ERTHYGL ASTUDIO 37
Gelli Di Drystio Dy Frodyr
“Mae cariad . . . bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio.”—1 COR. 13:4, 7.
CÂN 124 Bythol Ffyddlon
CIPOLWG a
1. Pam nad ydyn ni’n synnu bod pobl yn ei chael hi’n anodd trystio eraill?
YM MYD Satan, mae’n anodd iawn gwybod pwy i’w drystio. Mae ymddygiad pobl fusnes, gwleidyddion, ac arweinwyr crefyddol yn aml yn siomi pobl eraill. Mae llawer hyd yn oed yn ei chael hi’n anodd trystio eu ffrindiau, eu cymdogion, ac aelodau eu teuluoedd eu hunain. Ond dydy hyn ddim yn ein synnu, gan fod y Beibl wedi dweud: “Yn y cyfnod olaf hwn . . . , bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, . . . yn hel clecs maleisus, . . . yn bradychu eraill.” Mewn geiriau eraill, mae pobl yn efelychu personoliaeth duw’r byd hwn, Satan. Yn sicr, allwn ni ddim ei drystio.—2 Tim. 3:1-4; 2 Cor. 4:4.
2. (a) Pwy gallwn ni ei drystio’n llwyr? (b) Beth mae rhai yn ei ofyn?
2 Er gwaethaf y pethau sy’n digwydd ym myd Satan, rydyn ni’n gwybod y gallwn ni drystio Jehofa yn llwyr. (Jer. 17:7, 8) Rydyn ni’n hollol sicr bod Jehofa yn ein caru a fydd ef byth “yn troi cefn” ar ei ffrindiau. (Salm 9:10) Mae Iesu Grist yn un arall gallwn ni ymddiried ynddo am ei fod wedi rhoi ei fywyd droston ni. (1 Pedr 3:18) Ac rydyn ni’n gwybod o’n profiad personol bod cyngor y Beibl yn ddibynadwy. (2 Tim. 3:16, 17) Ond er ein bod yn hyderus y gallwn ni drystio Jehofa, Iesu, a’r Beibl, a allwn ni gael yr un hyder yn ein brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa? Os felly, pam?
RYDYN NI ANGEN EIN BRODYR A CHWIORYDD
3. Pa fraint fawr sydd gynnon ni? (Marc 10:29, 30)
3 Mae cael ein dewis gan Jehofa i fod yn rhan o’i deulu byd-eang yn fraint anhygoel sy’n dod â bendithion enfawr! (Darllen Marc 10:29, 30.) Mae ein brodyr a chwiorydd ledled y byd yn siarad gwahanol ieithoedd, yn dod o wahanol ddiwylliannau, ac yn gwisgo dillad gwahanol. Ond mae gynnon ni rywbeth yn gyffredin. Rydyn ni’n caru Jehofa ac yn gwneud ein gorau i fyw yn ôl ei safonau. Ac oherwydd hynny rydyn ni’n teimlo’n agos atyn nhw, hyd yn oed pan ydyn ni’n eu cyfarfod am y tro cyntaf. Ac rydyn ni wrth ein boddau i gael eu cwmni wrth inni addoli ein Tad nefol cariadus, Jehofa.—Salm 133:1.
4. Pam ydyn ni angen ein brodyr a chwiorydd?
4 Heddiw, mae mwy o angen nag erioed inni gadw’r undod sydd rhyngon ni a’n brodyr a chwiorydd. Ar adegau, maen nhw’n ein helpu ni pan fydd pethau’n anodd. (Rhuf. 15:1; Gal. 6:2) Maen nhw hefyd yn ein hannog i weithio’n galed i Jehofa ac i aros yn ysbrydol gryf. (1 Thes. 5:11; Heb. 10:23-25) Meddylia sut bydden ni’n teimlo petasai’r gynulleidfa ddim yno i’n hamddiffyn ni ac i’n helpu ni i sefyll yn gadarn yn erbyn ein gelynion—Satan y Diafol a’i fyd drwg. Dychmyga pa mor falch byddi di o gael dy frodyr a chwiorydd wrth dy ochr pan fydd Satan yn ymosod!
