’r boen. Felly, beth gelli di ei wneud i gadw dy ffydd yn gryf?

BETH GELLI DI EI WNEUD I GADW DY FFYDD YN GRYF?

9. Beth gelli di ei wneud i gadw dy ffydd yn gryf? (Gweler hefyd y blwch “ Adnodau Fydd o Gysur iti os Ydy Anwylyn Wedi Gadael Jehofa.”)

9 Cadwa at rwtîn ysbrydol da. Mae’n hynod o bwysig dy fod ti’n dal ati i gryfhau dy hun ac aelodau eraill y teulu. Sut gelli di wneud hynny? Gei di nerth gan Jehofa drwy gadw rwtîn da o ddarllen Gair Duw a myfyrio arno, yn ogystal â mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa. Gwnaeth tad a chwaer Joanna adael y gwir, a dywedodd hi: “Dw i’n teimlo rhyw don o heddwch yn dod drosto i pan dw i’n darllen am gymeriadau’r Beibl fel Abigail, Esther, Job, Joseff, ac Iesu. Mae eu hesiamplau yn llenwi fy nghalon a meddwl â phethau positif sy’n lleddfu’r boen. Mae’r caneuon gwreiddiol hefyd wedi fy nghalonogi’n fawr.”

10. Sut mae Salm 32:6-8 yn ein helpu ni i ymdopi â digalondid?

10 Paid â dal yn ôl rhag dweud wrth Jehofa yn union beth sy’n dy boeni di. Pan wyt ti’n teimlo’n ddigalon ofnadwy, paid â rhoi’r gorau i weddïo arno. Erfynia ar ein Duw cariadus i dy helpu di i weld y sefyllfa o’i safbwynt ef, ac i ‘ddangos y ffordd iti, a dy helpu di i wybod sut i fyw.’ (Darllen Salm 32:6-8.) Wrth gwrs, efallai bydd hi’n boenus iawn i ddweud wrth Jehofa yn union sut rwyt ti’n teimlo, ond mae Jehofa yn deall yn llwyr y boen sydd yn dy galon. Mae’n dy garu di’n fawr iawn, ac yn dy annog di i dywallt dy galon wrth siarad ag ef.—Ex. 34:6; Salm 62:7, 8.

11. Yn ôl Hebreaid 12:11, pam dylen ni drystio disgyblaeth gariadus Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “ Diarddel—Disgyblaeth Gariadus Jehofa ar Waith.”)

11 Cefnoga’r penderfyniad. Mae diarddel yn drefniant gan Jehofa. Mae ei ddisgyblaeth gariadus er lles pawb gan gynnwys yr un gafodd ei ddiarddel. (Darllen Hebreaid 12:11.) Efallai bydd rhai yn y gynulleidfa yn dweud bod yr henuriaid wedi gwneud y penderfyniad anghywir. Ond cofia, dydy pobl felly ddim eisiau sôn am ochr negyddol yr un wnaeth rhywbeth o’i le. Yn ddigon syml, does gynnon ni mo’r ffeithiau i gyd. Mae’n beth doeth felly i drystio bod yr henuriaid oedd ar y pwyllgor barnwrol wedi gwneud pob ymdrech i ddilyn egwyddorion y Beibl, ac i farnu “ar ran yr ARGLWYDD,” Jehofa.—2 Cron. 19:6.

12. Pa ganlyniadau da mae rhai wedi cael am eu bod nhw wedi cefnogi disgyblaeth Jehofa?

12 Drwy gefnogi penderfyniad yr henuriaid i ddiarddel dy anwylyn, efallai byddi di’n ei helpu i droi yn ôl at Jehofa. Mae Elizabeth, a ddyfynnwyd ynghynt, yn cyfaddef: “Oedd hi’n anodd iawn i beidio â chysylltu â fy mab oedd bellach yn oedolyn. Ond ar ôl iddo droi yn ôl at Jehofa, gwnaeth o gyfaddef ei fod o wedi haeddu cael ei ddiarddel. Ymhen amser, dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi’r gwersi roedd wedi eu dysgu. Ac mi wnes i ddysgu bod disgyblaeth Jehofa wastad yn gywir.” Mae ei gŵr Marc yn ychwanegu: “Yn llawer hwyrach, gwnaeth fy mab ddweud wrtho i ei fod eisiau dod yn ôl yn rhannol am ein bod ni wedi gwneud yn union beth oedd rhaid inni ei wneud. Dw i mor falch wnaeth Jehofa ein helpu ni i fod yn ufudd.”