5. Pam mae rhai’n dal yn ôl rhag trystio eu brodyr a chwiorydd?
5 Fel dywedon ni gynnau, weithiau mae rhai’n ei chael hi’n anodd trystio eu brodyr a chwiorydd. Pam? Efallai am fod rhywun wedi rhannu rhywbeth cyfrinachol ag eraill, neu ddim wedi cadw addewid. Felly os ydy un o’n brodyr a chwiorydd wedi dweud neu wneud rhywbeth sydd wedi ein brifo ni i’r byw, beth all ein helpu ni i’w drystio unwaith eto?
BYDD CARU EIN BRODYR YN EIN HELPU I’W TRYSTIO
6. Sut gall cariad ein helpu ni i drystio eraill? (1 Corinthiaid 13:4-8)
6 Mae angen cariad er mwyn trystio rhywun yn llwyr. Mae 1 Corinthiaid pennod 13 yn disgrifio sawl ffordd gall cariad ein helpu ni i drystio eraill yn fwy. (Darllen 1 Corinthiaid 13:4-8.) Er enghraifft, mae adnod 4 yn dweud bod ‘cariad yn amyneddgar ac yn garedig.’ Mae Jehofa yn amyneddgar â ni pan ydyn ni’n pechu yn ei erbyn, felly does gynnon ni ddim esgus i golli amynedd â’n brodyr a chwiorydd os ydyn nhw’n mynd ar ein nerfau neu’n ein brifo. Mae adnod 5 yn ychwanegu: “Dydy [cariad] ddim yn digio a phwdu, ac mae’n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.” Felly dylen ni fod yn fodlon anghofio pan mae rhywun wedi ein brifo, yn hytrach na dal dig a chadw cofnod ohono. Ac fel mae Pregethwr 7:9 yn ei ddweud, ddylen ni ddim “gwylltio’n rhy sydyn.” Cymaint gwell fyddai dilyn y cyngor yn Effesiaid 4:26: “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd”!
7. Sut bydd yr egwyddorion yn Mathew 7:1-5 yn ein helpu ni i drystio eraill?
7 Rhywbeth arall all ein helpu ni i drystio ein brodyr a chwiorydd ydy eu gweld nhw fel mae Jehofa yn eu gweld. Mae Jehofa yn eu caru ac yn dewis peidio â chofio eu pechodau. (Salm 130:3) Dylen ni wneud yr un fath, gan wneud ein gorau i edrych am y da yn ein brodyr a chwiorydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar eu gwendidau. (Darllen Mathew 7:1-5.) Rydyn ni’n dewis peidio ag amau cymhellion ein brodyr a chwiorydd, am fod cariad “bob amser yn credu.” (1 Cor. 13:7) Ond dydy hynny ddim yn golygu bod Jehofa yn disgwyl inni gael ffydd ddall yn eraill. Yn hytrach, mae’n disgwyl inni drystio eraill am eu bod nhw wedi profi eu bod nhw’n ddibynadwy. b
8. Sut gelli di ddysgu i drystio dy frodyr?
8 Yn union fel mae hi’n cymryd amser i ennill parch, mae hi’n cymryd amser i ddod i drystio ein brodyr a chwiorydd. Sut gelli di wneud hynny? Gwna ymdrech i ddod i’w hadnabod nhw’n dda drwy siarad â nhw yn y cyfarfodydd, a gweithio gyda nhw yn y weinidogaeth. Bydda’n amyneddgar â nhw, a rho gyfle iddyn nhw ddangos eu bod nhw’n ddibynadwy. Mae’n debyg na fyddi di eisiau bwrw dy fol wrth rywun dwyt ti ddim yn ei adnabod yn dda. Ond wrth i’r berthynas rhyngoch chi gryfhau, efallai byddi di’n teimlo’n fwy cyffyrddus yn siarad am dy deimladau personol. (Luc 16:10) Ond beth os bydd brawd yn dweud neu’n gwneud rhywbeth sydd yn dy frifo? Paid â chefnu arno’n syth; rho gyfle iddo. A phaid â gadael i hynny wneud iti stopio trystio gweddill dy frodyr. Dewch inni ystyried esiamplau rhai o weision ffyddlon Jehofa wnaeth ddal ati i drystio eu brodyr a chwiorydd er bod ambell un wedi eu siomi.