13. Beth all dy helpu di i ddelio â phoen emosiynol?

13 Siarada â ffrindiau sy’n deall sut rwyt ti’n teimlo. Treulia amser gyda brodyr a chwiorydd aeddfed sy’n gallu dy helpu di i beidio â cholli gobaith. (Diar. 12:25; 17:17) Dywedodd Joanna, a soniwyd amdani gynt: “Yn fy nghalon o’n i’n teimlo’n unig. Ond oedd siarad â ffrindiau o’n i’n eu trystio yn help mawr.” Ond beth gelli di ei wneud os bydd rhai yn y gynulleidfa yn dweud pethau sy’n gwneud iti deimlo’n waeth?

14. Pam rydyn ni angen bod yn “oddefgar, a maddau i eraill” yn hael?

14 Bydda’n amyneddgar gyda dy frodyr a chwiorydd. Allwn ni ddim disgwyl y byddai pawb yn dweud y peth iawn o hyd. (Iago 3:2) Rydyn ni i gyd yn amherffaith, felly paid â synnu os nad ydy rhai yn gwybod beth i’w ddweud, neu’n dweud rhywbeth sy’n dy frifo di yn anfwriadol. Cofia gyngor yr apostol Paul: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.” (Col. 3:13) Ar ôl i un o’i pherthnasau gael ei ddiarddel, esboniodd un chwaer: “Mae Jehofa wedi fy helpu i i faddau i frodyr a wnaeth trio gwneud y peth iawn ond mewn ffordd amherffaith.” Beth gall y gynulleidfa ei wneud i helpu aelodau ffyddlon y teulu?

GALL Y GYNULLEIDFA HELPU

15. Beth gallwn ni ei wneud i helpu teulu rhywun gafodd ei ddiarddel yn ddiweddar?

15 Bydda’n garedig ac yn gyfeillgar i aelodau ffyddlon y teulu. Mae chwaer o’r enw Miriam yn cyfaddef ei bod hi’n poeni am fynd yn ôl i’r cyfarfodydd ar ôl i’w brawd gael ei ddiarddel. “O’n i’n poeni am beth fyddai pobl yn ei ddweud. Ond roedd ’na lawer o frodyr a chwiorydd oedd yn teimlo fy mhoen, ond wnaethon nhw byth dweud unrhyw beth negyddol am fy mrawd gafodd ei ddiarddel. Diolch iddyn nhw, doeddwn i ddim yn teimlo ar ben fy hun yn fy nhristwch.” Dywedodd chwaer arall: “Dw i’n cofio ffrindiau annwyl yn dod aton ni i’n cysuro ar ôl i fy mab gael ei ddiarddel. Oedd rhai yn cyfaddef doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud, ond gwnaethon nhw grio gyda fi, neu anfon cerdyn calonogol imi. Oedd popeth wnaethon nhw yn help mawr!”

16. Sut gall y gynulleidfa barhau i gefnogi aelodau ffyddlon y teulu?

16 Parha i gefnogi aelodau ffyddlon y teulu. Maen nhw angen dy gariad a dy anogaeth nawr yn fwy nag erioed. (Heb. 10:24, 25) Ar adegau, mae aelodau teulu yr un gafodd ei ddiarddel wedi teimlo bod rhai yn y gynulleidfa wedi cadw pellter oddi wrthyn nhwthau hefyd. Paid â gadael i hynny ddigwydd. Os ydy rhieni pobl ifanc yn gadael y gwir, mae’r bobl ifanc hynny yn enwedig angen canmoliaeth ac anogaeth. Cafodd gŵr Maria ei ddiarddel, ac mi wnaeth ef adael y teulu. Dywedodd hi: “Daeth rhai o fy ffrindiau draw a choginio imi, a fy helpu i astudio gyda fy mhlant. Oedden nhw’n teimlo fy mhoen ac yn crio gyda fi. Gwnaethon nhw fy amddiffyn i pan oedd pobl eraill yn cario clecs. Gwnaethon nhw wir godi nghalon!”—Rhuf. 12:13, 15.