DYSGA ODDI WRTH Y RHAI WNAETH DDAL ATI I DRYSTIO ERAILL
9. (a) Sut gwnaeth Hanna ddal ati i drystio trefniant Jehofa er gwaethaf camgymeriadau rhai brodyr â chyfrifoldebau? (b) Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Hanna am drystio trefniant Jehofa? (Gweler y llun.)
9 Wyt ti erioed wedi cael dy siomi gan frawd sydd â chyfrifoldebau? Os wyt ti, efallai bydd esiampl Hanna yn dy helpu. Roedd hi’n byw pan oedd Eli yn Archoffeiriad yn Israel. Ef oedd yn cymryd y blaen o ran addoli Jehofa, ond doedd ei deulu ddim yn esiampl dda. Roedd ei feibion yn aml yn gwneud pethau anfoesol a chywilyddus er eu bod nhw wedi cael eu penodi’n offeiriaid, a wnaeth eu tad fawr ddim i’w cywiro. Ond er hynny, wnaeth Jehofa ddim tynnu’r fraint o fod yn Archoffeiriad oddi ar Eli yn syth. Felly a wnaeth Hanna droi ei chefn ar drefniant Duw a gwrthod addoli yn y tabernacl tra oedd Eli yn Archoffeiriad? Naddo. Pan wnaeth Eli weld Hanna yn torri ei chalon o flaen Jehofa, neidiodd i’r casgliad anghywir ei bod hi wedi meddwi. Gwnaeth ef ddwrdio Hanna druan, a hithau mor drist. (1 Sam. 1:12-16) Ond wnaeth hyn ddim stopio Hanna rhag addo, petai hi’n cael mab, byddai hi’n dod ag ef i wasanaethu yn y tabernacl, a hynny o dan ofal Eli. (1 Sam. 1:11) Ond roedd dal angen cywiro meibion Eli, a dyna’n union wnaeth Jehofa yn ei amser ei hun. (1 Sam. 4:17) Yn y cyfamser, gwnaeth Duw wobrwyo Hanna, gan roi mab iddi, Samuel.—1 Sam. 1:17-20.
10. Sut gwnaeth Dafydd ddal ati i drystio eraill er gwaethaf ei brofiad drwg?
10 Wyt ti erioed wedi teimlo bod ffrind agos wedi dy fradychu? Os felly, meddylia am y Brenin Dafydd. Roedd dyn o’r enw Achitoffel yn ffrind da iddo i ddechrau. Ond pan wnaeth Absalom, mab Dafydd, drio cipio’r orsedd oddi ar ei dad, penderfynodd Achitoffel gefnogi Absalom. Am ergyd i Dafydd oedd cael ei fradychu gan ei fab, a’i ffrind! Ond doedd Dafydd ddim am adael i hynny ei stopio rhag trystio eraill. Roedd yn dal i drystio Chwshai a oedd wedi gwrthod ymuno yn y gwrthryfel. Ac chafodd Dafydd ddim ei siomi. Dangosodd Chwshai ei fod yn ffrind ffyddlon a oedd hyd yn oed yn barod i farw dros Dafydd.—2 Sam. 17:1-16.
11. Sut dangosodd un o weision Nabal ei fod yn trystio eraill?
11 Mae un o weision Nabal hefyd yn esiampl dda. Roedd Dafydd a’i ddynion wedi bod yn garedig iawn wrth Nabal ac wedi amddiffyn ei weision. Rywbryd ar ôl hynny, gofynnodd Dafydd iddo am fwyd ar gyfer ei ddynion. Er bod Nabal yn gyfoethog, gofynnodd Dafydd am ddim ond yr hyn roedd Nabal yn gallu ei sbario. Ond gwrthod wnaeth Nabal. Gwylltiodd Dafydd gymaint nes ei fod eisiau lladd pob dyn yn nhŷ Nabal. Ond dyma un o’r gweision yn sôn wrth Abigail, gwraig Nabal, am beth oedd wedi digwydd. Am ei fod yn un o weision Nabal, roedd yn gwybod bod ei fywyd bellach yn nwylo Abigail. Wnaeth ef ddim ei heglu hi o ’na. Roedd yn gwybod ei fod yn gallu trystio Abigail i wneud y peth iawn i gywiro’r sefyllfa. Roedd gan Abigail enw da am fod yn ddynes ddoeth a chall. Dyna pam roedd y gwas yn gallu ymddiried ynddi. Roedd hynny’n benderfyniad da. Ar unwaith, aeth Abigail ati’n ddewr i drio newid meddwl Dafydd, gan drystio y byddai’n rhesymol.—1 Sam. 25:2-35.