Gall y gynulleidfa ddangos cariad drwy gefnogi aelodau ffyddlon y teulu (Gweler paragraff 17) *

17. Beth all henuriaid ei wneud i gysuro’r rhai digalon?

17 Henuriaid, defnyddiwch bob cyfle gewch chi i atgyfnerthu aelodau ffyddlon y teulu. Os ydy anwylyn rhywun wedi gadael Jehofa, mae gynnoch chi gyfrifoldeb arbennig i’w cysuro nhw. (1 Thes. 5:14) Siaradwch â nhw cyn ac ar ôl y cyfarfod er mwyn eu calonogi. Ewch draw i’w gweld nhw a gweddïo gyda nhw. Gweithia gyda nhw ar y weinidogaeth, neu rho wahoddiad iddyn nhw ymuno â’ch addoliad teuluol chi. Mae henuriaid angen gofalu am y rhai digalon, a rhoi iddyn nhw y cysur, cariad, a sylw maen nhw ei angen.—1 Thes. 2:7, 8.

PAID Â CHOLLI GOBAITH A PHARHA I DRYSTIO JEHOFA

18. Yn ôl 2 Pedr 3:9, beth mae Duw eisiau i’r rhai sydd wedi stopio ei wasanaethu ei wneud?

18 Dydy Jehofa “ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” (Darllen 2 Pedr 3:9.) Hyd yn oed os ydy rhywun wedi pechu’n ddifrifol, mae ei fywyd dal yn werthfawr i Dduw. Cofia fod Jehofa wedi talu pris uchel dros bob un ohonon ni—bywyd ei Fab annwyl. Yn ei dosturi, mae Jehofa yn estyn allan i helpu’r rhai sydd wedi ei adael i droi yn ôl ato. Mae’n gobeithio y byddan nhw’n dewis gwneud hynny, fel rydyn ni’n gweld o eglureb Iesu am y mab coll. (Luc 15:11-32) Mae llawer wnaeth adael y gwir bellach wedi dod yn ôl at eu Tad nefol cariadus, a chawson nhw groeso cynnes gan y gynulleidfa. Roedd Elizabeth, a ddyfynnwyd ynghynt, wedi gwirioni pan gafodd ei mab ei adfer i’r gynulleidfa. Wrth feddwl yn ôl dywedodd hi: “O’n i wir yn gwerthfawrogi’r rhai wnaeth ein hannog ni i beidio â cholli gobaith.”

19. Pam gallwn ni barhau i drystio Jehofa?

19 Gallwn ni wastad drystio Jehofa. Mae ei gyngor wastad er ein lles ni. Mae’n Dad hael a charedig sy’n caru pawb sy’n ei garu ef ac yn ei addoli. Gelli di fod yn sicr na fydd Jehofa yn cefnu arnat ti yn dy gyfnodau anodd. (Heb. 13:5, 6) “Wnaeth Jehofa erioed gefnu arnon ni,” meddai Marc, a ddyfynnwyd ynghynt. “Dydy o byth yn bell oddi wrthon ni pan ydyn ni’n wynebu treialon.” Bydd Jehofa yn parhau i roi “grym anhygoel” iti. (2 Cor. 4:7) Ie, rwyt ti’n gallu aros yn ffyddlon a llawn gobaith, hyd yn oed os bydd anwylyn yn gadael Jehofa.

CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen

^ Par. 5 Mae’n beth hynod o drist pan fydd anwylyn yn gadael Jehofa. Mae’r erthygl hon yn trafod sut mae Duw yn teimlo pan fydd hyn yn digwydd, mae’n sôn am bethau ymarferol gall aelodau ffyddlon y teulu ei wneud er mwyn ymdopi â’r poen ac aros yn ysbrydol gryf. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut gall pawb yn y gynulleidfa gysuro a chefnogi’r teulu.

^ Par. 1 Mae rhai enwau yn yr erthygl hon wedi cael eu newid.

^ Par. 79 DISGRIFIAD O’R LLUN: Pan fydd brawd yn cefnu ar ei deulu a Jehofa, mae ei wraig a’u plant yn dioddef.

^ Par. 81 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae dau henuriad yn galw draw i galonogi teulu yn y gynulleidfa.