12. Sut dangosodd Iesu ei fod yn trystio ei ddisgyblion er gwaethaf eu gwendidau?
12 Roedd Iesu yn trystio ei ddisgyblion er gwaethaf eu gwendidau. (Ioan 15:15, 16) Er enghraifft, pan ofynnodd Iago ac Ioan iddo am le arbennig yn y Deyrnas, wnaeth Iesu ddim cwestiynu pam roedden nhw’n gwasanaethu Jehofa, na’u gwrthod nhw fel apostolion. (Marc 10:35-40) Ar y noson cafodd ei arestio, gwnaeth pob un o’i ddisgyblion ei adael. (Math. 26:56) Ond er hynny, roedd gan Iesu ffydd ynddyn nhw o hyd. “Dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad” hyd y diwedd, er ei fod yn gwybod yn iawn am bob un o’u gwendidau. (Ioan 13:1) Ac ar ôl iddo gael ei atgyfodi, rhoddodd gyfrifoldebau mawr i’r 11 apostol ffyddlon i arwain y gwaith pregethu a gofalu am ei ddefaid annwyl. (Math. 28:19, 20; Ioan 21:15-17) Chafodd Iesu ddim ei siomi gan y dynion amherffaith hyn. Arhoson nhw i gyd yn ffyddlon nes iddyn nhw farw. Heb os, gwnaeth Hanna, Dafydd, gwas Nabal, Abigail, ac Iesu osod esiampl wych o ran trystio pobl amherffaith.
DYSGU I DRYSTIO EIN BRODYR ETO
13. Beth all ei gwneud hi’n anodd inni drystio eraill?
13 Wyt ti erioed wedi dweud rhywbeth cyfrinachol wrth frawd, a chael gwybod wedyn ei fod wedi datgelu’r gyfrinach? Mae hynny’n gallu brifo go iawn. Ystyria brofiad un chwaer. Un tro, gwnaeth hi sôn wrth henuriad am fater personol, gan ofyn iddo gadw’r peth yn gyfrinachol. Ond y diwrnod wedyn, cafodd hi ei siomi pan ffoniodd gwraig yr henuriad i’w hannog. Roedd hi’n amlwg fod y brawd wedi dweud wrth ei wraig am y mater. O ganlyniad, collodd y chwaer ei hyder yn yr henuriad hwnnw, a does dim syndod. Ond chwarae teg i’r chwaer, gwnaeth hi’r peth iawn a gofyn am help. Siaradodd â henuriad arall am y peth, a gwnaeth yntau ei helpu i ailadeiladu ei hyder yn henuriaid ei chynulleidfa.
14. Beth helpodd un brawd i drystio eraill unwaith eto?
14 Am amser hir, aeth pethau’n ddrwg rhwng un brawd a dau henuriad. Roedd y brawd yn teimlo nad oedd yn gallu eu trystio nhw bellach. Ond dechreuodd feddwl am rywbeth syml ond pwerus ddywedodd un brawd roedd ef yn ei barchu: “Satan ydy’r gelyn, nid ein brodyr.” Myfyriodd yn ofalus ar y geiriau hynny, ac ar ôl gweddïo ar Jehofa am help, llwyddodd i adfer heddwch gyda’r ddau henuriad yn y pen draw.
15. Pam mae hi’n gallu cymryd amser i ddysgu i drystio rhywun unwaith eto? Rho enghraifft.
15 Wyt ti erioed wedi colli braint yn y gynulleidfa? Os felly, byddi di’n gwybod pa mor boenus gall hynny fod. Ystyria brofiad Grete a’i mam oedd yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon yn yr Almaen Natsïaidd. Yn y 1930au, cafodd ein gwaith ei wahardd yno. Roedd Grete yn teipio copïau o’r Tŵr Gwylio ar gyfer ei brodyr a chwiorydd ac yn mwynhau. Ond, tynnodd y brodyr y fraint honno oddi arni, pan glywson nhw fod ei thad yn gwrthwynebu’r gwir. Roedden nhw’n poeni y byddai ei thad yn bradychu’r gynulleidfa. Ond nid dyna oedd unig broblem Grete. Drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, wnaeth y brodyr ddim trystio Grete a’i mam â’r cylchgronau, a gwnaethon nhw hyd yn oed wrthod siarad â nhw os oedden nhw’n eu gweld ar y stryd. Dychmyga gymaint byddai hynny wedi brifo! Gwnaeth Grete gyfaddef ei bod hi wedi cymryd dipyn o amser iddi faddau i’r brodyr a’u trystio nhw unwaith eto. Ond yn y pen draw, daeth hi i’r casgliad bod Jehofa wedi maddau iddyn nhw, felly dylai hithau wneud yr un fath. c
“Satan ydy’r gelyn, nid ein brodyr”
16. Pam mae’n rhaid inni weithio’n galed i feithrin hyder yn ein brodyr a chwiorydd?
16 Os wyt ti wedi cael profiad poenus o’r fath, gwna dy orau i ddysgu i drystio eraill eto. Gall gymryd amser, ond bydd yn werth yr ymdrech. Meddylia am yr eglureb hon: Os wyt ti erioed wedi bwyta rhywbeth wnaeth wneud iti deimlo’n sâl iawn, mae’n debyg dy fod ti bellach yn fwy gofalus am beth rwyt ti’n ei fwyta. Ond wnest ti ddim penderfynu stopio bwyta’n gyfan gwbl dim ond am dy fod ti wedi cael un pryd drwg. Yn yr un ffordd, ddylen ni ddim gadael i un profiad drwg ein stopio ni rhag trystio ein brodyr a chwiorydd i gyd. Dylen ni gofio eu bod nhwthau hefyd yn amherffaith. Os ydyn ni’n dysgu eu trystio nhw eto, byddwn ni’n llawer hapusach. Hefyd byddwn ni’n gallu canolbwyntio’n well ar beth gallwn ni ei wneud i gyfrannu at awyrgylch yn y gynulleidfa lle mae pawb yn trystio ei gilydd.
17. Pam mae trystio eraill mor bwysig, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
17 Ym myd Satan, mae trystio eraill yn beth prin, ond am ein bod ni’n caru ein brodyr a chwiorydd, rydyn ni’n trystio ein gilydd yn llwyr. Mae hynny yn ein huno ni, yn rhoi llawenydd inni, a bydd yn ein hamddiffyn pan ddaw amseroedd caled yn y dyfodol. Os ydy rhywun wedi dy frifo di, ac rwyt ti’n ei chael hi’n anodd ymddiried ynddo, beth gelli di ei wneud? Tria edrych ar y sefyllfa o safbwynt Jehofa, rho egwyddorion y Beibl ar waith, gweithia ar garu dy frodyr a chwiorydd, a dysga oddi wrth esiamplau o’r Beibl. Mae hi’n bosib inni ddod dros y boen a dysgu trystio eraill unwaith eto. Wedyn, bydd gynnon ni lwyth o ffrindiau sy’n “fwy ffyddlon na brawd.” (Diar. 18:24) Dyna iti fendith anhygoel! Ond mae hyn yn gweithio’r ddwy ffordd. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni brofi i’n brodyr a chwiorydd ein bod ni’n ddibynadwy.
CÂN 99 Miloedd ar Filoedd o Frodyr
a Dydy hi ddim bob amser yn hawdd trystio ein brodyr a chwiorydd oherwydd weithiau maen nhw’n ein siomi. Ond eto mae’n hollbwysig ein bod ni’n eu trystio. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall egwyddorion o’r Beibl ac esiamplau o’r gorffennol ein helpu ni i drystio ein brodyr a chwiorydd yn fwy, neu i ddibynnu arnyn nhw unwaith eto os ydyn nhw wedi ein brifo.
b Mae’r Beibl yn rhybuddio efallai na fydd pawb yn y gynulleidfa yn ddibynadwy. (Jwd. 4) Mewn rhai achosion prin, mae pobl ddrwg wedi sleifio i mewn i’r gynulleidfa. Maen nhw’n “twistio’r gwirionedd,” gan geisio camarwain eraill. (Act. 20:30) Rydyn ni’n dewis peidio â gwrando arnyn nhw, na’u trystio chwaith.
c Am fwy o fanylion am brofiad Grete, gweler Blwyddlyfr 1974 Tystion Jehofa, tt. 129-131.